Skip to main content

Hyrwyddwyr MyfyrwyrYmgysylltu a myfyrwyr

Hyrwyddwyr Myfyrwyr y mis: Ionawr a Chwefror 2024

4 Mawrth 2024

Llongyfarchiadau i Emilia Parker a Hugo Davies, ar fod yn Hyrwyddwyr y Mis ar gyfer mis Ionawr a Chwefror 2024.

Ionawr – Emilia

Mae gan Emilia agwedd gadarnhaol a brwdfrydig at ei gwaith bob amser, sydd yn cael ei adlewyrchu yn yr holl waith mae hi’n ei gyflawni.

Yn ôl y Perchennog Prosiect Allanol: “Mae Emilia wedi bod yn rhagorol yn cefnogi digwyddiadau myfyrwyr sydd yn cael eu rhedeg eisoes, ac mae hi nawr wrthi yn datblygu ac yn siapio digwyddiadau ar gyfer y dyfodol. Yn ogystal, cefnogodd Emilia sesiwn cymdeithasol ar gyfer myfyrwyr preswyl dros gyfnod y Nadolig, a roedd dros 40 o fyfyrwyr yn bresennol.”

Chwefror – Hugo

Mae Hugo wedi cyfrannu ei amser yn hael at hyrwyddo’r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol drwy fis Chwefror. Mae staff mewn ysgolion wedi sylweddoli ar ei agwedd effeithlon a chadarnhaol wrth ymgysylltu â myfyrwyr a hwyluso stondinau a’n sesiynau gweiddi allan. Diolch enfawr i Hugo am fod yn ddibynadwy, yn chwim ei feddwl, ac yn fedrus yn ei waith.

Ewch i’r dudalen Hyryddwyr Myfyrwyr i ganfod mwy am y cynllun.