Skip to main content

COVID-19

Sut olwg fydd ar economi Gwlad Pwyl ar ôl pandemig COVID-19?

11 Mai 2020

Yn ein herthygl ddiweddaraf, mae’r Dr Wojtek Paczos, macroegonomegydd a darlithydd yn Ysgol Busnes Caerdydd, a’r Dr Pawel Bukowski, ymchwilydd a darlithydd yn y Ganolfan Perfformiad Economaidd yn Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddol Llundain, yn amlinellu eu cynllun achub pedwar cam i achub economi Gwlad Pwyl yn dilyn pandemig COVID-19.

Bydd effaith y cyfyngiadau presennol yn debyg i’r argyfyngau economaidd mwyaf mewn hanes. Mae datblygiad pellach Gwlad Pwyl yn yr hirdymor yn dibynnu fwy nag erioed ar ymatebion polisi economaidd. Mae angen gweithredu’n gyflym, yn eofn ac yn hael, oherwydd bod pob diwrnod nesaf yn dod â cholledion nad oes modd eu dadwneud. Rydym ni’n cynnig cynllun achub pedwar cam.

Y ffordd orau o ddeall yr argyfwng economaidd sy’n deillio o’r epidemig yw trwy ei rannu’n bedwar cam: segura, ailgychwyn, adfer a normalrwydd newydd. Ym mhob cam, mae bygythiadau i’r economi yn wahanol ac mae gan bolisi economaidd dasg wahanol i’w chyflawni. Mae’n hanfodol i lwyddiant y cynllun ei fod yn cael ei weithredu’n gyson ac yn llawn o’r dechrau’n deg: bydd llwyddiant yn bosibl ym mhob cam dim ond os bydd y cam blaenorol yn llwyddiannus a bod yr asiantiaid economaidd yn gwybod beth i’w ddisgwyl yn y cam nesaf.

Cam 1: Segura (1-3 mis)

Ar hyn o bryd, rydym yng ngham cyntaf argyfwng pandemig. Yn ystod y cyfnod hwn, er mwyn achub bywyd ac iechyd pobl, mae’r llywodraeth yn cau rhai sectorau o’r economi ac yn cyflwyno cyfyngiadau ar symudiadau pobl. Mae’n achosi dirwasgiad. Mae natur unigryw’r dirwasgiad hwn yn gorwedd yn y ffaith ei fod yn anochel ac yn bwrpasol, oherwydd dyma’r unig ddull cynhwysfawr sydd ar gael o amddiffyn iechyd. Bydd hyd y cam segura yn dibynnu ar ddatblygiad y pandemig a’r sefyllfa yn y system gofal iechyd, ond ni ddylai fod yn hwy na thri mis.

Mae data rhagarweiniol a’n hamcangyfrifon yn dangos bod treuliant aelwydydd yn gostwng 30% ar gyfartaledd am bob wythnos o segura. Amcangyfrifwn fod bron i chwarter o’r dirywiad hwn yn cael ei ohirio, caiff y gweddill ei golli am byth. Po hiraf y cyfnod segura, yr uchaf fydd y canran sy’n cael ei golli. Mae treuliant yn cyfrif am 75 y cant o Gynnyrch Domestig Gros (GDP), felly nid yw colledion “mecanyddol” o segura misol yn llai nag 1.4 y cant o’r GDP blynyddol.

Po hiraf yw’r cyfnod segura, y mwyaf fydd y colledion – yn ogystal â’r cydgrynhoi arferol, bydd effeithiau ychwanegol yn gysylltiedig ag ansicrwydd a’r angen i arbed ar y naill law ac, ar y llaw arall yr effaith domino (colledion mewn diwydiannau dilynol), yn ogystal â methdalu a diweithdra. Yn achos tri mis o segura, gall colledion gyrraedd hyd at 10 y cant o GDP Gwlad Pwyl yn 2020.

Nid yw rhesymeg y strategaeth glasurol, sef ysgogi galw, yn berthnasol yma, oherwydd ni all pobl fynd yn gorfforol i’r gwaith, i fwytai, i’r sinema nac ar deithiau, felly mae llawer o sectorau economaidd pwysig (gwasanaethau, adloniant, twristiaeth, rhan o’r diwydiant) wedi rhewi mewn gwirionedd.

