Mae Wini’n tynnu’r straen allan o adolygu ac arholiadau
8 Mai 2019Gall cyfnod yr arholiadau fod yn straenus. Gall rhai lefelau o straen eich helpu i ganolbwyntio. Ond gall gormod ymyrryd â’ch adolygu a’ch ffocws. Gall fod yn anodd cael hyd i’r cydbwysedd iawn, felly dyma fy awgrymiadau gwych i’ch helpu i lwyddo.
1. Paratowch amserlen a gosod nodau realistig.
Allwch chi ddim gwneud y cyfan ar unwaith! Dyw pyliau gwyllt o astudio ddim yn helpu, yn wir, gallan nhw fod yn niweidiol. Rhannwch eich adolygu’n ddarnau bach, a glynwch at eich amserlen orau gallwch chi.
2. Cofiwch gynnwys cyfnodau egwyl yn eich amserlen.
Mae hawl gennych chi i ymlacio. Am bob awr rydych chi’n bwriadu adolygu, gofalwch eich bod chi’n cael egwyl o 10-20 munud. Bydd hynny’n eich helpu i gymryd yr wybodaeth i mewn, yn hytrach nag astudio tudalennau ar dudalennau o nodiadau heb gofio gair.
3. Peidiwch ag anghofio bwyta’n iawn.
Mae angen tanwydd ar eich corff i fedru adolygu’n llwyddiannus. Cofiwch eich 5 y dydd (ffrwythau a llysiau) – ffordd iach i chi fwyta wrth fynd, ar eich pawennau, yn fy achos i. Gofalwch eich bod chi’n cael pryd da o fwyd yn yr hwyr. A cheisiwch beidio â dibynnu ar fwyd cyflym!
4. Gwnewch eich ymarfer corff.
Bydd hynny’n helpu gyda straen ac yn rhyddhau’r holl endorffinau bach hyfryd sy’n gwneud i chi deimlo’n dda. Does dim byd rwy’n ei hoffi’n well na chrwydro rownd y parc yn edrych ar y blodau ac yn chwilio am wiwerod**
5. Treuliwch beth amser yn gwirio dyddiad, amser a lleoliad arholiadau.
Defnyddiwch eich amser ymarfer corff i gael hyd i leoliad eich arholiadau fel eich bod yn ymlacio mwy ar y diwrnod!
6. Diffoddwch neu cyfyngwch ar eich Cyfryngau Cymdeithasol.
Peidiwch â gadael i rywbeth dorri ar eich traws bob pum munud. Yn hytrach, neilltuwch amser rywbryd yn ystod y dydd i edrych ar eich cyfryngau cymdeithasol.
7. Peidiwch ag anghofio gorffwys a chysgu.
Mae hynny’n helpu eich corff i gael rhagor o egni a’ch ymennydd i ymadfer.
8. Mae’n bwysig canolbwyntio ar gynnydd, nid perffeithrwydd.
Byddwch yn garedig i chi’ch hun. Dyma benllanw un, dwy, tair neu bedair blynedd o astudio, felly mae’n mynd i fod yn anodd. Ond fe lwyddwch chi!
Mae digon o gyngor ar gael ar Fewnrwyd y Myfyrwyr, a pheidiwch ag
anghofio,
mae Denise (fy morwyn fach) ar gael os hoffech chi gael sgwrs.
Cynghorydd Cefnogi Myfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd yw Denise Brereton.
Eich bywyd fel myfyriwr, gyda chefnogaeth
Mae gennym ni amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu cyfnod yn y Brifysgol, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogaeth i Fyfyrwyr Rhyngwladol.
Mae’r Canolfannau Cefnogi Myfyrwyr yn 50 Plas y Parc ar Gampws Cathays, ac yn Nhŷ Aberteifi ar Gampws Parc y Mynydd Bychan.
Cewch ragor o wybodaeth am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor, ac ati, ar Fewnrwyd y Myfyrwyr.
* Mae gwneud rhywbeth wrth fynd yn sôn am ei wneud wrth symud o gwmpas neu wneud rhywbeth arall, yn aml heb roi sylw dyledus iddo. Mae’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywbeth sydd heb ei ddisgwyl na’i gynllunio.
Er enghraifft, “Mae gen i gyfarfod yn dre mewn 20 munud, felly fe gaf fi ginio wrth fynd.”
Cyfieithiad o enghraifft yng Ngeiriadur Saesneg Caergrawnt
**Ni chafodd unrhyw wiwerod eu herlid wrth ysgrifennu’r postiad blog hwn.
- Mawrth 2024
- Ebrill 2023
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Rhagfyr 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018