Skip to main content

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Mae COVID yn newid ein ffordd o weithio – i bobl anabl hefyd

29 Ionawr 2021

Yn ein post diweddaraf, mae’r Athro Debbie Foster a Dr Natasha Hirst yn tynnu ar ganfyddiadau eu hymchwil Anabledd Cyfreithiol? i drafod ffyrdd y mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi galluogi cyflogwyr i fod yn fwy cynhwysol i anabledd.

Gweithio o bell oedd yr addasiad y gofynnwyd amdano ond a wrthodwyd fwyaf i bobl anabl yn y gweithle cyn y pandemig. Fodd bynnag ers COVID-19, gorfodwyd cyflogwyr i addasu. Aeth llawer o weithleoedd ar-lein, gan arwain at gynnydd mewn gweithio gartref a mwy o recriwtio ar-lein. Mae’r ffyrdd newydd hyn o weithio’n cynnig gwersi gwerthfawr i gyflogwyr sy’n dymuno gwella eu cynhwysiant o ran anabledd.

Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd gennym ym mis Ionawr 2020, cyn i’r pandemig daro’r DU, gofynnon ni i bobl anabl yn sector y gyfraith am eu profiadau yn y gweithle, ac wrth recriwtio. Dywedon nhw wrthym ni eu bod yn wynebu gwahaniaethu, bwlio, agweddau negyddol a dealltwriaeth isel o anabledd.

Er y byddai’n hawdd tybio y byddai gweithio a recriwtio o bell yn awtomatig yn lleihau’r problemau hyn, gwelwyd mewn arolwg dilynol yn ystod mis Gorffennaf ac Awst 2020 nad oedd gweithio gartref ac ymgeisio am swyddi ar-lein o reidrwydd yn gwella’r heriau hyn i gyd.

Er bod ein hymchwil yn canolbwyntio ar broffesiwn y gyfraith, mae ein canfyddiadau a’n hargymhellion yn trosi’n rhwydd i yrfaoedd proffesiynol eraill.

Gweithio ar-lein

Cyn y pandemig, anaml oedd y diwylliant gwaith yn sector y gyfraith yn ystyriol o anabledd, oedd yn golygu bod llawer o bobl ag anableddau anweledig yn ofni dweud wrth eu cyflogwyr. Mae angen addasiadau rhesymol i helpu gweithwyr anabl i symud ymlaen. Ond canfu ein hymchwil fod rhaid i lawer o bobl frwydro i gael y gefnogaeth hon, ac unrhyw bethau ychwanegol oedd eu hangen arnyn nhw.

Yn aml roedd dilyniant gyrfa cyfreithwyr anabl yn ein hastudiaeth yn cael ei rwystro oherwydd amharodrwydd i newid arferion gwaith traddodiadol. Gallai pobl anabl fod angen cyfarpar arbenigol, parcio wedi’i neilltuo, cymorth gyda chyfathrebu neu weithio hyblyg i gael gwared ar yr anfantais maen nhw’n ei hwynebu yn y gwaith. Gall grantiau’r llywodraeth ariannu addasiadau o’r fath, ac mae’n ddyletswydd ar gwmnïau i ddarparu addasiadau rhesymol – ni chânt wrthod y ceisiadau hyn heb reswm da, fel ei fod yn niweidiol i’r busnes er enghraifft – ond mae’r hyn sy’n “rhesymol” yn amwys.

Felly beth nesaf i bobl anabl sydd bellach yn fwy tebygol o allu gweithio gartref?

Mewn trafodaethau bwrdd crwn a gynhaliwyd fel rhan o’n hymchwil, dywedodd cwmnïau wrthym eu bod yn gadael i’r holl staff ddewis sut i rannu eu hamser rhwng y cartref a’r swyddfa. Disgwyliwn i weithio ‘hybrid’ ddod yn arferol mewn llawer o sefydliadau, gyda rhai staff yn y swyddfa a rhai yn gweithio o bell. Bydd hyn yn gosod set newydd o heriau i gyflogwyr, fel mynediad a chyfathrebu, a sut i atal y rheini sy’n gweithio gartref yn bennaf rhag cael eu hynysu.

Yn ein harolwg dilynol o weithwyr proffesiynol y gyfraith, dywedodd 70% y bydden nhw’n hoffi parhau i weithio gartref yn y dyfodol. Dywedon nhw eu bod wedi cael mwy o gyfleoedd i rwydweithio, sicrhau gwybodaeth a sgiliau a hyfforddi wrth weithio gartref. Credwn fod hyn wedi digwydd ar hap yn hytrach na thrwy gynllunio, ond mae’n amlwg fod gweithio ar-lein yn cynnig cyfleoedd newydd ac yn gweithio’n dda iawn i’r rhan fwyaf o weithwyr. Bellach gall cwmnïau werthuso’r hyn sy’n gweithio a sut y gellir ei wella a’i gynnwys yn strategaethau’r gweithle yn y dyfodol.

