Skip to main content

Mewnfudo

Statws cyfreithiol, Trwyddedau gwaith, ac ymateb defnydd cartrefi mewnfudwyr

21 Gorffennaf 2020

Yn ein neges ddiweddaraf, mae Dr Ezgi Kaya a Dr Effrosyni Adamopoulou yn canolbwyntio ar ehangiad yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn 2007 i ddangos sut mae gan statws cyfreithiol mewnfudwyr heb ddogfennau, ynghyd â symleiddio’r weithdrefn fiwrocrataidd ac ymestyn hyd trwyddedau gwaith i fewnfudwyr gyda dogfennaeth, oblygiadau o ran galw domestig.

Mae pandemig COVID-19 yn adfywio’r ddadl mewnfudo wrth i fwy a mwy o wledydd fabwysiadu rhyw fath o gyfreithloni ar gyfer eu poblogaeth o fewnfudwyr nad oes ganddynt ddogfennaeth.

Mae nifer o eiriolwyr (gweler Comisiwn Ewropeaidd, Deisebau Llywodraeth a Senedd y DU a Social Europe) wedi mynegi pryderon mewn perthynas â materion iechyd a chymdeithasol sy’n ymwneud â mewnfudwyr heb ddogfennaeth. At hynny, mewn llawer o wledydd, mae cyfran uchel o fewnfudwyr wedi’u cyflogi mewn galwedigaethau y cyfeirir atynt fel rhai “hanfodol”. Mae sector amaeth yr Eidal, er enghraifft, sy’n dibynnu ar weithwyr fferm tymhorol o wledydd fel Rwmania a Bwlgaria, wedi bod yn wynebu prinder llafur brys oherwydd y cyfyngiadau cloi.

Er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon hyn, mae Portiwgal eisoes wedi deddfu mesurau ym mis Mawrth, gan roi trwyddedau preswyl dros dro i fewnfudwyr a cheiswyr lloches, lle’r oedd eu ceisiadau yn yr arfaeth. Ganol mis Mai, ar ôl mis o drafodaethau, cyhoeddodd yr Eidal ei bod yn cyfreithloni gweithwyr sy’n fewnfudwyr heb ddogfennau yn y sectorau amaeth a gwaith domestig yn ogystal â chyhoeddi trwyddedau preswyl dros dro ar gyfer mewnfudwyr sy’n chwilio am waith gyda thrwyddedau sydd wedi dod i ben, a oedd wedi’u cyflogi yn y sectorau hynny yn flaenorol.

Mewn astudiaeth ddiweddar, rydym ni’n dangos y gallai ennill statws cyfreithiol i fewnfudwyr heb ddogfennaeth, ynghyd â symleiddio’r weithdrefn fiwrocrataidd ac ymestyn hyd trwyddedau gwaith ar gyfer mewnfudwyr gyda dogfennaeth, gael effaith bwysig ar y galw domestig.1

Yn benodol, rydym ni’n canolbwyntio ar ehangiad yr UE yn 2007, ac yn astudio p’un a oedd ymestyn dinasyddiaeth yr UE yn effeithio ar ymddygiad defnyddio aelwydydd mewnfudwyr o aelod-wladwriaethau newydd (Rwmania a Bwlgaria), ac os felly, drwy ba sianeli.

Mae Ffigur 1 yn dangos gwariant defnydd misol cyfartalog cartrefi mewnfudwyr o Rwmania a Bwlgaria ac o aelod-wledydd eraill sydd wedi gwneud cais2 a oedd eisoes yn byw yn yr Eidal cyn ehangu’r UE yn 2007.

Roedd gan Rwmaniaid a Bwlgariaid a oedd yn byw yn yr Eidal ddefnydd misol cyfartalog is na mewnfudwyr o wledydd eraill a oedd wedi gwneud cais i fod yn rhan o’r UE. Parhaodd y gwahaniaeth yn weddol gyson tan 2007, gan awgrymu bod gwariant defnydd y mewnfudwyr o Rwmania a Bwlgaria a mewnfudwyr o wledydd eraill a oedd wedi gwneud cais yn dilyn tueddiadau cyfochrog cyn ehangu’r UE.

