Skip to main content

Iechyd a Lles

Mae Wini’n tynnu’r straen allan o adolygu ac arholiadau

8 Mai 2019
Dyma fi, yn gwisgo pâr deniadol iawn o PJs. Yn barod am hoe fach!

Gall cyfnod yr arholiadau fod yn straenus.  Gall rhai lefelau o straen eich helpu i ganolbwyntio. Ond gall gormod ymyrryd â’ch adolygu a’ch ffocws.  Gall fod yn anodd cael hyd i’r cydbwysedd iawn, felly dyma fy awgrymiadau gwych i’ch helpu i lwyddo.

1. Paratowch amserlen a gosod nodau realistig.

Allwch chi ddim gwneud y cyfan ar unwaith! Dyw pyliau gwyllt o astudio ddim yn helpu, yn wir, gallan nhw fod yn niweidiol.  Rhannwch eich adolygu’n ddarnau bach, a glynwch at eich amserlen orau gallwch chi.

2. Cofiwch gynnwys cyfnodau egwyl yn eich amserlen.

Mae hawl gennych chi i ymlacio.  Am bob awr rydych chi’n bwriadu adolygu, gofalwch eich bod chi’n cael egwyl o 10-20 munud.  Bydd hynny’n eich helpu i gymryd yr wybodaeth i mewn, yn hytrach nag astudio tudalennau ar dudalennau o nodiadau heb gofio gair.

3. Peidiwch ag anghofio bwyta’n iawn.

Mae angen tanwydd ar eich corff i fedru adolygu’n llwyddiannus.  Cofiwch eich 5 y dydd (ffrwythau a llysiau) – ffordd iach i chi fwyta wrth fynd, ar eich pawennau, yn fy achos i. Gofalwch eich bod chi’n cael pryd da o fwyd yn yr hwyr.  A cheisiwch beidio â dibynnu ar fwyd cyflym!

4. Gwnewch eich ymarfer corff.

Bydd hynny’n helpu gyda straen ac yn rhyddhau’r holl endorffinau bach hyfryd sy’n gwneud i chi deimlo’n dda.  Does dim byd rwy’n ei hoffi’n well na chrwydro rownd y parc yn edrych ar y blodau ac yn chwilio am wiwerod**

5. Treuliwch beth amser yn gwirio dyddiad, amser a lleoliad arholiadau. 

Defnyddiwch eich amser ymarfer corff i gael hyd i leoliad eich arholiadau fel eich bod yn ymlacio mwy ar y diwrnod!

6. Diffoddwch neu cyfyngwch ar eich Cyfryngau Cymdeithasol.

Rhowch eich (Cyfryngau) Cymdeithasol o’r neilltu.

Peidiwch â gadael i rywbeth dorri ar eich traws bob pum munud.  Yn hytrach, neilltuwch amser rywbryd yn ystod y dydd i edrych ar eich cyfryngau cymdeithasol.

7. Peidiwch ag anghofio gorffwys a chysgu. 

Mae hynny’n helpu eich corff i gael rhagor o egni a’ch ymennydd i ymadfer.

8. Mae’n bwysig canolbwyntio ar gynnydd, nid perffeithrwydd.

Byddwch yn garedig i chi’ch hun. Dyma benllanw un, dwy, tair neu bedair blynedd o astudio, felly mae’n mynd i fod yn anodd.  Ond fe lwyddwch chi!

Mae digon o gyngor ar gael ar Fewnrwyd y Myfyrwyr, a pheidiwch ag anghofio,
mae Denise (fy morwyn fach) ar gael os hoffech chi gael sgwrs.

Cynghorydd Cefnogi Myfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd yw Denise Brereton.

Eich bywyd fel myfyriwr, gyda chefnogaeth

Mae gennym ni amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu cyfnod yn y Brifysgol, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogaeth i Fyfyrwyr Rhyngwladol.

Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr yn 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.

Cewch ragor o wybodaeth am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor, ac ati, ar Fewnrwyd y Myfyrwyr.

* Mae gwneud rhywbeth wrth fynd yn sôn am ei wneud wrth symud o gwmpas neu wneud rhywbeth arall, yn aml heb roi sylw dyledus iddo.  Mae’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywbeth sydd heb ei ddisgwyl na’i gynllunio.

Er enghraifft, “Mae gen i gyfarfod yn dre mewn 20 munud, felly fe gaf fi ginio wrth fynd.”

Cyfieithiad o enghraifft yng Ngeiriadur Saesneg Caergrawnt

**Ni chafodd unrhyw wiwerod eu herlid wrth ysgrifennu’r postiad blog hwn.