Mae angen pwysleisio un peth: bydd cyflogeion a pherchenogion busnes sydd wedi ffynnu a chydweithredu dros y blynyddoedd diwethaf ar ymyl diben diweithdra a methdalu am resymau sy’n gyfan gwbl y tu hwnt i’w rheolaeth. Hyd yn oed ar ôl diwedd yr epidemig, ni fydd yr economi yn mynd yn ôl i normal, gan nad yw’n hawdd ailadeiladu ar ôl colli cysylltiadau busnes, profiad gwaith neu gwsmeriaid.

Mae dau gyfrifoldeb gan y wladwriaeth yn y cam hwn. Yn gyntaf oll – darparu cyllid diddiwedd bron i amddiffyn iechyd. Yn ail – cysylltu’r economi â therapi mewnwythiennol cyllidol ac ariannol a segura gweithgarwch a chysylltiadau economaidd. Dylai hyn ganiatáu i’r economi roi ei hun ar ben ffordd eto ar ôl i’r pandemig ddiflannu. Mae dyletswydd ar y wladwriaeth i sicrhau incwm i ddinasyddion a mentrau sydd mewn adfyd, ar yr amod bod cyflogaeth yn cael ei gynnal – fel y gall cwmnïau barhau i dalu’u cyflogeion a’u his-gontractwyr am ddeunyddiau, rhent neu drydan. Mae’r ateb presennol, gyda’r llywodraeth yn ymgymryd â 40 y cant yn unig o gyflog gweithiwr ac yn gohirio rhai ymrwymiadau cymdeithasol yn unig yn gamgymeriad dybryd. Ni fydd mentrau heb incwm o gwbl o ganlyniad i segura yn gallu talu’r gweddill a bydd yn rhaid iddynt ddiswyddo pobl neu wynebu mynd i’r wal.

Amcangyfrifwn fod y costau ychwanegol mewn gofal iechyd tua 0.5 y cant o’r GDP blynyddol, ac na ddylai’r achubiaeth economaidd – yn dibynnu ar y datrysiadau penodol a fabwysiadir a hyd y segura – fod yn llai na 5 y cant o’r GDP blynyddol er mwyn iddo weithio. Mae cyfanswm y cyllid sydd yn yr arfaeth i achub yr economi yn yr “amddiffyniad gwrthargyfwng” a fabwysiadwyd gan y llywodraeth oddeutu 1.4 y cant o GDP 2020; yn sicr, nid yw hyn yn ddigon.

Rydym ni’n delio â sefyllfa sy’n newydd, felly yn y cam hwn, ni fydd polisi economaidd heb ei gamgymeriadau. Fodd bynnag, mae’n well bod yn anghywir a gwario gormod, na pheidio â gwario digon ac arwain at don o fethdaliadau a diweithdra. Felly, mae cysylltu’r economi ag achubiaeth gyllidol ac ariannol yn fuddsoddiad a fydd yn galluogi’r llywodraeth i ddeffro’r economi yn haws ar ôl i’r don fwyaf o salwch fynd heibio. Bydd dyfodiad ton o fethdaliadau a chynnydd mewn diweithdra yn arwydd bod y cyfnod segura wedi methu ac y bydd colledion economaidd yn rhai hirdymor a mwy nag y mae ein cyfrifiadau yn eu rhagdybio.

Amcangyfrifwn fod uchafswm posibiliadau benthyciadau’r wladwriaeth yn 8-10 y cant o’r GDP yn 2020. Byddai gwneud y mwyaf o hynny yn cynnal achubiaeth yr economi segur am ryw dri mis. Yn anffodus, os bydd y pandemig yn para’n hwy, ni ellir segura’r economi. Yna, bydd yn rhaid i’r wladwriaeth ddatgysylltu’r achubiaeth economaidd, a chaiff gweddill y cyllid sydd ar gael ei ailgyfeirio’n awtomatig at ddinasyddion er mwyn achub eu hiechyd a’u bywyd. Rydym oll yn gobeithio na fydd hyn yn digwydd, ond cyfrifoldeb ar y llywodraeth yw sicrhau bod ganddi gynllun ar gyfer hyn.

