Gweithwyr llawrydd creadigol: nid mater chwerthin
16 Gorffennaf 2019Yn ein cyhoeddiad diweddaraf, Lorna Prichard, y digrifwr a’r cyn-newyddiadurwr, sy’n siarad am fanteision ac anfanteision gwaith llawrydd creadigol yn dilyn digwyddiad diweddar a gynhaliwyd gan Dîm Addysg Weithredol Ysgol Busnes Caerdydd a Chaerdydd Creadigol yng nghlwb Glee, Caerdydd.
Yn ddiweddar, roedd yn bleser gen i gael fy ngwahodd i wneud set yng nghlwb Glee Caerdydd ar gyfer pobl greadigol Caerdydd. Digwyddiad rhwydweithio busnes oedd yn cael ei gynnal, a hynny i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y Gweithwyr Llawrydd. Roedd hi’n fraint cael fy ngwahodd, ac roeddwn i’n gwneud fy ngorau glas i beidio â theimlo nad oedd lle teilwng i mi ar y llwyfan. Pa hawl oedd gen i, i roi sgwrs o flaen gweithwyr llawrydd eraill? Dim ond ychydig dros flwyddyn roeddwn i wedi bod wrthi fy hun! Roedd hi’n sicr yn deimlad rhyfedd bod yn astudiaeth achos i bobl eraill.
Fi yw’r un sydd fel arfer yn gorfod dod o hyd iddyn nhw! Yn sicr, dyna’r oeddwn i’n ei wneud am 10 mlynedd cyntaf fy ngyrfa, a minnau’n newyddiadurwr gyda BBC Cymru Wales ac yna ITV Wales. Fel y dywedais wrth y gynulleidfa yng nghlwb Glee, yr astudiaeth achos cyntaf yr oedd rhaid i mi ddod o hyd iddi oedd puteindy ar gyfer ymchwiliad arbennig i’r diwydiant rhyw. “Helo, rydw i’n gweithio i’r BBC, fyddai hi’n iawn i ni ddod i’ch ffilmio chi..?” Mae’n swnio fel tasg amhosibl, ond llwyddais i ddod o hyd i un yn y diwedd. Roedd yn ffordd wych o neidio i mewn iddi a dysgu sut i fynd ati – byddai pob astudiaeth achos yn haws wedi hynny!
Profiad cwbl newydd
Roedd bod yn newyddiadurwr yn grêt. Roeddwn i’n mwynhau sawl agwedd ar fy swydd: cyfarfod â phobl anhygoel, darlledu’n fyw, rhoi gwybod am y newyddion diweddaraf, adrodd straeon, ymdopi â’r annisgwyl. Ond roedd agweddau eraill nad oedden nhw’n gweddu cystal i mi.
“Roeddwn i’n cael trafferth â’r angen i gydymffurfio a ffrwyno rhai pethau eraill: fy mhersonoliaeth, fy marn gryf, fy ngwallt cyrliog. Y dyddiau hyn, rydw i’n gwisgo beth rydw i am ei wisgo, yn dweud beth rydw i am ei ddweud ac mae gan fy ngwallt rwydd hynt i fod mor wyllt ag y mynna!”
Ond mae hyn i gyd yn brofiad cwbl newydd i mi. Mae dal yn fy synnu i bob tro rydw i’n dweud mai gweithiwr llawrydd ydw i. Mae’n anodd gwybod sut i esbonio fy mywyd o ddydd i ddydd i rywun arall. Mae’n llawn creadigrwydd, gwaith gweinyddol, ymarfer a pherfformio. Dechreuais fod yn ddigrifwr llwyfan fel hobi ddechrau 2017. Roeddwn i wrth fy modd ar y llwyfan, a sylweddolais yn fuan iawn na fydden i’n gallu gwneud hynny a bod yn newyddiadurwr teledu credadwy ar yr un pryd. Felly, roedd yn amser profi rhywbeth cwbl newydd, a phrofi byd y gweithiwr llawrydd, yn ogystal â phrofi gyrfa newydd sbon. Mentrais fynd ati go iawn ym mis Mawrth 2018.
