Skip to main content

Marchnata

“Fe brynwn i hwnna!”

24 Chwefror 2021

Yn y cyntaf o ddau bost arbennig ar brosiectau myfyrwyr Marchnata a Chymdeithas, mae cyd-greawdwyr Cwmni Gin Gŵyr Siân ac Andrew Brooks, yn sôn am eu profiad o greu ymgyrch farchnata i’r sector gin crefftwrol gyda myfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd.

Cawsom gipolwg gwych ar apêl uniongyrchol lliw i fyfyrwyr heddiw drwy godi potel o gin lliwgar (naturiol) a’i dangos i fyfyrwyr ail flwyddyn BSc Rheoli Busnes y Brifysgol dros alwad Zoom, a chlywed “Fe brynwn i hwnna” brwdfrydig. Nid yn unig hynny ond fel cwmni bach, caiff llawer o’n cynlluniau gin eu ffurfio dros baned (neu wydraid o win, gan ddibynnu ar adeg y dydd) yn ein cegin ac mae angen safbwynt gwahanol; mae lleisiau ifanc a brwdfrydig y myfyrwyr hyn wedi adfywio ein syniadau a’n meddyliau.

Dechreuodd Cwmni Gin Gŵyr Cyf yn 2017 gyda chenhadaeth i greu gwirodydd crefftwrol wedi’u trwytho â blasau penrhyn Gŵyr – ardal o harddwch ac adnoddau naturiol eithriadol ar arfordir de orllewin Cymru. Erbyn hyn mae gennym bortffolio o 7 o’n cynhyrchion ein hun gyda nifer wedi ennill gwobrau cenedlaethol a rhyngwladol. A hefyd rydyn ni’n gwneud gin pwrpasol ar gontract i lawer o bobl ar draws y DU. Mae cyrraedd y pwynt hwn dros y tair blynedd diwethaf yn sicr wedi bod yn anodd ar adegau, ond rydyn ni wedi caru pob munud.

Ond yn ôl at y safbwyntiau gwahanol yna…

Mae prosiect marchnata Gin Gŵyr yn un o sawl prosiect grŵp mae myfyrwyr yn ymgymryd â nhw yn y modiwl Marchnata a Chymdeithas sy’n cael ei redeg gan Dr Carolyn Strong fel rhan o’r radd BSc Rheoli Busnes (Marchnata) ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedden ni’n falch iawn fod Carolyn wedi cysylltu â ni i weithio gyda’r myfyrwyr ac rydyn ni wedi mwynhau’r holl gydweithio gydag Ysgol Busnes Caerdydd hyd yma. Mae eu hegni’n heintus ac mae wedi bod yn bleser gweld eu lefel o wybodaeth am strategaethau marchnata a dadansoddi ein marchnad. 

I ddechrau, cyflwynon ni ein cwmni i’r grŵp a disgrifio rhai o’n llwyddiannau marchnata yn ogystal â rhai o’r heriau sy’n ein hwynebu. Sonion ni am ein gwerthoedd hefyd: dydyn ni ddim am hyrwyddo gor-yfed ac yn dymuno cael ymgyrch sy’n gyfrifol yn gymdeithasol.

“Pan gyflwynodd y myfyrwyr eu syniadau’n ôl i ni, roedden ni wrth ein bodd.  Hyd yn oed manylion fel creu slogan i ni:  “Mae “GŴYR – a Gin Worthy of Your Recognition” wedi ein hysbrydoli ni.”

Mae’r cyfarfodydd Zoom yn teimlo fel cydweithio gyda grŵp ffocws sy’n awyddus i drosi ein gweledigaeth ar gyfer ein cwmni yn ymgyrch farchnata gyffrous a hyfyw.

Mae sefydlu perthynas wedi bod yn allweddol i lwyddiant y prosiect ac mae Carolyn wedi helpu i greu awyrgylch cadarnhaol ac anffurfiol yn y cyfarfodydd. 

Roedden ni hefyd wrth ein bodd â straeon Instagram y myfyrwyr, wedi’u gwisgo mewn streipiau Gin Gŵyr. Yn anochel, mae pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar rai o’n cynlluniau, ond mae gwytnwch a gallu’r myfyrwyr i addasu yn hynod ac rydyn ni’n siŵr y bydd lansiad yr ymgyrch – sydd wedi symud o Ddydd Gŵyl Dewi i Wythnos y Glas 2021 (oherwydd cyfyngiadau wyneb yn wyneb) – mewn gwirionedd yn ehangu apêl yr ymgyrch.

Felly, cadwch lygad am ymgyrch gyffrous yn yr Hydref … ac o bosib gin Gŵyr lliw newydd hefyd!

Siân ac Andrew Brooks yw cyd-grewyr Cwmni Gin Gŵyr.

Datblygwyd a chyflwynir y modiwl Marchnata a Chymdeithas gan Dr Carolyn Strong, ac mae’n cyflwyno myfyrwyr i rôl ac effaith marchnata yn y gymdeithas, ac ar amrywiol randdeiliaid.