Skip to main content

Profiad myfyrwyr

Pum ffordd o fanteisio i’r eithaf ar eich amser fel myfyriwr PhD

23 Mehefin 2020

Myfyrwyr PhD sy’n treulio’r amser hiraf yn y brifysgol o’u cymharu â myfyrwyr eraill. Mae’r amser ychwanegol hwn yn gyfle gwych i ymgymryd â rolau gwahanol yn y brifysgol a’r tu allan iddi.

Yn ystod fy astudiaeth ddoethurol, rwyf wedi ymwneud â nifer o dimau sydd wedi rhoi hwb i fy hunanhyder. Rwyf wedi gwneud nifer o ffrindiau newydd ar hyd y ffordd hefyd, ac wedi canfod fy nghymuned fach fy hun yng Nghaerdydd, filoedd o filltiroedd i o fy nghartref yn India.

Nawr bod fy astudiaeth PhD yn dod i ben – cyflwynais fy nhraethawd ymchwil y mis hwn – roeddwn i am rannu pum ffordd y gallwch chi, fel myfyriwr PhD, fanteisio i’r eithaf ar eich cyfnod yng Nghaerdydd.

1.  Diploma ochr yn ochr â’ch gradd

Mae’r Gwasanaeth Datblygu Sgiliau (SDS) yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cynnig nifer o gyrsiau, a’r Diploma Datblygiad Proffesiynol mewn Arweinyddiaeth yw un ohonynt.

Gyda chymaint o gyflogwyr yn chwilio am sgiliau arwain y dyddiau hyn, roeddwn i’n meddwl y byddai hyn yn gyfle a oedd yn rhy dda i’w golli. A hyd yn oed yn fwy felly oherwydd ei fod yn rhad ac am ddim!

Ochr yn ochr â’m gwaith ymchwil, es i weithdai ar gyfer y cwrs DPD a chymryd rhan mewn 200 awr o brofiad gwaith (er mai 50 yn unig sydd eu hangen) o’r rolau arwain amrywiol rwyf wedi’u cael (mwy am y rhain yn ddiweddarach).

Fel y gwyddoch eisoes mae’n debyg, mae’r rhan fwyaf o ymchwilwyr ôl-raddedig (PGRs) yn gweithio fel cynorthwywyr addysgu wrth helpu i drefnu gwahanol gynadleddau a gweithdai. Beth am ddefnyddio’r oriau hyn i ennill diploma ochr yn ochr â’ch gradd?

Rhagor o wybodaeth am ennill diploma gyda’r Gwasanaeth Datblygu Sgiliau.

2. Gwobr Caerdydd

Mae Gwobr Caerdydd yn rhaglen a gyflwynir gan y  Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n hollol rithwir gyda llawer o adnoddau i wella nodweddion a sgiliau cyflogadwyedd drwy blatfform ar-lein o’r enw Taith Eich Gyrfa.

Yn ystod y rhaglen, es i sesiynau ar ysgrifennu CV a llythyrau eglurhaol a chael adborth uniongyrchol gan gynghorwyr gyrfaoedd y Brifysgol, a’m helpodd i’w personoli ar gyfer pob cais am swydd. Ysgrifennais logiau myfyrio hefyd o fy amrywiol weithgareddau allgyrsiol, a gwnaeth hyn fy helpu i ateb gwahanol gwestiynau yn seiliedig ar sgiliau mewn ffurflenni cais.

Gallwch ddarllen am fy mhrofiad o Wobr Caerdydd ar y blog Bywyd Myfyrwyr.

Beth am wella’ch sgiliau cyflogadwyedd drwy ymuno â’r rhaglen? Mae’r dystysgrif yn edrych yn wych ar eich CV a’ch proffil LinkedIn, sy’n eu gwneud yn wahanol i geisiadau eraill.

3. Tîm Bywyd Preswyl

Mae Cynorthwy-ydd Bywyd Preswyl (RLA) yn rôl i fyfyrwyr yn y Tîm Bywyd Preswyl sy’n rhan o’r Ganolfan Cefnogi a Lles Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Rydym yn cefnogi myfyrwyr sy’n byw mewn neuaddau preswyl ar y cyd â thimau Diogelwch a Rheoli Neuaddau Preswyl y Brifysgol.

Rwyf wedi bod yn gynorthwy-ydd bywyd preswyl am ddwy flynedd yn olynol ers i’r tîm ddechrau yn 2018. Rhan o fy rôl yw trefnu digwyddiadau ar gyfer y myfyrwyr, a dros y ddwy flynedd diwethaf, rwyf wedi llwyddo i rannu fy niwylliant Indiaidd gyda’r gymuned drwy ddigwyddiadau fel Holi a Diwali.

