Skip to main content

Profiad myfyrwyr

Paratoadau Ysgol Busnes Caerdydd ar gyfer 2020/21

11 Awst 2020

Yn ein darn diweddaraf, mae’r Dr Eleri Rosier, Cyfarwyddwr Denu a Derbyn Ôl-raddedigion, yn disgrifio rhai newidiadau mae Ysgol Busnes Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd yn eu trefnu i ofalu y bydd myfyrwyr yn ddiogel ac y bydd eu haddysg yn rhagorol yn ôl canllawiau presennol iechyd cyhoeddus.

Mae’r misoedd diwethaf hyn wedi bod yn ymestynnol o safbwynt proffesiynol a phersonol. Drwy gydol y cyfan, rydyn ni wedi canolbwyntio ar iechyd a lles ein staff a’n myfyrwyr, gan ofalu ein bod wedi addasu ein dysgu, ein haddysgu a’n gweithgareddau ehangach i ymateb i COVID-19 a diwallu anghenion ein cymuned. 

Yn rhan o’m rôl, rwyf i wedi bod yn cydweithio â staff yr Ysgol, y Coleg a’r Brifysgol i gau pen y mwdwl ar drefniadau croesawu myfyrwyr i’n hysgol a’n campws ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21.

Yn ogystal â hel ein syniadau ein hunain, rydyn ni wedi bod yn gwrando ar ddeiliaid ein cynigion dros yr wythnosau diwethaf hyn – gan ystyried eu hanghenion a sut mae’u croesawu i Gaerdydd yn ddiogel. Bydd israddedigion newydd a chyfredol yn dod yn ôl tua diwedd mis Medi fel sy’n arferol ond rydyn ni’n dechrau rhaglenni’r ôl-raddedigion bob yn dipyn.

O ganlyniad, mae dyddiadau dechrau cyrsiau ymsefydlu’r Brifysgol a’r rhaglenni i ôl-raddedigion wedi’u newid a byddwn ni’n croesawu myfyrwyr yn ôl tri cham – mis Medi ar gyfer y rhaglenni rhan-amser, mis Tachwedd ar gyfer rhaglenni gradd meistr a mis Ionawr ar gyfer rhaglenni MBA.

Campws diogel a chroesawgar

Mae’r Brifysgol wedi cyhoeddi amryw gynlluniau ynglŷn â sut y byddwn ni’n cynnal campws diogel a chroesawgar gan ddisgrifio’r camau sydd wedi’u cymryd ar gyfer addysgu, lletyau, gweithgareddau cymdeithasol a chwaraeon yn ogystal â’r prosesau hylendid a diogelwch priodol.

At hynny, mae Cyngor Caerdydd wedi addasu ei safleoedd, ei strydoedd a’i fannau glas yn ôl canllawiau iechyd cyhoeddus am y pandemig. Er enghraifft: trefnau unffordd, ffyrdd i gerddwyr a phalmantau ehangach i helpu pawb i gadw draw rhag ei gilydd.

Mewn dinas heb lawer o le ynddi eisoes, bydd y newidiadau hynny’n siŵr o effeithio ar fywyd pob myfyriwr a ddaw i fyw yng Nghaerdydd. At hynny, bydd yn cynnig cyfle i edrych y tu hwnt i ganol y ddinas ar dirweddau prydferth cefn gwlad ac arfordiroedd Cymru.

Ein blaenoriaeth bob amser yw cynnig addysg o safon i fyfyrwyr i’w helpu i weithio’n effeithiol a byw’n fodlon. Mae hynny wrth wraidd ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, wedi’i ategu gan ragor o bwyslais ar iechyd a diogelwch. Bydd ein myfyrwyr yn elwa ar addysg uwch ragorol a diogel trwy gyfuniad hyblyg o weithgareddau dysgu ar-lein ac ar ein safle. Trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau ar gyfer grwpiau bychain ar y campws, er enghraifft, bydd modd cryfhau’r astudio, meithrin ymdeimlad o fod mewn cymuned a chydymffurfio â’r gofyn i gadw draw rhag ein gilydd.  

Rydyn ni’n ffodus bod staff yr Ysgol wedi bod yn lledaenu profiad a’r arferion gorau trwy gyfres o seminarau ar y we, hefyd. Ar ben hynny, rydyn ni wedi mynd i sesiynau arbenigwyr ym maes dysgu ar-lein i drafod sut y gallwn ni wneud y gorau o’r dull amrywiol hwn er lles y rhai a fydd yn dod y flwyddyn nesaf.

Yn ogystal â chwilio am eglurder a gonestrwydd yn ein bywydau personol a phroffesiynol yn ystod y pandemig hwn, mae’n bwysig cyfathrebu â’n darpar fyfyrwyr. Felly, yn ychwanegol at ohebiaeth y Brifysgol, rwyf i wedi cysylltu â’n hôl-raddedigion nifer o weithiau dros y misoedd diwethaf hyn. Yn yr un modd, rydyn ni wedi estyn braich at ein darpar israddedigion a myfyrwyr doethurol. Rhaid crybwyll ein carfanau presennol hefyd – fel llawer ohonon ni, gallai effaith y newidiadau hyn deimlo’n arbennig o gryf yn eu plith.

Rydyn ni wedi ceisio osgoi gormod o negeseuon ebost drwy gydol hyn am fod perygl y bydd pawb yn syrffedu ar yr holl gyfathrebu i ryw raddau. I leddfu peth o hynny, rydyn ni wedi llunio pecyn hysbysu i gyfleu rhai o’r prif newidiadau a fydd yn Ysgol Busnes Caerdydd ar gyfer 2020/21. Mae’n cynnwys llawer o’r hyn sydd wedi’i drafod yma mewn modd haws ei ddeall a byddwn ni’n ei roi yng nghyfrifon cyfryngau cymdeithasol yr Ysgol, sef Facebook a Twitter. Rwy’n eich annog i’w ledaenu ymhlith aelodau’ch rhwydweithiau lle bo’n briodol, hefyd.

Rwy’n gobeithio y bydd yr adnodd hwn o gymorth yn ystod y cyfnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf tra byddwn ni’n parhau i gyflwyno myfyrwyr i’n hysgol, rhoi’r diweddaraf iddyn nhw am eu modiwlau a’u paratoi ar gyfer dysgu digidol rhyngweithiol fel y gallan nhw gydio’n syth yn yr astudio a chael yr addysg ragorol maen nhw’n ei disgwyl. 

Rwy’n hyderus y gallwn ni i gyd helpu i ofalu y bydd 2020/21 yn flwyddyn gyffrous a chofiadwy i bawb yn Ysgol Busnes Caerdydd. 

Mae’r Dr Eleri Rosier yn Ddarllenydd Strategaethau Marchnata yn Ysgol Busnes Caerdydd yn ogystal â gweithredu yn swydd Cyfarwyddwr Denu a Derbyn Ôl-raddedigion.