Rhwng 2006 a 2007, gyda mynediad i’r UE, cynyddodd defnydd y mewnfudwyr o aelod-wladwriaethau newydd yn sylweddol, tra parhaodd defnydd y mewnfudwyr o’r gwledydd a oedd wedi gwneud cais i dyfu ar yr un gyfradd ag yn y blynyddoedd blaenorol.

Ffigur 1: Gwariant defnydd misol ar gyfartaledd cartrefi mewnfudwyr a oedd yn byw yn yr Eidal, 2004-2012

Nodiadau: Mae’r plot yn dangos gwariant defnydd misol ar gyfartaledd (mewn Ewros) ar gyfer mewnfudwyr o aelod-wledydd newydd yr UE ac aelod-wledydd sydd wedi gwneud cais i ymuno â’r UE sy’n byw yn yr Eidal.
Ffynhonnell: Manylder yr awduron ar ddata ISMU

Pam fo cynnydd mewn defnydd?

Gall ansicrwydd ynghylch statws cyfreithiol yn y dyfodol wthio gweithgarwch economaidd mewnfudwyr i lawr, trwy eu cymell i ohirio penderfyniadau defnyddio nes bod yr ansicrwydd wedi’i ddatrys yn ddigonol.3

Gydag ehangiad 2007, cafodd mewnfudwyr o Rwmania a Bwlgaria ddinasyddiaeth yr UE yn syth bin.

I fewnfudwyr heb eu dogfennu a oedd eisoes yn byw mewn aelod-wladwriaethau, roedd hyn yn awgrymu cyfreithloni awtomatig, a thrwy hynny ddatrys ansicrwydd ynghylch eu statws cyfreithiol.

Ar gyfer mewnfudwyr sydd â’u dogfennaeth o aelod-wladwriaethau newydd sy’n byw yn yr Eidal, roedd mynediad i’r UE hefyd yn awgrymu bod ansicrwydd yn y farchnad lafur am adnewyddu eu trwyddedau gwaith wedi’i ddatrys, gan mai’r Eidal oedd yr unig economi fawr yn Ewrop i godi cyfyngiadau marchnad lafur tymhorol i Rwmaniaid a Bwlgariaid.4  

Mae ein set ddata unigryw5 yn caniatáu i ni fwrw  goleuni ar yr union fecanweithiau y tu ôl i’r cynnydd yn nefnydd Rwmaniaid a Bwlgariaid yn sgil ehangu’r UE yn 2007.

Rydym ni’n canfod bod mewnfudwyr heb ddogfennau yn flaenorol wedi profi cynnydd yn eu hincwm llafur trwy symud o’r sector anffurfiol i’r sector ffurfiol. O ganlyniad, cynyddodd eu gwariant ar fwyd, dillad ac eitemau o sylfaenol eraill.6

Fe wnaeth mewnfudwyr â dogfennau hefyd gynyddu eu gwariant ar ddefnydd, ond yn bennaf ar nwyddau parhaol.7

Yn yr achos hwn, mae’r cynnydd mewn defnydd o ganlyniad i well sefydlogrwydd yn y farchnad lafur, trwy gynnydd yn y tebygolrwydd o gael contract parhaol yn dilyn mynediad i’r UE. Mae hyn yn lleihau’r ansicrwydd am incwm llafur yn y dyfodol ac o ganlyniad, mae’n cynyddu gwariant cartrefi ar ddefnydd gan fod llai o angen i gynilo am ddiwrnod glawog. 

Casgliadau

Er bod polisïau cyfreithloni fel arfer yn anodd eu gweithredu oherwydd y gost wleidyddol uchel, mae ein canfyddiadau’n awgrymu y gallai symleiddio’r weithdrefn fiwrocrataidd ac ymestyn hyd trwyddedau gwaith ar gyfer mewnfudwyr â dogfennau arwain at gynnydd tebyg mewn defnydd.

Mae gan y canlyniadau hyn oblygiadau polisi pwysig mewn cyfnod o ansicrwydd cyfreithiol cynyddol, ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Disgwylir i’r baich biwrocrataidd gynyddu’n sylweddol ar gyfer mwy na 3.5 miliwn o fewnfudwyr yr UE sy’n byw yn y DU, y bydd angen iddynt, oni bai fod ganddynt ddinasyddiaeth Brydeinig, gael rhyw fath o drwydded (statws sefydlog neu statws cyn setlo).

