Skip to main content

COVID-19

Achub ac ailosod economi’r DU ar ôl COVID-19 drwy gyfnewid dyledion ag ecwiti

6 Mai 2020

Yn ein darn diweddaraf, mae Dr Jonathan Preminger o Ysgol Busnes Caerdydd, Dr Guy Major o Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd a Jenny Rathbone Aelod Llafur Cymru y Senedd ar gyfer Caerdydd Canolog, yn mynd i’r afael â phroblem cyllid ariannu benthyciadau a dyledion a fydd yn wynebu sefydliadau pan fydd y DU yn dod allan o bandemig COVID-19.

Y broblem

Efallai y bydd benthyciadau wedi’u cefnogi gan y llywodraeth a grantiau cyflogau 80% yn gymorth i lawer o gwmnïau fynd drwy COVID-19. Ond mae dwy broblem sylfaenol gyda benthyciadau a mathau eraill o gyllid ariannu dyledion, a ddaw’n fwyfwy amlwg wrth i gwmnïau ddod o’r argyfwng: Yn gyntaf, yn fwyaf amlwg a difrifol, mae’n rhaid ad-dalu benthyciadau. Yn ail, mae’r taliadau llog yn faich sefydlog, nad yw’n ystyried llwyddiant neu anawsterau ariannol y cwmni yn y dyfodol.

Er mwyn atal nifer mawr o gwmnïau rhag mynd i’r wal, yr hyn a allai helpu’r economi nawr yw chwistrelliad o gyllid penodol sy’n rhannu risgiau, nad oes angen ei ad-dalu, buddsoddiad mewn ecwiti, h.y. cyfalaf cyfrannau, gyda difidend newidiol yn dibynnu ar lwyddiant. Ond efallai y bydd llawer o gwmnïau’n gyndyn o ildio rheolaeth o’u busnesau i ddeiliaid allanol cyfrannau pleidleisio traddodiadol. A bydd darpar fuddsoddwyr yn gochel rhag buddsoddi gyda risg heb yr amddiffyniad y mae rhyw fath o reolaeth yn ei roi.

Mae’r cyfyng-gyngor risg/rheolaeth yn un a wynebwyd ers tro gan gwmnïau cydweithredol a chwmnïau sy’n eiddo i’r gweithwyr, y gall tanfuddsoddi gyfyngu ar eu twf, neu wneud iddynt fethu hyd yn oed. Fodd bynnag, mae ateb hyfyw ar gael i’r cyfyng-gyngor hwn y gellid ei gymhwyso nawr i’r economi ehangach wrth iddi ddod allan o’r pandemig.

Yr ateb

Rydym yn dadlau y dylid rhoi’r dewis i bob cwmni gyfnewid dyledion sydd wedi’u cefnogi gan y llywodraeth am gyfrannau ecwiti, y gellir eu masnachu, wedi’u dal gan y llywodraeth yn y lle cyntaf. Gellid cyfuno hyn â ffurfiau cyflenwol eraill ar ryddhau o ddyled a rhannu risg, fel derbyn cyfradd uwch o dreth gorfforaethol dros dro yn gyfnewid am ddileu rhan o’r ddyled.

Sut byddai cyfnewid dyledion ag ecwiti o fudd i’r amrywiaeth o wahanol randdeiliaid? Rydym yn cynnig mecanwaith sy’n cloi buddiannau’r perchnogion, y gweithwyr a’r buddsoddwyr cyfredol (gan gynnwys y llywodraeth) gyda’i gilydd, gan adael rheolaeth y cwmni yn nwylo’r perchnogion a’r gweithwyr cyfredol, ond eto gan osgoi’r perygl bod cyflogau’n cael eu codi ar draul rhoi difidend i fuddsoddwyr. Yn y bôn, mae hon yn fformiwla y cytunwyd arni ymlaen llaw i rannu gwerth ychwanegol y cwmni (gwerthiant minws costau heb fod yn rhai llafur, felly, yr hyn sy’n cyfateb i gyflogau + elw) rhwng gweithwyr/cyfarwyddwyr a buddsoddwyr/perchnogion. Golyga hyn y byddai cyfran arwyddocaol o’r cyflogau’n newidiol, ac y byddai gweithwyr yn rhannu yn llwyddiant (neu fel arall) eu cwmni. Ond byddai eu swyddi, ac felly eu bywoliaeth, yn llawer mwy diogel na phetai eu cyflogau’n sefydlog.

