Pêl-droed, ond nid yn ei ffurf cyfarwydd
30 Ebrill 2020Ers bron tair blynedd, rwy’n gweithio gyda Forest Green Rovers (FGR), y clwb pêl-droed gwyrddaf yn y byd, i ganfod a yw eu trawsffurfiad gwyrdd yn cael effaith ar gredoau, ymgysylltiad ac ymddygiad y rhai sy’n gysylltiedig â’r clwb.
Fel rhan o’r prosiect rwyf wedi cynnal grwpiau ffocws gyda chefnogwyr pêl-droed a thrigolion Forest Green a Nailsworth, yn ogystal â mwy na 60 o gyfweliadau lled-strwythuredig gyda staff a chymdeithion, cyfarwyddwyr ac uwch reolwyr a chefnogwyr y clwb, a phreswylwyr a busnesau o’r ardal o’i amgylch.
O ystyried newydd-deb FGR a datblygiad fy mherthynas â’r clwb, rwyf wedi cymhwyso’r ymchwil mewn nifer o gyd-destunau.
Ar hyn o bryd mae’r setiau data yn fy helpu i archwilio sut caiff arloesedd cymdeithasol ac ecolegol ei ddatblygu a’i ledaenu trwy bêl-droed. Tra bod gwaith arall wedi defnyddio fframweithiau macrofarchnata a moeseg busnes i ddeall rôl bosibl clybiau pêl-droed a lleoedd eraill o ran dylanwadu ar ein credoau a’n harferion defnyddio fel ein bod yn ffafrio cynnyrch a gwasanaethau moesegol a chynaliadwy.
Cynaliadwyedd, gwerth cymdeithasol ac arloesedd cyfrifol
Er enghraifft, yn FGR rydyn ni’n profi bwyd fegan, arwyneb chwarae fegan/organig a defnydd o ynni glân sy’n cael ei ddarparu gan Ecotricity.
Mewn llawer o’r cyfweliadau a gynhaliais gyda’r cefnogwyr, y staff ac aelodau o’r gymuned ehangach, mae’r cyfranogwyr yn sôn am sut mae eu rhyngweithio â’r clwb wedi ehangu eu gorwelion a’u dealltwriaeth o gynaliadwyedd, i’r graddau fel eu bod bellach yn gwneud dewis ymwybodol i fwyta llai o gig a chynnyrch llaeth er mwyn lleihau eu hôl-troed carbon.
Rwyf hefyd wedi defnyddio’r ymchwil y tu mewn a’r tu allan i’r dosbarth i ddangos i’m myfyrwyr sut gall newidiadau fel y rhai sydd wedi’u gweithredu yn FGR helpu pobl i gwestiynu eu systemau gwerth amgylcheddol, cymdeithasol a chynaliadwy eu hunain.
Mor ddiweddar â’r mis diwethaf, aethom â’n myfyrwyr MSc Marchnata Strategol ac MSc Strategaeth Fusnes ac Entrepreneuriaeth draw i New Lawn ar gyfer taith gynaliadwyedd o amgylch y safle ac i wylio FGR yn cystadlu â Port Vale yng Nghynghrair Dau Cynghrair Pêl-droed Lloegr.
Rydyn ni wedi bod yn gwneud hyn ers rhai blynyddoedd, ac mae wedi creu cryn argraff ar y myfyrwyr, sydd wedi elwa lawn cymaint o’r teithiau a chlywed am fentrau’r clwb ag o’r pêl-droed.
Er bod FGR heb lwyddo i sicrhau’r canlyniad roedden nhw eisiau’r tro diwethaf, fe gawson ni brofi peth o’r cyffro ein hunain.
Dyma oedd gan rai o’n myfyrwyr i ddweud am y peth:
“Enghraifft ardderchog o gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ar waith. Mae’r clwb yn creu rhywbeth sy’n cael yr effeithiau lleiaf niweidiol posibl ar ein hamgylchedd.”
Aakash
“Mae’r math o ddatblygiadau cymdeithasol blaengar maen nhw wedi’u gweithredu yn werth ceisio eu hefelychu yn ein sefydliadau a’n bywydau.”
Samyuktaa
“Rydw i wedi dysgu bod ‘cynaliadwyedd yn gyfrifoldeb’. Dylai busnesau roi yn ôl i’r ecosystem oherwydd eu bod yn ecsbloetio’i hadnoddau.”
Harsh
“Gwnaeth y daith i Forest Green Rovers i mi sylweddoli pwysigrwydd datblygu cynaliadwy.”
Vivian
“Diwrnod gwych allan a ddangosodd werth cymdeithasol y fenter a’r foeseg sy’n sylfaen ar ei chyfer.”
Edward
Wrth ddarllen yr ymatebion hyn fe ddechreuais i feddwl am sut rydyn ni’n gwneud popeth posibl, yma yng Nghaerdydd, i annog ein myfyrwyr i feddwl am fusnes mewn ffordd wahanol. Trwy brofiadau fel y rhain, rydyn ni’n ceisio dangos iddyn nhw mai cyfrifoldeb y gymuned fusnes yw cyfrannu i’r gymdeithas, yn ogystal â chynhyrchu llwyddiannau economaidd.
Ein henw ni ar hyn yw Gwerth Cyhoeddus – dyna rydyn ni’n sefyll drosto.
Mae FGR yn astudiaeth achos wych ar gyfer creu’r math yma o werth. Dwy ddim yn credu y byddai’n ormod dweud eu bod yn brawf bod modd defnyddio cariad, ymlyniad ac angerdd pobl ynghylch pêl-droed yn rym o blaid lles cymdeithasol ac ecolegol.
Mae Dr Anthony Samuel yn Uwch-Ddarlithydd mewn Marchnata a Strategaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd.
- Mawrth 2024
- Ebrill 2023
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Rhagfyr 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018