Skip to main content

Entrepreneuriaeth

Agwedd gymdeithasol mentergarwch

21 Ionawr 2019
Enwebwyd Yaina Samuels (ar y dde) gan Dr Shumaila Yousafzai (ar y chwith) i fod yn un o Entrepreneur Preswyl Ysgol Busnes Caerdydd yn 2017.

Yn rhifyn diweddaraf ei log ar y we, mae Yaina Samuels yn sôn am ei blwyddyn gyntaf yn un o Fentergarwyr Preswyl Ysgol Busnes Caerdydd, lle mae hi wedi ysgogi’r to nesaf o arweinyddion busnes cymdeithasol.

Dechreuodd hyn pan rois i gyflwyniad am gamddefnyddio cyffuriau a NuHi Training gerbron dosbarth o fyfyrwyr cwrs MSc Strategaethau Busnes a Mentergarwch.

Roedd Shumaila Yousafzai wedi fy ngwahodd yno i’w helpu i dynnu sylw myfyrwyr at fath gwahanol o fusnes, sef menter gymdeithasol.

Gwyddai na fyddai fy math o fenter gymdeithasol yn hysbys i’w myfyrwyr, yn ôl pob tebyg – er gwaetha’r ffaith eu bod yn fentergarwyr naturiol.

Felly, dechreuon ni gyflwyno manteision ffordd wahanol o weithio iddyn nhw. Ffordd a allai fod o les i gymunedau’r byd.

“Agwedd gymdeithasol mentergarwch yw fy nisgrifiad ohoni. Codi ymwybyddiaeth o bethau megis cyfrifoldebau moesegol, cymdeithasol a chynhaliol ymddygiad ac arferion masnachol.”

Yn sgîl hynny, aeth ein perthynas o nerth i nerth ac enwebodd Shumaila fi ar gyfer Cynllun Mentergarwyr Preswyl Ysgol Busnes Caerdydd.

Hanes o fyw ar chwâl

Sefydlais NuHi o ganlyniad i’m profiad o fod yn gaeth i gyffuriau.

Cefais fy magu mewn teulu camweithredol iawn, a gwn i bellach fod trais yn y cartref hwnnw wedi amharu ar fy natblygiad yn blentyn. Amharodd hynny yn ei dro ar fy natblygiad yn yr ysgol trwy fy rhwystro rhag cyflawni fy llawn dwf academaidd.

Byddwn i’n rhedeg bant yn aml, a byddai rhaid i’r gwasanaethau cymdeithasol ddod o hyd i mi. Daeth yn ormod yn y diwedd, ac fe dreuliais i dipyn o amser mewn amryw gartrefi i blant.

Torri cadwyn bod yn gaeth.
Yaina yn ei 20au, swyddog o
dan hyfforddiant ym maes
tai i bobl groenddu Caerdydd.

Chymerodd neb gyfle i’m holi: ‘Yaina, beth sy’n digwydd i ti?’

Pan adawais i’r cartref i blant ar ôl troi’n 16 oed, doedd dim medrau sylfaenol gyda fi – roeddwn i’n blentyn eithaf bregus o hyd, mewn gwirionedd.

Roeddwn i’n chwilio am ymdeimlad o berthyn ac fe ddes o hyd iddo ymhlith pobl oedd wedi profi amgylchiadau tebyg: pobl heb gartref, pobl wedi’u cam-drin tra oedden nhw’n ifanc, pobl oedd yn dibynnu ar alcohol ac ati.

Roedd rhai ohonyn nhw’n defnyddio cyffuriau.

Roeddwn i wedi addo na fyddwn i byth yn cymryd cyffuriau. Ond fe ddigwyddodd. Ac fe roes ryddhad imi. Rhyddhaodd fy meddwl rhag atgofion am yr hyn oedd wedi digwydd yn ystod fy mhlentyndod. Fel na fyddai rhaid imi ystyried pa mor wael oedd fy mywyd.

Roeddwn i’n gaeth i heröin am 15 mlynedd yn sgîl hynny.

Nes imi droi cornel.

Dechreuais i raglen driniaeth trwy fethadôn, gan wneud gwaith gwirfoddol pryd bynnag y byddai modd yn sgîl cydnabod nad oedd llawer o hyder na hunan-barch gyda fi.

Arweiniodd hynny at fy swydd gyntaf yn swyddog dan hyfforddiant dros faterion tai pobl groenddu.

“Ac yna, dechreuodd fy ngyrfa.”

Cyfres o gyfleoedd

Doeddwn i erioed wedi sôn am fy nghefndir wrth neb am fod cywilydd arnaf i. Gwelais i hysbyseb, fodd bynnag, ar gyfer swydd mewn prosiect cyffuriau lle y byddai profiad o fod yn gaeth i gyffuriau o fantais. Felly, disgrifiais i’r hanes hwnnw – yn fy nghais – am y tro cyntaf yn fy einioes.

