Skip to main content

Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau

Y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau mewn Meddygaeth yn y DU

6 Mai 2021

Yn ein postiad diweddaraf, mae’r Athro Melanie Jones a’r Dr Ezgi Kaya yn rhannu canfyddiadau eu hymchwil ddiweddaraf sy’n ceisio meintioli maint a gyrwyr y bwlch cyflog cyfoes rhwng y rhywiau ymhlith meddygon meddygol yn sector cyhoeddus y DU.

Ym mis Mai 2018, cyhoeddodd Jeremy Hunt, fel yr ysgrifennydd gwladol dros Iechyd, ei fod yn benderfynol o ddileu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ymhlith meddygon yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol y DU.

Rydym wedi cynnal astudiaeth i archwilio maint y bwlch cyflog hwn ac felly maint yr her hon ar gyfer y maes polisi.

Gan ddefnyddio arolwg cenedlaethol diweddar yn cynnwys gwybodaeth o gofnodion cyflogres cyflogwyr ar gyfer sampl fawr o weithwyr ym Mhrydain, gwelsom fod y bwlch cyflog cymedrig fesul awr rhwng y rhywiau ar gyfer meddygon meddygol a gyflogir yn y sector cyhoeddus yn sylweddol, sef tua 20 y cant, a’i fod yn uwch mewn gwirionedd na’r bwlch cyflog cenedlaethol rhwng y rhywiau.

Mae ein dadansoddiad yn archwilio’r rhesymau dros y bwlch cyflog amlwg rhwng y rhywiau yn yr alwedigaeth fawreddog a medrus hon, a ddygwyd i sylw’r cyhoedd yn ddiweddar o ystyried eu rôl hollbwysig yn y pandemig, a lle mae menywod yn cynrychioli bron i hanner y gweithlu. Rydym wedi gwneud hyn trwy archwilio gwahaniaethau rhwng dynion a menywod yn yr alwedigaeth hon o ran eu nodweddion personol a nodweddion yn gysylltiedig â’u swyddi, yn ogystal â chymharu meddygon y sector cyhoeddus â meddygon y sector preifat a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill y sector cyhoeddus (sy’n cynnwys galwedigaethau fel seicolegwyr, fferyllwyr a radiograffwyr meddygol).

Yn rhyfeddol, efallai, gwelsom fod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ymhlith meddygon y sector cyhoeddus yn llawer mwy nag ymhlith ein galwedigaethau cymharydd, sef 6 y cant ymhlith meddygon y sector preifat a 7 y cant ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol eraill y sector cyhoeddus. At hynny, at ei gilydd, mae gwahaniaethau rhwng y rhywiau mewn nodweddion personol fel oedran, a nodweddion yn gysylltiedig â swyddi fel gweithio’n llawn amser, i’w cyfrif am lai na 10 y cant o’r bwlch cyflog ymhlith meddygon y sector cyhoeddus.

Felly, i raddau helaeth, ni ellir defnyddio gwahaniaethau gweladwy rhwng meddygon gwrywaidd a benywaidd yn y sector cyhoeddus i esbonio’r bwlch cyflog. Mae hyn yn awgrymu pwysigrwydd ffactorau nad yw ein data’n eu hystyried wrth yrru’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ymhlith meddygon y sector cyhoeddus, gan gynnwys rhwystrau sefydliadol a strwythurol i gydraddoldeb cyflog, yn ogystal â gwahaniaethau rhwng y rhywiau mewn dyheadau o ran gyrfa. At hynny, mae’r bwlch cyflog anesboniadwy rhwng y rhywiau ymhlith meddygon y sector cyhoeddus, sef 18 y cant, tua 6 gwaith cymaint i feddygon y sector preifat a 3 gwaith cymaint i weithwyr iechyd proffesiynol eraill y sector cyhoeddus.

Gwnaethom archwilio’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ymhellach ymhlith meddygon y sector cyhoeddus ar draws y dosbarthiad enillion a chanfod ei fod yn arbennig o amlwg ymhlith enillwyr uwch. Hynny yw, gwelsom dystiolaeth o ‘nenfwd gwydr’ clir ar gyfer meddygon benywaidd yn y sector cyhoeddus, yn gyson â bodolaeth gwahaniaethau anesboniadwy sylweddol rhwng y rhywiau o ran dyrchafiad a hynafedd.

Mae goblygiadau’r canlyniadau hyn ar gyfer polisi ac arfer yn y dyfodol yn ddwys. Ac maent yn tynnu sylw at yr angen dybryd i wahaniaethau rhwng y rhywiau gael eu dadansoddi a’u craffu mewn dilyniant gyrfaol ymhlith meddygon y sector cyhoeddus ym Mhrydain os yw’r uchelgais a gyhoeddwyd gan y gweinidog ym mis Mai 2018 i gael ei chyflawni.

Darllenwch ein papur, ‘The Gender Pay Gap in UK Medicine’ yn llawn ar wefan yr IZA –  Institute of Labor Economics.


Mae Melanie Jones yn Athro Economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae’r Dr Ezgi Kaya yn Ddarlithydd mewn Economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Yn rhan o ymchwil gydweithredol yr Athro Jones a’r Dr Kaya, maent wedi archwilio’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn gwahanol gyd-destunau, gan gynnwys sector cyhoeddus y DU a Gogledd Iwerddon.