Skip to main content

COVID-19

Yr Ail Ryfel Byd a COVID-19: adeiladu naratifau

4 Mehefin 2020

Yn ein darn diweddaraf, mae Dr Leon Gooberman yn adrodd hanes datblygiad yr argyfwng COVID-19 a diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop.

Cyd-darodd argyfwng COVID-19 â dathliad diweddar saith deg pum mlwyddiant diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop. Roedd y cyd-ddigwyddiad yn ysgogi cymharu taflwybrau symudedd rhwng y ddau gyfnod. Ond beth all cymariaethau o’r fath ddweud wrthym? Er nad ydym yn gwybod sut y bydd argyfwng COVID-19 yn datblygu, mae ein gwybodaeth o’r rhyfel yn dilyn patrymau cyfarwydd sy’n llywio cymariaethau cyfoes.

Tybir yn aml nad oedd y DU o dan Chamberlain yn barod o gwbl ym 1939, a bod y wlad yn sefyll ar ei thraed ei hun pan ddaeth Churchill i rym ym mis Mai 1940. Aeth y llywodraeth ati i sbarduno diwydiant yn gyflym a daeth ‘rhyfel y bobl’ i ben gyda buddugoliaeth. Ond mae rhai o’r tybiaethau hyn yn broblematig. Os nad oedd y DU y barod ym 1939, o ble ddaeth yr awyrennau rhyfel Spitfire a Hurricane yn ystod Brwydr Prydain (Battle of Britain)? Nid ymddangos dros nos wnaethon nhw; datblygwyd y ddau fath o ddechrau’r 1930au yn rhan o’r broses ailarfogi a chodwyd ffatrïoedd enfawr yn ddiweddarach yn y ddegawd. Yn y cyfamser, roedd dibynnu’n rhannol ar fewnforio bwyd yn risg amlwg petai rhyfel yn dechrau. Ymateb y llywodraeth oedd paratoi cyfundrefn ddogni i arbed bwyd, a sefydlu pwyllgorau lleol i reoli amaethyddiaeth adeg y rhyfel. Gweithredodd y pwyllgorau pan ddechreuodd y rhyfel gan lwyddo i ysgogi cynhyrchu ar raddfa fwy.

Ydy hyn yn rhyddhau Chamberlain o fai? Na. Roedd cymod yn drychineb ac roedd y fyddin, heblaw am rai unedau, wedi ei hesgeuluso ac yn brin o offer. Llesteiriwyd ailarfogi gan ddadleuon tymor byr y Trysorlys y byddai gwario mwy yn niweidio ein hamddiffyn gan y byddai’n difrodi yr economi a rhwystro gwariant yn y dyfodol. Yn anffodus, roedd gan y Trysorlys yr hawl i weithredu yn ôl ei ddadleuon. Cyfyngodd ar wariant ac, er enghraifft, rhwystrodd weithwyr adeiladu rhag gweithio trwy’r nos i gyflymu’r broses o gwblhau ffatrïoedd arfau yn ne Cymru yn ystod haf 1939 gan y byddai sifftiau o’r fath yn arwain at gyflogau uwch.

Ond siawns fod hyn i gyd wedi newid ym 1940 pan safai y DU ar ei phen ei hun? Roedd y DU ar fin wynebu goresgyniad ym 1940 ac wedi’i hynysu yn filwrol. Ond roedd hefyd yn rheoli ymerodraeth a system fasnach fyd-eang. Roedd y nodweddion yma yn lleddfu’r ynysu, ac roedd yr ymerodraeth yn gyfrifol am dros 40 y cant o werth mewnforio trwy gydol y rhyfel. Cynhaliwyd rhai cadwyni cyflenwi er gwaethaf colledion morwrol dwys. Roedd y mewnforio yn amrywio o ddur anorffenedig a barrau; dwy filiwn tunnell ym 1940 ac 1.5 miliwn tunnell ym 1943, i wartheg byw; 560,000 ym 1940 a 409,000 ym 1943.

Beth am sbarduno diwydiant i ymladd ‘rhyfel y bobl’?  Tyfodd y broses o gynhyrchu arfau yn sydyn o 1939 ond ni chyrhaeddodd ei hanterth tan 1944, yn dilyn proses weinyddol hir ac anhrefnus ar brydiau. Roedd tair Gweinyddiaeth yn cyflenwi deunydd rhyfel i’r lluoedd ac fe gymerodd flynyddoedd iddyn nhw gydweithio yn llawn. Crëwyd Cyngor Cynhyrchu ym 1940 er mwyn hybu cydweithrediad ond roedd yn fethiant. Fe’i ddisodlwyd ym 1941 gan Bwyllgor Cynhyrchu Gweithredol oedd hefyd yn fethiant, yn rhannol gan nad oedd y Gweinidog Cyflenwad eisiau cael ei geryddu gan y Gweinidog Llafur. Disodlwyd y pwyllgor hwn ym 1942 gan Weinyddiaeth Gynhyrchu. Roedd y Weinyddiaeth newydd yn cael trafferth yn ymdopi yn wreiddiol ond fe lwyddodd ym 1943, gan fod cydweithio yn cael ei ysgogi gan yr angen i wasgu cynnyrch diwydiannol o economi ar waith.

