Skip to main content

Ein tîm

Dyma Sarah Lethbridge, ein Partner Academaidd newydd ym maes Dysgu Hyblyg

3 Mai 2023
Person yn eistedd yn gwenu

Dywedwch wrthym am eich hanes yn y Brifysgol a beth oedd wedi eich arwain at y swydd newydd hon

Rwy wedi bod yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd ers bron i 18 mlynedd. Yn gyntaf, yn Uwch-ymchwilydd ar sut i ddefnyddio ‘meddwl main’, sef methodoleg wella a ddechreuodd ym myd gweithgynhyrchu ceir yn Siapan ac sydd wedi ymestyn i fyd gwasanaethau. Yn rhan o’r gwaith hwn, datblygais i lawer o raglenni addysgu main ar gyfer byd diwydiant, a hyn oedd wedi fy arwain i fod yn Rheolwr Gwasanaethau Main yr Ysgol Busnes ac wedi hynny, Cyfarwyddwr Addysg i Weithredwyr yr Ysgol.

Er mwyn meithrin Addysg Weithredol, roedd yn rhaid imi greu cymuned busnes o amgylch yr ysgol, felly datblygodd y swydd wedyn i gynnwys Cysylltiadau Allanol. Ochr yn ochr â hyn i gyd, roeddwn i hefyd yn Gyfarwyddwr Rhaglenni ar gyfer yr MBA i Weithredwyr a bellach fi yw Rhag-Ddeon Ymgysylltu Allanol yr Ysgol.

Ymddiheuriadau am hynny oll ond y cwbl ro’n i eisiau ei gyfleu yw fy mod i wedi treulio llawer o amser yn meddwl am ddylunio a chyflwyno mathau gwahanol o raglenni academaidd sy’n denu credydau academaidd a’r rheini nad ydyn nhw’n gwneud hyn, a dwi’n ymwybodol iawn o’r hyn mae ein cymunedau allanol yn gofyn gennym ni o ran gallu defnyddio ein hymchwil a’n haddysgu. Mae gen i rwydwaith da o bobl byd busnes a sefydliadau yn y sector cyhoeddus a llawer iawn o brofiad o ran helpu pobl sy’n gweithio i ddysgu. Mae’r bobl hyn yn gwybod beth maen nhw ei eisiau, mae angen prosesau sy’n ymatebol a sensitif arnyn nhw, ac maen nhw eisiau dysgu’n hyblyg.

Yn ddiweddar, trosglwyddais i rôl y Cyfarwyddwr Addysg i Weithredwyr i’r Athro Sarah Hurlow ac mae fy nghyfnod o 5 mlynedd yn Gyfarwyddwr yr MBA i Weithredwyr yn dod i ben ym mis Medi hefyd, felly roedd yn amser gwych imi ganolbwyntio ar sut y galla i ddefnyddio fy mhrofiadau amrywiol i helpu i symud ymlaen at ffordd o gychwyn dysgu hyblyg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Beth fydd eich blaenoriaethau yn eich swydd newydd sef y Partner Academaidd ym maes Dysgu Hyblyg?

Mae dybryd angen datblygu ffordd ymarferol o godi tâl ar fyfyrwyr fesul modiwl astudio. Cyflawnodd y grŵp Dysgu Hyblyg ac Ar Led, dan arweiniad yr Athro Ann Taylor, gryn dipyn, drwy weithio gyda’r Athro Barbara Ryan i helpu’r MSc Optometreg Glinigol fod yn fwy hyblyg fyth, ond ar hyn o bryd, mae’n rhaid i Optometreg wneud cryn o waith o hyd i gasglu taliadau ar gyfer unedau bach o weithgarwch. Os ydyn ni eisiau ehangu Dysgu Hyblyg, mae angen ffordd fwy awtomataidd arnon ni i sicrhau taliadau bach ond sy’n digwydd yn aml.

