Skip to main content

Heb gategori

Caerdydd-UCL Gweminarau STEM ar sail disgyblaeth

22 Ionawr 2021

Gweminarau Ymchwil Addysg STEM ar sail disgyblaeth

Trefnydd a gwesteiwr: Andrea Jimenez Dalmaroni

Nod y gweminarau hyn sy’n seiliedig ar ddisgyblaethau (DBER) yw dod â chymuned o academyddion ac ymchwilwyr addysg ar sail disgyblaeth ynghyd i rannu canlyniadau, ymagweddau a dulliau, yn ogystal â pharhau i helpu i ddatblygu addysg STEM sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
This image has an empty alt attribute; its file name is Webinar-speakers-collage-1-1024x576.jpg

Noddir cyfres y gweminarau gan y Sefydliad Ffiseg a’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

This image has an empty alt attribute; its file name is IOP-1.jpg
This image has an empty alt attribute; its file name is ROYAL-SOC-OF-CHEM-1.png
This image has an empty alt attribute; its file name is LOGO-1024x216.jpg


Bydd yr holl sgyrsiau wedi’u recordio ar gael i’w gweld ar ôl y gyfres seminarau.

Darganfyddwch mwy a chofrestru:


Eric Mazur (Prifysgol Harvard)

‘Asesu: Gelyn cudd dysgu’

This image has an empty alt attribute; its file name is Mazur.jpg

Dydd Mercher 27 Ionawr 4pm BST

Pam mae myfyrwyr disglair weithiau’n methu yn y gweithle, tra bod y rhai sy’n gadael eu cwrs yn llwyddo? Un o’r rhesymau pam mae hyn yn digwydd yw am nad yw’r rhan fwyaf o’n harferion asesu cyfredol, os nad y cyfan ohonynt, yn cyfleu’r byd go iawn. Yn yr un modd ag y mae’r ddarlith yn canolbwyntio ar gyflwyno gwybodaeth i fyfyrwyr, felly hefyd y mae asesu’n aml yn canolbwyntio ar gael myfyrwyr i ailgyflwyno’r un wybodaeth i’r hyfforddwr. O ganlyniad i hyn, nid yw’r asesiad yn canolbwyntio ar y sgiliau sy’n berthnasol mewn bywyd yn yr 21ain ganrif. Mae asesu wedi’i alw’n ‘gwricwlwm cudd’ gan ei fod yn sbardun pwysig i arferion astudio myfyrwyr. Oni bai ein bod yn ailystyried ein dull asesu, bydd yn anodd iawn creu newid ystyrlon mewn addysg.

Gwyliwch recordiad y sesiwn


John Belcher (Sefydliad Technoleg Massachusetts)

Cyfarwyddiadau ar gyfer Ymgysylltu’n Weithredol: Diwygio ffiseg ragarweiniol yn MIT’

This image has an empty alt attribute; its file name is BelcherCropped-1024x935.jpg

Dydd Mercher 17 Chwefror 2021, 4pm BST

Ar ddiwedd y 1990au, roedd gan yr Adran Ffiseg yn Sefydliad Technoleg Massachusetts broblem. Roedd yr Adran yn gyfrifol am addysgu’r ddau gwrs ffiseg gofynnol sy’n rhan o ofynion craidd MIT – mecaneg ac electromagnetiaeth. Roedd y gyfradd oedd yn methu’r ddau gwrs yn ddigalon, roedd presenoldeb yn isel, ac nid oedd unrhyw labordai yn gysylltiedig â’r ddau gwrs.  

Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn a dilyn arweiniad adrannau ffiseg eraill yn yr UD, yn enwedig y Rhaglen Uwchraddio ym Mhrifysgol Talaith Gogledd Carolina, aeth yr Adran ati i ddefnyddio model ymgysylltu gweithredol o’r enw TEAL (Dysgu Gweithredol a Alluogir gan Dechnoleg).  Mae TEAL yn fformat addysgu sy’n uno darlithoedd, efelychiadau ac arbrofion bwrdd gwaith ymarferol i greu profiad dysgu cydweithredol cyfoethog. Rhoddir cyfarwyddiadau mewn dwy ystafell ddosbarth sydd wedi’u cynllunio fel bod cymaint o ryngweithio â phosibl rhwng y myfyrwyr a’r gyfadran ac ymhlith y myfyrwyr.  Ers ei gyflwyno yn 2001, mae’r fformat hwn wedi’i ddefnyddio a’i addasu o bryd i’w gilydd dros yr ugain mlynedd ddiwethaf i addysgu glasfyfyrwyr ffiseg.  Rwy’n trafod hanes yr ymdrech honno, a arweiniais yn ystod y chwe blynedd gyntaf, a’r ffordd y mae wedi newid dros amser hyd at heddiw.  

