Skip to main content

Iechyd a Lles

Blwyddyn Newydd, yr un hen Winnie

14 Ionawr 2019
Mae Winnie yn un o wirfoddolwyr cymeradwy elusen Pets as Therapy ac mae hi wrth ei bodd gyda phobl

Yn rhifyn cyntaf 2019 ei log ar we, mae Denise Brereton yn disgrifio’r effaith fuddiol ar ei gwaith yn ymgynghorydd cynorthwyo myfyrwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd ar ôl cofrestru’n wirfoddolwr i elusen Pets as Therapy.

Dyma Winnie. Mae hi’n ast ddwy flwydd oed – hanner Shih Tzu a’r gweddill yn anhysbys er bod ei pherchennog, Kate Daunt, o’r farn bod peth Bichon Frise ynddi yn ôl pob tebyg.

Mabwysiadodd Kate Winnie o ganolfan Many Tears Animal Rescue yn y deheubarth ar ôl i’r fam (oedd wedi’i gadael yno yn feichiog) esgor ar ddau genau – un trig a Winnie fach.

Yn wir, roedd Winnie yn fach iawn o’r dechrau ac yn pwyso ond 4.8 cilo bellach er ei bod wedi tyfu’n llawn.

“Mae hi’n un o’r cŵn mwyaf dymunol eu natur ar wyneb y ddaear. Mae hi’n hoffi pawb. Hen ac ifanc. Ac mae hi’n mwynhau ei gwaith dros Pets as Therapy (PAT) yn fawr.”

Trwy’r elusen honno rydyn ni, yn Ysgol Busnes Caerdydd, yn adnabod Winnie.

Mae PAT yn elusen ledled y Deyrnas Gyfunol – ei nod yw gwella iechyd a lles yn y gymuned trwy ymweliadau gwirfoddolwyr cymeradwy ynghyd ag anifeiliaid mae’u hymddygiad wedi’i asesu.

Maen nhw’n ymweld â sawl math o leoedd ledled y deyrnas megis ysbytai, hosbisau, cartrefi gofal ac ymgeledd, ysgolion anghenion arbennig ac unrhyw gylchoedd a allai elwa trwy ymweliad cyfaill blewog.

Mae PAT yn cynnig ymweliadau gwellhaol i amryw
sefydliadau ledled y deyrnas

Dechreuodd Winnie a Kate waith gwirfoddol fis Rhagfyr 2017 ar ôl i’r elusen asesu natur Winnie ac ymchwilio i gefndir Kate.

Fel llawer o wirfoddolwyr PAT, dechreuodd Winnie trwy ymweld â chartrefi gofal nes i Kate awgrymu y gallai hi fy helpu i gynnig cymorth i fyfyrwyr yr ysgol hon, hefyd.

Roeddwn i’n awyddus iawn i fanteisio ar hynny! Roeddwn i wedi darllen llawer am effaith wellhaol ymweliadau anifeiliaid â chleifion, hen bobl, pobl ac arnynt anawsterau dysgu neu’r rhai sydd wedi bod trwy brofiad erchyll. Gallwn i deimlo cyswllt cryf rhyngom ni, hefyd.

Ar ôl cofrestru’n un o wirfoddolwr cymeradwy PAT, dechreuais ymweliadau Winnie bob dydd Mercher fis Hydref y llynedd.

Rydyn ni’n ffodus iawn bod ymgynghorydd cynorthwyo myfyrwyr yn yr ysgol hon. Fi yw’r brif ddolen gyswllt â myfyrwyr sy’n gofyn am gyngor ynghylch amryw faterion megis ffioedd ac ariannu, teithebau, tai, cwnsela, iechyd a lles y meddwl neu unrhyw anawsterau eraill a allai fod yn berthnasol i fyfyrwyr.

Dyma Winnie yng ngwisg coblyn Nadolig gyda
myfyrwyr fis Rhagfyr 2018

Yn yr ysgol, bydd Winnie yn galluogi myfyrwyr i fynegi eu pryderon a’u teimladau mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol. Ar ôl cwrdd â mi gyda Winnie, gall rhai myfyrwyr ofyn am gyfarfod mwy ffurfiol wedyn i drafod eu sefyllfaoedd.

Mae Winnie wedi ymweld bob dydd Mercher ers mis Hydref a chwrdd â’r myfyrwyr yng nghanolfan dysgu’r ôl-raddedigion yn ystod amser cinio. Mae ymateb y myfyrwyr wedi bod yn wych a bydd Winnie yn cwrdd â 20 – 30 bob tro, fel arfer.

Daw myfyrwyr sy’n gweld eisiau eu hanifeiliaid anwes eu hunain am gwtsh, gair bach neu ffoto.

Mae presenoldeb Winnie yma bob dydd Mercher wedi tynnu sylw at waith ymgynghorydd yr ysgol a rhoi’r gwasanaeth ar gael i amrywiaeth helaeth o fyfyrwyr brodorol a rhyngwladol.

Mae ymateb pob un o’r myfyrwyr sydd wedi cwrdd â Winnie wedi bod yn dda iawn – mae llawer wedi dweud ei bod yn wych ei chael yn y swyddfa neu’r ganolfan a’u bod yn edrych ymlaen at ei gweld bob wythnos.

Mae llawer o fyfyrwyr wedi dweud eu bod yn fwy bodlon o dipyn ar ôl cwrdd â Winnie ac, wrth gwrs, mae hynny o les iddyn nhw. Mae presenoldeb Winnie gyda fi wedi’n galluogi i chwalu’r muriau a allai rwystro myfyrwyr rhag cael gafael ar gymorth weithiau.

Mae iechyd a lles yn rhan bwysig o hyn, wrth gwrs. Mae llawer o sylw ar iechyd a lles ym maes addysg uwch ar hyn o bryd. Mae iechyd a lles yn hanfodol am y bydd myfyrwyr bodlon ac iach yn astudio’n well. Fe wnewch chi bopeth yn well, mewn gwirionedd.

Mae’r myfyrwyr a’r staff fel ei gilydd yn edrych ymlaen at weld Winnie ar ddydd Mercher

Os gall Winnie a mi helpu i hwyluso hynny er lles ein myfyrwyr, byddwn ni ar ein hennill (a bydd cyw iâr am ginio yn wobr i Winnie)!

Mae’r ysgol wedi elwa’n fawr trwy fod ar flaen y gad ynghylch Winnie a PAT, ac rydyn ni’n falch o fod yr unig ran o’r Brifysgol sy’n cynnig cymorth o’r fath i fyfyrwyr.

Gallwch chi gwrdd â mi a Winnie fel arfer ar ddydd Mercher yng nghyntedd Canolfan Dysgu’r Ôl-raddedigion neu yn Swyddfa’r Cymorth i Fyfyrwyr, Ystafell P24, Adeilad Aberconwy. Mae’r oriau gwaith ar y drws.

Ymgynghorydd Cynorthwyo Myfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd yw Denise Brereton.

Athro Marchnata Ysgol Busnes Caerdydd yw Kate Daunt.