Skip to main content

Iechyd a Lles

Anabledd sy’n dechrau: beth yw’r effeithiau ar les unigolion dros amser?

25 Mawrth 2020

Yn ein post diweddaraf, mae John Poole yn cyflwyno ei ymchwil ddoethurol ar effaith anabledd sy’n dechrau ar les unigolion yn y DU.

Pa mor fodlon ydych chi’n teimlo ar fywyd ar raddfa o 0-10, gan ystyried popeth?

Yn ôl data a ryddhawyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Rhagfyr 2019, os gwnaethoch feddwl am rif yn uwch na 7.90, rydych chi’n hapusach na’r preswyliwr cyffredin yn y DU. Fodd bynnag, i bobl anabl, y lefel o hunan foddhad mewn bywyd cyfartalog i bobl anabl yw 6.68 yn unig allan o 10. Ymhellach, maen nhw’n llai tebygol o deimlo bod bywyd yn werth chweil o’u cymharu â phobl nad oes ganddynt anabledd, ac maen nhw’n byw gyda lefelau uwch o orbryder.

Bylchau o ran lles

Er bod lles yn gyffredinol wedi datblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae pryder o hyd bod ‘bwlch o ran lles anabledd’ o hyd. Mae adroddiadau yn y newyddion yn aml yn tynnu sylw at fylchau rhwng cyflogau amrywiol sy’n bodoli yn y gymdeithas ond mae’n syndod mai prin y telir sylw at “fylchau o ran lles”. Mae rhai academyddion yn dadlau bod amcangyfrif y bylchau hyn yr un mor bwysig â mesur newidynnau mwy cyffredin a geir mewn llenyddiaeth economeg fel incwm, defnydd, cyflogaeth neu dwf economaidd. Enghraifft adnabyddus i gefnogi hyn yw Paradocs Easterlin (Easterlin, 1995) – y canfyddiad nad yw cynnydd yn incwm cenedlaethol gwlad yn trosi i les gwell.

Efallai bod data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gwrth-ddweud y “felin draed hedonig” (Brickman a Campbell, 1971), y syniad ein bod ni bob amser yn mynd i ddychwelyd i lefel benodol o foddhad cyffredinol mewn bywyd, ni waeth pa ddigwyddiadau bywyd cadarnhaol neu negyddol sy’n ein hamgylchynu ni. Mae cryn gefnogaeth wedi bod i’r cysyniad mewn llenyddiaeth seicolegol (e.e. Frederick a Loewenstein, 1999; Diener et al.,1999).

I’r gwrthwyneb, arferai economeg draddodiadol dybio bod digwyddiadau bywyd megis anabledd sy’n dechrau yn cael effeithiau parhaol ar hapusrwydd trwy ostwng cyfleoedd incwm a defnydd yn barhaol.

Mae’r term ‘anabledd sy’n dechrau’ yn cyfeirio at bobl oedran gwaith nad oedd eisoes ag anabledd h.y. nid oedd ganddynt anabledd wrth gael eu geni neu’n gynharach mewn bywyd, sydd wedi profi dechrau anabledd, yn fwyaf tebygol am y tro cyntaf, o bosibl o ddamwain neu o ganlyniad i glefyd dirywiol.

Mae ymchwilwyr economeg yn ystod y degawd diwethaf wedi cymryd diddordeb cynyddol mewn lles ac addasu (e.e. Clark et al. 2008). Mae helpu i gau’r bwlch rhwng y ddwy wyddor gymdeithasol yn ysgogiad mawr i’m traethawd PhD mewn Economeg.

Ar y cyd â’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a Disability Rights UK, rwy’n bwriadu cymhwyso modelau ystadegol i ddata arolwg cartrefi yn y DU i fesur effeithiau anabledd sy’n dechrau ar les goddrychol, ar y dechrau yn ogystal â thros y cyfnod ar ôl iddo ddechrau, gan arsylwi faint o addasu sy’n digwydd, os o gwbl.

Mae Disability Rights UK yn hyrwyddo cyfleoedd am waith a byw’n annibynnol i bobl anabl ac yn dylanwadu ar agweddau pobl a’u hymddygiadau tuag at anabledd. Bydd fy nhraethawd ymchwil yn cynnig tystiolaeth gyfredol gynrychioliadol genedlaethol i Disability Rights UK ar sut mae anabledd sy’n dechrau ymhlith pobl o oedran gweithio yn effeithio ar les gwahanol grwpiau o bobl a’u teuluoedd fel y gallant lywio polisi cyhoeddus o ran ble fyddai’r mannau mwyaf effeithiol i ddyrannu gwasanaethau cyllid a chymorth.

Understanding Society

Cryfder mawr i’r astudiaeth hon yw manteisio ar ffynhonnell gyfoethog o ddata panel o’r enw Understanding Society, a ofynnodd i’r un set o unigolion bob blwyddyn rhwng 2011 a 2018. Mae’n cynnwys data ar nodweddion personol, cyfansoddiad teuluol, arferion o ran defnyddio, y defnydd o amser hamdden, sefyllfa ariannol, iechyd ac yn fwy pwysig, ar les a statws anabledd. Oherwydd natur hydredol y data, gallaf arsylwi ar y newidynnau uchod cyn i’r anabledd ddechrau, wrth ddechrau ac ar ôl dechrau.

