Skip to main content

Profiad myfyrwyr

Profiad CUROP yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru

25 Ebrill 2019
Graddedigion CUROP yn 2018, Sioned Murphy a Math Emyr.

Yn ein post diweddaraf, cawsom sgwrs gyda graddedigion 2018 CUROP, Sioned Murphy a Math Emyr. Clywsom ni’r cyfan ganddynt ynglŷn â menter ymchwil myfyrwyr y Brifysgol a sut rhoddodd eu cyfranogiad gipolwg unigryw iddynt ar Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

JR: Shwmae i chi’ch dau, mae’n braf cael cwrdd â chi. Tybed a oes modd i chi ddechrau trwy ddweud eich enwau a’r hyn rydych chi’n ei astudio yma yn Ysgol Fusnes Caerdydd?

ME: Shwmae! Fy enw i yw Math Emyr a dwi’n fyfyriwr trydedd flwyddyn a blwyddyn olaf Cyfrifeg (BSc).

SM: Helo. Sioned Murphy ydw i a dwi’n fyfyrwraig ail flwyddyn Rheoli Busnes gyda Lleoliad Gwaith Integredig (BSc).

Mae’r ddau ohonom ni’n fyfyrwyr yma yn Ysgol Fusnes Caerdydd a’r haf diwethaf cymeron ni ran yn Rhaglen Cyfleoedd Ymchwil i Israddedigion Caerdydd (CUROP) gyda Dr Nicole Koenig-Lewis a Dr Eleri Rosier o’n Hysgol ni a Dr Andrea Collins o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio.

ME: Testun ein prosiect oedd effeithiau a gwaddol gwyliau yng Nghymru. A gan fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers 2008, defnyddiom ni’r ŵyl flynyddol o gystadlu a pherfformio fel astudiaeth achos.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2018 yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers 2008.

JR: Mae’n braf cael cwrdd â’r ddau ohonoch. Felly sonioch chi am Gynllun CUROP y Brifysgol. Pam wnaethoch chi gymryd rhan yn y prosiect penodol hwn?

SM: Wel, dwi’n meddwl roedden ni’n dau am gael profiad gwaith yn y byd academaidd a gwelson ni hysbyseb am y prosiect wyth wythnos ar Fewnrwyd y Myfyrwyr.

Dwedodd yr hysbyseb fod Nicole, Eleri ac Andrea’n chwilio am ddau fyfyriwr i helpu gydag ymchwil barhaus ar wyliau, un oedd â chefndir mewn Rheoli Busnes a, gan y byddai’n canolbwyntio ar yr Eisteddfod, un oedd yn rhugl yn y Gymraeg.

ME: Dyma le dwi’n dod i’r amlwg. Dwi wastad wedi mynychu’r Eisteddfod ers i mi fod yn faban. Fel un gafodd ei fagu yng Nghymru, dwi wedi mynychu’r wythnos ddifyr o gyngherddau, crwydro’r stondinau ac ymdrochi yn awyrgylch yr ŵyl gyda fy ffrindiau a fy nheulu.

Felly, roedd cymryd rhan yn y prosiect yn golygu swydd gyda’r haf lle roeddwn i’n gallu defnyddio fy sgiliau Cymraeg. Hefyd, golygodd y byddwn i’n mynychu fy 21ain Eisteddfod Genedlaethol.

Roedd y ddau beth hyn yn golygu nad oedd modd i mi golli’r cyfle hwn!

JR: A beth amdanat ti, Sioned?

SM: Wel, roeddwn i’n astudio Marchnata ar fy nghwrs ac roeddwn i’n edrych ymlaen at gynnal ymchwil i brofiad ymwelwyr a chael cipolwg ar sut mae marchnatwyr yn mynd wrth eu gwaith maes.

Hefyd, ar ôl i fy nhad-cu, oedd yn siarad Cymraeg, farw fis Mawrth diwethaf, roeddwn i am ddysgu mwy am fy nhreftadaeth a’r iaith methais i ei chlywed wrth ymweld â theulu yn Abertawe.

JR: Waw, mae’n debyg mai chi oedd yr ymgeiswyr delfrydol ar gyfer y prosiect hwn! Tybed a oes modd i chi sôn ychydig mwy am yr ymchwil?

SM: Fe wnaethom ni gynnal ymchwil i’r ŵyl a dadansoddi canfyddiadau’r data a gasglwyd o arolwg o ymwelwyr yn 2017 i baratoi ar gyfer ymchwil 2018. Holodd yr arolwg amrywiaeth o gwestiynau ynglŷn â boddhad yr ymwelwyr â’r sefydliad a’u profiad o’r Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal â sut teithiodd pobl i’r ŵyl ac yn ystod yr ŵyl.

Bu 2018 yn flwyddyn o arbrofi i’r brifwyl, a gynhaliwyd yn ardal drefol Bae Caerdydd.

ME: Roedd llwyfan yr ymchwil yn gyffrous gan fod 2018 yn flwyddyn o arbrofi i’r ŵyl a hithau’n cael ei chynnal yn ardal drefol Bae Caerdydd yn hytrach nag ar gaeau fel sy’n draddodiadol.

