Skip to main content

Astudiaethau Sefydliadol

Clybiau Coesau Lindsay: sut gall seilwaith cymdeithasol wella clwyfau’n gyflymach

30 Mai 2019

Yn ein post diweddaraf, mae Dr Anna Galazka yn rhannu rhai o ganfyddiadau ei gwaith ymchwil PhD, lle y canolbwyntiodd ar botensial gwaredol partneriaethau rhwng clinigwyr a chleifion ar gyfer ymdrin â gwarth cymdeithasol clwyfau a’r gwarth o ran ‘gwaith budr’ gwella clwyfau.

Rydyn ni’n byw yn hirach nawr diolch i ddatblygiadau mewn gofal iechyd. Fodd bynnag, nid yw meddygaeth wedi dod o hyd i ffyrdd eto o wella llawer o’r clefydau cronig sy’n dangos eu hunain weithiau fel clwyfau anodd eu gwella ar groen sydd eisoes yn fregus ac yn heneiddio.

Yn aml, mae clwyfau’n gyflwr nychus, cudd sy’n gallu lleihau ansawdd bywyd cymdeithasol pobl hŷn.

Gall marwolaeth cymar, symudedd dirywiol neu embaras a achosir gan arogl y clwyf olygu bod pobl hŷn sy’n dioddef o wlserau cronig yn debygol o brofi ynysiad cymdeithasol. Mae unigrwydd a’i effeithiau negyddol ar iechyd corfforol a meddyliol pobl hŷn wedi cael ei gydnabod fel epidemig modern (Salman, 2017; BBC Sounds, 2018; Coughlan, 2018), ond i bobl â chlwyfau parhaus heb ddiwedd mewn golwg, gall y broblem hon beri pryder mawr.

Gwasanaeth Sinderela

Gall clwyfau godi gwarth cymdeithasol sy’n cael effaith berthynol ddifrifol ar bobl hŷn. Dywedodd un claf nad oedd ei merch a’i hwyres yn ymweld â hi yn ei chartref mor aml ag yr arferent oherwydd ni allent stumogi’r arogl o’i chlwyf.

Disgrifiodd claf oedrannus arall sut yr oedd wedi teimlo’n hunanymwybodol ar daith bws i glinig clwyfau pan oedd bachgen yn syllu arno drwy gydol y daith.

“Dwi’m yn credu fydda i’n teithio ar y bws eto”, dywedodd.

Gall yr ymdeimlad ingol o ynysiad waethygu gan fod gwella clwyfau’n parhau i gael ei weld fel gwasanaeth Sinderela (Sandoz, 2016; Young, 2016) sy’n denu ychydig iawn o ddiddordeb yn y proffesiwn meddygol.

Clybiau Coesau Lindsay

I rai cleifion oedrannus â chlwyfau, gall ymweliadau gan nyrsys ardal roi ymdeimlad o’r parhad perthynol hwnnw y maen nhw am ei gynnal o bosibl – weithiau ar draul beryglus i’w hiechyd corfforol.

“A ninnau yn nyrsys ardal, bydden ni’n arfer mynd i gartrefi pobl gan wybod y byddent weithiau yn defnyddio rhywbeth fel gweillen wau […] i’w procio eu hunain i greu’r clwyfau […] oherwydd, fel arall, os na fydden ni’n ymweld â nhw mwyach am eu bod wedi gwella, ni fyddent yn gweld llawer o bobl o bosibl”, meddai arweinydd un Clwb Coesau Lindsay.

Wrth wneud fy ngwaith ymchwil PhD yng nghyd-destun gwella clwyfau cleifion allanol arbenigol yn y DU, dysgais am bŵer trawsnewidiol Clybiau Coesau Lindsay i newid bywydau a chyflymu’r gwellhad, yn enwedig i gleifion oedrannus oedd wedi’u hynysu’n aml.

Elusen yw Clwb Coesau Lindsay sy’n seiliedig ar fodel darparu gofal cymdeithasol-meddygol. Caiff ei rhedeg gan nyrsys ardal a phractis oddi ar safleoedd y GIG ac mae’n cynnig cymorth i lawer o bobl hŷn yn y gymuned i ofalu am eu clwyfau, gan gynnwys ar ôl i’w clwyfau wella.

Mae gan seilwaith cymdeithasol botensial enfawr i wella’r canlyniadau corfforol a meddyliol i gleifion â chlwyfau.

Efallai bod y dywediad ‘Nid ynys yw dyn’ yn ystrydeb (Beer, 1997), ond mae gan Glybiau Coesau Lindsay y potensial trawsnewidiol i ddod â phobl ynghyd i wella’n gyflymach drwy wneud ffrindiau, dysgu o’i gilydd, a chael eu hysgogi gan gyfoedion yng nghwmni nyrsys â diddordeb mewn gofal wlserau ar goesau. Fel y dywedodd un claf a ddaeth yn ysgrifennydd o Glwb Coesau, yn anad dim, achlysur cymdeithasol ydyw i rannu paned o de, chwarae bingo, neu gael ewinedd eu traed wedi’u torri.

“Os yw pen claf yn iawn, mae’r gweddill yn gwella hefyd”, ychwanegodd arweinydd y Clwb Coesau.

Gwella a rheoli

Mae llawer o straeon o lwyddiant gan Glybiau Coesau ar hyd a lled y wlad.

Mae un yn sôn am glaf a oedd ag wlserau diferol ar ei choesau a oedd wedi’i chadw yn ei chartref am bedair blynedd cyn y cafodd ei pherswadio i fynd i’w Chlwb Coesau lleol.

“Nid oeddwn yn sylweddoli bod gan bobl eraill yr un broblem â fi”, dywedodd yn ôl y sôn.

Ar ôl tri mis, roedd ei bywyd wedi newid. Dechreuodd fynd allan gyda’i merch a gwneud ei siopa ei hun. Byddai’n mynd ar bob taith a drefnwyd gan y Clwb Coesau. Ar ôl un flynedd, roedd ei choesau wedi gwella.

“Nid oherwydd ein bod wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol, ond oherwydd ei bod yn hapus ac yn symud o gwmpas mwy”, dywedodd arweinydd y Clwb Coesau.

Ni wnaeth y claf ddatblygu’r un wlser arall tan ei marwolaeth wyth mlynedd yn ddiweddarach.

Mae cymorth cymdeithasol yn bwysig wrth wella a rheoli clwyfau cronig mewn pobl hŷn, felly mae’n bwysig eu gwneud yn ymwybodol o bresenoldeb seilwaith cymdeithasol o’r fath yn eu hardal.

Wedi’i sefydlu ym 1995 ac yn gweithredu ar hyd a lled Prydain, mae Clybiau Coesau Lindsay yn cynnig cymorth cymdeithasol-meddygol i bobl â chlwyfau, yn ogystal â chymorth parhaus i bobl â chlwyfau sydd wedi gwella, a dylai pob darparwr gofal i gleifion hŷn eu gwneud yn ymwybodol o’u clwb lleol.

I gael rhagor o wybodaeth am leoliadau Clybiau Coesau a’r posibilrwydd o gymryd rhan fel gwirfoddolwr, ewch i’w gwefan.

Mae Dr Anna Galazka yn Ymchwilydd Gyrfa Gynnar ac yn Athrawes Brifysgol yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Cwblhaodd ei PhD mewn astudiaethau sefydliadol yn Ysgol Busnes Caerdydd yn gynharach y flwyddyn hon, ac mae’n parhau i ganolbwyntio’i gwaith ymchwil ar ddeall posibiliadau a phŵer arloesedd cymdeithasol yng nghyd-destun rheoli cyflyrau cronig fel clwyfau. 

Ymddangosodd yr erthygl hon yn wreiddiol mewn rhifyn arbennig o Innov-age Magazine ar ofalu am glwyfau.

Cyfeiriadau