Rwyf wedi cwrdd â rhai ffrindiau gwych yn y tîm hwn, a chaiff ei ystyried yn un o’r timau mwyaf amrywiol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae fy rôl hefyd wedi fy helpu i reoli fy arian oherwydd fe dalodd am fy rhent a’m biliau yn gyfnewid am fy oriau gwaith.

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o dîm bywiog o gyfoedion creadigol a chyfrifol a derbyn cyfraniadau ariannol tuag at eich rhent a’ch biliau ar yr un pryd, rwy’n argymell yn gryf eich bod yn gwneud cais am y rôl hon.

Edrychwch ar wefan y Tîm Bywyd Preswyl i gael rhagor o wybodaeth am y rôl a sut i gymryd rhan.

4. Cymdeithasau ac undeb athlethau

Mae gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd dros 200 o gymdeithasau a mwy na 65 o glybiau chwaraeon a arweinir gan fyfyrwyr yn ei undeb athletau. Gallwch ymuno â chynifer ohonynt ag y dymunwch yn dibynnu ar eich diddordebau a’ch hobïau.

Ymunais â’r Gymdeithas Dawnsio Bollywood am ddwy flynedd a mwynhau’r sesiynau dawnsio amrywiol yn fawr. Rwyf wedi bod yn angerddol am ddawnsio ers yn blentyn ifanc, ac roedd y gymdeithas hon yn caniatáu imi ddawnsio a symud i gerddoriaeth Bollywood. Perfformiais gyda’r gymdeithas ar sawl achlysur gwahanol, ond roedd un achlysur arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Gwnaethon ni hefyd ennill gwobr y Gymdeithas Celfyddydau a Pherfformio Gorau yng Ngwobrau Cymdeithasau Cenedlaethol 2018.

Os ydych eisiau cwrdd â phobl y tu allan i’r swyddfa PhD sydd â diddordebau tebyg, edrychwch ar y gweithgareddau yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Yn well byth, mae’r rhan fwyaf o’r cymdeithasau a’r clybiau chwaraeon yn cynnig sesiynau Rho Gynnig Arni lle byddwch chi’n rhoi cynnig ar eu gweithgareddau naill ai am ddim neu am bris is.

5. Cyfleoedd i wirfoddoli

Rwyf wrth fy modd yn rhoi yn ôl i gymdeithas ac i bobl, ac rwyf wedi gwirfoddoli mewn rolau gwahanol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Bues i’n Swyddog Gweithredol Ôl-raddedig gydag Is-Lywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, helpais Dîm Ymgysylltu â Myfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd wrth i’r myfyrwyr gyrraedd yn ystod Wythnos y Glas, helpais i drefnu teithiau ôl-raddedig gyda Chanolfan y Graddedigion yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio gyda’r Academi Ddoethurol i helpu myfyrwyr PhD yn ystod y pandemig.

Rwyf hefyd wedi gwirfoddoli y tu allan i’r Brifysgol, yn bennaf ar gyfer digwyddiadau chwaraeon oherwydd rwy’n mwynhau eu gwylio. Gwirfoddolais yn ystod Hanner Marathon y Byd 2016, UEFA Champions League 2017 a Chwpan y Byd UCC 2019.

Gallwch ddewis faint o amser i ymroi i wirfoddoli ac ar gyfer pa achosion. Gall fod yn rôl barhaus yn y Brifysgol neu am ddigwyddiadau diwrnod o hyd gyda sefydliadau allanol. Beth bynnag a ddewiswch, mae’r profiadau hyn yn eich helpu i greu atgofion sy’n para am byth!

Gall y profiad o gwblhau PhD fod yn un hir ac unig. Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau allanol yn helpu i wella eich lles emosiynol a’ch iechyd meddwl. Y peth gorau yw y gallwch chi ymuno ag unrhyw un o’r opsiynau uchod unrhyw bryd yn ystod eich PhD.

I mi yn bersonol, gwnaeth y rolau hyn i mi deimlo mwy o ymgysylltiad â’r brifysgol a’r gymdeithas. Gwnaeth i mi lywio fy nhaith i ben draw’r byd drwy drawsffurfio Caerdydd o fod yn rhywle dros dro i gael seibiant yn unig i fod yn rhywle ar ben y daith.

Mae Violina Sarma yn ymgeisydd PhD yn yr Adran Logisteg a Rheoli Gweithrediadau yn Ysgol Busnes Caerdydd.