Wrthi’n rhoi cyd-destun academaidd i fywyd digrifwr, roedd Dr Dimitrinka Stoyanova Russell o Brifysgol Caerdydd. Rhoddodd hi sgwrs ddifyr iawn am y gwaith ymchwil mae hi wedi’i wneud ar y cyd â Nick Butler i’r straen o weithio ym maes digrifwyr llwyfan. Mae hi wedi siarad â 64 o ddigrifwyr proffesiynol ar gyfer ei phapur No Funny Business: precarious work and emotional labour in stand-up comedy. Mae hi’n awyddus i siarad â mwy o ddigrifwyr – menywod yn arbennig.
Gwthio a thynnu
Un peth sydd wir wedi aros yn y cof yw pan ddywedodd hi bod y rhan fwyaf o ddigrifwyr yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu “tynnu” i’r proffesiwn. Mae wir yn anodd esbonio wrth bobl pam eich bod chi’n teimlo’r ysfa yma i geisio gwneud bywoliaeth drwy wneud i bobl chwerthin. Mae cymaint mwy iddi na set 20 munud! Mae’n waith caled iawn. Rydw i mewn sefyllfa ryfedd iawn ar hyn o bryd. Dydw i erioed wedi gweithio mor galed, ond dydw i erioed wedi bod mor dlawd. Ond dydw i ddim yn gofyn am unrhyw gydymdeimlad. Dydw i erioed wedi bod mor hapus. Dyna’r peth rhyfedd. Mae’n teimlo fy mod i wedi cwrdd â chariad newydd. Rydw i’n meddwl am gomedi drwy’r amser, rydw i’n cael trafferth rhoi comedi o’r neilltu a dydw i ddim yn gweld digon ar fy ffrindiau. Rydw i’n digalonni os nad oes gen i gig ar y gweill.
Dydy bywyd digrifwr ddim yn gweddu i berson croendenau. Gall fod yn anodd iawn. Ond mae’n rhoi llawer o foddhad hefyd! Mae cael eich talu i wneud rhywbeth sydd wrth eich bodd yn cymell pob rhan ohonoch chi. Pan fyddwch chi’n sôn wrth gynulleidfa am yr agweddau mwyaf od arnoch chi eich hun, a’r gynulleidfa honno yn eich derbyn chi, mae’n eich helpu chi i dderbyn eich hun hefyd. Rydych chi’n magu gwytnwch ar ôl gig wael, jôc sydd ddim wedi gweithio, cynulleidfa sydd ddim yn eich hoffi chi. Mae’n rhaid bod hynny’n gwneud lles i chi!
Yn ystod fy set, fe wnes i siarad am yr angen i ddatblygu digon o “hyder y dyn gwyn heterorywiol” yn eich bywyd o ddydd i ddydd fel gweithiwr llawrydd. Roeddwn i’n cellwair, ond roedd yn ymddangos i hynny daro deuddeg â rhai pobl, y menywod yn y gynulleidfa yn arbennig. Dywedais wrthyn nhw fy mod i wedi dod yn eithaf pell mewn bywyd drwy gredu ynof fi fy hun – a chredu mwy na’r person arferol efallai. A dyna sut rydw i’n credu y dylai hi fod – dylen ni gymryd risg, rhoi cynnig ar bethau, derbyn y byddwn ni’n gwneud camgymeriadau a dysgu o’r camgymeriadau hynny. Roeddwn i’n cofio nôl i’r tro diwethaf i mi chwarae set fer yng nghlwb Glee Birmingham, yn ystod yr haf y llynedd. Am set ofnadwy! Ni weithiodd y jôcs roeddwn i’n meddwl y bydden nhw bob amser yn gwneud i bobl chwerthin. Am brofiad erchyll. Ond, fe wnes i ddysgu o’r profiad, ailysgrifennu’r jôcs a symud ymlaen.