John Belcher yw Athro Ffiseg Dosbarth 1922 yn MIT ac mae wedi cael Medal Oersted AAPT.  Ar ben ei ymdrechion ym myd addysg, mae wedi bod yn gysylltiedig â Thaith Voyager i’r Planedau Allanol ers ei lansio ym 1977. Ar hyn o bryd mae’n ymwneud â dadansoddi data plasma o’r Cyfrwng Rhyngserol Lleol, ar ôl i Voyager 2 fynd i’r rhanbarth hwnnw yn 2018.

Gwyliwch recordiad y sesiwn


Ginger Shultz (Prifysgol Michigan)

‘Strategaethau Ysgrifennu ar gyfer Dysgu:  Sut gall Ysgrifennu Newid y Ffordd y mae Myfyrwyr yn Dysgu Gwyddoniaeth ‘

This image has an empty alt attribute; its file name is gshultz.lsa-image-servlet.jpg

Dydd Mercher 10 Mawrth 4pm BST

Mae ysgrifennu yn ennyn diddordeb myfyrwyr drwy atgyfnerthu syniadau dealledig ac anffurfiol. Mae’n cysylltu’r syniadau hyn ac mae’n eu cyfieithu ar gyfer cynulleidfaoedd penodol.  Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych ar yr addysgeg ysgrifennu-i-ddysgu a ddefnyddir mewn amrywiaeth o ystafelloedd dosbarth STEM. Byddwn yn trafod strategaethau sy’n gwneud ysgrifennu yn ymarferol, hyd yn oed mewn cyrsiau rhagarweiniol mawr.

Gwyliwch recordiad y sesiwn


Suazette Reid Mooring (Prifysgol Talaith Georgia)

‘Cefnogi llwyddiant myfyrwyr drwy strategaethau dysgu gweithredol’

This image has an empty alt attribute; its file name is bio_photo_2020.png

Dydd Mercher 24 Mawrth, 4pm BST

Mae cyrsiau gwyddoniaeth yn hanfodol ar gyfer llwyddiant myfyrwyr fydd yn dilyn graddau meddygol a rhai ar gyfer graddedigion yn y pen draw. Mae cemeg organig yn gwrs arbennig o heriol. Yn nodweddiadol, mae’n cael ei ystyried yn gwrs gwarchod safonau gan fod nifer uchel o fyfyrwyr yn tynnu’n ôl neu’n methu. Mae strategaethau dysgu gweithredol wedi’u cydnabod fel arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n lleihau bylchau cyflawniad mewn sgoriau arholiadau a chyfraddau pasio ar gyfer pob myfyriwr. Er bod pob myfyriwr yn elwa ar strategaethau dysgu gweithredol, mae’n cynnig buddion anghymesur i unigolion o grwpiau sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol mewn meysydd gwyddoniaeth. Bydd gweithredu ac asesu ystafell ddosbarth wyneb i waered yn cael ei gyflwyno. Bydd yn cynnwys dysgu mewn tîm o dan arweiniad cyfoedion mewn cwrs cemeg organig.  Bydd effaith y gweithgareddau hyn ar ganlyniadau gwybyddol ac affeithiol myfyrwyr yn y cwrs hwn yn cael ei chymharu ag effaith cyrsiau traddodiadol.  Ar ben hynny, bydd deialog myfyrwyr yn cael ei gyflwyno yn ystod gweithgaredd grŵp mewn dosbarth arall wyneb i waered. Caiff goblygiadau canlyniadau’r astudiaethau hyn ar gyfer ymarfer mewn ystafell ddosbarth eu trafod hefyd.  

