Skip to main content

Heb gategori

Cynhadledd Gaeaf ALT 2020, erthygl blog 1

22 Ionawr 2021
This image has an empty alt attribute; its file name is alt-logo_0_0.png

Diweddariadau o Gynhadledd Gaeaf Ar-lein ALT 2020

Ar 15-16 Rhagfyr 2020, cymerodd aelodau o dîm Dysgu Digidol Prifysgol Caerdydd ran yng Nghynhadledd Gaeaf Ar-lein y Gymdeithas Technoleg Ddysgu (ALT). Cymerodd 300 o gynrychiolwyr o dros 12 gwlad ran yn y gynhadledd rithwir, a gynhaliwyd ar Blackboard Collaborate, gan ddod ag arbenigwyr ynghyd i drafod y cwestiynau mwyaf brys sy’n wynebu sefydliadau wrth iddynt gynyddu’r defnydd o dechnoleg ar gyfer dysgu, addysgu ac asesu.

O ystyried y newid i addysg ddigidol yn ystod 2020 ar raddfa na welwyd o’r blaen, bu’r gynhadledd hefyd yn gyfle i fyfyrio ar yr hyn a oedd wedi bod yn flwyddyn heriol iawn, ystyried adeiladu ar y profiad hwn a throsglwyddo o ‘ddarpariaeth frys’ i’r normal newydd, lle bydd technoleg ddysgu yn dod yn fwyfwy creiddiol.

Mae’r erhygl yma yn crynhoi’r cyfarfod llawn agoriadol gyda thrafodaeth banel ar ddatblygu fframwaith moesegol newydd ar gyfer technoleg ddysgu, gyda chrynodebau o sesiynau allweddol eraill y gynhadledd i’w ddilyn mewn erthyglau pellach yn y dyfodol. Mae’r sesiynau nawr ar gael i’w wylio ar-lein: https://altc.alt.ac.uk/online2020/resources-page/


This image has an empty alt attribute; its file name is e-learning-conceptual-image-JN7UXQ4.jpg

Fframwaith moesegol newydd ar gyfer Technoleg Ddysgu

Bu’r cyfarfod llawn agoriadol, dan gadeiryddiaeth Prif Weithredwr ALT, Maren Deepwell, yn cynnwys trafodaeth banel ar ddatblygu fframwaith moesegol cymunedol newydd ar gyfer technoleg ddysgu. Mae’r gofyniad am fframwaith wedi dod yn fwy amlwg fyth dros y flwyddyn ddiwethaf gyda thechnoleg ddysgu’n cael ei mabwysiadu ar raddfa a chymhlethdod llawer mwy nag erioed o’r blaen.

Nod ALT yn y lle cyntaf yw datblygu rhestr wirio ymarferol y gellir ei defnyddio i lywio’r defnydd moesegol o dechnoleg ddysgu gan sefydliadau a diwydiant. Gan adeiladu ar y rhestr wirio a’r fframwaith amlinellol, bydd ALT wedyn yn datblygu fframwaith llawn gyda mewnbwn gan ei aelodau yn ystod 2021.

Ystyriaethau moesegol wrth ddefnyddio technoleg ddysgu

Amlygodd y drafodaeth banel ystod o faterion ynghylch y defnydd moesegol o dechnoleg ddysgu a’i chymwysiadau i’w hystyried fel rhan o ddatblygiad y fframwaith:

Preifatrwydd data gan gynnwys dadansoddeg ddysgu a data arall yn cael eu coladu’n awtomatig o fewn platfformau technoleg dysgu a chymwysiadau a gwasanaethau meddalwedd cydweithredol, ynghyd â lefelau o dryloywder o ran pa ddata sy’n cael ei gasglu a sut mae’n cael ei ddefnyddio.

Cynhwysiant, gan sicrhau bod gwasanaethau addysg ddigidol yn wirioneddol gynhwysol ac yn darparu mynediad teg. Mae hyn yn cynnwys ystyried y gofynion sgiliau, ynghyd â gofynion dyfeisiau technegol a seilwaith i gael mynediad at wasanaethau technoleg ddysgu.

