Skip to main content

Dinasoedd

Ail-feddwl sut rydym ni’n ‘brandio’ ein dinasoedd ar ôl COVID-19

9 Ebrill 2021
Aerial view of Cardiff Bay, the Capital of Wales, UK 2019 on a clear sky summer day

Yn ein post diweddaraf, mae Dr Laura Reynolds yn canolbwyntio ar oblygiadau posibl COVID-19 ar gyfer sut rydym yn blaenoriaethu ac yn brandio ein dinasoedd, gan edrych yn gyntaf ar yr effaith bosibl ar gydweithio lleol, ac yn ail, ar ailfywiogi gwydnwch amgylcheddol a chymdeithasol posibl.

Beth allai oblygiadau pandemig Covid-19 fod ar gyfer datblygu brandiau dinasoedd mwy cynhwysol a chynaliadwy?

Mae dinas yn ei hanfod yn ganolbwynt ar gyfer gweithgaredd cymdeithasol, economaidd a diwylliannol, gan ddenu preswylwyr, gweithwyr, busnesau, buddsoddwyr, myfyrwyr a thwristiaid i’w strydoedd llawn traffig. Mae ton ar ôl ton o gyfnodau clo wedi gorfodi dinasoedd i arafu.  Dros dro o leiaf, gorfodwyd busnesau, lletygarwch, hamdden a manwerthu i gau eu drysau.  Ataliwyd teithiau hamdden a busnes a dechreuodd llawer o weithwyr swyddfa a chanol y ddinas weithio gartref. Rydym yn aros i weld sut y bydd Covid-19 wedi effeithio ar ein dinasoedd yn y tymor hir. Eto i gyd eisoes ceir consensws cynyddol y gallai ‘cyfaredd’ dinasoedd newid.

Cyn y pandemig roedd y ffordd roedd dinasoedd yn cael eu marchnata a’u hyrwyddo eisoes yn newid. Roedd dyddiau sloganau bachog, logos oedd yn aml yn aneglur a naratif brandiau wedi’u sgriptio’n fanwl eisoes wedi’u rhifo. Yn eu lle, roedd ymagwedd fwy cynaliadwy a chysylltiedig at frandio dinasoedd yn dod i’r amlwg. Roedd yn canolbwyntio ar hanfod lle, ei arferion, ei bolisïau ac yn bwysicaf oll ei bobl. Roedd rhanddeiliaid lleol oedd yn byw, yn gweithio ac yn buddsoddi mewn dinasoedd yn cael eu hannog i gyfrannu at gynllunio a chyflawni gweithgareddau brandio oedd yn adlewyrchu eu gweledigaeth ar gyfer y ddinas. Er bod angen gwneud mwy i gynnwys pobl wrth gyflwyno eu dinasoedd, roedd arwyddion cadarnhaol bod newid ar y gweill.

Mae’r darn hwn yn canolbwyntio ar oblygiadau posibl Covid-19 o ran y ffordd rydym ni’n blaenoriaethu ac yn brandio ein dinasoedd: gan edrych yn gyntaf ar yr effaith bosibl ar gydweithio lleol, ac yn ail ar y posibilrwydd o ailfywiogi gwydnwch amgylcheddol a chymdeithasol. Mae’r rhain ymhlith y themâu y byddaf yn eu harchwilio, gyda fy mentor prosiect Max Munday (Uned Ymchwil Economi Cymru, Prifysgol Caerdydd), mewn gwaith maes arfaethedig yng Nghaerdydd.

Cydweithio lleol

Mae Adolygiad Economaidd Birmingham City-REDI 2020 yn ymdrin â rhai o’r heriau mae dinasoedd yn eu hwynebu ac yn cynnig awgrymiadau cynnar ar sut y gallent ymateb. Yn fwy nag erioed, mae’n hanfodol fod dinasoedd yn canolbwyntio ar gryfder eu hasedau technolegol, diwylliannol ac amgylcheddol. Mae gan bob dinas gryfderau. Mae angen gwneud mwy o ymdrech i’w cydnabod ac adeiladu arnynt. Mae cydnabod bod dinasoedd hefyd yn llefydd ble mae pobl yn byw ac yn gweithio yn hanfodol, ac yna gallai fod angen mwy o ymdrech i gynnal neu ail-greu ymdeimlad o gymuned pan fydd pobl yn dechrau ailgysylltu â’u dinasoedd.

