Skip to main content

Economi gylchol

Ein gweddnewidiad economi gylchol

27 Chwefror 2020

Yn ystod haf 2019, aeth Dr Carolyn Strong a Phwyllgor Strategaeth Ystadau Ysgol Busnes Caerdydd, ati i gynnal prosiect ailwampio tra wahanol. Roeddent am roi bywyd o’r newydd i’n swyddfeydd, ein hystafelloedd addysgu a’n gofodau cymdeithasol mewn ffordd na fyddai’n peryglu ein hegwyddorion gwerth cyhoeddus.

Gan gaffael a gosod cynhyrchion economi gylchol gan fusnesau a mentrau cymdeithasol yn y DU Rype Office, Greenstream Flooring a Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful (MTIB), mae’r tîm wedi trawsnewid swyddfa newydd y Deon, ugain o swyddfeydd staff academaidd ac ystafell gyffredin i staff.

Gyda rhagor o waith adnewyddu ar y gorwel yn 2020, dywedodd Dr Strong wrthym ni beth sydd wedi ysgogi’r prosiect uchelgeisiol hwn.

Dechreuodd hyn i gyd pan ffurfiwyd Pwyllgor Strategaeth Ystadau’r Ysgol. Rydw i’n cadeirio’r pwyllgor ac, ar ôl trafodaethau cychwynnol am ein nodau a’n dyheadau, fe gyflwynais gais i Fwrdd Rheoli’r Ysgol am gyllid i adnewyddu ein hystafell gyffredin a’n cegin i staff.

Roedd ein cais yn llwyddiannus ac aethom ati yn syth bin i ganfod ffyrdd i geisio trosi gofod eithaf llwm yn un y byddai staff yn mwynhau ei ddefnyddio.

Awgrymodd Linda Hellard, a oedd yn rhan o’r grŵp tan ei secondiad i’r Tîm Cyflymydd Arloesedd Data, ein bod yn cysylltu â Swyddfa Rype ar ôl iddi glywed eu perchennog, Greg Lavery, yn siarad mewn un o’n digwyddiadau Addysg Weithredol.

Fe weithiodd Gareth Hubback, ein cyn Swyddog Cyfleusterau, a mi gyda Greg i ddylunio’r gofod o fewn y gyllideb. Fodd bynnag, roedden ni fymryn yn brin o arian. Felly, er mwyn cwblhau’r ystafell gyffredin, fe gynhalion ni barti paentio un nosol ar ôl gwaith.

Roedd y cyfan yn bosibl diolch i ymdrechion cyfun ein cydweithwyr a’r llawr a’r dodrefn economi gylchol.

“Mae wedi golygu ein bod ni wedi gallu gwneud arbedion ariannol sylweddol wrth gaffael dodrefn – 21% yn rhatach na chyflenwyr presennol y brifysgol – tra hefyd yn cefnogi partneriaid mentrau cymdeithasol yng Nghymru. A hynny heb sôn am y manteision cymdeithasol ac amgylcheddol.”

Mae’r soffas, er enghraifft, oll wedi’u gwneud â llaw yn ôl archebion gan MTIB.

Mae MTIB yn weithdy gweithgynhyrchu pren â chefnogaeth sydd wedi’i leoli yn Ne Cymru, sy’n cynnig hyfforddiant a chyflogaeth uniongyrchol i bobl ag anableddau. Maent hefyd yn asiantaeth cyflogaeth â chefnogaeth, gan helpu pobl drwy hyfforddiant a chefnogaeth, i gyflawni a chynnal cyflogaeth yn y gymuned ehangach.

Felly, drwy ddewis MTIB, rydym ni’n gallu bod yn hyderus ein bod yn buddsoddi yn economi Cymoedd De Cymru, tua 30 milltir i’r gogledd o Brifysgol Caerdydd. A hefyd, rydym ni’n cyfrannu at gyflogaeth a darpariaeth hyfforddiant ar gyfer y rheiny sydd ag anableddau mewn cymunedau lleol fel Merthyr ac ymhellach.

Dyma yw ein dyletswydd, wrth gwrs. Ond mae dal i roi boddhad mawr er hynny.

Y pedair A

Dydw i ddim yn economegydd amgylcheddol – byddai’n rhaid i chi holi’r Athro Calvin Jones am yr union ostyngiadau yn ein hôl troed carbon gyda’r prosiect hwn – ond lle bynnag y bo’n bosibl, rydym ni wedi cymryd camau i gaffael cynhyrchion yr economi gylchol.

Ac felly mae’r pedair A – ail-weithgynhyrchu, ailwampio, adfer neu ailddosbarthu – wedi dod yn dipyn o fantra i’n tîm ni!

Mae ein holl garpedi wedi’u cyflenwi gan Greenstream Flooring.

Dyma gwmni a sefydlwyd yn y Rhondda yn 2008, ac mewn ymateb i nifer y teils carped a oedd yn cael eu gwastraffu neu eu claddu fel sbwriel, maen nhw’n arbenigwyr mewn cyflenwi a gosod teils carped wedi’u defnyddio a’u hailwampio.

Mae eu gwaith yn arbed carbon ac yn golygu y gallant gynnig lloriau rhatach i bobl a sefydliadau na fyddai fel arfer yn gallu fforddio’r gwasanaeth.

Fel MTIB, mae’r cyllid a godir drwy werthu carpedi yn golygu y gallant ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli i bobl sydd wedi bod allan o waith am gyfnodau hir neu bobl sy’n dioddef o broblemau iechyd.

Hen ddodrefn

Mae’r holl unedau dan y ddesg ym mhob un o’r swyddfeydd newydd yn gypyrddau sydd wedi’u hail-weithgynhyrchu o frandiau poblogaidd fel Steelcase a Bisley.