Cam 2: Ailgychwyn (3-6 mis)

Os bydd y segura wedi bod yn llwyddiannus, byddwn yn symud ymlaen i ail gam yr argyfwng – ailgychwyn. Rydym yn disgwyl iddo bara ail hanner y flwyddyn hon. Bydd posibiliadau cyllidol y wladwriaeth eisoes yn gyfyngedig, felly bydd angen newid mewn strategaeth. Yn hytrach na chadw’r economi yn segur, dylid dod â’r economi’n ôl yn fyw yn raddol.

Yn y cam hwn, bydd profi torfol y boblogaeth gyfan yn allweddol er mwyn gwahanu unigolion sy’n sâl, a’u haelwydydd, fel bod y bobl iach yn gallu dychwelyd i’r gwaith yn ddiogel a dechrau bywyd gweddol normal. Os oedd y segura’n llwyddiannus, yna dylai cwmnïau ailafael yn eu gwaith mor gyflym â phosibl a dylai gweithwyr iach ddychwelyd i’w swyddi blaenorol. Yn y cam ailgychwyn, dim ond rhan iach a gwrthiannol y boblogaeth fydd yn mynd yn ôl i normal, bydd y gweddill yn segura ymhellach. Mae hyn y golygu y bydd busnes yn ailafael yn ei dro.

Mae’r her i bolisi economaidd bellach yn gwbl newydd ac nid yw’r un economi erioed wedi delio â hyn o’r blaen – sut mae sicrhau cyfiawnder yn y cam hwn? Bydd y cwmnïau hynny sy’n ddigon ffodus bod ganddynt weithwyr iach yn ôl wrth eu gwaith yn gynt ac yn cymryd elw cwmnïau anffodus. Bydd y rhai sydd wedi cael profion ar gyfer feirws yn dechrau ennill yn gynt na’r rhai sy’n aros eu tro am brawf.

Yn ogystal, bydd angen i chi gadw’r rhan o’r economi na fydd yn gallu dihuno’n hawdd o’i segurdod yn fyw mewn ffordd artiffisial. Er enghraifft, bydd angen cymorth bywyd ar dwristiaeth am amser hir. Ateb posibl fyddai ailddosbarthu mewn undod gan y rhai a ddaeth drwy’r cam cyntaf yn ddianaf i’r rhai a fydd yn parhau i ddioddef.

Cynigiwn fod yr anghydraddoldebau sydyn ac uchel posibl hyn yn cael eu gwastatáu trwy ailddosbarthu dros dro. Ni fydd yr elw a’r enillion anghyfartal newydd hyn yn y cam ailgychwyn yn deillio o gynhyrchiant nac o ddyfeisgarwch, ond o le anffodus yn y ciw am brofion. Fodd bynnag, nid oes gennym offeryn ailddosbarthu parod, pwrpasol. Rydym yn annog y llywodraeth ac economegwyr i ymateb i’r her hon trwy drafodaeth gyhoeddus a pholisi economaidd.

Cam 3: Adfer (1-2 flynedd)

Mae ailgychwyn yr economi gyfan yn llwyddiannus yn hebrwng y pontio i’r trydydd cam, a’r cam hiraf yn ôl pob tebyg – adlamu a dal i fyny. Yn y cam hwn, ni fydd ar gyflenwi angen cymorth y wladwriaeth mwyach a bydd y farchnad yn gofalu am hynny. Yna, rhaid i bolisi economaidd y wlad droi at gefnogi meysydd lle y mae llai o alw. Bydd y cyfnod mewn cwrantîn yn gostwng ein cynilion a bydd llawer o bobl yn mynd i ddyled. Yn ystod y cyfnod adfer, bydd ein treuliant yn lleihau, byddwn yn ailgronni cynilion a byddwn yn talu dyledion. Yn ogystal, bydd y profiad segura yn ein gwneud ni’n fwy gofalus – bydd ansicrwydd yn achosi i lawer ohonom ni roi’r gorau i rai treuliau, “rhag ofn”. Pe na bai segura yn dod i ben yn hollol llwyddiannus, bydd diweithdra, colli enillion a diffyg credyd yn rhwystrau mawr rhag hybu galw. Ni fydd defnyddwyr yn adennill y rhan fwyaf o golledion treuliant yn ystod cwrantîn – ni fyddwn yn bwyta tri chinio’r dydd.

