Skip to main content

Economi digidol

Ydych chi’n gweithio gartref? Bydd band eang a systemau di-wifr y Deyrnas Unedig yn cael eu profi

31 Mawrth 2020

Yn ein postiad diweddaraf, mae Dr Dylan Henderson yn asesu gwydnwch seilwaith band eang y Deyrnas Unedig wrth i bobl baratoi i weithio gartref mewn ymgais i arafu ymledu’r coronafeirws. 

Mae cyhoeddiad llywodraeth y Deyrnas Unedig y dylai pobl weithio gartref “lle bynnag mae hynny’n bosibl” yn symud mwy o ffocws at gadernid rhwydwaith band eang y wlad a’i allu i ymdopi â defnydd cynyddol.  Yn Sbaen, a gychwynnodd ar gyfnod 15-diwrnod a mwy o gloi i lawr i’r boblogaeth, galwyd ar y trigolion i leihau defnydd o’r rhyngrwyd.

Ac wrth i fwy o bobl hunan-ynysu hefyd a throi at wasanaethau ar-lein, mae rhai wedi dechrau cwestiynu a all seilwaith band eang y Deyrnas Unedig, sy’n “heneiddio” ymdopi â miliynau o bobl sy’n mewngofnodi o’u cartref.  Er bod gweithredwyr band eang y Deyrnas Unedig yn dadlau bod gan y rhwydwaith ddigon o gapasiti i ymdopi â chynnydd sydyn yn y galw, mae’n aneglur a ddylai defnyddwyr cartref ddisgwyl i’w gallu i gysylltu arafu. 

“Mae’r pandemig coronafeirws yn debygol o gyflwyno heriau parhaus ar gyfer seilwaith band eang y genedl a’r defnydd ohoni.”

Er na fydd pob gweithiwr yn gallu symud i’w cartrefi, er enghraifft, gweithwyr yr economi ‘gig’, mae’n debygol y bydd llawer mwy o bobl yn gwneud hynny yn y dyfodol agos.  Mae cysylltedd band eang yn hanfodol ar gyfer llawer o weithwyr, gan ei fod yn eu galluogi i gael mynediad at wybodaeth a chydweithwyr o bell.  Gall fod o gymorth hefyd i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a pherthnasau a chael mynediad at siopa a gwasanaethau eraill – y gall pob un ohonynt fod yn hanfodol mewn unrhyw gyfnod estynedig o weithio o’r cartref neu hunan-ynysu.  Yn hyn o beth, mae rôl band eang yn cynnal iechyd meddwl yn eglur.

Gall teuluoedd wynebu heriau ychwanegol cysylltiedig â defnyddwyr niferus system ddi-wifr, yn enwedig os bydd ysgolion yn cau.  Gall olygu bod angen i rieni gyfyngu ar amser sgrîn eu plant a’u hannog i wneud eu gwaith cartref, yn ogystal ag uwchraddio cyflymder eu cysylltiad.  Yn wir, un o’r prif heriau sy’n codi yn sgil mwy o weithio gartref yn y Deyrnas Unedig yw argaeledd band eang ffibr, cyflymdra uchel.

Mae ffibr yn darparu cyflymdra uchel, dibynadwy, o gymharu â chysylltiadau hŷn weiren gopr fel ADSL. Amcangyfrif diweddar Ofcom, rheoleiddiwr y Deyrnas Unedig, oedd mai rhyw 3 miliwn o gartrefi (dim ond 10% o’r holl gartrefi) sy’n gallu cael mynediad i gysylltiadau ffibr – ffigur sy’n sylweddol is nag mewn gwledydd eraill.

Mae band eang symudol yn cael ei ddefnyddio fwyfwy gan rai gweithwyr wrth iddyn nhw gael mynediad i becynnau yn y cwmwl fel Zoom, Google Hangouts, a Microsoft Teams (sy’n   wynebu eu prawf eu hun).  Mae hon yn her weithredu bellach yn y Deyrnas Unedig, gan fod mynediad at 4G yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw.  Awgrymodd adroddiad Ofcomfod gan 80% o gartrefi a busnesau yn y Deyrnas Unedig wasanaeth 4G o dan do, ac mae 5G bellach ar gael mewn mwy na 40 o drefi a dinasoedd yn y Deyrnas Unedig.  Wrth gwrs, os na fydd gwasanaethau’n ymdopi, bydd yn sefyllfa heriol iawn – fel y gwelwyd ar 17 Mawrth pan fethodd pum rhwydwaith.

Mae hynny’n golygu y gallai llawer o aelwydydd wynebu heriau posibl wrth ddefnyddio fideo-gynadledda, mynediad i’r cwmwl a thechnolegau digidol eraill sy’n angenrheidiol ar gyfer gwaith.  Yn ein gwaith ymchwil ninnau yn Ysgol Busnes Caerdydd fe ddarganfuon ni fod mynediad at fand eang a’r defnydd ohono yn amrywio’n sylweddol ar draws sectorau busnes, gyda’r lefelau defnydd uchaf yn cael eu nodi yn y sectorau gwybodaeth a chyfathrebu a gwasanaethau proffesiynol, a’r isaf ym meysydd adeiladu a llety a bwyd.

Er gwaethaf yr heriau hyn, a’r ffaith y gwelir o bosib mai defnydd cynyddol oedd yn gyfrifol am y methiannau symudol a digidol diweddar, mae darparwyr band eang yn dweud bod eu rhwydweithiau’n ddigon cadarn i atal y rhyngrwyd rhag arafu yn y Deyrnas Unedig.  Maen nhw’n dadlau bod y rhwydwaith wedi cael ei lunio i ymdopi ag uchafbwyntiau defnydd gyda’r hwyr wrth i bobl fewngofnodi i’r cyfryngau cymdeithasol a fideo.  Mae Openreach hefyd wedi honni bod defnydd busnes o fand eang a thechnolegau a alluogir yn galw am lefelau is o ehangder yn y band (trosglwyddo data) na chymwysiadau cymdeithasol nodweddiadol, a bod “awgrymiadau ‘na fydd y rhwydwaith yn ymdopi’yn anwybodus ac yn eitha anghyfrifol”.

Ond mae ofnau ynghylch arafu yn golyguy bydd angen i ddarparwyr band eang roi blaenoriaeth i wydnwch.

“Y gwir amdani yn y Deyrnas Unedig yw bod y 3 miliwn o aelwydydd a busnesau yr amcangyfrifir eu bod ar gysylltiadau copr hŷn yn debygol o wynebu’r bygythiad mwyaf o ran cyflymdra band eang arafach a mynediad.”

Mae’r cysylltiadau hyn yn gyffredinol yn llai cadarn ac yn debygol o ddioddef mwy o fethiannau.  Mae dimensiwn gofodol i hyn hefyd – mae ein gwaith ymchwil yn nodi cyflymdra uwch i fand eang a defnydd o dechnoleg ddigidol mewn ardaloedd trefol, yn hytrach na rhai gwledig, sy’n awgrym pellach o heriau annog llawer o bobl i weithio o bell o’u cartrefi mewn gwahanol ardaloedd.

Codwyd pryderon ychwanegol y gallai gweithio gartref olygu mwy o risgiau seibr-ddiogelwch.  Mae’n hysbys ers meitin bod cysylltiadau cartref yn fwy agored i hacio na rhwydweithiau corfforaethol.  Felly bydd angen i weithwyr o bell sicrhau bod eu patshys diogelwch wedi’u diweddaru, a lle bo modd, bod cysylltiadau â rhwydweithiau busnes yn digwydd trwy dechnolegau diogel megis rhwydweithiau preifat rhithwir – yn arbennig wrth weithio gyda data sensitif.

Er y gallai fod manteision sylweddol i gael mynediad at fand eang ar hyn o bryd, mae cwestiynau’n dal i fodoli ynghylch cadernid rhwydwaith band eang y Deyrnas Unedig, ei gwmpas daearyddol, a gallu gweithwyr i wneud defnydd llawn o’r technolegau digidol sy’n angenrheidiol i weithio ar-lein.  Ac er bod hon yn sefyllfa fythol newidiol, mae hyn i gyd yn amlygu pa mor bwysig yw hi bod llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn y tymor hir, yn cyflawni’r addewidion “optimistaidd” a wnaeth ynghylch band eang yn yr etholiad, sef sicrhau bod gan “bob cartref a busnes” fynediad at wasanaeth “ffibr llawn gyda gallu gigabit” erbyn diwedd 2025. 

Mae Dr Dylan Henderson yn Gymrawd Ymchwil Uwch yn Uned Ymchwil Economi Cymru yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar The Conversation UK.