Skip to main content

Llywodraethu

Pam mae chwaraeon yn cyfrif

31 Ionawr 2019
Yn gyn-chwaraewr pêl-droed rhyngwladol ac yn gapten tîm cenedlaethol Cymru, roedd yr Athro McAllister yn Gadeirydd Chwaraeon Cymru rhwng 2010-16.

Yn ein blog diweddaraf, mae’r Athro Laura McAllister yn esbonio pam mae chwaraeon yn cyfrif yng nghyd-destun llywodraethu, a pha wersi y gellir eu dysgu o’r heriau yn y sector ar draws meysydd arweinyddiaeth, amrywiaeth ac addysg.

Yn gyntaf oll, gadewch i mi ddweud bod chwaraeon yn bwysig oherwydd nad yw’n bwysig.

Gall gwylio eich tîm (Dinas Caerdydd yn fy achos i, ac rwy’n optimistaidd am gyrraedd yr ail safle ar bymtheg yn yr Uwch-gynghrair o hyd!) cael hwyl yn chwarae neu wylio fod yn faes o eithafion. Llawenydd a dathlu dirfawr, teimlo mewn trallod a bod mewn anobaith am rywbeth nad yw’n bwysig iawn mewn gwirionedd.

Ond dyna’r gwrthddywediad rhyfedd, mae chwaraeon o bwys oherwydd bod ganddo le unigryw yn enaid ein cenedl, ein hisymwybod, yn enwedig mewn cenedl fach fel Cymru.

Mae hefyd yn cyrraedd llawer o bobl. Pŵer gwahanol na fanteisiwyd arno’n llawn. Dywedir yn aml hefyd fod Cymru’n brin o USP byd-eang deniadol. Wel gall chwaraeon lenwi’r bwlch hwnnw. Ac ar ôl Brexit, os yw’n digwydd, yna bydd angen hynny’n fawr arnom! 

“Mae chwaraeon mor bwysig i Gymru, mae’n rym sy’n uno ar adeg pan ein bod ni’n genedl sydd wedi’i rhannu’n gynyddol – o ran yr UE a Brexit, o ran rhagolygon economaidd, mewn cyfleoedd addysgol a chyfleoedd mewn bywyd.”

Mae 12.4% o blant pedair neu bump oed yng Nghymru’n ordew ac mae hynny’n syfrdanol. Mae’r nifer sydd â diabetes math 2 yn cynyddu’n fawr. Dylai’r ffaith nad yw hanner ein pobl ifanc yn gwneud ymarfer corff rheolaidd godi braw arnom. Dyna’r rheswm pam roeddwn i’n hynod siomedig gweld cynnydd mor gyfyngedig yn nhasglu’r Farwnes Tanni Grey-Thompson ar addysg gorfforol a chwaraeon mewn ysgolion.

Roedd yn ddarn tyngedfennol o waith, gydag adroddiad a wnaeth un argymhelliad: “Dylid gwneud Addysg Gorfforol yn bwnc craidd a gorfodol yng nghwricwlwm ysgolion a phob peth sy’n gysylltiedig ag ef.”

Pŵer ysgafn

Mai chwaraeon yw “pŵer ysgafn” caletaf Cymru.

Rwyf hefyd wedi dadlau ers amser maith mai chwaraeon yw “pŵer ysgafn” caletaf Cymru. Fel yr awgrymais yn fy narlith yng Ngŵyl y Gelli 2015, roedd yn fwy pwysig i Gymru gyrraedd cystadleuaeth yr Ewros yn Ffrainc nag yr oedd i Gymru ennill Cwpan Rygbi’r Byd.

Dadleuol? Efallai. Ond wedi’i cyfan, caiff pêl-droed ei chwarae mewn dros 200 o wledydd ar draws y byd. Mae’r farchnad bêl-droed yn Ewrop yn werth €25bn. Caiff rygbi ei chwarae gan oddeutu 20 o genhedloedd, ac mae hynny’n amcangyfrif hael. 

