‘AI for FinTech’ – Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Technoleg Ariannol
5 Mawrth 2020Ddydd Mawrth 25 Chwefror 2020, gwnaethom gynnal digwyddiad ‘AI for FinTech’ ar ran FinTech Wales a’n noddwr ar y cyd Confused.com. Yn ein blog diweddaraf, mae Gavin Powell, eu Hysgrifennydd Cyffredinol, yn myfyrio ar y digwyddiad hwn.
Roedd yn un o’r adegau gwych hynny lle mae’r holl waith caled a gynhelir yn FinTech yng Nghymru yn sydyn yn gwneud synnwyr, a chewch weld canlyniad cadarnhaol iawn.
Roeddem yn ddigon ffodus i ddod â grŵp o bobl medrus, dawnus, arbenigol, craff a brwdfrydig at ei gilydd i gyflwyno ar bopeth sy’n ymwneud â deallusrwydd artiffisial ym maes technoleg ariannol. Roedd hefyd yn fraint gwneud hynny er budd y rhai hynny sydd â diddordeb yn y pwnc pwysig hwn.
Roedd y ddarlithfa yng Nghanolfan Addysgu Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd yn llawn pobl a oedd yn rhannu diddordeb mewn deallusrwydd artiffisial o gwmnïau technoleg ariannol mawr, cyfarwyddwyr 100 o sefydliadau gwasanaethau ariannol FTSE mawr, uwch-swyddogion yn y llywodraeth, mentrau deallusrwydd artiffisial bach lleol a rhai sy’n tyfu a digon o academyddion a busnesau nesaf y genhedlaeth nesaf.
I ninnau’r trefnwyr, dyma’r cynhwysion perffaith a sicrhaodd ei fod yn ddigwyddiad gwych ac effeithiol i bawb.
Yn ôl i’r tarddiadau
Dechreuodd y diwrnod gyda chyflwyniad gan Arman Eshraghi, Athro Cyllid yn Ysgol Busnes Caerdydd.
Rhoddodd drosolwg gwych o ddeallusrwydd artiffisial a sut mae’n gysylltiedig â thechnoleg ariannol ac yn cael ei ddefnyddio yn y maes. Mae’n ein tywys ni yn ôl i darddiadau deallusrwydd artiffisial a dysgu peiriannol gan yr enwog Claude Shannon.
Dyma ddechrau gwych i baratoi’r gynulleidfa a gosod yr olyga ar gyfer gweddill y diwrnod.
Yn dilyn yr Athro Eshraghi, cyflwynodd Alun Preece, Athro Systemau Deallus o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd. Mae ei egni a’i frwdfrydedd am ddeallusrwydd artiffisial yn cyd-fynd â hyd y gwasanaeth y mae wedi’i ymroi i’r pwnc.
Mae hyn wedi rhoi profiad heb ei ail iddo, ac roedd yn wych ei fod yn gallu rhannu rhywfaint o hynny gyda ni.
Gwnaeth yr Athro Preece ein tywys ar daith ddyfnach o sefyllfa deallusrwydd artiffisial ar hyn o bryd a rhoi cipolwg inni ar ei waith ar gydweithio rhwng pobl a deallusrwydd artiffisial.
Gweithio gyda’n gilydd
Mae Anna Fink yn Gyfarwyddwr Cyswllt Arloesedd Byd-eang yn y cwmni ymgynghori mawr, EY. Oherwydd hynny, mae hi mewn sefyllfa gref i drafod deallusrwydd artiffisial ym maes technoleg ariannol; yn enwedig o ystyried nifer y cwmnïau y mae EY yn gweithio gyda nhw’n rheolaidd.
Roedd yn hynod ddiddorol clywed safbwyntiau ymgynghorwyr ar sut gall FinTech, gwasanaethau ariannol a chwmnïau ymgynghori gydweithio’n effeithiol i harneisio technolegau megis deallusrwydd artiffisial yn well.
Mae profiad ymarferol bob amser yn ffordd wych i ddysgu gwersi da.
Gwnaeth Pete Burnap, Athro Gwyddor Data a Seiberddiogelwch o Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd, barhau â thema eang y bore gan Anna, drwy ganolbwyntio ar sut caiff deallusrwydd artiffisial ei defnyddio mewn seiberddiogelwch.
Mae seiberddiogelwch yn ffactorau sy’n gynyddol bwysig yng nghymuned FinTech. At hynny, mae codi ymwybyddiaeth amdano i annog pobl i’w ychwanegu drwy ddylunio o’r cychwyn cyntaf yn gadarnhaol i’r sector.
Yn ogystal â’r rôl ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’r Athro Burnap hefyd yn Gyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth mewn Dadansoddeg Seiberddiogelwch Airbus. Mae’r ganolfan yn weithredol ar draws y diwydiant, y byd academaidd a’r llywodraeth ac yn canolbwyntio ar ddadansoddeg seiberddiogelwch yn y DU.
Daeth Lucy Young, Rheolwr Gwybodaeth am Fusnes yn Amplyfi â sesiwn y bore i ben.
Heb os, mae Amplyfi yn un o’r cwmnïau seren newydd sy’n dod i’r amlwg ym maes deallusrwydd artiffisial yng Nghymru. Cadwch lygad arnynt a gweld sut maen nhw’n tyfu yn y dyfodol!
Rhannodd Lucy brofiadau a gwybodaeth gan Amplyfi, sydd, fel BBaCh gymharol newydd, wedi datblygu sylfaen o gleientiaid drwy gynhyrchion casglu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r we dywyll.
Cafwyd cinio yn Ystafell Addysg Weithredol Ysgol Busnes Caerdydd.