Yn y cam hwn, mae gwerslyfrau’n mynnu bod dulliau a gymerwyd o theori economaidd ac a brofwyd yn ystod dirwasgiadau blaenorol (a yrrwyd gan alw) yn cael eu defnyddio: trosglwyddiadau arian i ddinasyddion, gan gynyddu’u hincwm gwario, ynghyd â chyfraddau llog isel a bwydo arian i’r economi, gan wella argaeledd credyd a lleihau ansicrwydd.

Mae trethiant yn bwnc dadleuol iawn y dyddiau hyn. Ar y naill law, mae codi trethi incwm a threuliant mewn cyfnod o ddirwasgiad yn gallu bod yn wrthgynhyrchiol, gan ei fod yn lleihau galw a thuedd i fuddsoddi. Ar y llaw arall, rhaid i’r wladwriaeth ddechrau ad-dalu’r ddyled sydd wedi cronni yn ystod cyfnodau tywyllaf yr argyfwng.

Efallai mai’r ateb yw cyflwyno treth gynyddol ar eiddo, wedi’i chodi ar y Pwyliaid cyfoethocaf (e.e. yr 1 y cant uchaf). Mae dwy fantais i’r ateb hwn – yn gyntaf, mae asedau miliwnyddion yn bennaf ar ffurf asedau ariannol hawdd eu trafod. Yn ail, caiff treth o’r fath ei chodi ar ffynonellau incwm blaenorol (wedi’u cronni ar ffurf cyfoeth), ac nid yw’n effeithio ar incwm presennol ac incwm yn y dyfodol. Felly, nid yw’n cael effaith niweidiol ar waith, treuliant na buddsoddiad. Mae cynsail ar gyfer menter gyllidol o’r fath. Ym 1923, cyflwynodd cenedl ifanc Gwlad Pwyl dreth gynyddol ar gyfoeth i helpu economi ddrylliedig Gwlad Pwyl ar ôl blynyddoedd o ryfela.

Bydd cymorth llwyddiannus ar gyfer galw yn arwain at fwy o weithgarwch economaidd (llai o ddiweithdra, mwy o gynhyrchiant a threuliant), ond sgîl-effaith hynny fydd prisiau uwch, h.y. cynnydd mewn chwyddiant. Os na fydd chwyddiant yn ymddangos yn y cam hwn, bydd yn golygu bod galw yn aneffeithiol o hyd a bod yr adfer wedi methu – gallai’r polisi economaidd fod wedi gwneud mwy. Her y cam hwn fydd cynnal polisi ariannol o’r fath i sicrhau’r cynnydd mwyaf mewn gweithgarwch economaidd gyda chynnydd cyfyngedig ond anochel mewn chwyddiant. Bydd yn anodd iawn, ond nid yn amhosibl.

Yn y cam adfer, mae dau fygythiad mawr yn taflu cysgod dros bolisi economaidd. Y cyntaf yw y bydd ariannu’r ddyled gyhoeddus yn gwthio buddsoddiad o’r farchnad. Os bydd banciau’n ariannu anghenion benthyca’r llywodraeth trwy atal credyd i’r economi, yna yn hytrach nag adfer, byddwn yn gweld dirwasgiad sy’n dwysáu. I osgoi’r bygythiad hwn, bydd hi’n hanfodol bwydo mwy o arian i’r economi trwy ddulliau priodol, ynghyd â lefel uchel o dryloywder, cyfleu nodau a dulliau yn glir, a sicrhau bod polisi cyllidol ac ariannol yn cydweithredu. Yr ail fygythiad yw dyfodiad chwyddiant uchel heb y cynnydd cyfatebol mewn gweithgarwch economaidd. Yma eto, mae gan Fanc Canolog Gwlad Pwyl ran ganolog i’w chwarae – trwy addo’n gredadwy i lwybr cyfraddau llog yn y dyfodol (blaen-gyfarwyddyd), gall gyfyngu ar y disgwyliadau sy’n codi o ran chwyddiant.