Yn wir rwyf wedi dysgu’r rhan fwyaf o’m gwersi mewn bywyd o chwaraeon. Pan fydd pobl yn siarad am wersi o’r fath, maen nhw bob amser yn crybwyll pennu nodau, disgyblaeth ac ati, ond rwy’n golygu ychydig o bethau eraill:

Angerdd yn gyntaf. Gall fod yn rhywbeth a allai beri problem. Rwyf wedi dysgu na ddylem gael ein dallu na’n blino gan ein brwdfrydedd dros y peth rydym ni’n ei garu. Mae hyn yn berffaith wir wrth lywodraethu chwaraeon – lle mae angen i’r bobl ar lefel y bwrdd ddadansoddi’n oer a herio’n llym.

Gwers bwysig arall yw gwybod pryd i orffen. Mae gan bob un ohonom oes silff, mae pob athletwr yn gwybod hynny ac mae’n ifanc iawn fel arfer iddyn nhw – yng nghanol 30au unigolyn. Wrth gwrs, mewn rolau arwain gallwn barhau am gyfnod yn hirach na hynny. Ond mae’n hawdd iawn mynd yn rhy gyfforddus a mwynhau’r rhannau pleserus o weithio ym maes chwaraeon. Ac felly, dylai ein harweinwyr gymryd eu rolau yr un mor ddifrifol ag athletwyr gyda’u chwaraeon.

Mae’n hawdd iawn mynd yn rhy gyfforddus a mwynhau’r rhannau pleserus o weithio ym maes chwaraeon.

“Os ydych yn edrych ar eich cabinet medalau a thlysau drwy’r amser, yna byddwch mwy na thebyg yn aros yn eich unfan. Dylai rhywun bob amser fod yn paratoi ar gyfer ei swyddogaeth nesaf fel arweinydd, yn yr un modd ag y mae athletwr yn paratoi ar gyfer ei gêm neu ei bencampwriaeth nesaf.”

Rwy’n credu’n gryf bod angen i chwaraeon gyd-fynd â chymdeithas – ac arwain yn glir lle bo hynny’n briodol – ond ni ddylai ar unrhyw adeg fod ar ei hôl hi.

Mae digon o astudiaethau darogan yn bodoli sy’n amlinellu’r ffaith bod y ffordd rydym yn cynnig chwaraeon ar hyn o bryd – mewn clybiau, canolfannau hamdden, cyrff llywodraethu cenedlaethol a Chwaraeon Cymru a’r Llywodraeth hyd yn oed – yn gallu bod yn llwyr anghydnaws â’r newidiadau mewn cymdeithas.

Nid ydym yn llwyddo rhoi sylw i wybodaeth am dueddiadau megis newidiadau o ran ffordd o fyw, pwyslais teuluol, diwylliant chwarae achlysurol (yn hytrach na chofrestru, mewn clybiau), datblygiadau technolegol, apiau ffitrwydd a monitorau, heb sôn am ddeallusrwydd artiffisial.

“Mae angen i ni anelu’n uwch o ran her.”

Mannau blaengar

Rôl arweinwyr yw gwahodd safbwyntiau amgen, bod yn gryf yn bersonol ac yn ddigon parod i dderbyn dewisiadau eraill. Mae’r cyfan yn ymwneud â chraffu’n effeithiol, symud i fan diwylliannol gwahanol lle croesewir her ac ni chaiff ei gymryd yn bersonol.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd wrthyf unwaith yn ddiamynedd, “Laura, rwyt ti eisiau mwy bob amser. Rwyt ti’n anghofio pa mor bell rydym ni wedi dod.” Mae hyn yn eironig ac yn gwbl amherthnasol.

Nid man clyd yw bwrdd effeithiol.

Mae’n ymwneud â ble rydym ni’n mynd fel sefydliad. Nid man clyd yw bwrdd effeithiol sy’n anwybyddu pobl newydd a syniadau gwahanol.

Ni ddylai cyfarfodydd bwrdd ychwaith fod yn fannau cyfforddus. Yn hytrach, dylent fod yn braf o safbwynt cyfrannu’n weithredol a chyflawni gwaith.

Dylai pobl anghytuno ynddynt.

Dylent fod yn fannau blaengar, lle cynhelir pob trafodaeth ar sail her a meddwl yn feirniadol a lle caiff aelodau’r bwrdd eu hannog i gynnig pethau gwahanol i’r hyn a gynigir.

Nid yw hyn yn golygu y dylem anghofio parch. Dylid teimlo’n anesmwyth oherwydd dulliau cwestiynu effeithiol a dadleuon cadarn, nid trwy ddiraddio neu danseilio ein cydweithwyr.

Dallineb penderfynol

Mae amrywiaeth yn hanfodol er mwyn cynnal byrddau llwyddiannus ym maes chwaraeon a sectorau eraill. Mae’r academydd o UDA, Margaret Heffernan, yn trafod “dallineb penderfynol” (deilliodd ei theori o scandal Enron) lle gallai ac y dylai aelodau’r bwrdd wybod yr hyn sy’n digwydd.

“Y pwynt yw bod gan fyrddau sy’n brin o amrywiaeth aelodau sydd â mannau dall tebyg.”

Darllenais lyfr diddorol arall yn ddiweddar sef The Diversity Bonus gan Scott E. Page o Brifysgol Michigan. Mae’n trafod amrywiaeth wybyddol a’r economi wybodaeth. Mae algorithmau a safbwyntiau gwahanol yn arwain at fusnesau creadigol a llwyddiannus.

Mae’n ymwneud ag amrywiaeth gynrychioladol yn ogystal ag amrywiaeth o ran meddwl a herio (er bod y cyntaf yn parhau’n bwysig).

Mae’r fenter yn adeiladu ar y gwaith a wnaethom pan oeddwn yn gadeirydd i newid proffil ein bwrdd ein hunain.

Rwy’n ffyddiog bod hyn yr un mor berthnasol i lywodraethu chwaraeon ag unrhyw sector arall. Dyma pam fy mod i’n falch bod gan Chwaraeon Cymru, fel y prif ariannwr, safbwynt polisi newydd a chadarn o ran amrywiaeth rhwng y rhywiau ar fyrddau.

Mae’r fenter yn adeiladu ar waith a wnaethom pan oeddwn yn gadeirydd i newid proffil ein bwrdd ein hunain. Gwnaethom newid y bwrdd o gael dros 80% o ddynion i bron 60% o fenywod, ac roedd gennym 16% o aelodau BAME (pobl dduon, asiaidd a lleiafrifoedd ethnig) ar ddiwedd y trawsnewidiad. Gwnaethom hefyd newid yr ystod oedran i broffil llawer yn iau.

Uchelgais Chwaraeon Cymru yw bod cyrff llywodraethu cenedlaethol ‘effaith uchel’ a sefydliadau chwaraeon cenedlaethol yn cyflawni amrywiaeth hafal (50:50) o ran y rhywiau ar fyrddau erbyn 2020 a chymhwyso diffiniad Comisiynydd yr EU o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau (o leiaf 40% o fenywod neu ddynion ar fwrdd). 

Mae’n ddiddorol bod Sport England ac UK Sport wedi dechrau gyda 30%.

I mi, mae hynny’n rhy isel ac nid yw’n uchelgeisiol o gwbl.

Mae’r blog hwn yn seiliedig ar sesiwn hysbysu dros frecwast addysg weithredol a gyflwynwyd gan yr Athro McAllister. Cewch ragor o wybodaeth am ein cyfres o ddigwyddiadau yma.

Mae Laura McAllister yn Athro mewn Polisi Cyhoeddus yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Llywodraethu Cymru.