Sut byddai hyn yn gweithio? Byddai gwerth ychwanegol y cwmni’n cael ei rannu’n nifer o ‘dafelli’. Mae pob gweithiwr yn cael nifer o dafelli y cytunwyd arno ymlaen llaw, eu tâl newidiol i bob pwrpas, ac mae pob cyfran yn cael un dafell fel ei difidend. Byddai ysgogiad i’r gweithwyr gynyddu’r elw, ac felly gynyddu eu tâl newidiol, ond o wneud hyn, byddent yn cynyddu’r enillion y gyfran, ac felly’n awtomatig yn gweithio er budd y buddsoddwyr hefyd (gweler Ffigwr 1 a’r Atodiad i gael manylion).

Ffigur 1: Cynllun rhannu gwerth ychwanegol (gwarged).

An Dyma enghraifft o fersiwn o’r cynllun rhannu gwerth ychwanegol cyfnewid dyledion ag ecwiti, a esbonnir yn llawn yn yr Atodiad.  Nifer cyfartalog y tafelli y gweithiwr, k, yw nifer punnoedd (£) cyfanswm y cyflog newidiol a fyddai wedi bod, gan redeg y cynllun yn ôl-weithredol gyda rhifau’r llynedd, wedi’i rannu â nifer y gweithwyr cyfatebol amser llawn, W.

Yn gyfnewid am dâl mwy anwadal neu is dros dro, gellid cynnig cyfrannau i weithwyr hefyd ac, o bosibl, mwy o lais yn sut mae’r cwmni’n cael ei redeg. Yn ôl llenyddiaeth ymchwil gynyddol, mae’r cyfuniad o rannu elw, cyfrannau gweithwyr a democrateiddio’r gweithle yn atgyfnerthu ei gilydd ac yn hynod effeithiol wrth ysgogi gweithwyr i arloesi ac i wella cynhyrchedd. Felly, drwy dderbyn tâl newidiol, a’i liniaru gyda rhywfaint o berchnogaeth gan weithwyr [1] a chyfranogi mewn rheoli (felly gan wella amodau gwaith a bodlonrwydd gwaith), gellir amddiffyn swyddi a gwella perfformiad a rhagolygon cwmnïau.

Yn y cyfnod ansicr sydd o’n blaenau, bydd yn annerbyniol cadw cyflogau’r rhan fwyaf o weithwyr yn sefydlog ar lefelau is ond gadael i berchnogion/cyfarwyddwyr roi tâl ychwanegol a manteision iddyn nhw eu hunain nad ydynt yn gysylltiedig â pherfformiad. Byddai’n rhaid i gyflog uwch swyddogion gweithredol fod wedi’i gysylltu â pherfformiad yn yr un ffordd â chyflogau gweithwyr. Byddai hyn hefyd yn amddiffyn buddiannau buddsoddwyr allanol.

Bydd ar nifer mawr o gwmnïau angen yr holl help a rhannu risg y gallant ei gael er mwyn bod ag unrhyw obaith realistig o oroesi drwy’r argyfwng hwn. Byddai manteision sylweddol rhannu elw, perchnogaeth gan weithwyr a democrateiddio’r gweithle, ynghyd â buddsoddiad allanol mewn ecwiti, yn gallu chwarae rhan fawr wrth gynyddu’r siawns honno o oroesi.

Efallai y bydd buddsoddwyr allanol yn ofni y bydd cyfarwyddwyr cwmnïau’n gwneud penderfyniadau gwael, er bod y rhan fwyaf o entrepreneuriaid sydd wedi sefydlu cwmnïau yn adnabod eu busnesau a’u sectorau’n llawer gwell na’r rhan fwyaf o fuddsoddwyr ‘cyffredinol’. Gellir lliniaru’r perygl o wneud penderfyniadau gwael drwy roi hawliau ‘lleisio barn’ i fuddsoddwyr (bwydo arbenigedd, cyngor ac awgrymiadau), ond heb hawliau pleidleisio arferol. Fodd bynnag, gallai hawliau pleidleisio gael eu rhoi, dros dro o leiaf, ar ôl cyfnod o golledion parhaus, er mwyn helpu i roi cwmni’n ôl ar y trywydd cywir.

Cam tuag at ailosod yr economi yn sylfaenol

Bydd trosi cwmnïau i rannu gwerth ychwanegol (gwarged) yn cymryd amser. Llwybr hyfyw fyddai ychwanegu trosi dyledion yn ecwiti – gan gynnwys rhannu gwerth ychwanegol er mwyn amddiffyn buddsoddwyr – fel strategaeth ymadael tymor canolig hyblyg o gynlluniau benthyciadau Corona wedi’u cefnogi gan y llywodraeth. Bydd hyn yn rhoi mwy o opsiynau i gwmnïau o ran goroesi a thyfu wrth i’r amser nesáu iddynt ad-dalu eu benthyciadau, gan gynnwys rhannu risgiau sydd ei angen yn fawr.

Byddai enghreifftiau gwaith perswadiol, manteision treth ac arbenigwyr trosi fforddiadwy (o bosibl gyda chymhorthdal y llywodraeth) yn helpu i wthio’r cynllun i’r dŵr. Ond gallai’r canlyniad net newid y sefyllfa’n llwyr: cynnydd enfawr o ran perchnogaeth gan weithwyr, democrateiddio’r gweithle, arloesedd a chynhyrchedd, a buddsoddiad ecwiti allanol dibleidlais y gellir ei fasnachu mewn busnesau bach a chanolig. Byddai hyn yn dod ynghyd â chymysgedd mwy delfrydol o gyfalaf, llafur, syniadau da ac entrepreneuriaeth, gyda gwahaniaethau tâl tecach a gweithluoedd sydd â gwell cymhelliant, er lles pawb.

Byddai hawliau penodol ar ffurf safonol gan gyfrannau rhannu gwarged gan gynnwys bod modd eu masnachu. Byddai hyn hefyd yn rhoi strategaeth ymadael naturiol i’r buddsoddwyr eu hunain – banciau a’r llywodraeth i ddechrau: gallent werthu eu cyfrannau i fuddsoddwyr eraill drwy farchnadoedd eilaidd, y gallai’r llywodraeth helpu i’w sefydlu ac i’w hwyluso. Byddai’n well petai gwerthiannau fel hyn yn digwydd fesul tipyn, er mwyn osgoi disgowntiau enfawr. Ni fyddai strwythur rheoli cyfredol y cwmnïau o dan sylw, gan gynnwys unrhyw fuddiannau o berchnogaeth gan weithwyr a democrateiddio’r gweithle, yn cael ei danseilio neu ei wanedu gan ‘gyfalafwyr fwltur’, gan fod cyfrannau rhannu gwarged fel arfer yn rhai dibleidlais: mae perchnogaeth yn cael ei gadw ar wahân i reolaeth, tra mae’r buddsoddwyr wedi’u hamddiffyn drwy’r fformiwla benodol i rannu gwerth ychwanegol. Efallai bydd cwmnïau neu ffederasiynau o gwmnïau yn dewis trefnu eu marchnadoedd cyfrannau eilaidd eu hunain, o bosibl drwy gyfrwng ymddiriedolaethau. Gallai hyn alluogi darpar brynwyr cyfrannau i gael eu fetio: wal dân ychwanegol yn erbyn ysglyfaethwyr corfforaethol petai hawliau pleidleisio argyfwng yn cael eu rhoi.

Yn gryno, byddai cyfnewid dyledion ag ecwiti wrth i gwmnïau ddod allan o’r argyfwng hwn yn gallu bod yn rhan bwysig o ailosod ein heconomi’n sylfaenol, rhywbeth sydd ei angen yn fawr – ymyl arian i’r cwmwl du sydd ar hyn o bryd.

Mae Dr Jonathan Preminger yn Ddarlithydd Cysylltiadau Gwaith a Llafur yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae Dr Guy Major yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae Jenny Rathbone yn wleidydd Llafur a Chydweithredol, a gafodd ei hethol yn Aelod o’r Senedd ar gyfer Caerdydd Canolog yn 2011.