Diben arolwg 2018 oedd canfod a wnaeth newid cyd-destunol effeithio ar brofiad yr holl grwpiau o ymwelwyr, gan gynnwys ymwelwyr am y tro cyntaf ac ymwelwyr rheolaidd, siaradwyr Cymraeg rhugl, dysgwyr Cymraeg a phobl ddi-Gymraeg.

SM: Hefyd, roedd tîm rheoli’r Eisteddfod yn awyddus i ganfod a gafodd ymwelwyr eu hannog i ddefnyddio dulliau mwy cynaliadwy o deithio i’r ŵyl gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Yn y flwyddyn flaenorol, teithiodd 90.5% mewn car, fan wersylla neu dacsi i Ynys Môn.

Felly, yn ystod yr ŵyl, cynhaliom ni stondin ym Mhafiliwn Prifysgol Caerdydd. Roedd yr haul yn tywynnu felly daeth llu o ymwelwyr i’r maes, a arhosodd am 3.7 diwrnod ar gyfartaledd.

ME: Cawsom ni flychau trafnidiaeth wedi’u labelu ar ddangos a rhoeom ni gownteri i’r ymwelwyr i ddangos inni sut teithion nhw i’r ŵyl.

Roedd tîm rheoli’r Eisteddfod Genedlaethol yn awyddus i ganfod a wnaeth y lleoliad trefol annog ymwelwyr i ddefnyddio dulliau mwy cynaliadwy o deithio.

Cadarnhaodd yr arolwg ar-lein y bu cwymp mawr mewn teithio mewn car i’r ŵyl i 47%. Roedd gweld y defnydd poblogaidd o wasanaethau trên a bysiau i’r ŵyl (39%) hyd yn oed yn fwy calonogol.

Hefyd, dangosodd yr ymwelwyr o le y daethant trwy osod pin ar ein map. Roedd gweld demograffeg ddaearyddol eang yr ymwelwyr yn syndod, a amrywiodd o Aberpennar i Ynys Môn yng Nghymru, i Sterling yn yr Alban, i Iran, UDA, rhannau helaeth o orllewin a dwyrain Ewrop, i Ffiji ar ochr arall y byd!

SM: Yn wir, creodd y cymhorthion gweledol gryn gyffro ymysg yr ymwelwyr â’n stondin. A golygodd hynny y cawsom ni lawer o ddiddordeb yn ein prosiect ymchwil. Cawsom ni 800 a mwy o ymatebion i’n harolwg ar-lein yn dilyn eu hymweliad a chafodd 684 o’r rheiny eu defnyddio ar gyfer dadansoddi ein hymchwil.

Dylan y Ddraig yn edmygu un o gymhorthion ymchwil gweledol Sioned a Math.

JR: Beth ydych chi’n meddwl y cawsoch chi o’r profiad?

SM: Ar y cyfan, dwi’n meddwl roedd y prosiect yn wych ar gyfer datblygu ein sgiliau dadansoddi, ysgrifennu a chyflwyno. Ar ôl ei gwblhau, cyflwynom ni ein canlyniadau i uwch-reolwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yn nigwyddiad Poster CUROP yn Neuadd y Ddinas ym mis Hydref.

Y ddau yn nigwyddiad Poster CUROP yn Neuadd y Ddinas ym mis Hydref.

Dwi wedi llwyddo i drosglwyddo’r sgiliau hyn gan fy mod i wedi cael fy ngraddio yn fy ail flwyddyn ar gynnal ymchwil mewn dau o fy modiwlau a chyflwyno fy nghanfyddiadau i grŵp o bobl. Yr adeg hon y llynedd, roedd y syniad o gyflwyno i bobl yn un brawychus, ond dwi’n credu’n gryf fod fy hyder wrth siarad yn gyhoeddus wedi gwella o ganlyniad i brofiad CUROP a nawr dwi’n ei fwynhau’n fawr.

ME: Dwi’n cytuno’n llwyr â Sioned. Mae’r profiad hefyd wedi fy nysgu sut mae ymchwilwyr yn creu cysylltiadau â’r cyfryngau a sefydliadau y tu hwnt i’r byd academaidd. I mi, mae hwn wedi bod yn gipolwg pwysig iawn gan ei fod wedi dangos inni fod academia yn gynhwysol i bawb p’un a ydyn nhw’n rhan o’r gwaith ymchwil, yn lledu’r gair am y prosiect neu’n cymryd rhan trwy rannu eu barn. Roedd codi proffil ein gwaith yn fwy difyr trwy siarad â’r cyfryngau ac roedd hynny’n fwy arbennig pan ges i gyfle i ddefnyddio fy sgiliau Cymraeg wrth fy ngwaith.

Math Emyr, sy’n enwog yn lleol, yn cymryd rhan mewn un o lawer o gyfweliadau Cymraeg.