Cam 4: Normalrwydd newydd

Os bydd camau segura, ailgychwyn ac adfer yn llwyddiannus, yna ymhen blwyddyn neu ddwy, byddwn yn dod allan o’r argyfwng, bydd diweithdra yn gostwng, bydd twf economaidd yn ailymddangos ac aiff bywyd yn ôl i normal. Byddwn yn cyrraedd cam olaf ac, yn ôl pob tebyg, cam anoddaf yr argyfwng – dod i gasgliadau a diwygio’r system economaidd. Mae’r sefyllfa bresennol yn amlygu llawer o’r agweddau amherffaith ar y system bresennol – yn enwedig o ran amddiffyn iechyd yn wael, trethi annheg, marchnad lafur rhy hyblyg, ac erydu rheol y gyfraith a sefydliadau annibynnol. Yn hytrach na thwf syml, dylai diwygiadau newydd anelu at wella gallu’r economi i wrthsefyll risg.

Y wers gyntaf y dylem ei dysgu o’r diwedd yw y dylid trin gwariant ar ofal iechyd fel buddsoddiad nid yn unig mewn bywyd ac iechyd, ond yn yr economi hefyd. Ni fyddai segura’r economi a’r costau enfawr sy’n gysylltiedig â hynny yn angenrheidiol pe bai gan Wlad Pwyl (ac nid yn unig Gwlad Pwyl) nifer fwy o lawer o leoedd mewn ysbytai clefydau heintus a’r posibilrwydd o brofi torfol a chyflym mewn ardaloedd â’r haint. Mae’r argyfwng wedi amlygu i ni fod nyrsys a meddygon yn alwedigaethau llawer mwy allweddol i’r economi na masnachwr arian cyfred, er enghraifft, ond telir llai o lawer iddynt. Rhaid dweud yn syml: mae diffyg buddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd yn achosi colled economaidd disynnwyr, sy’n gostwng lles cymdeithas yn ei chyfanrwydd.

Fel y mae enghraifft yr Unol Daleithiau yn ei dangos, nid preifateiddio yw’r ateb, oherwydd pwrpas mentrau preifat yw elw, nid dileu risgiau systemig – ni fydd cymhelliant gan ysbytai preifat i gadw cyflenwad o leoedd mewn ysbyty o’r naill du ar gyfer diwrnod glawog.

Yn ail, yn y normalrwydd newydd, mae angen cynnydd radical arnom yn natblygiad treth. Bydd y ddyled sydd ar ddod yn ystod y cyfnod adfer yn cael ei hariannu yn rhannol trwy chwyddiant, sydd yn dreth atchwel mewn gwirionedd. Mae hyn oherwydd ei fod yn taro’r bobl hynny yn bennaf y mae eu cyflog yn eithaf tynn (e.e. gweithwyr sy’n gorfod cyllidebu) ac y mae eu hasedau yn bennaf ar ffurf cyfrif cynilion. Oherwydd bod pobl o’r fath o’r rhengoedd cymdeithasol canol neu is fel arfer, bydd chwyddiant yn effeithio ar nifer gymharol fwy o bobl dlawd na phobl gyfoethog. Mae gan bobl gyfoethog lawer mwy o bosibilrwydd o aildrafod eu cyflog, ac mae eu hasedau yn bennaf ar ffurf eiddo ac asedau ariannol cymhleth (sy’n cael eu hamddiffyn rhag chwyddiant yn well nag arian yn y banc).

