Skip to main content

Blockchain

Wythnos Dechnoleg Cymru a lansio Blockchain Connected

5 Awst 2020

Yn ein post diweddaraf, mae Dr Yingli Wang yn ystyried ei chyfraniad at yr Wythnos Dechnoleg Cymru gyntaf erioed a gynhaliwyd rhwng 13 a 17 Gorffennaf 2020.

Rydym ar drobwynt yng Nghymru o ran technoleg ddigidol a galluogi. O arweinwyr technoleg y byd i’n llwyfan cynyddol i fusnesau newydd, mae cyflawniadau, arloesedd a gwybodaeth yng Nghymru i’w dathlu.

Nid yw’r datblygiadau hyn bellach yn sylfeini yn unig, yn arbennig yn nhirweddau’r sectorau diwydiannol a gwasanaeth – maen nhw’n trawsffurfio ac yn tarfu ar y ffordd rydym yn byw, yn gweithio ac yn chwarae.

Mae hyn wedi dod yn fwy amlwg nag erioed wrth i ni addasu i ffyrdd newydd o weithio, o ddysgu ac o gyfathrebu â’n teuluoedd a’n ffrindiau yn ystod pandemig COVID-19.

Mae technoleg wedi galluogi llawer o’r addasiadau hyn.

Felly, mae’n amserol yn ôl pob golwg bod Wythnos Dechnoleg Cymru wedi cael ei chynnal yn y cyd-destun hwn.

Trefnwyd yr ŵyl rithwir ryngweithiol gan Technology Connected –  y rhwydwaith blaenllaw ar gyfer technoleg yng Nghymru – ac roedd hi’n dangos eangder, cryfder ac amrywiaeth y diwydiant technoleg yng Nghymru.

Cynhaliwyd rhaglen gynhwysfawr o weminarau, seminarau a digwyddiadau digidol ar gyfer busnesau technoleg a diwydiannau ategol yng Nghymru a thu hwnt dros bum diwrnod.

Roedd yr wythnos hefyd yn gyfle i lansio grŵp rwyf wedi bod yn rhan ohono am beth amser erbyn hyn, sef rhwydwaith Blockchain Connected.

Mae Blockchain Connected yn sefydliad newydd yn Technology Connected i gynrychioli ac uno’r gymuned blockchain yng Nghymru, i helpu adeiladau a hyrwyddo proffil a’r defnydd o sefydliadau a thechnolegau blockchain yng Nghymru a thu hwnt.

Wrth lansio Blockchain Connected, rydym yn edrych i feithrin y ddawn sy’n bodoli yng Nghymru i greu cymuned gydweithredol a fydd yn helpu i sicrhau bod Cymru’n rhoi blockchain yn rhan allweddol o ddyfodol ein heconomi.

I nodi hyn, cynhaliwyd gweminarau rhyngweithiol ar y thema blockchain yn rhan o’r ŵyl.

Ynghyd â’r Athro Arnold Beckmann, o Ysgol Cyfrifiadureg Prifysgol Abertawe, trefnais a chadeirio digwyddiad arddangos ymchwil blockchain. Daethom â chydweithwyr academaidd o bob rhan o Brifysgolion Cymru ac ymchwilwyr o’r diwydiant ynghyd i arddangos y datblygiadau ymchwil diweddaraf ar blockchain.

Roedd yr arddangosfa’n cynnwys dau seminar digidol y gallwch eu gwylio ar YouTube.

Ymchwil blockchain: asedau digidol a thu hwnt

Dan gadeiryddiaeth yr Athro Arnold Beckmann o Brifysgol Abertawe, mae’r seminar hwn ar ymchwil blockchain yn cynnwys cyflwyniadau gan Dr Qingwei Wang a Dr Yingli Wang o Ysgol Busnes Caerdydd, Dr Owen Vaughan o nChain a Dr Imtiaz Khan o Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

Ymchwil blockchain: achosion defnydd yn y byd go iawn

Dan gadeiryddiaeth Dr Yingli Wang o Ysgol Busnes Caerdydd, mae’r seminar hwn ar ymchwil blockchain yn cynnwys cyflwyniadau gan yr Athro Arnold Beckmann ac Alex Milne o Brifysgol Abertawe a Thane Hall o Thales UK.

Fel rhan o fy rôl ar bwyllgor llywio Blockchain Connected, rwyf hefyd wedi bod mewn sesiynau ychwanegol yn ystod yr wythnos fel aelod panel gwadd. Ymysg datblygiadau eraill, trafodais effaith aflonyddgar blockchain a sut y dylai sefydliadau fynd ati i ddefnyddio blockchain gan dynnu ar waith y gwnes i gyda Fforwm Economaidd y Byd, Sefydliad Dyfodol Dubai a Phwyllgor Contractau Clyfar Adeiladu’r DU.

Gallwch weld digwyddiadau Wythnos Dechnoleg Cymru ar dudalen YouTube Technology Connected.

Mae Dr Yingli Wang yn Ddarllenydd mewn Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Un o’i blaenoriaethau ymchwil yw blockchain/technoleg cyfriflen ar wasgar a’i defnydd integreiddiol â thechnolegau digidol eraill fel deallusrwydd artiffisial, y rhyngrwyd pethau a chyfrifiadura cwmwl.