Skip to main content

Profiad myfyrwyr

Fy lleoliad gwaith yn Delio

21 Chwefror 2020

Ar ôl ennill gradd gyntaf ym mlwyddyn gyntaf ei radd, roedd modd i Sam Fisher wneud cais am leoliad gwaith integredig. Ar ôl ffurfioldeb heriol ceisiadau cynllunio, ysgrifennu CV a chyfweliadau, llwyddodd Sam i sicrhau lleoliad yn Delio Wealth – cwmni graddio i fyny sy’n gweithredu allan o Gaerdydd ac yn rhyngwladol hefyd. 

Yn ein blogiad diweddaraf, mae’n egluro pam roedd gweithio yn Delio yn rhan mor bwysig o’i brofiad yn y Brifysgol.

Mae cwblhau rhywfaint o brofiad gwaith o fewn diwydiant yn un o’r pethau mwyaf gwerthfawr y gallwch ei wneud i wella’ch sgiliau a’ch cyfleoedd o lwyddo mewn swydd yn y dyfodol. 

Er bod prifysgol yn eich galluogi i ddysgu theorïau newydd a difyr, mae lleoliadau’n fodd i chi roi’r wybodaeth ar waith yn y byd masnachol go iawn. 

Pan welais y cyfle am leoliad â Delio, roeddwn i ar unwaith yn awyddus i fod yn rhan o’u tîm sy’n tyfu’n barhaus. 

Mae Delio yn gwmni graddio i fyny sy’n gweithredu allan o Gaerdydd ac yn gweithredu’n rhyngwladol.

Technoleg mewn busnes 

Pam wnaeth y sector FinTech fy nenu? 

Wel, yr ateb syml yw am ei fod yn un o’r diwydiannau sy’n tyfu gyflymaf yn y byd. Mae nifer o sefydliadau ariannol bellach yn dibynnu’n fawr ar dechnoleg a gwasanaethau cwmnïau FinTech. Mae rhoi technoleg ar waith mewn busnes yn trawsnewid y ffordd y mae sefydliadau’n gweithio. Felly, roedd ymuno â chwmni sy’n arbenigo mewn technoleg yn gyfle yr oedd yn rhaid imi fanteisio arno. 

Yr hyn a ddenodd fy sylw, hyd yn oed yn fwy na hynny, oedd y rôl ei hun. 

Roedd Delio’n chwilio am rywun i ymuno â’i dîm marchnata newydd, a oedd o ddiddordeb mawr imi gan fod marchnata’n un o’m hoff fodiwlau yn ystod fy mlynyddoedd agoriadol yn y brifysgol. Roeddwn yn awyddus i weld sut y gallai’r amryw theorïau a ddysgais o’m darlithoedd gael eu rhoi ar waith mewn busnes FinTech deinamig. 

Mae marchnata i’r tu allan yn aml yn cael ei gysylltu’n llwyr â gwerthu, felly roeddwn yn awyddus i ddefnyddio fy lleoliad i ddangos i bobl bod cymaint yn fwy iddo na hynny. Mae’n adran o fusnes sydd, yn fy marn i, wir yn ysgogi i sefydliad symud ymlaen. 

Hefyd, afraid dweud y byddai’r rôl farchnata’n fy ngalluogi i ddatblygu fy sgiliau personol a phroffesiynol, gan fy ngwneud i’n fwy cyflogadwy yn y dyfodol. 

Dod yn rhan o Delio â’i dîm marchnata

Roedd y profiad gyda Delio yn anhygoel, ac mae wedi rhoi cipolwg arbennig i mi ar sut i gyflawni rôl farchnata’n effeithiol. 

Un o’m tasgau cyntaf oedd gweithredu cynllun cyfryngau cymdeithasol parhaus a gafodd ei ddiweddaru’n rheolaidd. Ar y dechrau, roedd yn gryn sioc, gan nad oeddwn yn disgwyl cael fy ngwneud yn gyfrifol am rywbeth mor bwysig. 

Ond, fe ddaliais yn y rôl hon gerfydd ei chyrn gan helpu i ymgysylltu â’n sylfaen cyfryngau cymdeithasol a gwella ein metreg o’i gymharu â phryd ymunais. 

Mae Delio wedi fy nghefnogi’n barhaus yn ystod yr wythnosau y bûm yma, ac wedi rhoi rhyddid imi fynegi fy hun – nid yn unig yn y tîm marchnata ond ar draws y busnes cyfan. 

Roeddwn i ar ben fy nigon i gael y cyfle hwn i brofi rhywbeth newydd tua diwedd fy ngyrfa academaidd gan Brifysgol Caerdydd.

Mae Sam Fisher yn fyfyriwr ail flwyddyn ar y BSc Rheoli Busnes yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Cafodd y blogiad hwn ei gyhoeddi’n wreiddiol ar wefan Delio Wealth.