Skip to main content

Cynfyfyrwyr

Angerdd, uchelgais a serendipedd: gwersi myfyriwr graddedig MBA sy’n adeiladu cychod

15 Chwefror 2021

Yn ein darn diweddaraf, Marcello Somma (MBA 2020), un o raddedigion ein rhaglen MBA Gweithredol, sy’n sôn am ei uchelgais i lunio ac adeiladu cwch a sut mae wedi’i wireddu. 

Mae cychod o ddiddordeb mawr imi ers plentyndod.

Ces i fy magu ymhlith pysgotwyr mewn pentref bychan ar arfordir Amalfi yr Eidal, Conca dei Marini. Roedd yn lle ysgogol iawn a dechreuais wneud llongau hwyliau bychain gan ddefnyddio darnau o gorc roeddwn i wedi’u casglu ar y traeth yn ystod yr haf.

Mae’r brwdfrydedd wedi tyfu’n gyson ers hynny a llywio penderfyniadau pwysig dros y blynyddoedd yn fy addysg, fy ngwaith a’m dyheadau – gan fy arwain tuag at yr hyn rwy’n ei alw’n ddarlun mawr.

Diben a chyfeiriad

Mae’r darlun mawr fel pos jig-so ac ynddo bopeth rydyn ni wedi’i brofi yn ystod ein hoesau. Mae’n gyfuniad o’r hyn sydd wedi digwydd a’r rhai rydyn ni wedi cwrdd â nhw ac, er nad ydyn nhw’n gysylltiedig o gwbl yn ôl pob golwg, mae tipyn o orymylu sy’n arwain at ddiben a chyfeiriad eglur.

Fe mrwdfrydedd ynghylch adeiladu llongau roes yr eglurder hwnnw imi. Doedd hynny ddim yn ddigonol ar ei ben ei hun, fodd bynnag. Roedd angen imi fod yn ddigon dewr i fentro y tu allan i’r hyn roedd yn gyfarwydd imi, heb unrhyw warant o lwyddiant, a bod yn benderfynol o ddilyn llwybr oedd yn agos at fy nghalon.

Ac felly, ar ôl ennill BEng ac MSc Peirianneg Llongau ym Mhrifysgol Napoli, fe ddes i’r Deyrnas Gyfunol. Ysgwyddais gyfrifoldeb am fy ngyrfa mewn gwlad hirbell ac iddi hanes hir o adeiladu llongau.

Dechreuais chwilio am swydd dirprwy bensaer llongau ar arfordir de Lloegr, gan ymweld â phob iard longau yno i’m cyflwyno fy hun yn y gobaith y gallai arwain at gyfweliad.

“Roeddwn i’n bwriadu dechrau yn y gweithdy fel y gallwn i ddeall gwir hanfod adeiladu llong, gan ddringo’r ysgol i ddysgu am anawsterau’r rhai oedd wedi bod yn adeiladu llongau drwy gydol eu hoesau – seiri ac aswyr, er enghraifft.”

Ar ôl dwy flynedd, amryw swyddi a nifer o gyfweliadau, fe ges i rywbeth at fy nant.

Cartref oddi cartref

Rwy’n cofio’r achlysur yn dda – fy mhen-blwydd fis Mehefin 2015 – pan gynigiodd iard longau yn Noc Penfro swydd imi. A chyn pen fawr o dro, roeddwn i wedi cael fy nhraed tanaf yn Sir Benfro. Fe ddes i adnabod y Cymry ac roedd llunio ac adeiladu gwahanol gychod gwaith alwminiwm a dur fel gwireddu breuddwyd.

Flwyddyn wedyn, gofynnais i am le yn rhaglen ran-amser MBA Gweithredol Prifysgol Caerdydd. Roeddwn i am ddysgu rhagor trwy fynd i’r afael ag egwyddorion busnes i’w cyfuno â’m harbenigedd ym maes peirianneg.

Cyn bo hir, roeddwn i’n defnyddio’r medrau rheoli a gweithredu a ddysgais yn ystod y cwrs mewn iardiau llongau. O ganlyniad, dechreuais ddeall pam roedd pobl yn wynebu aneffeithlonrwydd ac anawsterau yn ein diwydiant.

