Skip to main content

Llywodraethu

Ydy LGAs yn yr Almaen a’r Iseldiroedd yn gwneud gwahaniaeth?

26 Ionawr 2021

Yn ein post diweddaraf, mae Dr Dennis De Widt yn trafod sut mae cymdeithasau llywodraeth leol yn yr Almaen a’r Iseldiroedd yn gweithredu mewn cyd-destunau sefydliadol sy’n wahanol i gymdeithasau llywodraeth leol yn Lloegr a sut mae hyn yn effeithio ar y ffordd y mae buddiannau llywodraeth leol yn cael eu cynrychioli a’u gwarchod gan y llywodraeth ganolog yn y gwahanol wledydd.

Does dim amheuaeth fod cymdeithasau llywodraeth leol (LGAs) yn bwnc nad oes digon o ymchwil wedi’i wneud iddo. Dros y 10 mlynedd ddiwethaf rwyf i wedi bod yn ymchwilio i rôl llywodraethau lleol mewn nifer o wledydd gan ganolbwyntio ar gymharu Lloegr, yr Almaen a’r Iseldiroedd.

Ym mhob un o’r tair gwlad, y lefel leol sy’n gyfrifol am oddeutu chwarter y gwariant cyhoeddus ond mae llywodraethau lleol yn gweithredu mewn cyd-destunau sefydliadol gwahanol iawn. Mae Lloegr yn system fwyafrifol ac ni cheir amddiffyniad cyfansoddiadol ffurfiol i lywodraeth leol. Mae gan yr Almaen, gyda’i system gyfansoddiadol ffederal, rywfaint o amddiffyniad ffurfiol i gynghorau. Rhwng y ddau daw’r Iseldiroedd, gwladwriaeth unedol ddatganoledig sy’n ymgorffori llywodraeth leol mewn system wleidyddol â ffocws cydsyniol.

Er eu bod yn wahanol, mae fy ymchwil yn edrych ar effaith y gwahaniaethau hyn. Ydy un o dull yn fwy effeithiol o ran cynrychioli buddiannau LGA ar lefel llunio polisi cenedlaethol?

Lleol yn erbyn Talaith yn erbyn Llywodraeth Ffederal yn yr Almaen

O’r tair gwlad, system yr Almaen sy’n darparu’r amddiffyniadau cyfansoddiadol cryfaf i lywodraeth leol. Fodd bynnag, dim ond yn ystod y ddau ddegawd diwethaf y bu nifer o’r amddiffyniadau hyn yn weithredol. Sbardunwyd y diwygiadau, a elwir yn ddiwygiadau Hartz IV, gan gyfres o ddiwygiadau a roddwyd ar waith gan lywodraeth Schröder ar y pryd yn y 2000au cynnar, a throsglwyddwyd nifer o dasgau lles cymdeithasol o’r lefel ffederal i’r lefel leol. Arweiniodd y diwygiadau at bwysau ariannol sylweddol ar draws llywodraeth leol, yn cynnwys cynnydd sylweddol mewn dyled leol, ac fe’u rhoddwyd ar waith er gwaethaf rhybuddion gan LGAs yr Almaen ynghylch eu goblygiadau ariannol.

Sut ddigwyddodd hyn? Yn gyfansoddiadol mae lefel ddinesig yr Almaen yn rhan o weinyddiaethau ar lefel talaith. Y cyngor ffederal, sy’n cynnwys cynrychiolwyr y dalaith, sy’n gyfrifol am fuddiannau lleol. Yn y cyfnod yn arwain at ddiwygiadau Hartz IV, roedd LGAs yr Almaen yn ei chael yn anodd cael y taleithiau i wrando ar eu pryderon ar oblygiadau ariannol y diwygiadau yn lleol. Defnyddiodd gweinidogion ffederal gysylltiadau pleidiol i berswadio llywodraethau taleithiol o’r un blaid i gefnogi’r diwygiadau yn y cyngor ffederal. Dywedodd un swyddog LGA y bûm i’n ei gyfweld fod y taleithiau:

‘…wedi methu â dangos y pendantrwydd oedd ei angen i ddiogelu buddiannau ariannol eu sector llywodraeth leol eu hunain.’

Parhaodd LGAs yr Almaen i roi pwysau parhaus ar y llywodraeth ffederal tan i honno gydnabod yn ffurfiol ei bod wedi tanamcangyfrif effaith ariannol leol diwygiadau Hartz IV. Dros y blynyddoedd diwethaf mae sawl mesur wedi’i gymryd i leddfu pwysau ariannol a lleihau’r risg y caiff deddfwriaeth debyg ei datblygu yn y dyfodol. Tri o’r rhain i’w nodi yw:

  1. Ers 2006, mae’r llywodraeth ffederal wedi’i gwahardd rhag neilltuo tasgau newydd yn uniongyrchol i’r lefel leol.
  2. Daeth yr Egwyddor Cysylltedd i rym yn 2004, gan gyfyngu ar bwerau taleithiau i ddatganoli tasgau heb eu hariannu i lywodraeth leol. Defnyddiwyd y drefn hon yn llwyddiannus gan LGAs yr Almaen mewn llysoedd taleithiol i orfodi llywodraethau taleithol i wella eu cyllid lleol. Mae hefyd wedi cymell llywodraethau taleithiol i ddangos mwy o gryfder wrth ddiogelu buddiannau llywodraethau lleol wrth gyd-drafod gyda’r llywodraeth ffederal.
  3. Mae deddfwriaeth newydd sy’n golygu bod rhaid i adrannau’r llywodraeth ffederal ymgynghori â LGAs ar gynigion deddfwriaethol perthnasol wedi cryfhau safle’r LGAs.