Roedd clywed rhywun yn ystod y cyfweliad yn fy nghanmol am fod yn agored ac yn onest, ac yn fy ngwerthfawrogi am fy mhrofiad, yn drobwynt i mi. Roedd yn brofiad rhyddhaol.

Cefais y swydd.

Dechreuais i feithrin medrau a gwybodaeth, ac adnabod fy mhrofiadau ym mywydau pobl eraill.

Dechreuais i gredu ynof fy hun am y tro cyntaf erioed, mewn gwirionedd.

Daeth cyfres o gyfleoedd lle y gallwn i rannu fy mhrofiad o roi’r gorau i gyffuriau. Helpodd fi i weld bylchau yn y gwasanaethau dros faterion cyffuriau. Roeddwn i’n anfodlon ar y rhaglenni fyddai’n cadw pobl ar fethadôn (sgriptiau cynnal a chadw, fel y’u gelwir) neu’n gofyn iddyn nhw helpu pobl eraill oedd yn gaeth i gyffuriau neu alcohol.

Os dim ond ers rhai misoedd neu flynyddoedd rydych chi wedi rhoi’r gorau i gyffuriau, fydd dim modd ichi helpu rhywun ac arno wynt alcohol neu olion camddefnyddio cyffuriau. Mae’n cynyddu’r perygl o lithro’n ôl.

“Fe ddes i’r casgliad bod angen ffordd amgen. Rhaid dod o hyd i ffordd o ddefnyddio medrau cyn-ddefnyddwyr i helpu pobl eraill i wella.”

Felly, yn 2010, lluniais NuHi. Mae’r enw wedi sbarduno fy siwrnai. Mae’n ymwneud â mwynhau addysg a hyfforddiant yn lle cyffuriau. Mwynhad a gwefr naturiol o ganlyniad i gyflawni camp academaidd neu gymdeithasol.

Penderfynais wneud NuHi yn fenter gymdeithasol fel y gallai ei chynnal ei hun. Roeddwn i am iddi fod yn fusnes a fyddai’n codi incwm y gallen ni ei ddefnyddio i feithrin medrau cyn-ddefnyddwyr yn y gymuned.

Rydyn ni’n llunio ac yn cyflwyno hyfforddiant sydd ar werth i weithluoedd a’r gymuned ehangach. Defnyddir yr incwm i feithrin medrau’r gweithwyr gwirfoddol gan gryfhau eu hyder a’u hunan-barch yn ogystal â helpu’r busnes i dyfu.

Cael effaith

Wyth mlynedd wedyn, a dyma fi’n un o Fentergarwyr Preswyl Ysgol Busnes Caerdydd.

Ar ôl fy enwebu, gofynnodd Shumaila imi feddwl am y gweithgareddau y gallai ei myfyrwyr gymryd rhan ynddyn nhw yn ystod cwrs MSc Strategaethau Busnes a Mentergarwch.

Roedd hi am imi roi cyfle iddyn nhw adael eu hôl ar rai o’r prosiectau rwyf i wedi’u cynnal dros y blynyddoedd ers sefydlu NuHi.

Daeth y Children’s Recovery Foundation (TCRF) yn Sierra Leone i’m cof yn syth.

Mae TCRF yn gartref i ryw 300 o blant amddifad ifanc a gollodd eu rhieni yn ystod Argyfwng Ebola yn 2014. Roedd llawer yn byw ar y strydoedd cynt. Yn eu plith, rhai mor ifanc â thri a phedwar oed.

Helping the Vulnerable Children of Sierra Leone’ oedd enw’r mudiad yn wreiddiol.

Mae rhai o’m cefndryd yn byw yn Sierra Leone ac oherwydd y cysylltiadau hynny, bydda i’n ymweld â’r wlad nifer o weithiau bob blwyddyn i gyflawni gwaith ym mhentref Waterloo. Ar ôl gweld hynny, anfonodd y mudiad neges ataf i trwy gyfryngau cymdeithasol. Ar y dechrau, roeddwn i’n ansicr am fod llawer o bobl wedi anfon negeseuon ataf i trwy Facebook, Twitter ac ebost i ofyn am gymorth.

Gwerthoedd teuluol. Yaina gyda ei chefndryd ym mhentref Waterloo, Sierra Leone.

Parhaodd y mudiad hwnnw i anfon negeseuon, fodd bynnag. Felly, penderfynais ddysgu rhagor amdano. Edrychais ar ei ffordd o weithio – a oedd yn gweithredu’n briodol ac ati. Ymwelais â’r cartref i blant amddifad am y tro cyntaf yn 2017, a chwrdd â’r staff a’r plant.

A dyna lle dechreuodd y berthynas.

Wrth i’n gwaith ddatblygu, penderfynon ni ailenwi’r mudiad fel a ganlyn: ‘The Children’s Recovery Foundation, Sierra Leone’.

“Trwy NuHi, roeddwn i wedi dysgu bod pawb wedi profi chwalfa ar ryw adeg – boed argyfwng teimladol/corfforol, bod yn gaeth i gyffur, cam-drin, iechyd cyffredinol neu iechyd y corff.”

Yr awydd i helpu pobl i wella oedd wrth wraidd fy ffordd o weithio yn y Deyrnas Gyfunol a Sierra Leone, mewn gwirionedd.

Golwg newydd

Trwy fod yn un o Fentergarwyr Preswyl Ysgol Busnes Caerdydd, fe ges i gyfle i atgyfnerthu fy ngwaith gyda TCRF o dipyn.

Gofynnais i fyfyrwyr MSc Shumaila ysgrifennu strategaethau busnes ar gyfer y mudiad. Strategaeth codi arian oedd y naill, a strategaeth farchnata a hyrwyddo oedd y llall. Roedd yn dda gyda nhw gydio yn y prosiect.

Yr elfen fwyaf cofiadwy i mi yw eu hadwaith wrth siarad â staff a phlant y cartref trwy gyswllt fideo. Ar ben hynny, roedd y mentora yn brofiad mor arbennig.

“Gallai’r myfyrwyr weld a theimlo’r effaith y bydden nhw’n ei hwyluso o ganlyniad i’w cyfraniadau at waith TCRF.”

Yn ogystal â’u cyfraniad academaidd, codon nhw tua £500 trwy werthu teisenni a chynnal amryw weithgareddau ac achlysuron yn yr ysgol.

Anfonwyd yr arian at staff TCRF i’w galluogi nhw i brynu dillad ac offer. Mae gyda ni luniau o’r plant wrthi’n dewis llyfrau, bagiau ac esgidiau a brynwyd â’r arian a gododd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

“Yn yr ysgol.” Rhai o blant amddifad TCRF yn Ysgol Seren, Sierra Leone. Ie, enw Cymraeg sydd ar yr ysgol.

Mae’r math hwnnw o dystiolaeth yn amhrisiadwy!

Trwy’r broses honno, dechreuodd y myfyrwyr ddeall gwerth mentrau cymdeithasol, cyfrifoldeb cymdeithasol busnesau a’r modd y gall buddsoddi wella’r gymdeithas.

Roedden nhw’n gallu gweld gwerth cyhoeddus canlyniadau eu hymdrechion.

Ac mae’r profiad wedi bod o les i mi, hefyd. Mae myfyrwyr wedi dod â syniadau eithaf caeth o ran y math o fusnes yr hoffen nhw ei ddilyn ar ôl graddio. Rwyf i wedi ceisio dangos ffordd wahanol iddyn nhw trwy’r profiad hwn.

Mae gwerth enfawr wedi’i ychwanegu at eu bywydau o safbwynt gwybodaeth a phrofiad. Gan eu bod yn gweld bellach nad dim ond ag elw mae busnes yn ymwneud. Gall pawb a chanddo gwmni llwyddiannus roi peth arian yn ôl i’w gymuned – a dylai wneud hynny. O ganlyniad i gysylltu’r syniadau hynny â’i gilydd trwy fentrau megis NuHi a TCRF, mae llygaid y myfyrwyr wedi’u hagor i bosibiliadau newydd.

Ymateb i’r her. Mae ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd yn cyfrannu at yr economi a’r gymdeithas trwy roi moeseg a chyfrifoldeb cymdeithasol ar waith.

Rwy’n hyderus ynghylch sut y byddan nhw’n rhoi hynny ar waith yn y byd masnachol ar ôl graddio.

Tair blynedd yw cyfnod mentergarwr preswyl. Mae’r flwyddyn gyntaf yn ymwneud â dysgu am y rôl. Ar adegau, rwyf i wedi fy holi hun fy a yw hyn yn freuddwyd am ei bod yn gamp i mi, yn arbennig yng ngoleuni’r ffaith nad ydw i’n ysgolhaig o gwbl.

Rwyf i wedi fy ngweld fy hun o safbwynt gwahanol, fodd bynnag. Er y gallwn i ymddangos yn un hyderus, mae tipyn o loes ac ansicrwydd ynof i o hyd.

Byddai Shumaila yn dweud: “Mae dy waith di mor arbennig. Mae angen iti ddechrau credu ynot dy hun.”

Felly, mae’r swydd hon wedi rhoi sêl bendith ar fy ngwaith a’m profiad hyd yma, mewn gwirionedd. O ganlyniad, rwy’n meddwl, “Wow! Os ydyn nhw’n ymddiried ynof i, efallai y dylwn i ddechrau gwneud yr un fath, hefyd!”

Sylfaenydd a Phrif Weithredwr NuHi Training, ac un o Fentergarwyr Preswyl Ysgol Busnes Caerdydd, yw Yaina Samuels.

Mae’r Dr Shumaila Yousafzai  yn Ddarllenydd Mentergarwch yn Ysgol Busnes Caerdydd.