Skip to main content

Economi digidol

Band eang, cynhyrchiant ac Economi Cymru

13 Mai 2019
Technoleg yn un ffordd i fusnesau Cymru ymateb i ansicrwydd economaidd parhaus; i ddod yn fwy cynhyrchiol drwy ffyrdd newydd o weithio, cyrraedd cwsmeriaid a chynnig gwasanaethau newydd.

Yn ein post diweddaraf, mae Dr Dylan Henderson yn rhoi blas i ni ar ganfyddiadau ymchwil ei waith ar dechnolegau digidol yng Nghymru wrth i Uned Ymchwil Economi Cymru baratoi i lansio ei Hadroddiad Effaith Economaidd blynyddol ar 22 Mai.

Ar gyfer BBaChau, mae mabwysiadu a defnyddio technolegau digidol yn ganolog i gynhyrchiant busnes. Maent yn cynnig amrywiaeth o raglenni, o e-fasnach a’r cyfryngau cymdeithasol i deleffoni trosleisio ar y rhyngrwyd a chyfrifiadura cwmwl.

Ac mae ein hymchwil yn awgrymu bod y math hwn o dechnoleg yn un ffordd i fusnesau Cymru ymateb i ansicrwydd economaidd parhaus; i ddod yn fwy cynhyrchiol drwy ffyrdd newydd o weithio, cyrraedd cwsmeriaid a chynnig gwasanaethau newydd. 

I ddeall y materion hyn a’r cyfle i gynyddu defnydd BBaChau o dechnoleg ddigidol yn well, bydd Uned Ymchwil Economi Cymru Ysgol Busnes Caerdydd yn lansio ei Hadroddiad Effaith Economaidd yng Nghynhadledd Cymru a De-orllewin Lloegr y Gymdeithas Astudiaethau Rhanbarthol ddydd Mercher 22 Mai yng Ngwesty’r Park Plaza, Caerdydd.

Mae’r adroddiad yn dangos tystiolaeth o effaith gadarnhaol technolegau digidol a’u heffaith bosibl ar gynhyrchiant.

“Mae’n dangos bod tua £130m wedi’i ychwanegu i economi Cymru yn 2018, gydag ychydig mwy na 1,000 o swyddi newydd yn cael eu creu o ganlyniad i fabwysiadu a defnyddio technoleg ddigidol.”

Yn y gynhadledd, sy’n dod ag ymarferwyr o’r byd busnes a’r byd academaidd ynghyd, yn ogystal â’r llywodraeth a llunwyr polisi, byddwn yn cyflwyno ein canfyddiadau ac yn trafod y cyfleoedd o ran defnyddio technoleg ddigidol i ateb her cynhyrchiant Cymru.

Llenwi’r bylchau

Mae ymchwil ein harolwg ar BBaChau yng Nghymru hefyd yn datgelu’r manteision o ddefnyddio technoleg ddigidol. Mae mwy a mwy yn gwneud defnydd o’r amrywiaeth gynyddol o dechnolegau digidol y cwmwl drwy werthu/prynu ar-lein a mwynhau’r manteision a ddaw gyda hyn.

“Mae busnesau sy’n manteisio’n weithredol ar y technolegau hyn ac yn eu plannu ar draws eu prosesau gweithredol nawr yn cyfrif am 54% – mwy na hanner – y BBaChau yng Nghymru.”

Nid yw’r datblygiadau hyn, fodd bynnag, wedi’u gwasgaru’n gyson ar draws Cymru.

Yn ôl y disgwyl, dinasoedd, gyda’u cyfran uwch o fusnesau twf uchel, sy’n cyfrif am y gyfran fwyaf o fudd. Wedi dweud hynny, mae gwelliannau diweddar mewn mynediad i fand eang cyflym iawn a thystiolaeth o ddefnydd uwch yn dangos sut gallai tueddiadau cadarnhaol o ran mabwysiadu ar draws y Gymru wledig a threfol helpu i gau bylchau cynhyrchiant rhyng-ranbarthol.

Tra bod heriau cynhyrchiant Cymru’n parhau’n stwbwrn o uchel, mae ein hymchwil yn dangos y gallai cyflwyno a defnyddio technolegau digidol fod yn sail ar gyfer gwella cynhyrchiant y sail BBaCh drwy dechnolegau sydd eisoes yn bodoli.

Y newyddion da yw bod Llywodraeth Cymru, drwy raglenni Cymru gyfan fel Cyflymu Cymru i Fusnesau, yn rhoi cymorth i’r BBaChau hynny sy’n ei chael hi’n anodd manteisio i’r eithaf ar fand eang cyflym iawn.

Mae busnesau fel Lloyds Bank, Google ac Amazon ymysg eraill hefyd yn ceisio cefnogi BBaChau fwyfwy. Mae hyn yn arwain at amrywiaeth gynyddol o gymorth y gall BBaChau Cymru fanteisio arno.

Yn Ysgol Busnes Caerdydd, byddwn ni hefyd yn parhau i fonitro’r technolegau digidol sy’n cael eu mabwysiadu a’u defnyddio gan BBaChau yng Nghymru ac yn adrodd ar yr effaith ddilynol ar gynhyrchiant BBaChau, sectorau a rhanbarthau Economi Cymru.

Cofrestrwch nawr i ymuno â ni yng Ngwesty’r Park Plaza ddydd Mercher 22 Mai i weld sut y gall technoleg ddigidol helpu eich busnes chi.

Mae Dr Dylan Henderson yn Uwch-gymrawd Ymchwil yn Uned Ymchwil Economi Cymru yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Ysgrifennwyd y post hwn mewn cydweithrediad â Laura Norris, myfyriwr Ymchwil yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd.