Skip to main content

Cysylltiadau cyflogaeth

Undebaeth lafur a’r gyffredinoliaeth ddiriaethol

31 Ionawr 2019
Mae undebau llafur yn cyfuno cyffredinoliaeth ddiriaethol gyda chamau gweithredu ar y cyd a galluedd unigol.

Yn ein blog diweddaraf, mae Dr Jonathan Preminger yn amlinellu sut y gallwn (ail-) ddarganfod potensial radicalaidd undebaeth lafar mewn ymateb i ddyfodol ôl-gyfalafol.

Mae gweledigaethau o gymdeithasau ôl-gwaith sy’n dod yn fwyfwy poblogaeth ar yr ochr chwith ryddfrydol yn cynnig undebaeth ddeniadol sy’n cwmpasu anghenion sylfaenol pob un.

Maen nhw’n dadlau y bydd dulliau a weinyddir gan y wladwriaeth megis yr incwm sylfaenol cyffredinol (UBI) yn sicrhau y gall pob un ohonom gymryd rhan yn y ‘bywyd da’ ni waeth beth rydym yn ei wneud wrth i robotiaid gymryd dros ein swyddi. Mewn gweledigaethau o’r fath, caiff undebau eu hesgeuluso i raddau helaeth: nid oes ganddynt o reidrwydd fawr ddim i’w gynnig mewn byd ‘ôl-gyfalafol’ o incwm gwarantedig a diwedd gwaith cyflogedig. 

Eto i gyd, mae’r gweledigaethau anwleidyddol hyn yn peri cryn bryder. Mae hyn yn deillio o benderfyniaeth dechnolegol nas cydnabyddir yn aml, sy’n gweld ‘cyfalafiaeth’ yn datblygu mewn ffordd a fydd yn anochel yn arwain at lai o swyddi a diwedd gwaith cyflogedig.

Mae beirniaid gweledigaethau ‘ôl-gwaith’ o’r fath yn nodi bod y pwyslais llwyr benderfyniaethol hwn sy’n canolbwyntio ar y dyfodol yn osgói problemau presennol sy’n ymwneud â gwaith ac yn anwybyddu galluedd. Mae’r beirniaid hyn yn honni bod eiriolwyr dull ôl-gwaith Paul Mason yn hiraethu am fyd afreolus ymarfer gwleidyddiaeth a brwydr o’r gwaelod i fyny.

“Yn y byd afreolus hwn yn union y gall undebau llafur lewyrchu.”

Gwthio’r ffiniau

Gall undebau wthio ffiniau eu rolau a gwireddu potensial radicalaidd llawer mwy.

Yn benodol, drwy ymgorffori’r delfrydau cyffredinol sydd wedi’u cefnogi gan yr ochr chwith ôl-gyfalafol, a chadw eu gwreiddiau mewn brwydr wleidyddol ddiriaethol, y maen nhw’n cadw eu perthnasedd yng nghanol honiadau diwedd gwaith a galwadau am UBI.

Er fy mod i’n ystyried fy hun yn gadarn ymhlith beirniaid y ffordd ôl-gyfalafol hon o feddwl, rwy’n credu bod ei gweledigaeth o hawliau cyffredinol yn argyhoeddiadol ac yn ganmoladwy. Yr hyn sy’n fy niddori i yw cadw’r weledigaeth hon ond symud oddi ar ‘gyffredinoliaeth haniaethol’ i ‘gyffredinoliaeth ddiriaethol’ sy’n ceisio “cipio a pheidio â glanhau byd penodoldeb a gwrthddywediad,” i ddefnyddio geiriau’r cyfranwyr Futures of Work diweddar Lorena Lombardozzi a Harry Pitts.

Mae undebau llafur yn ein galluogi ni i wneud hyn yn union.

Y tu hwnt i’w rôl feunyddiol yn diogelu ac yn hyrwyddo hawliau eu haelodau, gall undebau groesawu gweledigaeth a grëir ar y cyd o gymdeithas yn y dyfodol. Gallant hefyd ymdrechu i’w chreu drwy frwydr o ddydd i ddydd dros bryderon diriaethol sydd â goblygiadau go iawn a disyfyd. 

Mewn geiriau eraill, gallant greu cyffredinoliaeth ddiriaethol gyda chamau gweithredu ar y cyd a galluedd unigol.

“Wrth wneud hyn, gall undebau wthio ffiniau eu rôl a gwireddu potensial llawer mwy radical a allai fod wedi cael ei anghofio yn ystod degawdau o weithredu enciliol gan yr undeb yn erbyn yr arferion a’r ideolegau sy’n gysylltiedig â neo-ryddfrydiaeth.”

Dyma ail-radicaleiddio yn hytrach na rôl newydd – ond o dan amgylchiadau gwahanol iawn i’r rhai hynny sy’n nodweddiadol o oes aur ddiwydiannol undebaeth.

Mae’r hawliad hwn yn seiliedig ar fy astudiaeth o drefnu llafur yn Israel. Dechreuais fy ngwaith ymchwil gan dybio bod undebau llafur yn perthyn i’r gorffennol ac yn dal gafael ar weithwyr trefnus, ac nad oeddent yn gallu cwrdd â heriau economïau neo-ryddfrydol byd-eang. Eto, darganfûm yn fuan fod yr undebau nid yn unig yn cynnal eu harwyddocâd, ond mewn rhai achosion roeddent yn ymddangos eu bod yn ganolog i ddatblygiadau eithaf radical. Byddaf yn cynnig dwy enghraifft.

Agor gwagle gwleidyddol

Gwnaeth penderfyniad cynseiliol yr Uchel Lys ddechrau fframweithiau a mecanweithiau cysylltiadau llafur ar y cyd i’r rhai nad oeddent wedi cael mynediad atynt yn flaenorol.

Yn 2007, roedd digwyddiad pwysig iawn ym maes undebaeth lafur Israel. Y flwyddyn honno, dyfarnodd yr Uchel Lys gyfraith llafur yn Israel yn berthnasol i Balestiniaid nad ydynt yn ddinasyddion sy’n gweithio i gyflogwyr Israelaidd yn nhiriogaethau meddianedig Israelaidd. Mewn geiriau eraill, byddai cyfraith llafur Israel bellach yn ehangu y tu hwnt i ffiniau swyddogol y wladwriaeth, gan ddisodli cyfraith llafur Gwlad Iorddonen a oedd wedi rheoleiddio gweithwyr o’r fath yn y gorffennol a mynd y tu hwnt i’r corff o bobl oedd â dinasyddiaeth ffurfiol o Israel. 

Roedd penderfyniad cynseiliol yr Uchel Lys wedi’i angori mewn rhesymeg hawliau dynol cyffredinol nad yw’n gallu caniatáu gwahaniaethu ar sail genedlaethol neu ethnig. Mae’r rhesymeg hon yn rhyddfrydol ac yn haniaethol yn gyffredinol, ond agorodd ei ymddangosiad diriaethol fframweithiau a mecanweithiau cysylltiadau llafur ar y cyd i’r rhai na fu mynediad iddynt o’r blaen. Mae’n galluogi llafur i gymryd rhan ym myd diriaethol brwydr wleidyddol, i fod â rôl mewn ffurfio cysylltiadau cyflogaeth ac felly eu gweithleoedd a’r amodau y maent yn byw ynddynt – e.e i gael galluedd. 

Fel rwyf wedi’i ddadlau mewn mannau eraill, mae hyn yn dynodi bod mannau gwleidyddol yn agor i bobl nad ydynt yn ddinasyddion ac yn caniatáu dinasyddiaeth weithredol lle na chaiff dinasyddiaeth ffurfiol ei gwrthod.

“Mae newid cymdeithasol yn broses araf, ond mae digwyddiadau dilynol yn awgrymu bod y dyfarniad hwn wedi cael effaith go iawn ar ddynameg cysylltiadau llafur, gydag undeb Israelaidd bellach yn trefnu Palestiniaid yn y tiriogaethau meddianedig.”

Ton o uno

Gwelwyd ton o uno ar ôl haf o brotestio cymdeithasol.

Yn ystod haf 2011, cydiwyd yn y symudiad protestio cymdeithasol gan bobl ifanc yn Israel a gafodd eu hysbrydoli gan grwpiau fel Los Indignados ac Occupy Wall Street.

Magodd y brotest fomentwm yn gyflym. Amcangyfrifwyd ar ei anterth fod tua 500,000 o bobl wedi cymryd rhan mewn gorymdaith tebyg i garnifal drwy strydoedd Tel Aviv – nifer enfawr mewn gwlad o 9 miliwn o bobl yn unig.

Er bod deinameg ac achosion anfodlonrwydd o’r fath yn anochel yn gymhleth, roedd y dosbarthiadau canol yn teimlo eu bod yn cael eu gwasgu fwyfwy, ac roedd teimlad cyffredinol nad oedd gan Israeliaid ifanc y safonau byw yr oedd eu rhieni yn eu mwynhau.

Nid oedd hyn mewn unrhyw ffordd yn brotest a oedd yn seiliedig ar lafur. Mewn gwirionedd, gwrthodwyd y prif ffederasiwn llafur (yr Histadrut) gan yr arweinwyr protest cymdeithasol newydd am fod yn rhan o’r ‘sefydliad’ yr oeddent yn protestio yn ei erbyn. Unwaith eto, yn debyg i fannau eraill, dyma’r ‘99%’ yn erbyn y ‘tycoons.’ Food bynnag, erbyn diwedd yr haf hwnnw roedd y symudiad protestio wedi mynd i’r gwellt.

Gwelwyd ton o uno ar ôl yr haf hwn o brotestio cymdeithasol. Yn wir, roedd cyflymder trefnu llafur wedi cynyddu ychydig flynyddoedd ynghynt. Er enghraifft, yn 2010, roedd yr Histadrut wedi sefydlu uned bwrpasol i drefnu, ond yr hyn a oedd yn gwahaniaethu llawer o’r trefnu yn ystod ac ar ôl y brotest oedd cydnabyddiaeth ymhlith cyfranogwyr eu bod yn sianelu’r dyheadau a’r egni a ryddhawyd yn 2011 i fframweithiau sefydledig, cyfreithlon, wedi’u hangori mewn deddfwriaeth.

“Roedd yr ‘hen’ sefydliadau undebol yn cael eu hamau o hyd, a chychwynnwyd llawer o sefydliadau newydd er mwyn eu herio o’r tu allan neu eu newid o’r tu mewn.”

Fodd bynnag, roedd cydnabyddiaeth glir y gallai dyheadau eang y mudiad cymdeithasol gymryd ffurf gadarn ac ymarferol o fewn y fframweithiau presennol hyn. 

(Ail-) ddarganfod

Diben y ddwy enghraifft hyn yw bod y fframweithiau llafur ar y cyd a’r sefydliadau sy’n weddill o oes flaenorol yn cael eu defnyddio ar gyfer pethau newydd. Nid yn unig yn ystyr dadl Streeck yn 2006, o “ddarnau sy’n cael eu defnyddio o hyd, fel adfeilion henebion, trwy gael eu troi’n ddibenion newydd, llai mawreddog” – ond i’r gwrthwyneb yn llwyr mewn rhai ffyrdd.

Mae eu potensial radicalaidd yn cael ei (ail-) ddarganfod. Yn bwysicaf oll, mae’r ffordd y mae’r gweithle wedi dod yn faes ar gyfer galwadau cymdeithasol ehangach, a’r ffordd y mae cysylltiadau llafur corfforedig wedi cael eu chwalu i alluogi pobl nad ydynt yn ddinasyddion i gymryd rhan, yn dangos potensial undebaeth ar gyfer cyffredinoliaeth ddiriaethol sy’n ymestyn (neu o leiaf yn ddechrau ymestyn) y tu hwnt i “brosiectau cynhwynolwyr o adnewyddu cenedlaethol” yng ngeiriau Lombardozzi a Pitts

Fel y dangoswyd yn helaeth gan rai o’r ymgyrchoedd llafur yn Israel dros y pum mlynedd diwethaf (yn enwedig streic y gweithwyr cymdeithasol, mae undebaeth yn gallu cwmpasu gweledigaeth radical o gymdeithas, ond un sydd wedi’i hangori mewn ymarfer gwleidyddol diriaethol, gan ymgysylltu â’r byd cymhleth iawn o bryderon yn y gweithle ar hyn o bryd, wrth feithrin gallu i weithredu ar y cyd a brwydro o’r gwaelod i fyny.

Yn eu hoes aur, honnodd nifer o symudiadau llafar fod ganddynt lais cyffredinol.

Mae fframweithiau unoliaethol yn gallu croesawu galluedd fel delfryd, gan frwydro yn erbyn gweledigaethau penderfyniaethol dyfodol a yrrir gan dechnoleg. Gall undebaeth weithio o fewn syniadaeth gyffredinol o hawliau ond eto, gallant osgoi cyffredinoliaeth ffug trwy rymuso’r unigolyn ac ymdrechu am ddinasyddiaeth gysylltiedig.

“Yn eu hoes aur, honnodd nifer o symudiadau llafar fod ganddynt lais cyffredinol. Hyd yn oed wrth i ni gydnabod y bylchau amlwg yn yr hawliad hwnnw, gallwn barhau i gymeradwyo’r dyhead a’r ewyllys gwleidyddol. Gallant ddyheu am wneud hynny eto.”

Nid wyf am orbwysleisio’r newidiadau yng nghysylltiadau llafur Israel – dim ond dechrau rhywbeth sydd â’r un potensial yw hyn. Yn benodol, mae problemau cenedlaetholdeb yn amlwg o hyd yn achos Israel, ac nid yw dyfarniad yr Uchel Lys yn golygu bod pawb yn derbyn hawl y Palestiniaid i gysylltiadau llafur ar y cyd ar sail cyfraith lafur Israel – heb sôn am gofio eu hawl i gymryd rhan yn ffurflywodraeth Israel.

Ond yn yr holltau yng nghysylltiadau llafur corfforedig, a oedd unwaith yn cyd-ffinio â syniadaeth unigryw cenedl, rydym yn gweld arwyddion cyntaf syniadaeth radical o undod. Dylai hyn fod yn ymateb i weledigaethau anwleidyddol a phenderfynol cymdeithasau ôl-waith mewn dyfodol ôl-gyfalafol.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar Futures of Work, gyda diolch i Dr Assaf Bondy, Prifysgol Jerusalem Hebrew am ei sylwadau ar ddrafft blaenorol.  

Mae Dr Jonathan Preminger yn ddarlithydd cysylltiadau gwaith a llafur yn Ysgol Busnes Caerdydd. Cyhoeddwyd ei lyfr, Labor in Israel: Beyond Nationalism and Neoliberalism gan ILR Press, argraffiad Cornell University Press, yn 2018.