Skip to main content

Gwerth cyhoeddus

Cysgu yn Ysgol Busnes Caerdydd

11 Mehefin 2019

Yn ein cyhoeddiad diweddaraf, Sophie Lison, myfyriwr israddedig ail flwyddyn sy’n astudio BSc Rheoli Busnes (Marchnata), sy’n esbonio sut y bu iddi hi a’i chyd-fyfyrwyr drefnu digwyddiad cysgu yn yr Ysgol i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer Llamau, elusen ddigartrefedd flaenllaw Cymru ar gyfer pobl ifanc a menywod sy’n agored i niwed.

Yn gynharach y tymor hwn, fe wnes i ac ychydig o fyfyrwyr busnes eraill yn yr ail flwyddyn drefnu digwyddiad cysgu yn yr Ysgol fel rhan o’r modiwl Marchnata yn y Gymdeithas, o dan arweiniad Dr Carolyn Strong

Roedd y digwyddiad yn adeiladu ar lwyddiannau y llynedd ac unwaith eto yn codi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer Llamau, partner elusennol swyddogol yr Ysgol ers 2017.

Roedden ni’n ymwybodol bod digwyddiadau cysgu yn yr Ysgol wedi cael ymateb cymysg, a hyd yn oed rhywfaint o feirniadaeth, yn y gorffennol.

Mae pobl yn dadlau bod y digwyddiadau yn ansensitif, ac nad ydyn nhw’n cydnabod profiadau go iawn pobl ddigartref.

Heb gartref, nid heb dŷ

Ond, yr hyn roedden ni am ei ddangos gyda’n digwyddiad ni, oedd nad oes rhaid i chi fod ar y stryd i fod yn dioddef.

Roedden ni’n rhoi’r pwyslais ar fod heb gartref, nid bod heb dŷ. Mae cynifer o enghreifftiau o’r math yma o brofiad yn y gymdeithas heddiw, gan gynnwys syrffio soffa, is-osod, sgwatio a bod heb uned deuluol gefnogol. 

Mae gwaith Llamau yn ceisio ymgysylltu â phobl ddigartref, ni waeth beth fo’u profiad. Maen nhw am newid dyfodol pobl er gwell gyda chefnogaeth benodol ar gyfer dynion a menywod, llochesi i bobl sydd wedi dioddef camdriniaeth domestig, llety diogel, cefnogaeth iechyd meddwl, er mwyn dod â’r cylch cam-drin i ben ar gyfer menywod ifanc a phobl ifanc ddigartref yng Nghaerdydd a’r cyffiniau.

Mae eu mentrau’n golygu y gall pobl sydd mewn perygl o ddigartrefedd gael mynediad at gefnogaeth yn eu cartrefi i gadw eu tenantiaeth ac osgoi bod yn ddigartref. Ac i bobl sydd eisoes yn ddigartref, mae eu cyfleusterau’n darparu cyfleoedd i ddysgu sgiliau bywyd a gwaith er mwyn symud i gyflogaeth a goresgyn digartrefedd.

Netflix ac adeiladu llochesi

Dyma’r ail dro i Ysgol Busnes Caerdydd gynnal digwyddiad cysgu yn yr Ysgol, felly cafwyd rhoddion hael o fwyd a diod ar gyfer y digwyddiad gan fusnesau lleol yng Nghaerdydd a’r cyffiniau. 

Roedd myfyrwyr a staff yn mwynhau pizza Domino’s a burritos ffres cyn gwneud gweithgareddau grŵp fel adeiladu llochesi. Daeth natur gystadleuol rhai pobl i’r amlwg yn fuan iawn!

Cynhaliwyd raffl hefyd, gyda gwobrau wedi’u rhoi gan noddwyr y digwyddiad.

Dywedwyd ychydig o eiriau gan y Deon, yr Athro Rachel Ashworth, a chawsom ein diddanu gyda phump cân gan Gôr Perfformio Prifysgol Caerdydd, un o gymdeithasau’r Undeb Myfyrwyr sy’n cystadlu bob blwyddyn mewn cystadleuaeth sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol.

Daeth y noson i ben gyda siocled poeth wrth i bawb setlo o flaen Netflix.

Yn y bore, cododd pawb am 6am er mwyn i ni werthfawrogi sut byddai pobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, yn mynd i’r ysgol neu i’r gwaith ac yn parhau â’u diwrnod arferol, er gwaethaf eu hamgylchiadau.

Straeon llwyddiant personol

Mwynheais ddysgu mwy am sefydliad Llamau wrth drefnu’r digwyddiad cysgu yn yr Ysgol. Dyma ffordd wych hefyd o roi’r pethau y bu i mi eu dysgu wrth astudio’r modiwl Marchnata yn y Gymdeithas ar waith gydag elusen go iawn ac achos cyfiawn.  

Cefais gyfle hefyd i fynd i’r digwyddiad Impact blynyddol, gan weld â’m llygaid fy hun yr effaith y mae ein digwyddiadau ni a’r cyhoedd yn ei chael ar fywydau cynifer o bobl yn y brifddinas.

Roedd yn ysbrydoledig clywed straeon llwyddiant personol yr unigolion sy’n cael eu cefnogi gan Llamau.

Bydden i’n argymell i unrhyw un drefnu digwyddiad o’r fath ei hun. Roedd yn ddigwyddiad llawn hwyl a ddaeth a myfyrwyr a staff at ei gilydd, ac roedd yn ffordd wych o ddod â’m hastudiaethau ail flwyddyn yn Ysgol Busnes Caerdydd i ben.

Mae Llamau yn cynnig cefnogaeth a chyngor ar sut i drefnu digwyddiad llwyddiannus, gan gynnwys gweithgareddau posibl, ffurflenni noddi, awgrymiadau codi arian ac addurniadau. Gallwch chi gysylltu â nhw yma.

A rhag ofn i chi ei golli, fe wnaeth Ysgol Busnes Caerdydd gynnal Sesiwn Briffio Brecwast ar ddigartrefedd yng Nghaerdydd, lle’r oedd Frances Beecher, Prif Weithredwr Llamau, a Dr Peter Mackie o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, yn amlinellu ffyrdd o fynd i’r afael â digartrefedd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y digwyddiad hwnnw yma.

Mae Sophie Lison yn fyfyriwr israddedig ail flwyddyn sy’n astudio BSc Rheoli Busnes yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Diolch i’w hymdrechion hi a’i chyd-fyfyrwyr, codwyd £100 i Llamau yn y digwyddiad cysgu. Gallwch chi ddilyn gwaith pwysig Llamau ar Twitter yn #ChangingFutures.