Yn ystod argyfwng Covid-19 rydym ni wedi gweld ymdeimlad pobl eu bod yn perthyn i’w cymuned leol yn cynyddu. Canfu arolwg diweddar gan YouGov fod hyd at 40% o’r cyhoedd wedi nodi cynnydd yn eu ‘hymdeimlad o gymuned’ yn ystod 2020, gyda hyn yn codi mor uchel â 50% mewn pobl dros 65 oed. Roedd yr effaith gadarnhaol ar bobl ifanc yn dal i fod lawer yn is. Datgelodd arolwg diweddar gan Lywodraeth Cymru yn 2020 fod hyd at 75% o’r bobl yn yr arolwg yn nodi eu bod yn teimlo ymdeimlad o gymuned, i fyny o 52% yn 2018-2019.

Ond mae’n ymddangos fod effeithiau’r pandemig ar drigolion dinasoedd yn amrywio, gydag astudiaeth gan Bwyllgor Tai Cynulliad Llundain yn awgrymu bod bron i hanner y bobl yn Llundain sy’n dymuno symud tŷ o ganlyniad i’r pandemig yn awyddus i symud allan o’r ddinas. Ymhlith y prif resymau a nodwyd dros adleoli oedd mynediad at fannau gwyrdd, siopau lleol a theulu a/neu ffrindiau. Am y tro cyntaf ers dros 30 mlynedd, rydym yn wynebu’r posibilrwydd o ostyngiad ym mhoblogaeth Llundain.

Mae dinasoedd yn wynebu’r her o sut i fynd ati i ailgysylltu â phreswylwyr, gweithwyr, busnesau a buddsoddwyr lleol. Mae llawer ohonom sy’n gweithio ac yn ymchwilio ym maes rheoli lleoedd a brandio yn galw am roi penderfyniadau yn ôl i’r bobl leol. Wrth feddwl am yr adferiad felly, dylid gwneud cynlluniau gyda’r gymuned yn hytrach nag ar ran y gymuned. Mae’n hanfodol fod rhanddeiliaid lleol yn cael llais wrth bennu hanfod y ddinas a’r hyn maen nhw am iddi fod yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys mwy o ffocws ar ymgysylltu â dinasyddion a phobl leol yn cyfrannu mwy o lawer at lunio datblygiad lleol (creu lleoedd).

Mae dinasoedd hefyd yn dibynnu ar ddenu a chadw talentau a busnesau. Mae denu gweithwyr i ddinas neu ranbarth yn dod â buddion sylweddol i ddatblygiad economaidd, enw da, cyfaredd ac yn y pen draw gystadleurwydd y lle. Ac eto, sut gall lleoedd fynd ati i gadw eu cyfaredd a denu’r talentau gorau yn y cyfnod ansicr hwn?

Elfen ganolog o adeiladu enw da cryf yw’r angen am sylwedd. Maes sy’n denu sylw cynyddol yw’r angen i ddinasoedd flaenoriaethu cynaladwyedd a gwydnwch.

Gwydnwch amgylcheddol a chymdeithasol

Nid newid dyfodol dinasoedd mae’r pandemig wedi’i wneud, ond yn hytrach mae wedi cyflymu’r newid hwnnw. Roedd y graddau yr ystyrid bod dinas yn ymwybodol o ystyriaethau amgylcheddol eisoes yn dylanwadu ar ei henw da. Roedd galwadau am flaenoriaethu cerddwyr dros geir; ffocws ar lasu canol dinasoedd; adfywio gweithleoedd a mannau cymunedol awyr agored yn greadigol; a chyd-greu gweithgareddau i gysylltu cymunedau. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae pobl yn fwy ymwybodol fyth, ac yn fodlon gwthio i sicrhau’r trawsnewidiad economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol hwn. Gyda’r newidiadau hyn daw galwadau cynyddol ar i breswylwyr, gweithwyr, busnesau, llywodraeth leol, buddsoddwyr ac ymwelwyr ddod at ei gilydd i (ail)lunio’r lle a lleddfu diraddio amgylcheddol ac allgáu cymdeithasol.

Mae dinasoedd hefyd yn gyrchfannau teithio a hamdden poblogaidd. Ond mae’r cyrchfannau mwyaf poblogaidd yn gallu dioddef yn sgil eu llwyddiant eu hunain. Mae gor-dwristiaeth, yn benodol, wedi arwain at ganlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol dramatig i rai dinasoedd poblogaidd. Yn eu plith mae Fenis a Barcelona, ond mae llawer o ddinasoedd yn profi anawsterau tebyg. Yn wir mae’r cyfnodau clo a gwaharddiadau teithio wedi dangos cost amgylcheddol niferoedd uchel o ymwelwyr. Mae ansawdd y dŵr yn Fenis wedi gwella i lefelau na welwyd eu tebyg gyda’r lleihad yn y defnydd o gychod a thwristiaeth. Yn Barcelona, roedd tensiynau rhwng twristiaid, y diwydiant twristiaeth a phobl leol yn uwch nag erioed yn 2019. Erbyn 2020 roedd y gwrthwyneb yn wir wrth i’r fasnach dwristiaeth wynebu cau bron yn llwyr. Mae rhagolygon y diwydiant twristiaeth wedi’u niweidio gan y pandemig ond ceir galwadau am gydbwysedd a chymedroli wrth i’r dinasoedd adfer ac atgyweirio. Anogir modelau busnes twristiaeth sy’n cydweddu ag agweddau mwy cynaliadwy gan gydbwyso gofynion twristiaeth â’r gallu i fyw yn y dinasoedd.  Yn wir mae llawer o ddinasoedd twristaidd ar draws Ewrop yn nodi bod y lleihad mewn teithio rhyngwladol a chymudo wedi gwella agweddau ar amgylchedd y ddinas dros dro, yn enwedig ansawdd yr aer.

