Skip to main content

COVID-19

Busnesau bach yn ystod COVID-19

18 Mai 2020

Yn ein herthygl ddiweddaraf, mae’r Athro Andrew Henley a’r Athro Tim Vorley yn rhoi eu barn am effaith pandemig COVID-19 ar fusnesau bach yn y DU.

Mae pandemig COVID-19, sy’n ymledu’n wyllt ledled y byd, wedi cail effaith aflonyddol na welwyd mo’i bath o’r blaen ar fusnesau bach. Ceir toreth o sylwadau brys sy’n nodi graddfa ac enghreifftiau penodol o’r effaith hon. Mae’r erthygl hon yn cynnig rhai safbwyntiau a myfyrdodau rhagarweiniol ar berfformiad a chynhyrchedd ar gyfer busnesau bach. Mae hi’n rhy fuan cynnig unrhyw asesiad caled o effaith yr argyfwng presennol ar berfformiad busnes, felly ein nod fan hyn yw rhoi sylwadau am rai themâu sy’n dod i’r amlwg ar sail gwybodaeth bresennol ac ymchwil ymatebol barhaus.

Mae’n debygol y bydd yr argyfwng yn cael effeithiau amlddimensiynol ar yr economi. Mae’r rhain yn cynnwys gwahaniaethau rhwng effeithiau tymor byr, effeithiau tymor canolig ac effeithiau hirdymor, amrywiadau ar draws sectorau gwahanol ac effeithiau gofodol gwahaniaethol yr argyfwng. Ar yr un pryd, mae gwytnwch busnesau bach a’u gallu i oroesi’r argyfwng wedi gorfodi busnesau i ailgynllunio eu modelau busnes. Mae llawer o’r problemau y mae busnesau bach yn eu hwynebu a’u gallu i ymateb yn dibynnu ar eu hymateb ar ddechrau’r argyfwng – ac felly goblygiadau hirdymor yn sgil penderfyniadau brys perchnogion-reolwyr.

Yn y tymor byr, mae’n anochel y bydd effaith sylweddol pellach ar gynhyrchiant – casgliad hynod annymunol gan ystyried y bwlch cynhyrchiant sy’n ehangu byth a beunydd yn y DU. Mae hyn oherwydd bod busnesau, yn gyffredinol, yn ceisio cadw gweithwyr medrus yn ystod dirwasgiad, yn enwedig os yw’r sgiliau hynny’n brin neu’n ganolog i’r cwmni. Mae absenoldeb gweithwyr oherwydd salwch neu oherwydd eu bod dan gwarantin yn cael effaith enfawr ar nifer o BBaChau, yn enwedig busnesau bach a microfusnesau, oherwydd nad yw sgiliau sy’n hanfodol i’r busnes yn lleihau’r peryglon ar draws cronfa fawr o weithwyr.

Mae casglu sgiliau yn achosi i’r rhifiadur cynhyrchiant (trosiant neu werth ychwanegol) ddisgyn yn gyflymach na’r enwadur (mewnbwn llafur). Os oes gan gwmnïau hyblygrwydd i leihau oriau, yna gallai’r effaith niweidiol ar gynhyrchiant fesul awr fod yn llai difrifol na chynhyrchiant fesul gweithiwr. Mae cyhoeddiadau diweddar o ran polisïau brys ar gymorthdaliadau cyflog o dan y cynllun cadw swyddi yn benodol ar gyfer cynnal cysylltiad â gweithwyr, ac felly’n anuniongyrchol i leihau cynhyrchiant.

Mae’n debygol y bydd y mentrau hyn yn fwy hanfodol i fusnesau oroesi i BBaChau llai cyfalafol, a llai proffidiol, ac mae gweithredu polisi yn gyflym yma yn hanfodol. Mae data arolwg a gasglwyd yng nghanol mis Mawrth 2020 gan Brifysgol Sheffield gyda Small Business Britain yn cadarnhau hyn – roedd bron chwarter o BBaChau a oedd yn rhan o’r arolwg yn disgwyl i refeniw ddisgyn mwy na hanner [1]. Mae un argymhelliad sy’n dod i’r amlwg yn gysylltiedig â’r angen dybryd i sicrhau bod cymorth ar gael: cyflwyno’r polisi a phoeni am golledion difuddiant wedyn, y gellir eu hadfer yn rhannol drwy systemau busnes a hunanasesu treth.

Yn ôl gwaith ymchwil cynnar, ers i’r Llywodraeth gyhoeddi’r mesurau sydd ar gael, mae cryn amrywiadau lleol o ran gweinyddu a chael mynediad at gymorth. Mae’r cymhwysedd, neu’r cymhwysedd canfyddedig, yn ychwanegu at yr anawsterau hyn, sy’n golygu na fydd pob microfusnes yn elwa yn ôl y bwriad ac fel y mae ganddo hawl. Mae hyn yn adlewyrchu her barhaol fawr arall ar gyfer polisi busnesau bach, sy’n eu hannog i gofrestru ar gyfer rhaglenni’r llywodraeth, gan nad yw 82% o’r cwmnïau a arolygwyd wedi ceisio cymorth busnes o’r blaen.

Yn syml, ni fydd rhai cwmnïau’n goroesi. Yn y tymor canolig a’r hirdymor, os yw’r argyfwng yn parhau y tu hwnt i chwe mis i ddiwedd yr haf a dechrau’r hydref, bydd y BBaChau lleiaf gwydn yn cau. Hynny yw, y rhai lleiaf cyfalafol neu’r rhai sy’n gweld y gostyngiadau mwyaf o ran refeniw. Wrth adfer, gallai’r broses ad-drefnu hon yna roi hwb i gynhyrchiant, er y bydd yn rhaid talu pris uchel am hyn o ran methiannau’n cwmni.

Yn y DU, gwelwyd y trallod mwyaf ymhlith y busnesau hynny sy’n cynnig gwasanaeth corfforol wyneb yn wyneb nad yw’n hanfodol ym meysydd hamdden, lletygarwch, gwasanaethau trafnidiaeth ac adwerthu nwyddau nad ydynt yn fwyd. Cyn cau popeth a gosod cyfyngiadau symud, roedd y Canghellor eisoes wedi clustnodi cyllid ar gyfer y sectorau hyn yn y Gyllideb ar 15 Mawrth 2020. Yn ogystal â’r sectorau hyn, cafwyd effaith fawr ar leoedd megis canol dinasoedd hanesyddol a threfi gwyliau arfordirol, oherwydd bod y sioc o ofynion cadw pellter cymdeithasol yn gwneud i brynwyr oedi cyn penderfynu gwario ar eitemau nad ydynt yn hanfodol. Mae pwysigrwydd cymdeithasol cefnogi’r cwmnïau hyn yn bwysig er mwyn diogelu ymdrechion a bywydau busnesau bach drwy’r argyfwng hwn, a bydd yn helpu i sicrhau hyfywedd y mannau hyn sydd wedi’i chael hi’n anodd yn y dyfodol.

Fodd bynnag, er y rhoddwyd mwy o gymorth yn gynnar i’r sectorau hyn, mae llawer ohonynt yn yr hyn a elwir yn ‘gynffon hir’ [2], ac er eu bod yn gwneud cyfraniad pwysig i ardaloedd, nid ydynt yn debygol o fod yn beiriannau adfer a thwf yn y dyfodol. Yn naturiol, mae rhai cwmnïau’n addasu i wirioneddau newydd drwy newid eu modelau busnes – gyda chymorth y llywodraeth a hebddo. Tynnodd yr astudiaeth sylw hefyd at y ffaith bod nifer o berchnogion-reolwyr eraill wedi ceisio symud eu busnes ar-lein yn ogystal â’r busnesau hynny sydd eisoes yn gweithio ar-lein – gwelwyd effaith lai ar lawer o ohonynt. Mae symud ar-lein yn cynnig cyfle ar gyfer enillion cynhyrchiant wrth i ffrydiau refeniw symud ar-lein, ac mae gwerthiannau ar-lein ddwywaith mor gynhyrchiol â gwerthiannau all-lein [3].

Trwy gael golwg fras ar dudalennau busnes y cyfryngau newyddion, cewch weld rhai newidiadau sylweddol i arferion gweithio a modelau busnes. Fodd bynnag, ar y cam hwn, nid yw’n glir i ba raddau y mae’r newidiadau hyn i arferion gweithio a modelau busnes yn cynrychioli atebion dros dro i broblemau, neu a ydynt yn gyfnewidiadau newydd i fusnes go iawn. Gall y diwygiadau hyn, os byddant yn llwyddiannus, hyrwyddo gwytnwch yn y dyfodol a gwella cynhyrchiant, yn enwedig os ydynt yn arwain at ostyngiadau sylweddol a pharhaol mewn costau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau megis teithio ar gyfer busnes ac ati.

Ar ochr arall y sbectrwm, mae’n debygol y bydd busnesau sy’n seiliedig ar wybodaeth a gwasanaethau, er enghraifft datblygu meddalwedd, yn fwy gwydn, ac mae’n bosibl y cânt enillion cynhyrchiant o arbedion costau sy’n gysylltiedig â gweithio o bell a chau swyddfeydd. Yr hyn na wyddwn eto yw i ba raddau y mae BBaChau mewn perygl o fynd i’r wal yn y cadwyni cyflenwi y maen nhw’n rhan ohonynt, yn enwedig mewn sectorau megis gweithgynhyrchu, adeiladu neu ddarparu gwasanaethau busnes i fusnes. Mae hyn o bosibl yn peryglu’r busnesau a elwir yn rhai y gellir eu masnachu a’r rhai na ellir eu masnachu.

Mae dadansoddiad diweddar gan Brookings yn tynnu sylw at effaith ofodol wahaniaethol debygol yr argyfwng, yn sgil dosbarthiad gofodol anwastad BBaChau yn ôl sector [4]. Yn y DU, mae de-orllewin Lloegr, yn benodol, yn wynebu trallod yn y sectorau llety, bwyd a diod, sy’n cyfrif am bron 10% o gyflogaeth yn y sector preifat, er bod y sector hwn hefyd yn gymharol fwy yn Llundain. Mae adwerthu yn sector cynhyrchiant isel arall sydd hefyd yn cyfrif am gyfran gyflogaeth fawr yn y gogledd ac yng Nghymru, o’i gymharu â chanolbarth Lloegr a Llundain. Ar y llaw arall, mae busnesau sy’n seiliedig ar wybodaeth a gwasanaethau, a allai fod yn fwy gwydn i darfu, yn cyfrif am lai na 3% o gyflogaeth y sector preifat yng Ngogledd Ddwyrain, Gogledd Orllewin, Swydd Efrog a Humber, Dwyrain a Gorllewin Canolbarth Lloegr a Chymru, ond bron 8% yn Llundain [5].

Felly, i gloi, mae’r difrod tymor byr i gynhyrchiant yn debygol o fod yn sylweddol yn ôl pob golwg, ac mae hyn yn annifyr iawn yng nghyd-destun bwlch cynhyrchiant parhaus y DU, a bwlch sy’n ehangu. Fodd bynnag, lle bo gan ficrofusnesau y gallu i drawsffurfio ac addasu, ceir potensial i ehangu gwytnwch ac enillion cynhyrchiant yn yr hirdymor lle mae modd iddynt wneud newidiadau parhaol i’w ffordd o gynnal busnes.

Mae Andrew Henley yn Athro Entrepreneuriaeth ac Economeg ac yn Gyfarwyddwr Ymgysylltiad ac Effaith Ymchwil yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae Tim Vorley yn Athro Entrepreneuriaeth ac yn Ddeon Cyswllt ar gyfer Effaith, Arloesi ac Ymgysylltu yn Ysgol Rheolaeth Prifysgol Sheffield.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar Productivity Insights Network.

Ffynonellau

[1] Ovens, M. ‘Strength in numbers’, Forbes (Mawrth 2020).

[2] Strauss, D. ‘Is ‘long tail’ of small businesses to blame for poor UK productivity?’, Financial Times (Awst 2018).

[3] Bughin J., et al. ‘Solving the United Kingdom’s productivity puzzle in a digital age’, McKinsey & Company (Medi 2018).

[4] Muro, M., et al. ‘The places a COVID-19 recession will likely hit hardest’, Brookings (Mawrth 2020).

[5] Cyfrifiadau’r awduron eu hunain o Ddata Cyfrif Busnes SYG y DU a Chofrestr Busnes ac Arolwg Cyflogaeth y SYG, 2018.