Skip to main content

Gwerth cyhoeddus

Ysgol busnes y gwerth cyhoeddus

11 Rhagfyr 2018
Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn sefydliad eithaf mawr ac ynddo 200 o ysgolheigion a thua 4,000 o fyfyrwyr.

Yn ein darn diweddaraf, siaradodd yr Athro Martin Kitchener â staff Your Public Value, sefydliad annibynnol ym Merlin, i esbonio sut a pham y penderfynodd Ysgol Busnes Caerdydd arddel strategaeth sy’n hybu datblygu cymdeithasol ac economaidd.

Dechreuodd hyn chwe blynedd yn ôl pan ges i fy mhenodi’n Ddeon Ysgol Busnes Caerdydd am imi ganolbwyntio ar bennu strategaeth eglur i’r ysgol.

Fe welais i lyfr gan yr Athro John Brewer, Prifysgol y Frenhines, Belfast, o’r enw The Public Value of the Social SciencesAn Interpretative Essay. Wrth ei ddarllen, dechreuais i feddwl am hanfod ysgol fusnes ynghylch gwerth cyhoeddus.

Dros y ddwy flynedd wedyn, lluniais i strategaeth ar y cyd â staff yr ysgol a’r brifysgol ehangach yn ogystal ag amrywiaeth helaeth o bobl allanol megis cyflogwyr a gwleidyddion.

“Mae tua 13,500 o ysgolion busnes yn y byd a, hyd yn ddiweddar, roedd tuedd i ddathlu amrywiaeth o ddelfrydau a dulliau yn un o gryfderau’r diwydiant.”

Erbyn hyn, fodd bynnag, hoffai sawl llywodraeth, corff diwydiannol ac asiantaeth achredu yn y Gorllewin i ysgolion busnes fod yn fwyfwy tebyg trwy hybu delfryd cul o werth budd-ddalwyr a gweithredu’n beiriannau economaidd lleol.

Mae’n dull ni yn wahanol. Rydyn ni’n derbyn yn llwyr y dylai ysgolion busnes gyfrannu’n economaidd at y prifysgolion sy’n rhoi cartref iddyn nhw, at economi’r ardal ac economi’r wlad – ond mae eu cyfrifoldeb yn ehangach na hynny.

Ddylen ni ddim dysgu’r myfyrwyr mai cynhyrchu cyfoeth economaidd yw eu hunig gyfrifoldeb. Mae cyfrifoldebau eraill arnyn nhw, hefyd.

Hoffai sawl llywodraeth, corff diwydiannol ac asiantaeth achredu yn y Gorllewin i ysgolion busnes fod yn fwyfwy tebyg trwy hybu delfryd cul o werth budd-ddalwyr a gweithredu’n beiriannau economaidd lleol.

YPV: Mae trafodaeth Compact Byd-eang y Cenhedloedd Unedig yn pwysleisio bod modd i gwmnïau dyfu trwy arddel cynaladwyedd ac y dylid disgwyl i ysgolion busnes ddilyn yr un trywydd a rhoi arweiniad i’r perwyl hwnnw.

Yn wir, mae’n ddiddorol bod llawer o ysgolion busnes yn hybu cynaladwyedd a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol heb lunio eu strategaethau cynaladwyedd eu hunain na gweithredu yn ôl dulliau hunanlywodraethu arloesol.

Mae Ysgol Busnes Caerdydd yn sefydliad eithaf mawr ac ynddo 200 o ysgolheigion a thua 4,000 o fyfyrwyr.

Rydyn ni’n cydnabod bod gyda ni gyfle i ddysgu a chynnal ymchwil mewn ffordd wahanol yn ogystal â’n cyflwyno ein hunain yn esiampl i’w hefelychu o ran llywodraethu trwy weithio yn ôl yr egwyddorion rydyn ni’n eu hybu ym maes gwerth cyhoeddus.

“Caerdydd yw’r ysgol fusnes gyntaf i ddatgan yn benodol mai hwyluso’r gwerth cyhoeddus yw ei diben. Dyma ein ffordd unigryw o weithredu.”

Rydyn ni yma i hybu gwerth cyhoeddus trwy ein haddysgu, gan helpu pobl i’w ddeall yn well trwy ein hymchwil, yn ogystal â’i roi ar waith yn y modd rydyn ni’n llywodraethu ein sefydliad ein hunain.

Mae gwerth cyhoeddus wrth wraidd popeth a wnawn ni. Mae’n wahanol i ddysgu cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol i rai graddedigion mewn modiwl.

YPV: Pa statws a rowch chi i ddiogelu’r amgylchedd yn eich dealltwriaeth o’r gwerth cyhoeddus?

Ein barn yw bod diogelu’r amgylchedd yn rhan o’r gwerth y gall sefydliad ei gynnig i’n cymdeithas ni.

Rydyn ni’n cynnal ymchwil sy’n ystyried agweddau ar gynaladwyedd ac rydyn ni wedi dechrau llunio adroddiadau blynyddol am ein cynaladwyedd ni.

Rydyn ni wedi mesur faint o garbon mae’r ysgol yn ei greu. Byddwn ni’n ymrwymo i gwtogi arno dros y deng mlynedd nesaf.

Mae hynny wedi bod yn ymestynnol – cyhoeddi adroddiad am gynhyrchu carbon, a dysgu wedyn na fydd yn hawdd datrys ein problem fwyaf!

YPV: Ydych chi’n bwriadu cadw at hynny o hyn ymlaen?

Ydyn – bydd adroddiad bob blwyddyn.

Y canlyniad gawson ni yw ein problem. Roedden ni’n tybio mai teithio gan yr ysgolheigion fyddai’n creu’r rhan fwyaf o’n carbon ni.

Ond teithio’r myfyrwyr rhyngwladol yw’r broblem: Mae tua 90% o’r 1,300 o ôl-raddedigion sydd yn Ysgol Busnes Caerdydd wedi dod o Asia, a’u teithio nhw yw effaith amgylcheddol fwyaf ein hysgol.

“Daw cwestiwn diddorol yn sgîl hynny: Beth y gall sefydliad ei wneud os ei ffynhonnell incwm fwyaf sy’n creu’r rhan fwyaf o’i garbon?”

Mae hynny wedi bod yn ymestynnol – cyhoeddi adroddiad am gynhyrchu carbon, a dysgu wedyn na fydd yn hawdd datrys ein problem fwyaf!

Nid dim ond trwy ofyn i’r myfyrwyr a’r darlithwyr ddiffodd goleuadau y daw’r ateb.

YPV: Oes gennych chi ateb i’r broblem hon?

Dim eto. Byddwn ni’n parhau i dderbyn myfyrwyr o dramor achos bod cymuned amryfal ei natur yn un o gryfderau’r ysgol.

Dyma gyfyng-gyngor y bydd sawl ysgol fusnes yn ei wynebu ar ôl dechrau ei harchwilio ei hun!

Mae’n myfyrwyr yn deall y broblem yn dda am eu bod yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cyfrifoldeb cymdeithasol ac yn fodlon derbyn syniadau newydd yn aml.

YPV: Mae amryw ddata’n dweud bod llai na 10% o gorfforaethau’r byd yn gweithredu yn ôl dull gwerth cyhoeddus. Allwch chi awgrymu unrhyw ffyrdd o gyrraedd y lleill?

Mae o leiaf ddwy ffordd: Trwy addysg a thrwy reoleiddio.

Rydyn ni wedi mabwysiadu ein dull ni o’n gwirfodd gan gydnabod bod mwy a mwy o ddisgwyl i bob ysgol fusnes ailwerthuso ei thrwydded ynghylch cydweithredu â’r gymdeithas.

Mae rhai pobl bellach yn cwestiynu diben ysgolion busnes, ac mae eraill yn mynnu eu cau nhw i gyd. Rydyn ni o’r farn ei bod yn bryd i ysgolion busnes fod yn eglur am eu gwerth i’r gymdeithas, a’n gobaith yw y gallai ein dull fod yn enghraifft i eraill.

O fethu ag ateb y feirniadaeth, dylen ni ddisgwyl y bydd ysgolion busnes yn wynebu ymdrechion i’w rheoleiddio’n llymach a’u cau, hyd yn oed.

Mae dull y gwerth cyhoeddus yn gwbl groes i feddylfryd y rhan fwyaf o ysgolion busnes Gogledd America.

YPV: Sut y gallwn ni ofalu y bydd eich myfyrwyr – y to nesaf o fasnachwyr – yn cynrychioli buddiannau’r bobl yn briodol ac yn diogelu’r gwerth cyhoeddus ar ôl gadael yr ysgol?

Rydyn ni’n ceisio meithrin yn eu plith ddychymyg cydymdeimladol ac ymdeimlad moesol tuag at wella cymdeithasol ac economaidd.

Beth bynnag y byddan nhw’n ei wneud wedyn – boed reoli cronfa neu gynnal mudiad yn y trydydd sector – bydd rhaid hwyluso hyfywedd ariannol yn ogystal â chofio bod eu cyfrifoldeb yn ymestyn y tu hwnt i hynny.

Mae dull y gwerth cyhoeddus yn gwbl groes i feddylfryd y rhan fwyaf o ysgolion busnes Gogledd America sy’n mireinio greddfau cyfalafiaeth yn eu myfyrwyr gan gyfleu’r neges mai creu cyfoeth er lles eu cyfranddalwyr yw unig gyfrifoldeb cwmnïau – a hynny ar draul popeth arall.

“Ein neges i’n myfyrwyr ni yw cynhyrchu’r gwerth cyhoeddus yn ogystal â chyfoeth ariannol.”

Athro Materion Rheoli a Pholisïau’r Sector Cyhoeddus yn Ysgol Busnes Caerdydd yw Martin Kitchener.

Mae’n gymrawd gwadd yn Ysgol Busnes Said a Choleg Harris Manchester, Prifysgol Rhydychen, ar hyn o bryd.

Cyhoeddwyd y cyfweliad hwn yn wreiddiol ar wefan Your Public Value.

Mae Your Public Value yn gorff annibynnol sydd newydd gael ei sefydlu ym Merlin – ei nodau yw hybu’r gwerth cyhoeddus, llywodraethu da a gonestrwydd er ymddiried rhwng llywodraethau, y byd masnachol a’r gymdeithas.