Skip to main content

Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau

Y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau: Beth allwn ni ei ddysgu gan Ogledd Iwerddon?

20 Gorffennaf 2020

Yn ein herthygl ddiweddaraf, mae’r Athro Melanie Jones a Dr Ezgi Kaya yn adlewyrchu ar eu papur trafod IZA newydd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Ngogledd Iwerddon.

Mae prif ffigurau Swyddfa Ystadegau Gwladol y DU yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Ngogledd Iwerddon yn llawer culach nag yng ngweddill y DU. Mae ein dadansoddiad yn canolbwyntio ar ddeall ac egluro’r rhesymau dros y gwahaniaeth rhyfeddol hwn o ystyried yr amgylchedd cymdeithasol, economaidd a pholisi cymharol debyg.

Gan ddefnyddio gwybodaeth o arolwg a gynhaliwyd ar raddfa fawr yn ddiweddar sy’n casglu gwybodaeth gymharol ar draws cartrefi yn y DU, gwelwn fod y bwlch cyflog cymedrig rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr llawn amser yng Ngogledd Iwerddon, sef 5 y cant, tua thraean o’r bwlch cyfatebol o 16 y cant yng ngweddill y DU, ac mae’n gulach nag yn holl ranbarthau eraill y DU.

Rydym ni’n canfod bod nodweddion unigol eraill fel addysg, a nodweddion cysylltiedig â swydd fel galwedigaeth, yn allweddol wrth egluro’r bwlch cyflog culach rhwng y rhywiau yng Ngogledd Iwerddon. Hynny yw, o gymharu â dynion, mae gan fenywod gymwysterau uwch ac maent yn gweithio mewn galwedigaethau sy’n talu fwy, sy’n culhau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Nid oes tystiolaeth bod dylanwad diffyg cydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau, a fesurir ar ôl cyfrif am wahaniaethau yn y nodweddion hyn, yn wahanol rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y DU. O’r herwydd, mae’r canfyddiadau’n atgyfnerthu’r gwahaniaeth critigol rhwng y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a chydraddoldeb cyflog, sy’n arbennig o bwysig yng nghyd-destun polisi’r DU lle mae’n ofynnol i gwmnïau adrodd am eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn unig.

“Mae’r neges o ddadansoddi Gogledd Iwerddon yn glir; nid yw’r bwlch cyflog cul rhwng y rhywiau yn dystiolaeth o absenoldeb anghydraddoldeb cyflog.”

Mae ein dadansoddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd penodol galwedigaeth. Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Ngogledd Iwerddon yn is na gweddill y DU o ganlyniad i’r ffaith fod crynodiad uwch o fenywod mewn galwedigaethau sy’n talu’n uwch yng Ngogledd Iwerddon ac oherwydd bod yr enillion sy’n gysylltiedig â gwahanol alwedigaethau yng Ngogledd Iwerddon o fudd i fenywod o gymharu â dynion.

Mae’r ffaith fod y bwlch rhwng yr enillwyr uchaf ac isaf yng Ngogledd Iwerddon yn gulach na gweddill y DU hefyd yn gweithredu er budd menywod ac yn cael effaith gulhau bellach ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Felly, mae ein dadansoddiad yn dangos, er gwaethaf y cyd-destun polisi a chymdeithasol tebycach, bod gan ffactorau sydd wedi’u hen sefydlu i ddylanwadu ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn rhyngwladol rôl bwysig hefyd wrth achosi amrywiad sylweddol yn y DU.

Gallwch ddarllen rhagor am ein hymchwil Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yng Ngogledd Iwerddon yn IZA – Sefydliad Economeg Llafur neu ar y Rhwydwaith Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol.

Hefyd, ym mis Tachwedd y llynedd, fe wnaethom ni ysgrifennu darn ar gyfer y blog hwn ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau yn Sector Cyhoeddus y DU.

Mae Melanie Jones yn Athro Economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae Dr Ezgi Kaya yn Ddarlithydd mewn Economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd.