Skip to main content

Caffael

Sut ydyn ni’n caffael llesiant?

13 Gorffennaf 2020
O’r chwith i’r dde: Dr Jane Lynch, Darllenydd mewn Caffael yn Ysgol Busnes Caerdydd, a Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, wnaeth arwain y sesiwn ddiweddaraf yng Nghyfres Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd.

Ymunodd y nifer uchaf erioed o gynrychiolwyr ar-lein â Briff Brecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn ddiweddar i glywed sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi cyfle i drawsnewid y ffordd y mae caffael yn cael ei ddarparu yng Nghymru.

Trwy symud tuag at ymagwedd sy’n seiliedig ar ganlyniadau, gallwn sicrhau bod y £6 biliwn a werir yn flynyddol yn sicrhau’r canlyniadau gorau ar draws pob un o bedair elfen llesiant ac yn helpu i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Darparodd y digwyddiad yr wybodaaeth ddiweddaraf ar argymhellion caffael Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a amlinellwyd yn ei Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020 diweddar, gyda chyfleoedd i ymateb i gwestiynau a gyflwynwyd trwy gydol y digwyddiad.

“Mae nifer uchel y bobl a fynychodd y digwyddiad heddiw yn arwydd cryf bod caffael o’r diwedd yn codi i frig yr agenda”.

Dr Jane Lynch, Darllenydd Caffael yn Ysgol Busnes Caerdydd

Agorwyd y sesiwn gan Gyfarwyddwr Addysg Weithredol ac Academaidd Ysgol Busnes Caerdydd, Sarah Lethbridge.

Aseswyd y sefyllfa gan yr Athro Kevin Morgan, Deon Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd, pan hysbysodd y cynrychiolwyr am yr heriau hanesyddol sydd wedi effeithio ar y proffesiwn caffael.

“Ni allai digwyddiad heddiw ar Gaffael ar gyfer Llesiant fod yn fwy amserol oherwydd mae angen i ni fanteisio ar bŵer prynu i ddelio â bygythiadau deublyg Covid-19 a Brexit. Ond mae angen i ni weithredu nid siarad oherwydd rydyn ni wedi bod yn sôn am fanteisio ar bŵer prynu ers 20 mlynedd ac rydyn ni dros ein pen a’n clustiau mewn adroddiadau sy’n dangos mai’r rhwystr allweddol yw’r gallu i gaffael, sydd yn y bôn yn dibynnu ar sgiliau, arweinyddiaeth a statws y swyddogaeth gaffael yn ein holl sefydliadau. Mae angen i gaffael fod yn yr ystafell-fwrdd nid yn yr ystafell gefn”.

Yr Athro Kevin Morgan, Deon Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd

Gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, cyflwynodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ei Hadolygiad Adran 20 cyntaf ym Mawrth 2020. Mae’r Adolygiad yn ffocysu ar sut mae Cyrff Cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn:

  1. Gwneud y Ddeddf a’r Dulliau o Weithio yn rhan annatod o’u contractau caffael a’u fframweithiau, a sut y maent yn talu sylw i effaith hirdymor eu penderfyniadau; ac
  2. I ba raddau y mae caffael yn cynorthwyo darpariaeth amcanion llesiant y Cyrff Cyhoeddus (a chamau tuag at gyflawni’r rhain).

Er mwyn cefnogi’r ymchwil hwn ac ymchwil yn y dyfodol, bydd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn cael ei lofnodi rhwng y ddau sefydliad yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a fydd yn cadarnhau’r bartneriaeth hon.

Yn seiliedig ar ganfyddiadau cychwynnol yr Adolygiad Caffael, bu sgwrs ddiddorol rhwng Sophie Howe a Dr Jane Lynch, yn trafod sut y dylai caffael ganolbwyntio ar gyflawni canlyniadau sy’n gysylltiedig â’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn seiliedig ar ‘Y Gallu i Greu’. Roeddent yn ymdrin â phum blaenoriaeth allweddol ar gyfer caffael yng Nghymru ac ym mha drefn y mae angen iddynt ddigwydd.

  1. Arweinyddiaeth – Dylid gweld caffael fel lifer strategol ar draws cyrff cyhoeddus ac mae angen strategaeth gaffael glir wedi ei diweddaru a chyfeiriad sy’n gwneud y Nodau Llesiant yn rhan annatod o’r Dulliau o Weithio.
  2. Gallu – mae arnom angen adeiladu gallu yn ddiymdroi, a gwella rhannu a dysgu, os yr ydym eisiau gwella ansawdd a chanlyniadau caffael.
  3. Sgiliau – gwneud amrywiaeth yn rhan o dimau caffael ac annog ffordd o feddwl hyderus.
  4. Integreiddio a chydweithio strategol closach i gynorthwyo arloesedd gan gychwyn ar y lefel uchaf.
  5. ‘Prynwch yn lleol’ gyda ffocws ar ganlyniadau ehangach – mae COVID-19 a Brexit yn paratoi’r ffordd ar gyfer gwneud pethau’n wahanol, mewn ffordd a fydd yn cynorthwyo’n heconomi llesiant yn well.

Gorffennodd y digwyddiad gyda sesiwn holi ac ateb feddygar oddi wrth y panel, o dan arweiniad yr Athro Morgan. Os wnaethoch chi golli’r digwyddiad ac os hoffech wrando arno, gellir cyrchu recordiad o’r sesiwn yma.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch bennod Caffael o Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol, sydd ar gael yma.

Mae Alice Horn yn Swyddog Dadansoddi yn Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar wefan Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.