Gwyliwch recordiad y sesiwn


Carl Wieman (Prifysgol Stanford)

Defnyddio Dull Gwyddonol i Addysgu Gwyddoniaeth (a’r rhan fwyaf o bynciau eraill)’

This image has an empty alt attribute; its file name is 20200917_Carl-Wieman-1024x683.jpg

Dydd Mercher 21 Ebrill 5pm BST

Dan arweiniad profion arbrofol o theori ac ymarfer, mae gwyddoniaeth wedi datblygu’n gyflym yn ystod y 500 mlynedd ddiwethaf. Dan arweiniad traddodiad a dogma yn bennaf, mae addysg wyddoniaeth wedi aros yn ganoloesol i raddau helaeth dros yr un cyfnod. Mae ymchwil am sut mae pobl yn dysgu erbyn hyn yn datgelu dulliau llawer mwy effeithiol o addysgu a gwerthuso dysgu na’r hyn sy’n cael ei ddefnyddio yn y dosbarth gwyddoniaeth traddodiadol. Mae addysgu o’r fath yn fwy buddiol, ac mae hefyd yn dangos i fyfyrwyr sut i ddysgu yn y modd mwyaf effeithiol. Mae’r ymchwil hon yn gosod y llwyfan ar gyfer dull newydd o ddysgu ac addysgu. Bydd hwn yn gallu rhoi’r addysg wyddoniaeth berthnasol ac effeithiol sydd ei hangen ar gyfer pob myfyriwr yn yr 21ain ganrif. Byddaf hefyd yn ymdrin â ffyrdd mwy ystyrlon ac effeithiol o fesur ansawdd yr addysgu. Er bod y cyflwyniad yn canolbwyntio ar addysgu gwyddoniaeth a pheirianneg israddedig, gan mai yn y maes hwn y ceir y data mwyaf clir, mae’r egwyddorion sylfaenol yn dod o astudiaethau am sut y datblygir arbenigedd yn gyffredinol, ac maent yn berthnasol mewn sawl maes. 

Gwyliwch recordiad y sesiwn


Anette Kolmos (Prifysgol Aalborg)

‘Myfyrio ar gymwyseddau PBL a’u trosglwyddo’n gyd-destunol’

This image has an empty alt attribute; its file name is Kolmos-768x1024.jpg

Dydd Mercher 12 Mai 4pm BST

Mae dysgu’n seiliedig ar broblemau a phrosiectau (PBL) wedi tyfu i fod yn ddulliau addysgu poblogaidd ar gyfer addysg peirianneg. Fe’u defnyddiwyd yn bennaf ar lefel cwrs, ond yn ddiweddar rydym yn gweld nifer cynyddol o sefydliadau yn eu defnyddio ar lefel system. Mae ymchwil yn dangos bod cymhwyso PBL yn yr ystafell ddosbarth yn cael effaith gadarnhaol ar addysg myfyrwyr, ond mae ymchwil hefyd yn datgelu bod gwerth ychwanegol i ddysgu myfyrwyr trwy nifer o sgiliau cyffredinol fel cyfathrebu, cydweithredu a rheoli prosiectau.

Ym Mhrifysgol Aalborg, defnyddir PBL ym mhob semester a thrwy gydol y cwricwlwm. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, mae’r myfyrwyr wastad wedi cael cyflwyniad i PBL a dysgu sut i drefnu’r prosesau dysgu, sef sgiliau PBL, y sgiliau sy’n angenrheidiol i weithio’n effeithiol trwy ddilyn y system ddysgu hon. Mae’r sgiliau PBL yn cael eu dysgu trwy ddull ymarferol ac mae angen adfyfyrio arnynt er mwyn eu dysgu’n iawn. Mae hyn wedi’i gynnwys yn y cwricwlwm.

Yn ddiweddar, penderfynodd Prifysgol Aalborg y dylai’r myfyrwyr adfyfyrio ar eu sgiliau PBL trwy gydol eu cyfnod yn astudio ac y dylai’r myfyrwyr gyflwyno proffil unigol o’u sgiliau PBL cyn graddio. Ond sut y gall myfyrwyr adlewyrchu ar eu sgiliau PBL generig a datblygu eu gallu o un prosiect i’r llall? Bydd y gweminar hwn yn mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn yn seiliedig ar ystyriaethau damcaniaethol a phrofiadau ymarfer.  

Cofrestrwch yma: https://www.eventbrite.com/e/stem-education-research-webinar-series-anette-kolmos-tickets-137594273175


Simon Bates (Prifysgol Colombia Brydeinig)

‘Rhinweddau addysgwr STEM yr 21ain Ganrif a llwybrau at gymorth sefydliadol’ – Simon Bates (Prifysgol Columbia Brydeinig)

This image has an empty alt attribute; its file name is Simon-Bates_sm-978x1024.jpg

Dydd Mercher 26 Mai 4pm BST

Ers blynyddoedd lawer bellach, rydym wedi clywed sut roedd dysgu ac addysgu yn newid, sut roedd yn mynd yn fwy cymhleth, sut roedd parodrwydd a dyheadau myfyrwyr o radd prifysgol yn newid, ac nad oedd technoleg bellach yn cael ei hystyried fel rhywbeth ychwanegol dewisol. Dilynodd prifysgolion amrywiaeth o fentrau addysgol a oedd – ar y cyfan – yn eu symud yn gadarnhaol ond yn raddol tuag at roi mwy o bwyslais ar ddysgu ac addysgu a phrofiad y myfyriwr. Ac yna, daeth COVID. 