Mae gan Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd frys gwirioneddol i sicrhau mathau mwy hyblyg o astudio hefyd. Fel yr esboniodd eu Cofrestrydd Rob Davies imi, mae gweithwyr meddygol proffesiynol yn gwerthfawrogi’n llwyr yr angen i astudio’n barhaus. Yn wir, mae’n rhaid iddyn nhw ddangos eu bod yn dysgu o hyd er mwyn cadw eu trwydded ymarfer – mae’n rhaid i Feddygon, Deintyddion, Fferyllwyr ac Optometryddion ddysgu, ac eisiau gwneud hynny, mewn ffordd hyblyg ac mae’n rhaid i Brifysgol Caerdydd barhau i fod yn rhywle lle mae’r gweithwyr proffesiynol hyn eisiau astudio.

Yn y tymor hirach, rwy eisiau inni gynnig rhagor o ficrogredydau, sicrhau rhaglenni astudio sy’n caniatáu i bobl gronni eu credydau dysgu i feithrin eu cymwysterau academaidd ac ie, bod yn fwy creadigol o ran sut mae eu graddau’n cael eu strwythuro. Byddwn i wrth fy modd iddi fod yn haws i Feddyg sy’n fyfyriwr, sydd eisiau bod yn feddyg teulu un diwrnod, allu astudio modiwl entrepreneuraidd yn yr Ysgol Busnes. Wrth gwrs, mae’n rhaid inni sicrhau y byddan nhw eisiau dysgu digon o hyd i allu bod yn Feddyg sydd wedi’i gymhwyso’n llawn erbyn diwedd ei astudiaethau, ond mae’n rhaid inni fod yn fwy hyblyg o hyd i gynnig cyfleoedd i’r myfyrwyr ddysgu mewn ystod o ddisgyblaethau gwahanol, a hynny er mwyn cynorthwyo eu cyflogadwyedd.

Rwy wedi treulio’r 18 mlynedd diwethaf yn siarad am awydd Toyota a Tesco ac Aldi ac Amazon i ganolbwyntio ar y cwsmer fel mecanwaith i oroesi a thyfu a dw i ddim yn gweld unrhyw reswm, a dweud y gwir, pam y dylai addysg uwch fod yn rhydd o oruchafiaeth ddi-baid cael profiadau rhagorol mewn gwasanaethau. A pheidiwch â chynhyrfu bawb, dw i ddim yn ceisio troi’r Brifysgol yn Tesco, rwy’n credu mai’r hyn y dylen ni fod yn bryderus yn ei gylch mewn gwirionedd yw ffordd sydd wedi’i theilwra’n fwy tuag at deithiau dysgu’r myfyriwr unigol, sef mwy o sensitifrwydd o ran ei ofynion. Mae’n OBSESIWN gan Amazon a Tesco cadw eu cwsmeriaid yn hapus. Mae’n rhaid bod gan Brifysgol Caerdydd obsesiwn o ran lles ein myfyrwyr a’u canlyniadau academaidd.

Beth sy’n eich cyffroi am fod yn Bartner Academaidd?

Rwy’n treulio llawer o amser yn helpu sefydliadau eraill i gofleidio cynlluniau gwella o’u pen a’u pastwn eu hunain, felly peth gwirioneddol wych yw gallu gweithio ar gynllun gwella ar draws y Brifysgol yn y sefydliad rwy’n gweithio iddo.

Rwy’n edrych ymlaen at ddod i adnabod mwy o bobl ar draws y Brifysgol ac rwy’n edrych ymlaen at gael rhai canlyniadau cadarnhaol o ran arferion sydd wedi fy rhwystro wrth arwain Addysg i Weithredwyr a thra’n gofalu am fy myfyrwyr MBA i Weithredwyr.

Mwy gan Sarah

Rwy’n anelu at baratoi negeseuon wythnosol am y cynnydd rheolaidd felly anfonwch ebost ata i Lethbridgesl@caerdydd.ac.uk os ydych chi eisiau cael eich ychwanegu at y rhestr ddosbarthu neu os hoffech chi siarad â mi am y gofyniad i greu Dysgu Hyblyg yn eich ysgol neu eich profiad o hyn.

Bydda i hefyd yn ysgrifennu blog misol (sydd ychydig yn amharchus, rhaid dweud), y gallwch chi ei ddarllen ymahttps://blogs.cardiff.ac.uk/sarahlethbridgelean/ os ydych chi eisiau gwybod rhagor am feddwl main ac arwain. Mae’n lle da i gael gwybod mwy am yr hyn sy’n fy ysgogi a’m cymell!