Bydd y traethawd ymchwil yn fy ngalluogi i ofyn cwestiynau amrywiol: a yw lles yn y pen draw yn dychwelyd i’r lefelau cychwynnol ar ôl i’r anabledd ddechrau, ac os felly, faint? A yw lefel yr addasu yn dibynnu ar oedran, hil, rhyw, statws priodasol, lefel addysg, incwm neu barhad a difrifoldeb yr anabledd? Faint o’r newid o ran lles sydd o ganlyniad i ganlyniadau posibl anabledd sy’n dechrau, megis newidiadau mewn incwm, defnydd neu gyfansoddiad teuluol?

Ymhellach, rwyf am ofyn cwestiwn o sut mae anabledd sy’n dechrau yn cael effaith ar briod a phlant pobl anabl. Mae llenyddiaeth economaidd wedi cysylltu anabledd sy’n dechrau ag incwm llai yn y cartref (e.e. Stephens, 2001: Singleton, 2012), ac o’r herwydd, tebygolrwydd uwch o anawsterau ariannol ac amddifadedd materol. Mae hefyd wedi’i gysylltu â pherthnasoedd teuluol dan straen a all arwain at wahanu ac ysgaru o bryd i’w gilydd (Singleton, 2012).

Ar ben hynny, bydd archwilio’r effaith ar les plentyn pan fydd ei riant yn profi anabledd yn torri tir newydd gan nad yw’r berthynas hon wedi’i mesur o’r blaen, hyd y gwn i, mewn llenyddiaeth economeg. Mae Understanding Society yn cynnwys data sy’n ymwneud â bywyd cartref y plentyn a bywyd ysgol, megis ei gynnydd academaidd, p’un a yw’n cael ei fwlio, yn aflonyddgar yn y dosbarth, yn cyd-dynnu â’i frodyr a’i chwiorydd, yn cymryd rhan mewn hobïau, yn derbyn cymorth gartref gyda materion emosiynol neu broblemau yn yr ysgol ac a ydyn nhw’n gofalu am riant. Felly, mae yna lawer o newidynnau i geisio amcangyfrif beth sy’n gwneud plentyn yn hapus a sut mae anabledd sy’n dechrau mewn rhiant yn effeithio ar hyn. Rwy’n gobeithio y bydd fy nhraethawd ymchwil yn taflu goleuni ar brofiad aelodau teulu’r anabl, y gellir anwybyddu eu lles fel arall.

Rwyf wedi cwblhau MSc mewn Economeg ym Mhrifysgol Abertawe, MRes yma yng Nghaerdydd, ac rwyf newydd ddechrau ymgymryd â cham ymchwil y PhD – rwy’n anelu at ei gwblhau ym mis Mawrth 2022. Edrychaf ymlaen at rannu a thrafod fy nghanfyddiadau gyda Disability Rights UK.

Hoffem wahodd unrhyw un sydd â diddordeb yn fy ngwaith ymchwil i gysylltu â mi.

Caiff y prosiect hwn ei oruchwylio gan yr Athro Melanie Jones, yr Athro Victoria Wass a Dr Ezgi Kaya.  Roedd gwaith yr Athro Jones ar anabledd a boddhad bywyd yn rhagflaenu’r prosiect hwn.

Mae John Poole yn fyfyriwr PhD yn Ysgol Busnes Caerdydd. Ariennir ei PhD gan ESRC ac mae ar y cyd â Disability Rights UK. Mae’n archwilio effaith anabledd sy’n dechrau ar les unigolion yn y DU.

Ffynonellau

  • Clark, A., Diener, E., Georgellis, Y. a Lucas, R. (2008). Lags and leads in life satisfaction: a test of the baseline hypothesis. The Economic Journal, 118(2008), t. F222-F243.
  • Diener, E., Suh, E.M., Lucas, R.E. a Smith, H.L. (1999). Subjective Well-Being: Three Decades of Progress. Psychological Bulletin, 125(2), 1999, t. 276-302.
  • Disability Rights UK.
  • Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.
  • Frederick, S. a Loewenstein, G. (1999). Hedonic Adaptation. In Kahneman, D., Diener, E. a Schwartz, N. (Eds.), Well-Being: Foundations of Hedonic Psychology, t. 302-329.
  • Jones, M.K., Mavromaras, K., Sloane, P.J. a Wei, Z. (2018). The dynamic effect of disability on work and subjective well-being. Oxford Economic Papers, 70(3), Gorffennaf 2018, t. 635-657.
  • Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2019). Disability, well-being and loneliness, UK: 2019. 2 Rhagfyr 2019.
  • Singleton, P. (2012). Insult to Injury: Disability, Earnings, and Divorce. Journal of Human Resources, 47(4).
  • Stephens, M. (2001). The Long-Run Consumption Effects of Earnings Shocks. The Review of Economics and Statistics, 83(1), Chwefror 2001, t. 28-36.
  • Understanding Society.