Yn eu bywyd blaenorol, roeddent yn cael eu defnyddio yn swyddfeydd y Grŵp Bancio Rhyngwladol o Ffrainc, BNP Paribas SA. Yn yr un modd, mae’r byrddau hefyd wedi’u hailwampio o’n hen gaffi yn Adeilad Aberconwy yr Ysgol, daeth eraill o gadwyn fwytai Carluccio’s a Goldman Sachs.

Arferai rhai o’r desgiau trydan fyw yn swyddfeydd Amazon, defnyddiwyd y cadeiriau desg gan Groupon a chafodd ein cadeiriau cyfarfod newydd eu hadfer o swyddfeydd Marks and Spencer.

Mae’r pren o’r hen fwrdd yn ein hystafell fwrdd ynghyd â hen ddodrefn a oedd unwaith yn llechu yn ein cypyrddau storio a’n coridorau hefyd wedi cael eu hadfer neu eu hailddosbarthu ar draws gweddill y Brifysgol a sefydliadau elusennol lleol.

Mae’r byrddau hefyd wedi’u hailwampio o’n hen gaffi yn Adeilad Aberconwy yr Ysgol. Mae’r pren o’r hen fwrdd yn ein hystafell fwrdd ynghyd â hen ddodrefn a oedd unwaith yn llechu yn ein cypyrddau storio a’n coridorau hefyd wedi cael eu hadfer neu eu hailddosbarthu ar draws gweddill y Brifysgol.

Union y math hwn o beth yw pwynt gwerthu unigryw Rype. Fel y dywedodd Greg Lavery, a sefydlodd y cwmni, i mi: “Fe sefydlon ni Rype Office gan ein bod ni wedi ein rhyfeddu at arferion gwael y diwydiant dodrefn.

“Mae 300 o dunelli o ddodrefn swyddfa yn mynd i’r gladdfa sbwriel bob diwrnod gwaith yn y DU, ac mae’r gadwyn gyflenwi gyfan wedi’i chreu i werthu dodrefn newydd sydd wedi’i wneud yn bennaf o adnoddau crai.”

Mae llwyddiant Rype yn seiliedig ar ansawdd eu gwaith; mae ganddyn nhw dîm o beirianwyr sy’n chwilio am atebion ail-weithgynhyrchu ac yn eu datblygu i adfer dodrefn i gyflwr ‘fel newydd’.

Ac fel mae Greg yn egluro: “Mae hefyd yn deg dweud ein bod ni wedi bod yn ffodus gyda’n hamseru. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, pryderon am yr hinsawdd a diddordeb poblogaidd yn yr Economi Gylchol wedi bod yn sbardunau defnyddiol iawn i ymholiadau cwsmeriaid.”

Yn ôl eu ffynonellau, mae ‘dodrefn o adnoddau crai yn cyfrannu 30% o ôl troed carbon adeilad masnachol dros gyfnod ei fywyd’. Mae Rype yn gwrthod yr arferion niweidiol hyn sy’n cynyddu costau, allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwastraff drwy ail-weithgynhyrchu a chreu dodrefn o wastraff fel plastigau.

Fel MTIB a Greenstream, maen nhw hefyd yn creu gwerth cymdeithasol o ddull economi gylchol drwy gyflogi’r rhai sydd wedi bod yn ddi-waith ers amser maith a staff gydag anableddau.

“Beth allaf ei ddweud? Rydym ni wedi wynebu sawl rhwystr ar y ffordd, ond rydw i wir yn credu mai dyma’r ffordd ymlaen ar gyfer prosiectau ailwampio yn yr Ysgol. Mae angen ymarfer yr hyn yr ydych chi’n ei bregethu! Dod â busnes cymdeithasol i mewn i’r Ysgol i gyd-greu datrysiadau mewn ffordd sy’n gynaliadwy yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.”

Edrych ymlaen

O ran y cam nesaf, rydym ni wedi ymestyn y prosiect ailwampio i 18 o swyddfeydd pellach gyda deg arall ar y gweill i’w hadnewyddu yn ystod gwyliau’r Pasg. Oherwydd hyn, gall pob un o’n cydweithwyr academaidd newydd symud i swyddfeydd economi gylchol sydd newydd eu hailwampio.

Mae wedi ein galluogi ni i ddefnyddio’r gofod yn ein Hadeilad Aberconwy yn well, gan rannu swyddfeydd mawr yn ddwy neu dair ystafell newydd. Ond y tu hwnt i hynny, mae’r prosiect hefyd wedi galluogi canlyniadau iechyd a lles i’n cydweithwyr.

Mae staff wedi rhoi gwybod i mi eu bod nhw’n teimlo bod y gofodau newydd wedi rhoi ffocws o’r newydd iddynt ar les, gan gynnwys ergonomeg, biophilia a swyddfeydd iach.

Mae hwn yn ganlyniad arbennig o foddhaus i mi.

Yn fwyaf diweddar, mae’r gofod a arferai fod yn swyddfa i’n Deon a’r ystafell bwrdd cysylltiedig wedi eu hatgyweirio. Mae’r gwaith bron â dod i ben, a bydd yn ymestyn ein gallu ar gyfer darpariaeth dysgu ac addysgu ar lefel weithredol.

Mae Dr Carolyn Strong yn Ddarllenydd mewn Marchnata a Strategaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae’r Pwyllgor Strategaeth Ystadau yn darparu arweiniad strategol a gweithredol ar faterion ystâd, ac yn monitro cynnydd ar welliannau, i sicrhau bod Ysgol Busnes Caerdydd yn darparu cyd-destun effeithiol ar gyfer gweithio, dysgu a chreu gwybodaeth ar gyfer gwelliant cymdeithasol ac economaidd.