Dyna oedd canolbwynt fy nhraethawd ymchwil.

Roedd yn ffodus ac yn bleser llunio’r traethawd o dan adain yr Athro Tim Edwards a ddatgelodd yn y man ei fod yn gysylltiedig â chrefft adeiladu llongau, hefyd.

Serendipedd a chychod hwylio mawr

Roedd Ron, tad Tim, wedi bod yn gweithio dros swyddfa llunio cychod hwylio mawr yn Llundain ers blynyddoedd, yr un swyddfa roeddwn i wedi mynd iddi ar gyfer fy nghyfweliad cyntaf rai blynyddoedd cynt. Roedd Ron yn hoff o wneud modelau o longau, hefyd. Byddai Ron yn gwneud modelau o gychod hwylio mawr, fodd bynnag, yn hytrach nag o hen longau hwyliau a chychod pysgota. Felly, pan oedd yn blentyn, byddai Tim yn gweld proses llunio cychod hwylio – profiad a fyddai o werth iddo yn ei ymchwil flynyddoedd wedyn.

Tua’r adeg honno, es i’r Iseldiroedd i weithio dros gwmni mawr oedd yn adeiladu cychod hwylio mawr. Roedd Tim wedi cynnal ymchwil i’r un cwmni yn 2008, fel y digwyddodd.

Gan fanteisio ar arbenigedd Tim ym maes ymchwil a’m profiad innau yn y diwydiant, lluniais draethawd ar ffordd o feddwl dylunwyr annibynnol o’i chymharu â meddylfryd penseiri llongau yn niwydiant yr adeiladu llongau.

“Mae’r ymchwil wedi fy helpu i ddeall pa mor bwysig yw amrywioldeb wrth arloesi a pha mor anodd yw cyfathrebu’n effeithiol â gwahanol rannau o’r un sector megis dylunwyr annibynnol a phenseiri. O ddatrys y problemau hynny, gallwn ni gyflawni llawer – y tu hwnt i bob disgwyl weithiau.”

Ar ôl ennill MBA ac astudio a gweithio dramor am bum mlynedd, rwy’n gweithio yn fy mro enedigol eto o ganlyniad i gyfarfod ffodus lle dechreuodd popeth imi, Arfordir Amalfi. Roedd iard longau leol yn sector y cludo teithwyr yn chwilio am bensaer llongau i ddechrau sefydlu adran beirianneg a phrosiectau newydd.

Roedd y cyfle’n rhy dda i’w golli!

Yn sgîl y penderfyniad, byddai angen cymryd rhai camau yn ôl o’i chymharu â fy rôl flaenorol yn yr Iseldiroedd. Efallai eich bod wedi dod i’r casgliad erbyn hyn nad ydw i’n un fyddai’n methu ag ateb her, fodd bynnag, yn arbennig mewn lle nad yw’n cynnig llawer o gyfleoedd i broffesiynolion ifanc. Felly, fy nod yw helpu’r cwmni i ennill ei blwyf yn adeiladwr llongau mawr yn ne’r Eidal a dechrau llunio ac adeiladu fy nghychod fy hun gartref.

Dyma’r rhan nesaf o ddarlun mawr fy oes i’m tyb i.

Mewn cyfnodau anodd megis yr un presennol, yr atgofion am frwdfrydedd dyn ifanc uchelgeisiol a fyddai’n gwneud llongau hwyliau bychain yn ystod yr haf fydd yn fy nghalonogi ac yn fy ysgogi i fynd ar ôl fy uchelgeisiau. Rwy’n gobeithio y bydd modd i bobl eraill feithrin brwdfrydedd o’r fath a mynd ati i wireddu eu huchelgeisiau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Ys dywed yr hen ddihareb forwrol: “Trwy brofi tywydd stormus a moroedd garw, daw morwr yn gapten.”

Mae Marcello Somma (MBA 2020) yn un o raddedigion rhaglen MBA Gweithredol Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae’n bensaer llongau yn Nautica Store Srl. Gallwch chi ei ddilyn trwy LinkedIn, lle mae’n trafod llunio ac adeiladu cychod.