Skip to main content

Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau

Pam fod y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau’n amrywio ar draws Cymru?

5 Mawrth 2021

Yn ein post diweddaraf, mae’r myfyriwr doethurol Suzanna Nesom yn trafod canfyddiadau ei hadolygiad llenyddiaeth ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yng Nghymru.

Y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yw’r gwahaniaeth mewn enillion rhwng menywod a dynion, a bennir trwy gyfrifo cyflog cyfartalog menywod – a fesurir fesul awr fel arfer i addasu ar gyfer yr oriau a weithir – fel canran o enillion dynion.

Mae’n elfen barhaus ym marchnad lafur y DU, ac amcangyfrifir mai’r Bwlch Cyflog canolrifol rhwng y Rhywiau yn 2019 oedd 17.3% i bob gweithiwr. Er bod hwn yn gymharol fawr o’i gymharu â gwledydd eraill y Sefydliad Cydweithredu a Datblygu Economaidd a’r UE, mae wedi lleihau’n raddol ers 1996 i’r holl weithwyr llawn amser a rhan amser (ffigur 1).

Ffigur 1: Canolrif Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn y DU, 1997-2019

Mae’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau’n dangos dimensiwn rhanbarthol (ffigur 2). Mae’r bwlch lleiaf yn y cenhedloedd datganoledig a Llundain, a’r mwyaf yn y rhanbarthau yn Lloegr sydd agosaf at Lundain.

Ffigur 2: Canolrif Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn rhanbarthau NUTS1 y DU
Data: ASHE (2019)

Ceir dimensiwn rhanbarthol i’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yng Nghymru hefyd. Mae’r Bwlch Cyflog canolrifol (cymedrig) ar gyfer holl weithwyr Cymru yn amrywio o 7.9% (0.7%) yng Nghonwy a Sir Ddinbych, i 21.1% (19.9%) yn y Cymoedd Canolog.

Amgylchedd deddfwriaethol Cymru

Mae’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau wedi cael sylw polisi sylweddol yn ddiweddar, nid lleiaf yn y DU. Yn 2017, deddfodd y DU reoliadau tryloywder cyflog sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr y sector cyhoeddus a phreifat sydd â thros 250 o weithwyr gyhoeddi chwe mesur o’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn eu sefydliadau bob blwyddyn. Ond bu’n rhaid atal gorfodi adrodd ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau ar gyfer 2019/20 oherwydd pandemig Coronafeirws.

Ers datganoli, mae gan Gymru agenda cydraddoldeb penodol, sy’n cynnwys dyletswydd statudol benodol i fynd i’r afael â gwahaniaethau cyflog. Mae amgylchedd deddfwriaethol Cymru hefyd yn fwy ffafriol ar gyfer ymdrin â’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau, gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, Ffyniant i Bawb: strategaeth genedlaethol 2017, a gwaith y Comisiwn Gwaith Teg 2019.

Ymchwilio i’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau

Ceir tair prif fethodoleg economaidd ar gyfer ymchwilio i’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau:

  • Hafaliadau cyflog Mincer: Mae’r rhain yn cysylltu’r lefel o addysg a phrofiad gwaith (a nodweddion gweladwy eraill) â chyflog unigolyn. Fodd bynnag, gan fod rhywedd yn cael ei gynnwys fel newidyn deuaidd (naill ai wryw neu fenyw) mae i’w weld yn bell o’r ddadl ffeministaidd nad yw priodoleddau rhywedd yn benodol nac yn sefydlog dros amser.
  • Methodolegau dadelfennu: Mae’r rhain yn dadelfennu’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn rhannau, un a esbonnir yn rhannol drwy wahaniaethau rhywedd mewn nodweddion y gellir eu gweld a’r llall lle nad oes esboniad, sy’n cynrychioli gwahaniaethau o ran mewnbwn i’r newidynnau hynny. Caiff hyn ei ystyried yn aml yn fesur sy’n gwahaniaethu. Gall estyniadau i’r fethodoleg hon hwyluso dadelfennu’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau ar draws gwledydd a chyfnodau amser yn gydrannau galwedigaethol, ac ar gyfer gwahanol gwantelau yn y dosbarthiad cyflog.
  • Methodolegau Arbrofol: Mae’r rhain yn efelychu penderfyniadau drwy gyflwyno senarios cyflogi damcaniaethol i gyfranogwyr ac ystumio statws grŵp gwarchodedig ymgeiswyr am y swydd a fyddai fel arall yn union yr un fath.