SM: Dwi’n credu y daeth Math yn arwr lleol ar ôl cael ei gyfweld gan BBC Radio Cymru, S4C a chyfryngau’r Eisteddfod Genedlaethol. Roedd yr ymwelwyr yn dod i’r stondin gan eu bod nhw wedi clywed Math ar y radio a’i weld ar y teledu! Roedd hi’n braf iawn cael fy nghyfweld ar gyfer cwmni darlledu o Sgandinafia hefyd ac estyn allan i gynulleidfa ehangach i rannu diben ein prosiect a phwysigrwydd dathlu digwyddiadau diwylliannol fel hyn.

JR: A beth oedd eu barn nhw am eich gwaith?

SM: Roedd canfod bod 96.8% o’r ymatebwyr wedi mynychu i ‘fwynhau a chefnogi diwylliant Cymru’ yn galonogol iawn iddynt. Yn ogystal â hynny, bu i 85% gytuno/gytuno’n gryf eu bod wedi mwynhau’r ‘profiad diwylliannol ac addysgol unigryw’.

ME: Roedd model eleni’n boblogaidd; teimlodd 93.7% a 94.3% o’n hymatebwyr yn fodlon/yn fodlon iawn â’r Eisteddfod ar y cyfan ac â’r awyrgylch, sy’n ffigur rhyfeddol.

Ymysg y sylwadau roedd “Awyrgylch gwych.” “Digon i’w weld ac i’w wneud.” “Tywydd gwych” a “Braf cael clywed y Gymraeg ar bob lefel”.

Y dorf yn canu ar risiau’r Senedd gydag enillydd y Tour de France, Geraint Thomas.

Yr atgofion mwyaf poblogaidd o’r digwyddiad oedd yr awyrgylch a’r perfformiadau byw ar y Maes, y bwyd a diod, a’r dorf yn canu ar risiau’r Senedd gyda Geraint Thomas!

SM: Canlyniad gwych arall oedd ynghylch teithio. Cafwyd cwymp mawr o 18.3% yn yr allyriadau teithio gwirioneddol (mewn cymhariaeth â’r hyn a fwriadwyd) yn sgil mwy o ymwelwyr yn defnyddio dulliau cynaliadwy o deithio o’u cymharu â’u bwriadon y llynedd.

Cawsom ni hyd yn oed ymwelwyr a ddaeth i ymweld â ni un dydd ar ôl y llall, gan ddod yn ôl i’r stondin i ddweud wrthym eu bod nhw wedi cael eu hannog i newid i ddull o deithio sy’n fwy cydnaws â’r amgylchedd i deithio i’r digwyddiad o’u cartref neu lety. Llwyddais i hyd yn oed annog fy nheulu i gerdded a mynd ar dacsi dŵr!

JR: Felly beth sydd nesaf i chi’ch dau?

ME: Wel, mae llawer o fy amser wedi’i neilltuo i flwyddyn olaf fy astudiaethau ar hyn o bryd, ond dwi wedi llwyddo i barhau i fynychu digwyddiadau cerddoriaeth a Chymraeg yng Nghaerdydd.

Yn ogystal â hynny, dwi eisoes wedi trefnu fy llety ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2019. Honno fydd fy 22ain flwyddyn!

SE: Wel, mae Lleoliad Gwaith Integredig fy ngradd wedi rhoi cyfle imi ddatblygu fy sgiliau proffesiynol ymhellach. Dros yr 16 o wythnosau diwethaf, dwi wedi bod ar internïaeth Roboteg gyda’r cwmni pecynnu rhyngwladol DS Smith i greu robot rhithwir.

Dwi’n awyddus i fynychu Eisteddfod Genedlaethol arall yn y dyfodol i gael blas ar leoliad newydd ac i ymarfer fy nghyfres newydd o ymadroddion Cymraeg!

‘Cyfle ymchwil anhygoel ac unigryw.’

SM: Hoffen ni ddweud diolch yn fawr iawn i Nicole, Eleri ac Andrea am eu cymorth parhaus ac am roi’r cyfle ymchwil anhygoel ac unigryw hwn inni.

ME: Yn bendant. Ac i unrhyw un sy’n ystyried gwneud cais ar gyfer CUROP yr haf hwn, rydyn ni’n ei hargymell yn gryf!

Mae cynlluniau Rhaglen Cyfleoedd Ymchwil i Israddedigion Caerdydd (CUROP) a Phrosiectau Arloesedd Addysg Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd (CUSEIP) yn cynnig cyfle â thâl i fyfyrwyr i dreulio hyd at wyth wythnos yn gweithio gyda staff ar brosiectau.

Bydd myfyrwyr yn cael eu talu £9.36 yr awr am hyd at 25 o oriau’r wythnos (cyfanswm o 200 o oriau’r prosiect).

Mae’r prosiectau’n cynnig cyfleoedd datblygu unigryw i fyfyrwyr gael blas ar ymchwil fyw neu ddysgu ac addysgu i wella’u sgiliau academaidd a’u sgiliau trosglwyddadwy a gwneud penderfyniad mwy gwybodus ynghylch gwneud rhagor o waith ymchwil ar lefel ôl-raddedig.

Cewch wybod mwy am CUROP a CUSEIP ar Fewnrwyd y Myfyrwyr neu cysylltwch â Thîm Lleoliadau’r Haf.