At hynny, mae effaith gadarnhaol ehangu’r UE ar ddefnydd aelwydydd mewnfudwyr yn cyfrannu at y ddadl ddiweddar am fynediad posibl Albania a Gogledd Macedonia i’r UE, yn ogystal â dros effeithiolrwydd y rhaglenni cyfreithloni diweddar y mae gwahanol wledydd wedi’u mabwysiadu yng nghanol y pandemig COVID-19.

Mae Dr Ezgi Kaya yn Ddarlithydd mewn Economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae Dr Effrosyni Adamopoulou yn ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Mannheim ac yn ddarlithydd allanol yn yr Ysgol Busnes Ewropeaidd.

Ôl-nodiadau

1 Gweler Adamopoulou a Kaya (2020) i weld y manylion.

2 Albania, Bosnia a Herzegovina, Croatia, Kosovo, Gogledd Macedonia, Montenegro, Serbia, a Thwrci.

3 Mae’r ansicrwydd a ddaeth yn sgil y pandemig newydd hefyd yn cael effaith negyddol uniongyrchol ar ddefnydd oherwydd mesurau cadw pellter cymdeithasol a chyfyngiadau cloi. Gweler Baker et al. (2020) i weld trafodaeth ar ymatebion tymor byr defnydd cartrefi i bandemig y coronafeirws.

4 Ymunodd Bwlgaria a Rwmania â’r UE ar 1 Ionawr, 2007. Fodd bynnag, roedd y cytundebau mynediad yn caniatáu i aelod-wladwriaethau osod cyfyngiadau tymhorol ar y farchnad lafur ar weithwyr o Fwlgaria a Rwmania am hyd at saith mlynedd ar ôl eu mynediad i’r UE. Cyhoeddodd mwyafrif yr aelod-wladwriaethau, gan gynnwys yr Eidal, y byddent yn gosod cyfyngiadau dros dro i amddiffyn eu marchnadoedd llafur rhag llif mawr o fewnfudwyr o’r aelod-wladwriaethau newydd ac felly byddai’n ofynnol o hyd i fewnfudwyr o Rwmania a Bwlgaria gael trwydded er mwyn gallu gweithio. Fodd bynnag, dim ond tri diwrnod cyn eu mynediad i’r UE ar 28 Rhagfyr 2006, cododd yr Eidal y cyfyngiadau hyn.

5Arolygon y Sefydliad ar gyfer Astudiaethau Aml-ethnig (ISMU) 2004-2012.

6 Mae astudiaeth flaenorol gan Dustmann et al. (2017) yn canfod fod amnestau yn hybu defnydd mewnfudwyr. Mae Mastrobuoni a Pinotti (2015) yn dangos gostyngiad mewn troseddau gan fewnfudwyr yn sgil ehangiad yr EU yn 2007.

7 Mae rhai enghreifftiau o nwyddau parhaol yn cynnwys teclynnau, dodrefn cartref a swyddfa, offer lawnt a gardd, nwyddau electronig defnyddwyr, teganau, offer adeiladu bach, nwyddau chwaraeon, offer ffotograffig, gemwaith, cerbydau modur a rhannau cerbydau modur, tyrbinau a lled-ddargludyddion.

Cyfeirnodau
  • Adamopoulou, E, ac E Kaya (2020), “Not just a work permit: EU citizenship and the consumption behavior of documented and undocumented immigrants”, Canadian Journal of Economics, forthcoming.
  • Baker, S, R A Farrokhnia, S Meyer, M Pagel a C Yannelis (2020), “How does household spending respond to an epidemic? Consumption during the 2020 Covid-19 Pandemic”, Covid Economics: Vetted and Real-Time Papers, Rhifyn 18, 73-108, Mai 2020.
  • Dustmann, C, F Fasani a B Speciale (2017), “Illegal migration and consumption behavior of immigrant households”, Journal of the European Economic Association, 15(3), 654-691.
  • Mastrobuoni, G a P Pinotti (2015), “Legal status and the criminal activity of immigrants”, American Economic Journal: Applied Economics, 7(2), 175-206.