Gwrthwynebiad aelodaeth: Yr Iseldiroedd

Fel yn yr Almaen, yn gynyddol mae awdurdodau lleol yn yr Iseldiroedd yn chwarae rhan yn y ddarpariaeth lles cymdeithasol. Chwaraeodd Cymdeithas Bwrdeistrefi’r Iseldiroedd (VNG), a ystyrir yn aml fel yr ail grŵp lobïo mwyaf dylanwadol yn yr Iseldiroedd ar ôl Ffederasiwn Cyflogwyr yr Iseldiroedd, ran bwysig yn y trafodaethau a gynhaliwyd cyn datganoli tasgau lles cymdeithasol. Gallai Gweinidogion fod wedi gorfodi’r diwygiadau, ond roedden nhw’n anfodlon gweithredu heb gefnogaeth y VNG, ac arweiniodd hyn at broses o bron i bedair blynedd cyn datganoli’r cyfrifoldebau yn 2015.

Yn ystod y trafodaethau, cododd llawer o fwrdeistrefi’r Iseldiroedd bryderon ynghylch goblygiadau ariannol y diwygiadau datganoli a ysgogwyd gan lymder. Cafwyd y gwrthwynebiad amlycaf pan wrthodwyd cytundeb a drafodwyd rhwng arweinwyr y VNG a’r cabinet gan 67 y cant o’r bwrdeistrefi mewn pleidlais a drefnwyd gan y VNG. Beirniadwyd arweinyddiaeth y VNG gan lawer o bobl a gyfwelwyd ar lefel leol am eu bod wedi’u cyfethol gan y llywodraeth ganolog, ac fe’u cyhuddwyd o ddilyn buddiannau sefydliadol yn hytrach na buddiannau’r aelodau.

Rôl allweddol y VNG yn y diwygiadau oedd cydgysylltu’r datganoli a gyda hynny daeth cynnydd sylweddol yng nghyllid y llywodraeth ganolog, oedd lawer yn uwch na chyfraniadau’r aelodau trefol ers 2015. Pan wrthwynebodd yr aelodau, aeth y VNG yn ôl i drafod gyda’r llywodraeth ganolog gan sicrhau consesiynau ariannol gan y cabinet er bod pryderon yn parhau ynghylch effaith y diwygiadau ar gyllid trefol.

Diogelu buddiannau ariannol lleol

Mae’r datganoli diweddar yn yr Almaen a’r Iseldiroedd yn dangos bod LGAs yr Iseldiroedd a’r Almaen yn chwarae rhan sylweddol wrth ddiogelu buddiannau ariannol lleol, er bod hyn weithiau’n cael ei wneud yn ôl-weithredol. Mae confensiynau cyfansoddiadol, boed wedi’u sefydlu fel arferion ffurfiol neu anffurfiol, yn cryfhau llais y lefel leol yn yr Almaen a’r Iseldiroedd pan fydd yn rhyngweithio â lefelau uwch o lywodraeth.

Cystadlu am sylw: yr LGA yn Lloegr

Dros y dŵr, ceir llai o gonfensiynau sefydledig yn sail i ryngweithio rhynglywodraethol yn Lloegr. Teg dweud mai anwastad yw mynediad Cymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr at y llywodraeth ganolog, a’i fod yn amrywio’n sylweddol gan ddibynnu ar ba blaid sy’n llywodraethu ac ar arddull y gweinidog.

Rhaid i LGA yn Lloegr weithio’n galetach i gael sylw llywodraeth ganolog, gan orfod cystadlu yn erbyn sawl grŵp diddordeb arall.

Gyda’r ansicrwydd economaidd enfawr yn sgil pandemig Covid-19, mae llywodraeth leol yn Lloegr yn wynebu cyfnod heriol arall a bydd cynrychiolaeth effeithiol i fuddiannau’n hanfodol er mwyn amddiffyn buddiannau llywodraeth leol. Does dim modd gwybod eto a fydd agenda lefelu i fyny llywodraeth bresennol y DU a’i huchelgais i leihau gwahaniaethau rhanbarthol o fudd i sefyllfa llywodraeth leol yn Lloegr. Heb os, mae cynrychiolaeth i fuddiannau llywodraeth leol yn debygol o barhau i fod yn heriol o ystyried diffyg trefniadau dibynadwy parhaus ar gyfer rhyngweithio canolog-lleol.

Mae Dr Dennis De Widt yn Uwch-ddarlithydd mewn Cyfrifeg a Chyllid yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Cyhoeddwyd y post hwn yn wreiddiol ar flog yr Uned Gwybodaeth Llywodraeth Leol ac mae’n tynnu ar ganfyddiadau prosiect ymchwil mwy o faint, oedd yn cynnwys cyfweliadau ymchwil gyda swyddogion o’r llywodraeth a llywodraeth leol yn yr Iseldiroedd, Lloegr a’r Almaen.

Mae canfyddiadau ymchwil helaeth i’w gweld yn: De Widt, D. a Laffin, M. 2018. Representing territorial diversity: the role of local government associations. Regional Studies 52(11), tt. 1585-1594.