Mae hyn yn golygu y bydd yr argyfwng presennol yn cynyddu anghydraddoldebau economaidd sydd eisoes yn fawr iawn yng Ngwlad Pwyl. I adfer cyfiawnder cymdeithasol, rhaid i ni ysgafnhau’r baich ar Bwyliaid isel a chanolig eu hincwm yn y dyfodol trwy drethu incwm a chyfoeth y bobl gyfoethocaf.

Yn ogystal â’r dreth ddatblygiadol arfaethedig ar eiddo i filiwnyddion Gwlad Pwyl, mae angen ailsaernïo treth incwm yn drylwyr. Ar hyn o bryd (fel y mae ymchwil y Weinyddiaeth Gyllid yn ei ddangos), treth atchwel sydd gan Wlad Pwyl, h.y. mae pobl dlawd yn talu mwy yn gymharol na phobl gyfoethog.

Yn drydydd, dylem reoleiddio mathau anhraddodiadol o waith a gwella’r ffordd y mae’r Arolygiaeth Gwaith Genedlaethol yn gweithio yn sylweddol. Gwyddom o ymchwil fod mwy o amrywiadau cylchol yn nodweddu marchnad lafur hyblyg – mwy o waith yn ystod cyfnodau ffyniannus, ond mwy o ddiweithdra yn ystod y dirwasgiad na’r farchnad wedi’i rheoleiddio. Hefyd, mae astudiaethau’n dangos bod effeithiau diweithdra yn barhaol – nid yw’r rhan fwyaf o’r bobl sy’n colli’u gwaith fyth yn adennill y cyflog a gollwyd. Gwyddom yn ogystal o astudiaethau nad yw’r farchnad lafur ddeuol yn gwella dangosyddion GDP o gwbl. I’r gwrthwyneb. Mae astudiaethau empirig yn dangos, er enghraifft, bod cyfradd y twf mewn cynhyrchiant yn Sbaen wedi arafu o ganlyniad i gyflwyno mathau hyblyg o gyflogaeth.

Mae symud rhag gwthio gweithwyr i fathau hyblyg o gyflogaeth, sydd â risgiau hefyd, yn anghenraid hanesyddol – er mwyn i economi Gwlad Pwyl ddatblygu ar gyflymder mwy cyfartal ac i ddileu’r risg systemig awtomatig sydd wedi’i gwreiddio ynddi.

Ni ellir adeiladu normalrwydd newydd heb ddysgu’r bedwaredd wers – ailadeiladu rheol y gyfraith a sefydliadau cadarn. Yr epidemig a’r argyfwng hwn yw’r prawf mwyaf i Wlad Pwyl ers cwymp comiwnyddiaeth. Gallwn lwyddo yn y prawf: tynnu casgliadau doeth ohono a thrwsio’r hyn sy’n gweithio’n wael, neu nad yw’n gweithio o gwbl. Ni fydd hynny’n hawdd. Bydd angen sawl cam er mwyn cyrraedd normalrwydd newydd. Gall gymryd sawl blwyddyn ac ni fydd heb aberthau.

Ond mae ail senario hefyd. Gwyddom o theori economaidd fod angen sefydliadau cadarn er mwyn adeiladu ffyniant ac amddiffyn rhyddid dinasyddion. Gwyddom hefyd fod argyfwng o’r fath bob amser yn demtasiwn mawr i’r awdurdodau. Mae sefydliadau gwan a themtasiwn grym yn gyfuniad angheuol. Os bydd yn ffrwydro, daw twf i ben, ni fyddwn yn adeiladu ffyniant, a theimlwn effeithiau’r argyfwng am flynyddoedd neu ddegawdau i ddod.

Mae Dr Wojtek Paczos yn facroeconomegydd a darlithydd yn Ysgol Busnes Caerdydd ac yn Sefydliad Gwyddorau Academaidd Academi Gwyddorau Gwlad Pwyl.

Mae Dr Paweł Bukowski yn ymchwilydd a darlithydd yn y Ganolfan Perfformiad Economaidd, Ysgol Economeg a Gwyddorau Gwleidyddol Llundain ac yn Sefydliad Gwyddorau Academaidd Academi Gwyddorau Gwlad Pwyl.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar Wyborcza.pl.