Skip to main content

Polisi

Cymru a Llafur

5 Chwefror 2019

Dyma’r Athro Leighton Andrews a’r Athro Calvin Jones yn trafod llwyfan ymgyrchu Prif Weinidog newydd Cymru o ‘Sosialaeth yr 21ain Ganrif ’ a’i botensial i newid Cymru a’i heconomi.

Gan gymryd i ystyriaeth yr economi sylfaenol, caffael, trafnidiaeth, materion amgylcheddol, tai, adeiladu, datganoli ac, wrth gwrs, Brexit, mae eu trafodaeth yn mynd i’r afael â rhai o’r prif faterion o hanes gwleidyddol ac economaidd Cymru yn y gobaith o fwrw rhywfaint o oleuni ar ei dyfodol.

Yr Athro Calvin Jones yw’r Dirprwy Ddeon ar gyfer Gwerth Cyhoeddus a Chysylltiadau Allanol yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae Leighton Andrews yn Athro Ymarfer Arweinyddiaeth ac Arloesedd mewn Gwasanaethau Cyhoeddus yn Ysgol Busnes Caerdydd. Mae’n gyn-Weinidog Llywodraeth Cymru.

Mae’r cyfweliad hwn hefyd ar gael fel podlediad ar Golau: Pod-ddarlledu ar Wleidyddiaeth, Polisi a Phleidleisio yng Nghymru ac yn y byd. Prifysgol Caerdydd.