Skip to main content

Entrepreneuriaeth

Y Genhadaeth Ddwbl Amhosibl? Dyw Ethan Hunt yn neb o gymharu ag entrepreneuriaid cymdeithasol

15 Tachwedd 2018
Dros 30 mlynedd yn ddiweddarach, mae Cymoedd De Cymru yn parhau i wynebu heriau economaidd a chymdeithasol sylweddol

Cyn Diwrnod Mentrau Cymdeithasol 2018, siaradodd Dr Anthony Samuel â ni am rai o’r heriau y mae cwmnïau yn eu hwynebu yn cydbwyso gwerth masnachol a chymdeithasol.

Yn ddiweddar, cwblheais ddarn o waith ar Fentrau Cymdeithasol yn gweithredu yng Nghymoedd De Cymru gyda Gareth White o Brifysgol De Cymru a Paul Jones a Rebecca Fisher o’r Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Entrepreneuriaeth sy’n Gweddnewid ym Mhrifysgol Coventry.

Gwnaethom siarad â pherchnogion a rheolwyr ar draws y rhanbarth i geisio deall rhai o’r pethau sy’n atal mentrau cymdeithasol rhag ffynnu mewn ardaloedd o amddifadedd economaidd a chymdeithasol.

Masnachu dros Achos Da

Mae 41% o fentrau cymdeithasol yn fwy tebygol o alinio eu cenhadaeth â gwella cymuned benodol

Cafodd ein diddordeb ei ennyn gan ganfyddiadau adroddiad Social Enterprise UK ar fusnesau bach a chanolig a ganfu fod 27% o fusnesau cymdeithasol bach y DU yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Canfuwyd hefyd fod busnesau bach a chanolig (41%) yn arbennig yn fwy tebygol o alinio eu cenhadaeth â gwella cymuned benodol.

Gwnaethom sylweddoli y gallai’r ffigurau hyn awgrymu bod yr heriau a wynebir gan fentrau cymdeithasol sy’n gweithredu yn yr ecosystemau difreintiedig hyn fod yn fwy acíwt.

Cau dan orfod

Cafodd diwydiant glo Cymru ei orfodi i gau yng nghanol yr 80au, a 30 mlynedd yn ddiweddarach mae’r ardal yn parhau i wynebu heriau economaidd a chymdeithasol sylweddol.

I ddyfynnu astudiaeth gan Busnes Cymdeithasol Cymru yn 2017, “Mae Busnesau Cymdeithasol yn aml i’w canfod mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol yn cefnogi cymunedau, yn cynnig swyddi a hyfforddiant ac yn aml yn darparu gwasanaethau y byddai’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn ei chael hi’n anodd eu cynnal.

“Maent yn gwneud cyfraniad pwysig at y frwydr i drechu tlodi yng Nghymru.”

Yn yr hinsawdd hwn, felly, nid yw’n syndod dysgu bod mynediad i gymorth ariannol a datblygiad ffrydiau incwm cynaliadwy yn ganolog i fentrau cymdeithasol ar draws y rhanbarth.

Yn ogystal â heriau ariannol, gwnaethom ganfod tri maes arall o bryder sydd gan berchnogion a rheolwyr mentrau cymdeithasol:

  1. Rheoli’r ‘genhadaeth ddwbl’ yn effeithiol

Gall datblygu dull gweithredu cytbwys o ran gweithgarwch masnachol a chymdeithasol fod yn anodd, a gall llawer o fentrau cymdeithasol dueddu at fod yn rhy fasnachol neu’n rhy gymdeithasol yn eu gweithrediadau, y mae gan y ddau oblygiadau negyddol.

  1. Dod o hyd i a chadw’r ymddiriedolwyr a’r aelodau bwrdd ‘cywir’

Mae llawer o aelodau’n wirfoddolwyr nad oes ganddynt yr amser na’r arbenigedd penodol o ran anghenion cymdeithasol neu fasnachol y fenter.

  1. Mesur a chyfleu eu ‘gwerth cymdeithasol’

Er ei bod yn hawdd adrodd ar berfformiad ariannol, mae’n rhaid i fentrau cymdeithasol hefyd arddangos eu gwerth cymdeithasol. Gall tracio hyn fod yn gostus, a gall fod yn anodd cyfleu’r gwerth i randdeiliaid. Yng Nghymru, er enghraifft, mae 39% yn methu â mesur eu heffaith gymdeithasol.

Dechrau, ffynnu a thyfu

Yn seiliedig ar y cyfweliadau a gynhaliwyd gennym, mae ein canfyddiadau’n debygol o fod yn gynrychioliadol o ardaloedd yn y DU sy’n debyg o safbwynt cymdeithasol ac economaidd. Er y gall dylanwad cymharol y tensiynau sy’n effeithio ar fentrau cymdeithasol mewn ardaloedd llai difreintiedig amrywio rywfaint, mae llenyddiaeth flaenorol a chanfyddiadau’r astudiaeth yn dangos bod y rhain yn faterion parhaus y mae angen sylw penodol arnynt.

Drwy eu graddio yn ôl pwysigrwydd, gall ein hastudiaeth gael ei defnyddio i roi gwybodaeth well i lunwyr polisi a chefnogi strategaethau, penderfyniadau a dyraniadau adnoddau cyrff yn well wrth geisio cefnogi mentrau cymdeithasol mewn cymunedau difreintiedig i ddechrau, ffynnu a thyfu.

Gall ein myfyrwyr ategu eu dysgu â phrofiad uniongyrchol o weithio mewn menter gymdeithasol

Mae’r ffocws hefyd arnom ni fel athrawon ac ymchwilwyr i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, er mwyn sicrhau hirhoedledd mentrau cymdeithasol. Mae ein haelodaeth o Social Enterprise UK yn chwarae rhan fawr yn yr ymchwil datblygol hwn a chyfleoedd lleoliadau gwaith i’n staff a myfyrwyr.

Arweinwyr y dyfodol

Ddydd Mawrth nesaf, 20 Tachwedd 2018, cyflwynir darlith ar fentrau cymdeithasol i holl fyfyrwyr israddedig Ysgol Busnes Caerdydd.

Bydd Social Enterprise UK hefyd yn ein helpu i lunio strategaeth i ddatblygu lleoliadau ymysg eu rhwydwaith o sefydliadau partner fel y gall ein myfyrwyr ategu eu dysgu â phrofiad uniongyrchol o weithio mewn menter gymdeithasol.

Mae codi ymwybyddiaeth ymysg arweinwyr y dyfodol yn hanfodol er mwyn sicrhau eu bod yn deall heriau unigryw modelau busnes amgen sydd â chenadaethau cymdeithasol ac amgylcheddol.

Mae Dr Anthony Samuel yn ddarlithydd mewn Systemau a Deinameg Marchnata yn Ysgol Busnes  Caerdydd.

Mae Dr Gareth White yn Ddarllenydd mewn Gweithrediadau a Rheoli Gwybodaeth yng Nghyfadran Busnes a Chymdeithas Prifysgol De Cymru.

Mae Paul Jones yn Athro Entrepreneuriaeth a Dirprwy Gyfarwyddwr ar y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Entrepreneuriaeth sy’n Gweddnewid ym Mhrifysgol Coventry.

Mae Rebecca Fisher yn Gynorthwy-ydd Ymchwil yn y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Entrepreneuriaeth sy’n Gweddnewid ym Mhrifysgol Coventry.

Mae Diwrnod Mentrau Cymdeithasol yn gyfle i fentrau cymdeithasol rannu’r gwaith da maent yn ei wneud a’r gwahaniaeth maent yn ei wneud yn eu cymunedau a thu hwnt. Cafodd y diwrnod o ddathlu ei greu gan Social Enterprise UK sydd unwaith eto yn defnyddio’r hashnod #WhoKnew i helpu i dynnu sylw at amrywiaeth yn y sector.