Problemau recriwtio

Nododd pobl anabl oedd yn rhan o’n hymchwil lawer o broblemau gydag asiantaethau recriwtio. Nododd rhai fod datgelu anabledd yn arwain at hidlo eu cais allan o ystyriaeth. Yn aml canfu’r rheini a aeth ymlaen i gyfweliad nad oedd eu ceisiadau am addasiadau rhesymol yn cael eu trosglwyddo i’r bobl iawn. Sonion nhw am gyrraedd cyfweliadau a gweld bod yr adeilad yn anhygyrch neu nad oedd ceisiadau am gymorth arall wedi’u trosglwyddo, oedd yn niweidio eu perfformiad yn ystod y cyfweliad a, gellid dadlau, yn eu gosod dan anfantais.

Gwelsom nad yw ceisiadau a chyfweliadau ar-lein o reidrwydd yn gwneud bywyd yn haws i bobl anabl. Ceir llawer o ffurflenni neu brofion nad ydynt yn ystyried dyslecsia, neu sy’n anghydnaws â darllenwyr sgrin. Canfuom fod recriwtwyr yn aml yn tybio y byddai defnyddio llwyfannau o bell ar gyfer cyfweliadau yn awtomatig yn cynyddu hygyrchedd ac felly nad oedd angen addasiadau.

Er bod proffesiwn y gyfraith wedi buddsoddi’n helaeth mewn hyfforddiant i ymdrin â rhagfarn ddiarwybod, canfu ein hymchwil hefyd fod angen gofalu peidio â bod yn or-obeithiol am botensial deallusrwydd artiffisial i ddileu rhagfarn. Mae datrysiadau technolegol yn dal i adlewyrchu gwerthoedd y rheini sy’n eu cynllunio, ac yn seiliedig ar broffiliau ymgeiswyr llwyddiannus blaenorol.

Mae undebau llafur yn pryderu bod deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio i werthuso darpar weithwyr a gweithwyr presennol yn ddiarwybod iddyn nhw. Yn yr achosion hyn, mae’n anodd gwybod a fyddai’n helpu ynteu’n llesteirio cydraddoldeb. Gallai pobl sydd â nam ar eu golwg neu glyw, neu sy’n niwroamrywiol, ymateb i gwestiynau neu ddefnyddio technoleg mewn ffordd wahanol. Mae risg y gallai deallusrwydd artiffisial ddibrisio’r gwahaniaethau hyn. Hefyd ceir sgiliau y mae’n rhaid cael person i’w hadnabod, fel y sgiliau datrys problemau mae pobl anabl wedi’u datblygu yn sgil y problemau unigryw maen nhw’n eu hwynebu yn eu bywyd bob dydd.

Os yw’r pandemig yn mynd i newid y ffordd rydym ni’n gweithio, mae angen i bobl anabl gael eu cynnwys wrth ddatblygu gweithleoedd mwy cynhwysol a phrosesau recriwtio fydd o fudd iddyn nhw mewn gwirionedd. Mae hyn yn golygu bod angen i gyflogwyr fod yn rhagweithiol ynglyn â deall ac ymdrin â’r rhwystrau i bobl anabl, er mwyn sicrhau bod darpariaethau gwirioneddol gynhwysol yn cael eu hystyried ar gyfer gweithwyr anabl yn y dyfodol.

Yr hyn sy’n amlwg yw bod gweithio gartref wedi’i wrthod ar gam i lawer o bobl oedd ei angen cyn y pandemig – a dim ond nawr ydyn ni’n gweld ei fod yn ddigon rhwydd ei reoli. Ond mae tybio y byddai’n gweithio i bob unigolyn anabl yn rhagdybiaeth beryglus. Nid fydd yr hyn sy’n gweithio i un person anabl o reidrwydd yn gweithio i rywun arall, hyd yn oed rhywun â’r un nam. Mae lleihau gwahaniaethu yn gorfod deillio o sgyrsiau cynhwysol sy’n creu dyfodol tecach i bawb.

Mae Deborah Foster yn Athro Cysylltiadau Cyflogaeth ac Amrywiaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae Natasha Hirst yn ymchwilydd ac yn newyddiadurwr ffotograffig annibynnol.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar The Conversation UK.