Awtomeiddio a’r risgiau cysylltiedig o ragfarn wrth ddefnyddio technolegau awtomataidd.

Dibyniaeth ar drydydd partïon am dechnoleg ddysgu a gwasanaethau meddalwedd cydweithredol, yn aml gyda thelerau ac amodau defnyddio cymhleth.

Perygl o wahaniaethu o ran hygyrchedd gwasanaethau, ac o ran darparu gwasanaethau i fyfyrwyr yn fyd-eang a’r ystyriaethau deddfwriaethol a diwylliannol cysylltiedig.

This image has an empty alt attribute; its file name is lock-as-symbol-for-privacy-and-general-data-protec-CUMKEXJ.jpg

Yn ystod y drafodaeth banel, dyfynnwyd arolwg a gynhaliwyd gan Mozilla a amlygodd mai’r rheini sy’n gweithio yn y parth digidol oedd fwyaf tebygol o bryderu am y materion ynglŷn â phreifatrwydd data. Nodwyd felly bod lefel o gyfrifoldeb i’r gymuned ddatblygu dealltwriaeth foesegol a beirniadol o sut y defnyddir technoleg a data, a dyletswydd i ddatblygu llythrennedd digidol a dealltwriaeth o foeseg ddata i sicrhau ymddiriedaeth barhaus mewn gwasanaethau technoleg ddysgu.

Sut gellid defnyddio fframwaith moesegol yn ymarferol

Roedd y meysydd a amlygwyd gan y panel lle y gellid defnyddio fframwaith moesegol yn cynnwys ystyried moeseg a dyletswydd gofal fel rhan o asesiad sefydliadol o atebion technoleg ddysgu. Er enghraifft, pan fydd llwyfannau ar gyfer proctora arholiadau yn cael eu hasesu, gallai’r fframwaith lywio ac arwain y broses o wneud penderfyniadau sefydliadol i ystyried y risgiau moesegol sy’n gysylltiedig â defnyddio llwyfannau technoleg ddysgu penodol. Cydnabu’r panel y byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ALT ymgysylltu â chyrff proffesiynol i edrych ar sut y gallai asesu mewn amgylchedd digidol fodloni gofynion rheoliadol ac ystyriaethau moesegol.

Maes arall a amlygwyd lle gallai’r fframwaith fod yn sbardun allweddol yw llywio lefelau preifatrwydd data, a thryloywder gwell wrth ddefnyddio’r data hwn, o fewn gwasanaethau technoleg ddysgu sy’n adlewyrchu gwerthoedd y gymuned ac a allai ragori ar ofynion deddfwriaethol y DU. Mae hyn yn arbennig o berthnasol gan y bydd darpariaeth fyd-eang gynyddol o addysg ddigidol yn ei gwneud yn ofynnol i brifysgolion weithio gyda staff a myfyrwyr ledled y byd, gan gynnwys gwledydd lle mae rheoliadau preifatrwydd a gwyliadwriaeth data yn fwy cadarn.

Crynodeb a’r camau nesaf

Roedd yn amlwg o’r drafodaeth banel, er bod y materion yn gymhleth, y gallai sefydliadau ddefnyddio fframwaith moesegol y cytunwyd arno ar draws y gymuned sy’n seiliedig ar egwyddorion clir i sicrhau bod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i’r materion moesegol eang sy’n gysylltiedig â chymhwyso technoleg ddysgu, a sut y gellir lliniaru’r risgiau cysylltiedig.

Mae ALT yn ceisio mewnbwn pellach gan y gymuned yn ystod 2021, gan gynnwys gan staff, myfyrwyr a darparwyr gwasanaeth; unigolion a sefydliadau i helpu i brofi’r fframwaith ar y ffordd; ac ymchwil a fframweithiau presennol i’w defnyddio. Mae mwy o fanylion ar gael ar wefan ALT – https://www.alt.ac.uk/about-alt/what-we-do/alts-ethical-framework-learning-technology



Gwyliwch drafodaeth agoriadol y panel


Ysgrifennwyd gan Owain Huw, Rheolwr Technoleg Dysgu