Skip to main content

Ein tîmYmgysylltu a myfyrwyr

Cwrdd ag Elgan Hughes, ein Rheolwr Ymgysylltiad Myfyrwyr

4 Mawrth 2024

Dyma Elgan Hughes, Rheolwr Ymgysylltiad Myfyrwyr yn Academi Dysgu ac Addysgu Prifysgol Caerdydd yn sôn am ei rôl yn y Tîm Ymgysylltiad Myfyrwyr a’r prosiectau mae’n gweithio arnynt.

Dywedwch rywfaint wrthon ni am eich gyrfa:

Tyfodd fy niddordeb mewn llais y myfyrwyr a phrofiad y myfyrwyr fel cynrychiolydd ar fy nghwrs israddedig peirianneg. O ganlyniad i’r rôl wirfoddol hon, cefais fy ethol yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Dinas Birmingham (BCU), lle cefais y fraint o gael fy nghydnabod mewn gwobrau cenedlaethol am fy ngwaith partneriaeth.

Fel aelod o staff yn BCU creais gwrs allgyrsiol ar Wybodaeth Myfyrwyr mewn Dysgu ac Arweinyddiaeth (SKILL) a gafodd ei achredu gan y Gymdeithas Staff a Datblygu Addysgol (SEDA) ac a oedd yn cyd-fynd â Disgrifydd 0 Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU (UKPFS). Creodd y cwrs statws Cymrawd Myfyrwyr i gydnabod gwaith myfyrwyr yn y gofod hwn.

Ar ôl 8 mlynedd yn BCU, yn 2015 ymunais ag Undeb Myfyrwyr De Montfort (DSU) fel Rheolwr Llais y Myfyrwyr, cyn gweithio fel eu Pennaeth Gwasanaethau Aelodaeth lle roeddwn yn gyfrifol am wasanaethau Cynrychiolaeth a Llywodraethu, Cyfleoedd Myfyrwyr, a Chyngor a Lles.

Rwy’n angerddol am ymgysylltu â Myfyrwyr, ac rydw i wedi derbyn cefnogaeth anhygoel gan staff yn y sector Addysg Uwch sydd wedi trawsnewid fy mywyd a’m cyfleoedd. Rwy’n gobeithio bod fy ngwaith yn chwarae rhan fach wrth wella profiad a chyfleoedd i fyfyrwyr, a dyna sy’n fy nghadw i’n llawn cymhelliant.

Ers faint ydych chi wedi bod yn y rôl, a beth yw eich cyfrifoldebau?

Ymunais â Chaerdydd yn 2023 fel Rheolwr Ymgysylltu Addysgol. Prif ffocws fy rôl yw cefnogi newid mewn arferion addysg a sicrhau bod nawdd, cefnogaeth a hyrwyddwyr yn hyrwyddo’r portffolio Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr yn weithredol o fewn y gymuned academaidd.

Ym mis Rhagfyr 2023 dechreuais fy rôl fel Rheolwr Ymgysylltiad Myfyrwyr, ac rwy’n arwain cyfeiriad strategol y Tîm Ymgysylltiad Myfyrwyr. Rwy’n rhoi cyngor ac arweiniad i gydweithwyr i ddatblygu a gweithredu gwelliannau ar draws y sefydliad o ran profiad y myfyrwyr. Mae llais y myfyrwyr yn ffocws allweddol o’r rôl ac rwy’n gyfrifol am y dull gweithredu sefydliadol o ran adborth myfyrwyr, o ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (ACF) i welliannau canol modiwl.

Pa brosiectau ydych chi’n gweithio arnynt ar hyn o bryd yn eich rôl?

Rydw i a’r tîm yn lansio ac yn gweithredu sawl menter allweddol ar gyfer ymgysylltu â myfyrwyr. Rydym wedi datblygu Model Gwella Llais y Myfyrwyr a fydd yn cefnogi Ysgolion i ddatblygu eu mecanweithiau o ran llais y myfyrwyr, ac rydw i am barhau i ymgorffori llwyddiant y Model Swyddog Ymgysylltiad Myfyrwyr ym mhob un o’r 24 ysgol. Ar hyn o bryd rwy’n arwain adolygiad o Baneli Myfyrwyr-Staff (SSP) ac yn datblygu gwelliannau ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Rydw i hefyd am arallgyfeirio a chynyddu cyfleoedd cyflogaeth myfyrwyr o fewn y sefydliad.

Beth ydych chi’n ei wneud yn eich amser hamdden?

Mae gen i deulu ifanc ac rydw i wrth fy modd yn treulio amser yn yr awyr agored ar y penwythnos, yn enwedig mynd ar deithiau cerdded hir yng nghefn gwlad neu chwarae gyda fy mab. Rwy’n angerddol am Rygbi’r Undeb. Mae rygbi wastad wedi bod yn rhan fawr o’m bywyd i – rydw i wedi chwarae ers ’mod i’n 9 oed ac yn parhau i chwarae i dîm lleol. Cefais fy magu ar fferm yn Sir Gaerfyrddin, ac rwy’n helpu’n rheolaidd gydag ŵyna, cneifio a chynaeafu.

Cwrdd a rhagor o aelodau staff

Mae modd canfod mwy am ragor o aelodau staff yr Academi Dysgu ac Addysgu.