Mae’n fan gwych a ddefnyddir ar gyfer digwyddiadau ac addysgu, a galluogodd cynadleddwyr i rwydweithio a mwynhau amser cinio anffurfiol gyda chyfres o arddangosiadau gan:
- Mathworks – defnyddiais eu hadnodd MATLAB am nifer o oriau yn Airbus ar gyfer prototeipio deallusrwydd artiffisial cynhyrchion y genhedlaeth nesaf yn gyflym.
- Amplyfi – dangosodd Lucy sut mae modd edrych yn ddyfnach i’r rhyngrwyd i gael gwybodaeth a deallusrwydd.
- Senseforth AI – a drafododd y cynhyrchion ar sail robot ar y we maen nhw’n eu datblygu drwy broses iaith naturiol, ac ymhlith y 5 gorau ledled y byd o ran perfformiad y cynhyrchion hynny.
Moesegol, tryloyw a manwl gywir
Yn sesiwn y prynhawn, rhoddwyd mwy o bwyslais ar sut y gall deallusrwydd artiffisial fod yn fwy moesegol, tryloyw a manwl gywir gyda rhesymeg o sut y gallwn reoleiddio’r maes yn well er mwyn diogelu’r hyn y mae’r sector technoleg ariannol yn ei wneud yn y dyfodol o ran deallusrwydd artiffisial, a sicrhau y cymerir y llwybr gorau.
Symon Garfield oedd yn gyntaf, sef Ymgynghorydd Strategaeth Ddigidol Microsoft, ac roedd yn garismataidd iawn .
Gan weithio gyda llu o gwmnïau eraill trwy Microsoft, roedd yn agoriad llygad clywed sut y dylid cynnwys moeseg a chyfrifoldebau gyda deallusrwydd artiffisial a’i ddatblygiad, a sut mae hynny’n cyd-fynd â’n sector gwasanaethau ariannol.
Mae’n wych gweld cwmnïau technoleg mawr megis Microsoft yn datblygu mewn meysydd tebyg.
Ar ôl Symon, roedd Katherine Browne, rhan o’r Tîm Arwain Arloesol yn yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
Mae ganddynt rôl hanfodol wrth ddatblygu ymagwedd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol at arloesedd.
Rhoddodd Katherine gipolwg ar sut mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn ystyried data a moeseg, a sut y gallwn ddechrau ystyried y ffordd y caiff deallusrwydd artiffisial ei ddefnyddio mewn cynhyrchion gwasanaethau ariannol yn y dyfodol. Roedd yn amlwg bod gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ddiddordeb mawr yn y maes hwn.
Sgwrs olaf y diwrnod oedd gan ein harbenigwr ar ddeallusrwydd artiffisial esboniadwy, Richard Tomsett o’r tîm technolegau sy’n dod i’r amlwg yn IBM.
Mae Richard wedi treulio sawl blwyddyn yn ymchwilio a chymhwyso ffyrdd sy’n ein galluogi ni i ddehongli deallusrwydd artiffisial yn well. Dangosodd inni rai o faglau deallusrwydd artiffisial a sut y gallwn eu goresgyn i’w wneud yn well ac yn fwy tryloyw fel y gallwn ddeall yn well sut a pham mae’n gwneud y penderfyniadau y mae’n eu gwneud.
I ddod â’r diwrnod i ben, cawsom sesiwn panel ac ymunodd Andy Brockway, Prif Swyddog Technoleg Confused.com a Dave Braines, Prif Swyddog Technoleg technoleg sy’n dod i’r amlwg IBM.
Gwnaethom drafod y newidiadau mawr nesaf ym maes deallusrwydd artiffisial, sut y bydd y gwaith o’i rheoleiddio’n cael effaith ar y sector a’r heriau y mae sefydliadau’n eu hwynebu wrth ei gymhwyso.
Yn olaf, derbyniom gwestiynau gan y dorf. Un o fy ffefrynnau oedd: “Pa un peth peth yr hoffech chi gymhwyso deallusrwydd artiffisial iddo?” a chafwyd rhai atebion gwerth chweil gan bob un o’n panelwyr.
Roedd yn wych gweld y dorf â chymaint o ddiddordeb yn gwrando ar y wybodaeth a rannwyd gan y cyflwynwyr. O’n hochr ni, fel trefnwyr, roedd yn hynod wych gweld cyfres mor amrywiol o bobl yn y dorf, heb ganolbwyntio ar ochr dechnegol deallusrwydd artiffisial a’i ddatblygiad yn unig, yn ogystal â’r ochr foesegol a rheoleiddiol, sydd yr un mor bwysig.
Diolch unwaith eto i’r holl bobl a ddaeth, y cyflwynwyr, Ysgol Busnes Caerdydd, y Tîm Addysg Weithredol a Confused.com am ein helpu i sicrhau’r digwyddiad hwn.
Mae amryw sylwadau wedi dod i law ynghylch y diwrnod ar y cyfryngau cymdeithasol, ond un darn o adborth gwirfoddol sy’n crynhoi’r diwrnod yn dda yw:
“Ni chefais gyfle i gael sgwrs â chi heddiw ond roeddwn i am ddweud fy mod i wedi gwir fwynhau’r diwrnod deallusrwydd artiffisial heddiw. Fel arfer mae’n rhaid i mi deithio i Lundain i gael sesiwn llawn gwybodaeth, ac roedd yn braf cael un ar garreg y drws… Diolch i chi am ddiwrnod da a byddaf yn dod unwaith eto.”
Mae Gavin Powell yn Ysgrifennydd Cyffredinol ar gyfer FinTech Wales.
Cafodd y neges hon ei chyhoeddi’n wreiddiol ar wefan FinTech Wales.
- Mawrth 2024
- Ebrill 2023
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Rhagfyr 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018