Atodiad: y manylion

Dyma’r fformiwla ymarferol i rannu gwerth ychwanegol yr ydym yn ei chynnig. Fe’i datblygwyd o syniad a gyflwynwyd yn wreiddiol gan yr Athro Roger McCain o Brifysgol Drexel:

a) Talu cyflog ‘sylfaenol’ sefydlog y cytunwyd arno ymlaen llaw i bob gweithiwr. Gall y tâl wahaniaethu rhwng gweithwyr, ond rhaid cytuno ymlaen llaw ar y tâl cyfartalog y gweithiwr a rhaid i gyflog sylfaenol pob gweithiwr fod ar yr isafswm cyflog cenedlaethol neu’n uwch na hynny. Mae llawer o weithwyr wedi gorfod derbyn gostyngiad cyflog o 20% o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws neu fel arall fel mesur arbed costau COVID-19 a gallai hyn fod yn feincnod er mwyn pennu lefel newydd y tâl sylfaenol.

b) Cyfrifwch y ‘gwarged’ sydd ar ôl pan fydd cyfanswm y costau cyflog sylfaenol (gan gynnwys pob cyfraniad Yswiriant Cenedlaethol [NI]) wedi’u tynnu o’r gwerth ychwanegol.

c) Rhannwch y gwarged (os yw’n uwch na sero) yn ‘dafelli’ cyfartal, gydag un dafell y gyfran, a nifer o dafelli y cytunwyd arnynt ymlaen llaw (k) y gweithiwr cyfwerth ag amser llawn cyfartalog (FTE). Yn syml, at ddibenion rhannu’r gwarged, mae’r gweithiwr (FTE) cyfartalog yn cyfateb i nifer y cytunwyd arnynt o gyfrannau ‘rhithwir’. Dyma syniad canolog y cynllun, y brif ffordd mae buddsoddwyr ecwiti yn cael eu hamddiffyn a’r gweithwyr yn cael eu hysgogi.

ch) Gall nifer y tafelli amrywio o’r naill weithiwr i’r llall, ond bod tafelli cyfartalog y gweithiwr FTE yn cael eu cysylltu â’r k y cytunwyd arno. Yn amodol ar y cyfyngiad hwn, gellid dewis cwota personol pob gweithiwr o dafelli i gadw ei gyflog – sy’n newidiol nawr – yn agos at yr hyn oedd pan gafodd ei bennu ddiwethaf.

d) Wedyn yr elw cyn treth y gyfran yw (gwarged/cyfanswm y tafelli), a chydran newidiol gyfartalog y tâl y gweithiwr yw k x (gwarged/cyfanswm y tafelli). Mae hyn yn cynnwys yr holl yswiriant cenedlaethol ar y tâl hwnnw. Felly hefyd, tâl newidiol pob gweithiwr unigol (gan gynnwys yr holl yswiriant cenedlaethol) yw ei gwota penodol o dafelli x (gwarged/cyfanswm y tafelli).

dd) Mae’r cynllun yn awtomatig yn caniatáu’r ffordd orau o rannu’r gwarged pan fydd nifer y gweithwyr yn newid, neu pan gaiff rhagor o gyfalaf ei fuddsoddi, heb gyflwyno ysgogiadau ‘gwrthnysig’ fel sy’n gallu digwydd mewn cynlluniau llai bras, fel y rhai sy’n neilltuo ffracsiynau sefydlog o’r gwarged i weithiwyr a/neu gyfrannau (gweler yr erthygl a ddyfynnir ar y diwedd).

e) Gellir talu blaenswm misol i weithwyr ar eu cydran o dâl newidiol blynyddol rhagfynegol (eu ‘cyfran’ o’r gwarged a ragfynegir), yn dibynnu ar incwm rhagfynegol a gwirioneddol y cwmni a’r alldaliadau hyd yma. Byddai’n ddoeth caniatáu lwfans gwallau ar gyfer diffygion nas rhagwelwyd (er mwyn osgoi gofyn i’r gweithwyr ad-dalu rhan o’u blaenswm).

f) Ailfuddsoddir hyd at uchafswm ‘ffracsiwn ail-fuddsoddi’ y cytunwyd arno (dyweder 1/3) o unrhyw elw wedi treth i roi hwb i’r cyfalaf gweithio ac i dalu am gyfarpar newydd, ac ati. Telir y gweddill fel difidend.

ff) Byddai modd buddsoddi ymhellach, os oes angen, drwy dalu difidend neu dâl newidiol yn rhannol gan ddefnyddio cyfrannau newydd, wedi’u dyroddi ar bris teg, yn lle arian parod – gyda chaniatâd y rhai sy’n derbyn.

g) Gellid prisio’r cyfrannau gan brisiwr annibynnol, neu drwy fformiwla safonol y cytunwyd arni ymlaen llaw megis y gwerth gostyngol presennol = (difidend rhagamcanol/(cyfradd darged yr enillion), lle mae cyfradd darged yr enillion hefyd wedi’i chytuno ymlaen llaw, fel arfer yn yr ystod 5 – 15%, yn dibynnu ar natur risg, anwadalrwydd a thwf rhagamcanol y difidendau. I gadw pethau’n syml, gallai rhywun ddefnyddio’r gyfradd llog ar fenthyciad y cwmni sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth yn ganllaw i’r gyfradd enillion. O ddefnyddio 7%, sy’n agos i’r gyfradd enillion hanesyddol gyfartalog ar gyfalaf ecwiti, yna pris y gyfran fyddai (difidend rhagamcanol y gyfran/0.07 neu tua 14 x (difidend rhagamcanol y gyfran).

Gellid gosod y cynllun i ddechrau fel a ganlyn:

  1. Cyfrifwch yr elw cyn treth (P) a chyfanswm y bil cyflogau (gan gynnwys tâl y cyfarwyddwyr a’r yswiriant cenedlaethol i gyd) dros y flwyddyn ddiwethaf (gellid defnyddio canolrif y 3 blynedd diwethaf).
  2. Ychwanegwch gyfanswm y bil cyflogau at yr elw cyn treth, i gael y gwerth ychwanegol.
  3. Tynnwch gyfanswm y tâl ‘sylfaenol’ y cytunwyd arno (gan gynnwys yr holl yswiriant cenedlaethol), i gael gwarged tybiannol y llynedd, petai’r cynllun wedi bod yn rhedeg y llynedd.
  4. Pennwch gyfanswm y tafelli i gyfateb i nifer y £oedd o warged tybiannol (£1 y dafell, h.y. mae pob tafell yn ‘cael’ £1 o’r gwarged, i gadw’r rhifau’n hawdd).
  5. Tybiwch mai W yw nifer y gweithwyr FTE. Pennwch gyfanswm nifer tafelli’r gweithwyr (kW) i gyfateb i (gyfanswm y bil cyflogau minws cyfanswm y tâl sylfaenol) mewn £oedd (h.y. cyfanswm rhan newidiol y tâl, petai’r cynllun wedi bod yn rhedeg y llynedd).
  6. Pennwch gyfanswm nifer y tafelli o gyfrannau (n1 yn Ffigwr 1) i fod yn elw cyn treth P mewn £oedd.
  7. Felly, cyfanswm nifer y tafelli yw cyfanswm y gwarged tybiannol mewn £oedd, sydd hefyd yn cyfateb i kW + P, h.y. kW + n1.
  8. Ailbennwch gyfalaf cyfrannau presennol y cwmni yn P (h.y. n1) o gyfrannau, fel bod pob un yn cael un dafell (h.y. £1, gyda rhifau’r llynedd) o elw cyn treth (er nad yw’r deiliad yn cael unrhyw arian eto).
  9. Mae nifer tafelli gwarged y gweithiwr FTE, k, yn cael ei gyfrifo fel (cyfanswm nifer tafelli’r gweithwyr)/(nifer y gweithwyr FTE), h.y. kW/W. Mae’r tafelli y gweithiwr hwn (k) bellach wedi’i gloi yn y cynllun, fel y prif fodd o ddiogelu buddsoddwyr ecwiti allanol. Os oes angen, gellir ei negodi eto yn y dyfodol.
  10. Prisiwch y cyfrannau drwy ddull y cytunwyd arno (gweler uchod).
  11. Os oes angen cyfnewid dyledion ag ecwiti, cyfnewidiwch y ddyled am gyfrannau ar y pris hwnnw. Er enghraifft, gan anwybyddu trethu er mwyn dangos enghraifft, os yw pob cyfran i ddechrau yn ‘cael’ £1 o elw cyn treth (gyda rhifau’r llynedd, fel yr amlinellwyd uchod), yna gellid troi pob rhan o’r ddyled sy’n ennill £1 o elw yn un gyfran ychwanegol (gan roi cyfanswm o n2 o gyfrannau ychwanegol, fel y dangoswyd yn Ffigur 1 uchod, lle n2 yw cyfanswm nifer y £oedd o log benthyciad). Gan barhau gyda’r enghraifft cyfradd llog o 7%, mae hynny’n cyfateb i bris trosi dyled yn gyfrannau o £1/7% = £1/0.07 = £14 yn fras. Felly, ar gyfradd llog o 7%, mae pob £14 o fenthyciad, yn fras, yn cael ei drosi’n un gyfran, yn £14 x 7% = £1 o log (nawr yn ddifidend posibl), yn ddigon agos. (I gyfrif am 20% o dreth gorfforaethol[2] ar yr elw, a’r ffaith nad yw’r llog benthyciad yn agored i dreth gorfforaethol y cwmni hwn – caiff ei dynnu o’r elw ymlaen llaw – gallai fod yn decach/yn fwy niwtral o ran treth i drosi pob rhan o’r benthyciad sy’n ennill 80c o log yn un gyfran, gan fod £1 o elw cyn treth x 0.8 = £0.8 o elw wedi treth, sef yr hyn sydd gan bob cyfran yn y pen draw mewn gwirionedd. Felly byddai hynny’n un gyfran yn cael ei chyfnewid am bob £0.8/0.07 = £11.40 o fenthyciad; £11.40 x 7% = 80c).
  12. Nid oes angen ad-dalu’r ddyled mwyach. Gallai’r cyfrannau newydd fod yn atbrynadwy, yn ôl dewis y cwmni, am bris teg fel y trafodwyd uchod, ar ôl nifer penodol o flynyddoedd er mwyn cynnig mecanwaith ymadael i gwmnïau.
  13. Yn lle baich llog sefydlog, mae’r cyfrannau newydd yn talu difidend yn ôl y fformiwla rhannu gwerth ychwanegol y cytunwyd arni ac a amlinellwyd uchod: bydd yn uwch mewn blynyddoedd da, ni fydd dim mewn blynyddoedd gwael.
  14. Byddai angen rhai newidiadau i’r gyfraith, er enghraifft, er mwyn sicrhau na fyddai cyfrannau a ddyroddwyd o dan y cynllun hwn yn gwneud niwed i’r gofyniad buddiant llywodraethol sy’n berthnasol i ymddiriedolaeth perchnogaeth gan weithwyr. Fel arall yn ôl y gofyniad hwn, yn benodol, rhaid i ymddiriedolwr ymddiriedolaeth o’r fath ddal mwy na 50% o gyfalaf cyfrannau cyffredin cwmni ac mae ganddo hawl i dros 50% o’r elw sydd ar gael i’w ddosbarthu.[3]