Roedd cysylltiadau y tu allan i Whitehall yr un mor wan. Roedd y swyddog oedd yn ceisio cydlynu cynhyrchu yng Nghymru ar ddiwedd 1941 yn cymharu tensiwn rhynglywodraethol â’r rhyfel yng ngogledd Affrica. Yn y cyfamser, y Bwrdd Masnach oedd yn dosrannu gofod o fewn ffatrïoedd ond gwrthododd ymuno â strwythurau rhynglywodraethol. Methwyd yn lân â chytuno tan iddo gael ei drechu mewn ffordd gyfrwys erbyn 1943 a’i orfodi i gydweithio. Roedd hyd yn oed y broses o sbarduno gweithwyr yn un hir, gyda gorfodaeth ddiwydiannol yn cael ei gyflwyno’n raddol. Yn olaf, roedd cysylltiadau diwydiannol yn y diwydiant glo yn ffrwydrol, roedd polisi llywodraethol yn aneffeithiol, a syrthiai cynhyrchiant ac allbwn yn gyson.

Ond roedd hyn yn amherthnasol yn y pen draw. Roedd economi a marchnad lafur y DU wedi’u sbarduno’n llawn ar ôl 1943 ac roedd bron i ddwy filiwn o fenywod wedi ymuno â llu y gweithwyr cyflogedig. Roedd cynhyrchiad arfau ar ddechrau 1944 1.6 gwaith yn uwch na’r lefel ar ddechrau 1942 ac yn uwch o lawer nag ym 1939. Mor gynnar â 1942 synnwyd y llywodraeth pan ddarganfu fod rhai o’i ffatrïoedd yn cynhyrchu gormod o arfau. Roedd prinder deunydd rhyfel yn hen atgof erbyn dechrau 1944 pan ddaeth rhannau o’r DU yn feysydd parcio enfawr ar gyfer milwyr o Brydain, America a Chanada yn paratoi ar gyfer D-Day.

Mae digwyddiadau y rhyfel yn awgrymu dau bwynt. Yn gyntaf, ni fyddwn yn gallu gwybod yn union beth ddigwyddodd yn ystod yr argyfwng presennol yn ei gyfanrwydd nes iddo ddod i ben. Gan ddefnyddio teipoleg enwog Donald Rumsfeld, mae gwybodaeth hysbys yn amheus, ac mae pethau anhysbys sy’n hysbys a pethau anhysbys sy’n anhysbys ar goll mewn niwl o ddryswch. Ond mae’n demtasiwn i ddod i gasgliadau cyffredinol ar unwaith, er bod y sylwebaeth brysur o bob cyfeiriad sy’n nodwedd amlwg o’r argyfwng hwn yn aml yn gwneud fawr ddim heblaw atgyfnerthu safbwyntiau pleidgar sy’n bodoli eisoes. Yn ail, hyd yn oed ar ôl i’r argyfwng yma dawelu, mae’n bosibl y bydd bylchau yn ein dealltwriaeth o hyd. Mae edrych ar yr Ail Ryfel Byd yn dangos fod naratifau rydym yn eu derbyn yn gallu bod yn broblematig ar brydiau.

Bydd llawer o effeithiau tyngedfennol yr argyfwng yn y DU yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth y DU. Bydd llywodraethau eraill yn gyfrifol am rai. Bydd eraill yn deillio o ystod eang o ffactorau gwahanol, a bydd y rhan fwyaf yn deillio o gyfuniad o ffactorau. Ond nid ydym eto wedi ymddatod yr elfennau yma, nac wedi deall sut maent yn rhyngweithio mewn amgylcheddau gwahanol. Mae’r amwysedd yma yn golygu y bydd yr atebion sydyn sy’n cael eu cynnig o bob ochr ar COVID-19 yn aml yn anghywir. Mae’n well gadael trosolygon cynnar i’r epidemiolegwyr unwaith iddynt gasglu digon o dystiolaeth. Yna gallwn ystyried y goblygiadau ehangach, osgoi naratifau camarweiniol, ac arfogi ein hunain ar gyfer y pandemig nesaf.  

Mae Dr Leon Gooberman yn Ddarlithydd mewn Cysylltiadau Cyflogaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd.