Skip to main content

Rheolaeth Ryngwladol

Jair Bolsonaro: sut bu’r elîtau busnes yn ei helpu i ddod i rym ym Mrasil – a pham byddan nhw’n edifar o bosib

30 Tachwedd 2018
Daeth Bolsonaro i’r amlwg o gefndir cymharol ddi-nod. Gan ddefnyddio tacteg tebyg i Donald Trump, gwnaeth sylwadau gwarthus, a amlygwyd gan y cyfryngau cymdeithasol, i gyfrannu at ofnau ynghylch trais dinesig, dinistrio gwerthoedd moesol “traddodiadol” a’r teulu, a llygredd cynhenid y sefydliad ym Mrasil.

Yn ein postiad diweddaraf, mae Dr Heike Doering yn esbonio sut mae elît busnes Brasil wedi dylanwadu ar wleidyddiaeth y wlad.  Mae ei gwaith ymchwil gyda’i chydweithwyr, yr Athro Glenn Morgan, o Brifysgol Bryste, a Dr Marcus Gomes, Prifysgol Caerwysg, yn datgelu i ba raddau mae baromedr gwleidyddol Brasil wedi symud o ben pellach yr asgell chwith i ben pellaf yr asgell dde ers 2002.

Mae Brasil newydd brofi un o’r etholiadau mwyaf  pwysig a dadleuol ers diwedd cyfnod y wlad o dan unben milwrol, rhwng 1964 ac 1985. Cynhaliwyd yr etholiad arlywyddol cyntaf ers i Dilma Rousseff gael ei huchelgyhuddo yn 2016yn erbyn cefndir o gythrwfl gwleidyddol ac economaidd. Profodd hynny’n dir ffrwythlon ar gyfer yr enillydd – y poblogydd ceidwadol, asgell dde eithafol,  Jair Bolsonaro.

Soniwyd llawer am rethreg Bolsonaro, sydd mor debyg i Trump ac yn tynnu’n groes i’r sefydliad, yn ogystal â’i agwedd sarhaus at hawliau lleiafrifoedd, a drawodd dant gyda phoblogaeth oedd yn teimlo wedi’i dadrithio fwyfwy gyda gwleidyddiaeth. Ond llwyddodd Bolsonaro hefyd i sicrhau cefnogaeth elît busnes Brasil, sydd â hanes hir o ddylanwadu ar wleidyddiaeth yn y wlad.

Rydym ni wedi ymchwilio i sut mae elît busnes y wlad wedi bod yn ceisio dylanwadu ar wleidyddiaeth Brasil ers 2002, gan arwain at y gefnogaeth ddiweddar i Bolsonaro.  Ac mae ein canfyddiadau yn cyfrannu rhywfaint at egluro sut mae’r wlad wedi symud mor bell o’r chwith i’r dde mewn cyfnod o ychydig dros ddegawd.

Pan etholwyd Luiz Inácio “Lula” da Silva o Blaid y Gweithwyr (PT) yn arlywydd yn 2002, ysgydwodd y posibilrwydd o gael llywodraeth asgell chwith elît busnes Brasil a chefnogwyr rhyngwladol y wlad.

“Ar y cychwyn, rhoddodd busnesau’r gorau i gynnal economi Brasil trwy fod yn amharod i fuddsoddi, ac arweiniodd hynny at gwymp y farchnad stoc, chwalfa’r arian cyfredol a chynnydd aruthrol yng nghostau benthyg arian y llywodraeth.

O ganlyniad, gorfodwyd Lula i addo lefel uwch o sefydlogrwydd macroeconomaidd i fyd busnes, i reoli chwyddiant, ac i geisio cadw’r ddysgl yn wastad yn ariannol.

Luiz Inácio ochr yn ochr â’r dyn busnes a’r gwleidydd o Frasil, José Alencar.

Bu cydnabod buddiannau busnes fel hyn yn sylfaen ar gyfer cytundeb a barodd beth syndod o bosib rhwng gweinyddiaeth asgell chwith Lula a chymdeithasau busnes grymus.  Nod agenda gymdeithasol ac economaidd Lula, dan yr enw “Datblygiadaeth Newydd”, oedd cefnogi datblygiad cwmnïau amlwladol Brasil trwy ddarparu benthyciadau llog isel trwy fanc y wladwriaeth, BNDES.  Roedd sylwebwyr hyd yn oed yn galw’r polisi economaidd hwn yn “agenda FIESP” (ar ôl y gymdeithas fusnes fwyaf pwerus, Ffederasiwn Diwydiant São Paulo), sy’n dangos pa mor agos oedd y cysylltiadau rhwng busnesau mawr a llywodraeth PT yn ystod y rhan fwyaf o’r 2000oedd.

Er gwaethaf perthynas agos ei lywodraeth â busnes, lansiodd Lula hefyd bolisïau ailddosbarthu fel y “bolsa familia”, oedd yn gwobrwyo teuluoedd tlawd yn ariannol os oeddent yn cadw eu plant yn yr ysgol ac mewn rhaglenni iechyd.  Yn erbyn cefndir cynnydd aruthrol ym mhris nwyddau, cododd incwm yn gyffredinol, ehangodd y dosbarth canol, lleihaodd anghydraddoldeb – a bu cwmnïau mawr Brasil yn ehangu dramor ac yn y farchnad gartref oedd ar gynnydd.

Diwedd y cyfnod braf

Ond yna surodd y berthynas rhwng y llywodraeth asgell chwith a’r busnesau mawr.  O 2012 ymlaen, wynebodd y llywodraeth PT, o dan Rousseff bellach, economi ryngwladol lai ffafriol, oedd yn cael ei llesteirio gan ostyngiad byd-eang ym mhris nwyddau, ffactor oedd yn niweidio allforion Brasil.  Arweiniodd hyn at fwlch cynyddol ym Mrasil rhwng refeniw a gwariant y wladwriaeth, ochr yn ochr â lefelau uchel o fenthyca a bygythiad codi trethi

“Arweiniodd ansawdd gwael gwasanaethau cyhoeddus a phrosiectau seilwaith – gan gynnwys Cwpan Pêl-Droed y Byd yn 2014 a’r Gêmau Olympaidd yn 2016 – a thystiolaeth gynyddol o lygredd ar raddfa fawr ymhlith gwleidyddion o bob plaid, at brotestiadau aruthrol ar y stryd ym mis Mehefin 2018.”

Mae ein gwaith ymchwil yn dangos sut bu i FIESP a’u cefnogwyr yn y cyfryngau, ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth, droi’r protestiadau hyn yn naratif oedd yn rhoi’r bai ar lygredd honedig y PT a’u camreoli ar yr economi.  Daeth FIESP, felly, yn rym allweddol y tu ôl i’r protestiadau cynyddol ar y stryd yn erbyn Rousseff (a’u masgot, hwyaden felen anferth aer).

Mae FIESP yn defnyddio’r hwyaden i brotestio yn erbyn trethi uchel a llygredd honedig y llywodraeth.

Roedd yr hwyaden yn symbol o’r ddihareb “pagar o pato” ym Mrasil (talu’r hwyaden).  Mae’r dywediad yn cyfeirio at dalu’n annheg am gamgymeriadau rhywun arall – yn yr achos hwn, camgymeriadau’r llywodraeth PT.

Er mwyn unioni camau ymddangosiadol PT, roedd agenda newydd FIESP yn canolbwyntio ar leihau’r  “custo Brazil”, cost uchel bywyd a busnes ym Mrasil.  Byddai hynny’n galw am dorri’n ôl ar drethi, hawliadau pensiwn a gwariant arall ar les cymdeithasol, yn ogystal â dileu amrywiaeth o reoliadau amgylcheddol a llafur.  Ac roedd yn apelio i gyfran helaeth o’r boblogaeth.  Arweiniodd yr ymgyrch ar y strydoedd at uchelgyhuddo Dilma Rousseff a’i disodli gan Michel Temer, a ddechreuodd weithredu agweddau ar bolisi newydd FIESP.

Esgyniad Bolsonaro

Daeth Bolsonaro i’r amlwg o gefndir cymharol ddi-nod. Gan ddefnyddio tactegau tebyg i Donald Trump, gwnaeth sylwadau gwarthus, a amlygwyd gan y cyfryngau cymdeithasol,  i gyfrannu at ofnau ynghylch trais dinesig, dinistrio gwerthoedd moesol “traddodiadol” a’r teulu, a llygredd cynhenid y sefydliad ym Mrasil.

Yn ystod ei 27 mlynedd yn y Gyngres, roedd gan Bolsonaro enw am gefnogi diffyndollaeth a haelioni i’r sector cyhoeddus.  Felly mewn ymgais uniongyrchol i roi sicrwydd i fusnesau mawr, penododd y rhyddfrydwr newydd adnabyddus, a hyfforddwyd yn Chicago, Paulo Guedes yn ymgynghorydd economaidd – a dechreuodd arddel safbwyntiau llawer mwy cefnogol i’r farchnad.  Yn sgîl hynny, gwnaeth aelodau o’r elît busnes, gan gynnwys llywydd FIESP, Paulo Skaf, ddatgan eu cefnogaeth i Bolsonaro, gan gredu y gallai gyflawni eu hagenda economaidd.

Ond mae lefel uchel o risg i’r strategaeth hon, fel y mae elîtau busnes ar draws y byd wedi darganfod wrth gefnogi poblyddion asgell dde fel Trump,  Rodrigo Duterte yn Ynysoedd y Pilipinas, Viktor Orban yn Hwngari, Recep Tayyip Erdoğan yn Nhwrci a selogion Brexit yn y Deyrnas Unedig.

“Nodwedd gyffredin yr arweinyddion hyn yw eu parodrwydd i fentro ansefydlogrwydd aruthrol trwy danseilio sefydliadau cartref a rhyngwladol trwy ddefnyddio gweithredoedd symbolaidd sy’n apelio i’w cefnogwyr, ond a allai niweidio busnes.”

Felly sut bydd arlywyddiaeth Bolsonaro yn esblygu wrth iddo geisio cyfuno polisi neo-ryddfrydol o ddadreoli â’r wleidyddiaeth atgasedd boblyddol mae’n ei meithrin, sy’n cael ei bwydo gan y cyfryngau cymdeithasol?

Os daw Bolsonaro i ddirmygu’r marchnadoedd fel y mae wedi dirmygu cynifer o grwpiau eraill ym Mrasil, mae’n bosibl y bydd yr elîtau busnes yn edifar am eu cefnogaeth yn y man.  Fel mae’r Beibl, un o hoff lyfrau Bolsonaro, sy’n enwog am fod yn Gristion, yn dweud: “Maent wedi hau’r gwynt, a byddant yn medi’r corwynt.”

Mae Dr Heike Doering yn Ddarlithydd mewn Rheolaeth Ryngwladol yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae Glenn Morgan yn Athro Rheolaeth yn Ysgol Economeg, Cyllid a Rheolaeth Prifysgol Bryste.

Mae Dr Marcus Gomes yn Ddarlithydd mewn Astudiaethau Sefydliadol a Chynaliadwyedd yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerwysg.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar The Conversation UK.