Ceir rhagor o gefndir, manylion, cyfeiriadau, diagramau ac enghreifftiau wedi’u gweithio mewn erthygl a adolygwyd gan gymheiriaid, Major G. a Preminger J. (2019) “Overcoming the capital investment hurdle in worker-controlled firms”, Journal of Employee Ownership and Participation, Cyf. 2 (Rhif 2), tt. 133-150 (mynediad agored).


[1] Mae enghreifftiau adnabyddus, llwyddiannus o gwmnïau sy’n eiddo i’w gweithwyr (employee-owned (EO)) yn cynnwys John Lewis a Waitrose, Riverford Organic Farmers, Aardman (gwneuthurwyr Wallace a Gromit), Richer Sounds (hi-fi), Dulas (ynni gwyrdd, ym Machynlleth), Aber Instruments (bragu a biotechnoleg, yn Aberystwyth), Lush (10% EO) a Mooncup. Mae tua 370 (gydag o leiaf 25% EO) o gwmnïau sy’n eiddo i’w gweithwyr yn y DU, sy’n cyfrif am £30bn o’r economi (gweler employeeownership.co.uk), ynghyd â nifer sylweddol o gwmnïau cydweithredol gweithwyr (e.e. gweler wales.coop).

[2] Mae hyn yn ddigon agos i’r gyfradd gyfredol o 19% i lawer o gwmnïau: rydym yn cadw’r rhifau’n syml er mwyn dangos enghraifft.

[3] Gweler: “Neat – Graeme Nuttall OBE sees employee ownership trust as the perfect succession solution” (Medi 2014) Trusts & Estates Law & Tax Journal