Skip to main content

Gwaith

Ydych chi’n cael hwyl?

11 Mai 2021

Yn ein darn diweddaraf, dyma sylwadau’r Dr Rebecca Scott am bwysigrwydd hiwmor yn y gwaith a’i effaith ar fathau o ymddygiad megis arwain, ymddiried, cyfathrebu a meithrin cysylltiadau mewn busnes.

A minnau’n cynnal ymchwil i arferion defnyddwyr, rwyf i wedi arwain prosiectau cyffrous megis rasio cychod hwylio a Tough Mudder. Yn ystod fy ymchwil i agweddau cymdeithasol a diwylliannol defnyddwyr, rwyf i wedi canolbwyntio ar ‘y corff’ gan ystyried profiadau synhwyraidd llai dymunol megis bod mewn poen, marw a bod ar eich pen eich hun. Doeddwn i ddim wedi dechrau ymchwil i natur chwerthin eto.

Ddechrau 2021, fodd bynnag, roedd hi’n bryd i hwyl a chwerthin fod o dan sylw. Darllenais lyfr o’r enw Humor, Seriously gan fy arwyr ym maes marchnata, Jennifer Aaker a Naomi Bagdonas. Mae’r ddau awdur yn athrawon marchnata ym Mhrifysgol Stanford ac yn cynnal modiwl Humor, Serious Business i rai o bobl fwyaf uchelgeisiol a disglair y byd masnachol yn rhan o gwrs Meistr Gweinyddu Busnes eu hadran. Yn eu dosbarth ac yn eu llyfr, maen nhw’n sôn am ddefnyddio hwyl a hiwmor i drawsffurfio cwmni. Mae credydau modiwlau Managerial Accounting, Financial Trading Strategy a Humour, Serious Business yr un faint!

Fydda i ddim yn honni fy mod yn awdurdod ar hiwmor ond rwy’n frwd am ddefnyddio fy llwyfan academaidd i’w hyrwyddo yn ystod fy nghyrsiau a’m hymchwil nesaf fel ei gilydd. Ar ôl dod i oed a dechrau gweithio, rydyn ni’n tueddu i gydio ym maes busnes o ddifrif. Syrthiais i’r fagl honno ac, o ganlyniad, collais fy synnwyr digrifwch mewn swmp o sleidiau a gohebiaeth. Mae hynny’n broblem achos bod sawl mantais i hwyl yn y gwaith megis hel syniadau, arwain, cydweithio, ymddiried, creu argraff ac agor y drws i lwyddiant.

Yn ôl arolwg gan Harvard Business Review yn 2019, er enghraifft, byddai mwy o ymddiried gan 58% o weithwyr mewn dieithryn nag yn eu bos. Dywedodd 45% o’r rheiny mai’r diffyg ymddiried hwnnw yw’r prif feini tramgwydd yn eu gwaith. Mae arweinyddion yn cytuno hefyd, gan fod 55% o brif weithredwyr o’r farn bod diffyg ymddiried yn bygwth twf y cwmni. Er bod gweithwyr yn chwilio am rywun diffuant ac uchelgeisiol i’w harwain, maen nhw’n fodlon derbyn ei wallau, hefyd. Bydd hiwmor yn amlygu agwedd ddynol rheolwr, gan chwalu muriau a chadw’r ddysgl yn wastad rhwng bod yn awdurdodol ac yn gefnogol. Mae ymchwil wedi dangos y bydd diffyg hwyl yn y gwaith yn amharu ar iechyd y corff, ein perthynas â’r teulu a’n cydweithwyr, ein timau a’n cwmnïau.

Dysgu chwerthin yn y gwaith

Ym mis Mawrth, cefais y pleser o gwrdd â Rod Banner, sylfaenydd JoyTech [Pensaer Busnes, Marchnatwr Brand a Thechnolegydd] a Neil Mullarkey, cyd-sylfaenydd The Comedy Store Players, i siarad am werth hiwmor yn y gweithle.

Er bod Neil (sydd wedi bod ar Have I Got News For You, Whose Line Is It Anyway? a QI) yn un doniol iawn, mae’n effro i’r modd y gall hiwmor effeithio ar ein bywydau, hefyd.

Roedd yn sgwrs ddiddorol a doniol iawn ac, os oes diddordeb gyda chi yn yr ateb i’r cwestiwn “Beth ddigwyddiff pan ddaw digrifwr, technolegydd ac academydd i dafarn,” dyma’r drafodaeth i chi.

Hiwmor yn y gwaith

Ar ôl y sgwrs gyda Rod a Neil, cymerais i ran yn rhaglen Datblygu Proffesiynol Parhaus Ysgol y Gwanwyn Prifysgol Caerdydd, ar y we.

Aeth rhagddi rhwng 12fed a 23ain Ebrill ac roedd yn llawn gweminarau am ddim, holi ac ateb trwy Twitter a llawer o gynnwys arall yn y maes hwn o bob rhan o’r Brifysgol.

Prif fyrdwn fy sesiwn i oedd cyflwyno’r syniad o gael hwyl a dangos bod modd cynhyrchu rhagor, creu cysylltiadau mwy ystyrlon a bod yn agored i atebion mwy arloesol trwy leddfu tyndra yn sgîl osgoi bod mor ddifrifddwys drwy’r amser.

Dangosais fod hiwmor yn y gwaith yn ddeniadol i bob diwydiant gan ganolbwyntio ar ei fanteision i ymgynghorwyr rheoli, graddedigion a’r rhai sydd newydd ddechrau gyrfa.

Os ydych chi’n chwilio am ragor o gyfleoedd i gael hwyl a chwerthin, dyma argymell y fideos a welwch chi trwy’r dolenni uchod a’r llyfr, Humor, Seriously. I gloi, dyma eiriau’r Dalai Lama:

“Bydd chwerthin yn ein helpu i feddwl achos ei bod yn haws derbyn syniadau newydd pan fo pobl yn chwerthin.”

Mae’r Dr Carmela Bosangit yn Uwch-Ddarlithydd Marchnata yn Ysgol Busnes Caerdydd.