Hefyd amlygwyd y costau iechyd a chymdeithasol uwch i grwpiau ymylol a bregus yn sgil y pandemig. Mae ymchwil yn dal i ddangos mai’r cymdogaethau gorlawn a thlotaf yn y dinasoedd sydd wedi’u taro galetaf gan y pandemig. Wrth i’r pandemig fynd rhagddo, mae anghydraddoldebau’n parhau i gynyddu.  Mae cyflwyno sylwedd yn golygu defnyddio polisïau a chefnogaeth i helpu’r rhai sy’n ei chael hi’n fwyaf anodd a llunio ymagwedd gynaliadwy sydd o fudd i bob rhan o’r gymuned.

I breswylwyr, gweithwyr, busnesau a thwristiaid fel ei gilydd, mae angen magu ymddiriedaeth a hyder. Mae’r rhai sydd eisoes yn amheus o farchnata a hyrwyddo yn debygol o ddod yn fwy amheus, a bydd mwy fyth o angen camu i ffwrdd o ymgyrchoedd marchnata a chanolbwyntio ar gryfhau’r lle a chefnogi’r bobl.

Creu gwydnwch drwy frandio dinesig cydweithredol: achos Caerdydd

Bute park and Taff river in the centre of Cardiff, Wales, UK

Mae’r farn ar ddyfodol brandio dinasoedd yn parhau’n gymysg. Mae rhai yn lled obeithiol y bydd y saib yn gyfle i’r rheini sy’n rheoli ac yn marchnata dinasoedd fyfyrio, ailfeddwl ac esblygu. Mae eraill yn awgrymu newid blaenoriaethau’n barhaol, ac yn sgil hynny, y ffordd rydym ni’n gweld ein dinasoedd. Ceir pryder hefyd y gallai brandio dinasoedd fynd am yn ôl, wrth i ddinasoedd geisio adfer colledion economaidd a dychwelyd at dactegau marchnata a chyfathrebu er mwyn denu ymwelwyr yn gyflym.

Dros y misoedd nesaf byddwn yn ystyried sut yr hoffai busnesau, preswylwyr a chynrychiolwyr llywodraeth leol yng Nghaerdydd (ail)flaenoriaethu a chyflwyno eu dinas yn y dyfodol a sut y gallai effeithiau pandemig Covid-19 effeithio ar yr ymatebion hyn. Fel prifddinas Cymru gyda phoblogaeth sydd o ddeutu traean o filiwn, mae’n bosibl y bydd Caerdydd yn profi problemau gwahanol o’i chymharu â chytrefi mwy o faint.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn archwilio’r ddwy thema yn y darn hwn. Yn gyntaf, gwerthuso ymatebion cyfunol, mewn grwpiau o randdeiliaid ac ar draws y ddinas. Yn ail, ymchwilio a oes newid wedi bod yn y blaenoriaethau’n ymwneud â chynaladwyedd cymdeithasol ac amgylcheddol y ddinas a sut yr hoffai’r rhanddeiliaid lleol hyn weld y datblygiadau hynny yn rhan o’r gwaith o ddatblygu a chyflawni gweledigaeth tymor hirach eu dinas.

Dangosodd fy ymchwil flaenorol yng Nghaerfaddon a Bryste fod cydweithio yn cynnig llwybr allweddol i randdeiliaid lleol lunio eu dinasoedd, ond yn aml roedd rhwystrau a gwrthdaro yn atal mynediad ac elw cyfartal o’r datblygiadau hyn. Gan adeiladu ar yr astudiaethau hyn, bydd y gwaith yng Nghaerdydd yn edrych ar sut y gall cynnwys rhanddeiliaid lleol yn fwy gweithredol helpu i ddatrys gwrthdaro a sicrhau datrysiadau cyffredin i’r heriau mae dinasoedd yn eu hwynebu.

Mae Dr Laura Reynolds yn Gymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol a ariennir gan ESRC yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar flog City-REDI ym Mhrifysgol Birmingham.