Mewn cyfnod byr iawn ym mis Mawrth 2020 (dim ond diwrnodau i sicrhau bod cyrsiau cyfredol yn gallu parhau, wythnosau i gynllunio sut i symud ymlaen a graddio miloedd o fyfyrwyr, misoedd i ail-lunio’r portffolio cyfan o gyrsiau) roedd angen ail-lunio’r cynllun gwreiddiol ar gyfer addysg mewn prifysgol breswyl yn llwyr. Wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen, daeth yn gwbl amlwg mai fel hyn yr oedd pethau am fod am gryn amser cyn y gallai pethau ddychwelyd i ‘fersiwn newydd o normal’.

Yn y cyflwyniad hwn, byddaf yn myfyrio ar brofiadau a heriau’r flwyddyn ddiwethaf, a sut y maent wedi amlygu materion o bwys o ran sut mae addysgu a dysgu yn cael ei drefnu, ei gefnogi a’i werthfawrogi mewn sefydliadau. Wrth i ni edrych tuag at ddyfodol addysgu a dysgu ‘ar ôl COVID’, mae’n edrych fel y bydd agweddau ar addysgu a dysgu yn newid yn barhaol yn sgîl COVID yn ôl pob tebyg (hyd yn oed os nad ydym yn gwybod beth yn union fydd y newidiadau hyn eto ar draws ein gwahanol gyd-destunau sefydliadol). Byddaf yn trafod rhai o’r rhinweddau fydd eu hangen ar addysgwyr yn fy marn i i ffynnu yn yr amgylchedd hwn, yn ogystal â ffyrdd y gall sefydliadau helpu i ddatblygu’r sgiliau hyn yn y gyfadran ac ymhlith y staff.

Cofrestrwch yma: https://www.eventbrite.com/e/stem-education-research-webinar-series-simon-bates-tickets-137594630243


Brittland DeKorver (Prifysgol Grand Valley State)

‘Rhagfarn yn ein hystafelloedd dosbarth STEM: Ymdrechion i greu cwricwlwm tecach’

This image has an empty alt attribute; its file name is DeKorver-headshot-731x1024.jpg

Dydd Mercher 2 Mehefin 4pm BST

Mae mynediad cyfartal at addysg, gyda phwyslais at wneud rhagor i gynnwys grwpiau sydd wedi bod ar y cyrion yn hanesyddol, wedi bod yn nod hirsefydlog gan addysgwyr a gweinyddwyr. Fodd bynnag, cynyddu mae’r dystiolaeth nad yw myfyrwyr o’r grwpiau hyn cael mynediad teg o hyd mewn gwaith cwrs STEM. Mae theori hil feirniadol, sy’n pwysleisio archwiliad o gyd-destun profiadau unigolion ar yr ymylon, yn awgrymu y gallai ymchwil addysg ar sail disgyblaeth (DBER) fod mewn man unigryw i egluro pam mae anghydraddoldebau’n parhau mewn cyrsiau STEM penodol. Bydd y cyflwyniad hwn yn edrych ar broblem anghydraddoldeb yng nghyd-destun cwricwlwm cemeg israddedig, a bydd yn cyflwyno data a gasglwyd o arolwg a gynhaliwyd mewn sefydliad israddedig mawr, sy’n wyn yn bennaf. Mae’r data’n datgelu sut y gall hunaniaethau hiliol a rhywedd myfyrwyr effeithio ar eu hagweddau wrth iddynt ymgymryd â gwaith cwrs labordy cemeg. Caiff yr angen am ddulliau mesur dilys o ganfod gwahaniaethau wrth gymharu grwpiau eu cyflwyno hefyd. Yn olaf, cynigir argymhellion ymarferol ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn cyrsiau STEM.

Cofrestrwch yma: https://www.eventbrite.com/e/stem-education-research-webinar-series-brittland-dekorver-tickets-137595035455