Dylanwadu ar faint y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau

Ceir ymchwil empirig helaeth ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau, sy’n cyfoethogi ein gwybodaeth am ei ffynonellau amlweddog. Mae cymariaethau ar draws gwledydd ac astudiaethau cenedlaethol a rhanbarthol manwl yn nodi sawl sbardun allweddol sy’n dylanwadu ar faint y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau, gan gynnwys:

  • Sefydliadau: Cysylltir gwledydd sydd â sefydliadau wedi’u canoli (e.e. undebau llafur cryf) ac isafswm cyflog uchel â Bwlch Cyflog is rhwng y Rhywiau. Fodd bynnag, yn y DU, dim ond mewn rhanbarthau lle’r oedd menywod yn cyfrif am gyfran fawr o’r bobl ar gyflog is yr arweiniodd yr isafswm cyflog at leihau’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau.
  • Deddfwriaeth: Mae gwahaniaethau deddfwriaethol yn ffynhonnell allweddol o amrywiaeth yn y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau, gyda pholisïau gofal plant ‘hael’/rhyddfrydol yn gysylltiedig â Bylchau Cyflog cymedrig is rhwng y Rhywiau (e.e. Denmarc a’r Iseldiroedd).
  • Strwythur Cyflog : Mae lefelau uchel o anghydraddoldeb cyflog yn gysylltiedig â Bylchau Cyflog mawr rhwng y Rhywiau. Ar lefel ranbarthol, caiff hyn ei ysgogi’n bennaf gan yr amrywiaeth yng nghyflogau dynion – mae cyflogau menywod yn gymharol sefydlog ar draws rhanbarthau.
  • Addysg: Dyw gwahaniaethau addysgol ddim yn esbonio fawr ddim ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn y DU, gan fod menywod yn perfformio’n well na dynion ar bob lefel o addysg yn gyson. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau rhywedd o ran pwnc gradd yn effeithio ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau, gan fod menywod yn fwy tebygol o astudio pynciau’n gysylltiedig â diweithdra, gor-addysg, a chyfartaledd cyflog is.
  • Profiad Gwaith: Mae’r nifer is o flynyddoedd gwaith gan fenywod (sy’n aml oherwydd treulio amser yn gofalu am blant neu gyfrifoldebau gofal eraill) yn un o sbardunau mawr y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau. Caiff nodweddion cynhyrchiol eu gwobrwyo ar raddfa is i fenywod rhan amser o’u cymharu â’u cymheiriaid llawn amser.
  • Arwahanu Galwedigaethol: Mae menywod yn fwy tebygol o weithio mewn galwedigaethau â gweithwyr benywaidd yn bennaf, sydd fel rheol yn talu llai na galwedigaethau â gweithwyr gwrywaidd yn bennaf.
  • Gwahaniaethu yn y farchnad lafur: Ar y cyfan mae deddfwriaeth gwrth-wahaniaethu yn y DU wedi lleihau gwahaniaethu. Fodd bynnag, mae’r rhan fawr o’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau nad oes esboniad amdani yn y sector cyhoeddus yn cwestiynu i ba raddau mae Dyletswydd Cydraddoldeb ychwanegol y Sector Cyhoeddus yn effeithiol.
  • Nodweddion seicolegol: Nid yw gwahaniaethau rhwng y rhywiau o ran nodweddion (e.e. hunan-barch a rheolaeth) yn esbonio llawer o’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn y DU, er bod nodweddion eraill (e.e. gwybyddiaeth/hunanhyder) o bosibl yn esbonio mwy ond heb gael eu harchwilio.
  • Strwythurau marchnadoedd rhanbarthol: Mewn rhanbarthau sydd heb gwmnïau mawr sy’n darparu swyddi a chyflogau uchel mewn gweithgynhyrchu (i ddynion yn bennaf) mae’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn tueddu i fod yn isel neu’n negyddol.

Agenda Ymchwil y Dyfodol

Er ein bod yn gwybod llawer am yr hyn sy’n dylanwadu ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau, ar hyn o bryd mae dadansoddiad ar lefel ranbarthol ar goll. Rwyf i’n gobeithio defnyddio’r methodolegau a amlinellir uchod a Chymru fel astudiaeth achos i gynnig tystiolaeth newydd i ymdrin â’r bwlch hwn, yn ogystal â mesur yn feintiol effeithiolrwydd gwahanol bolisïau i ymdrin â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ac effaith gwahanol bolisïau cenedlaethol/datganoledig ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau.

Mae Suzanna Nesom yn fyfyriwr PhD yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Cyllidir ei PhD gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol mewn cydweithrediad â Chwarae Teg (prif elusen menywod Cymru). Mae’n ymchwilio pam fod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn amrywio cymaint ar draws awdurdodau lleol Cymru.  Goruchwylir y prosiect gan yr Athro Melanie Jones a Dr Ezgi Kaya ac mae’n parhau â’u hymchwil ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn Sector Cyhoeddus y DU ac yng Ngogledd Iwerddon.

Cyn hyn, bu Suzanna’n gweithio ar Adolygiad Cydraddoldeb Rhywedd Llywodraeth Cymru gyda Chwarae Teg.