Rowlio chwerthin gyda Howl Comedy
Y diwrnodau hyn, rydw i’n trefnu sawl noson gomedi broffesiynol bob mis o dan enw Howl Comedy, fy nghyfres gomedi fy hun (unwaith eto, sut yn y byd ydw i wedi llwyddo i gael fy nghyfres gomedi fy hun?!). Dyna i chi addysg yn hyder y dyn gwyn heterorywiol! Byddaf yn hysbysebu prif sbot sy’n talu’n dda, ac yna’n cael llwyth o negeseuon ebost gan ddynion nad ydw i wedi cael unrhyw gysylltiad â nhw o’r blaen. Roedd un neges ebost yn dweud: “Helo, rydw i’n gallu gwneud y gig yma. John.” Dim fideos o gigs eraill, dim cv, dim byd. Dyma, wrth gwrs, yw lle mae hyder y dyn gwyn heterorywiol yn mynd yn rhy bell. Ond rydw i’n sylwi bod dynion yn y diwydiant yn tueddu i wthio eu hunain yn fwy na menywod. Maen nhw’n gofyn am fwy ac felly’n cael mwy. Roedd gwaith ymchwil Dimi yn cefnogi hynny.
Mae’n rhaid i ddigrifwyr benywaidd frwydro yn erbyn eithaf tipyn o rywiaeth ac agweddau hen ffasiwn gan rai hyrwyddwyr hefyd. Mae pethau’n newid, ond mae’n cymryd amser.
“Fel y dywedais yn y digwyddiad, un peth na feddyliais i erioed y bydden i’n ei golli am gael fy nghyflogi oedd adran adnoddau dynol. Os bydd rhywun yn ymddwyn yn wael tuag atoch chi ym myd comedi, er enghraifft yn dweud wrthych chi nad ydyn nhw’n fodlon trefnu digrifwyr benywaidd ar gyfer gig penodol oherwydd byddai’n “rhy beryglus”, does dim rheolwr llinell i chi gwyno wrtho.”
Fe wnaeth Dimi siarad am yr agwedd yma ar fywyd digrifwr llwyfan hefyd. Yr angen i guddio eich pryderon, i anwybyddu ymddygiad dadleuol gan eich cyfoedion oherwydd gallai gwneud mor a mynydd ohono effeithio ar y gigs y cewch chi eich gwahodd i’w gwneud yn y dyfodol. Yn bersonol, rydw i o blaid tynnu sylw at ymddygiad annerbyniol.
Ar ôl fy set, bues i’n cymryd rhan mewn trafodaeth banel gyda Dimi a dau weithiwr llawrydd lleol arall – yr hyfforddwr arian Talia Loderick a’r cynhyrchydd creadigol Gavin Johnson. Fe wnaethon ni siarad am sawl peth – llesiant, y byd digidol ac arian. Rhoddais gyfle i Talia gymryd yr awenau wrth sôn am arian, gan gyfaddef bod trethi yn fwystfil nad ydw i wedi bod yn ddigon dewr i’w wynebu eto. Roedd yn amlwg bod Talia a Gavin wrth eu bodd â’u gwaith ac yn cael yr un trafferthion â minnau – er ein bod ni mewn diwydiannau cwbl wahanol.
Cafodd llawer o bwyntiau cadarnhaol eu gwneud yn y digwyddiad. Cefais agoriad llygad i’r cymorth sydd ar gael yn y gymuned greadigol yng Nghaerdydd a thu hwnt.
Dywedodd Sara Pepper o Gaerdydd Creadigol – a oedd yn cynnal y digwyddiad – fod gweithdai ar gael, ac y bydden nhw’n ystyried cynnal gweithdy yn ymwneud â threthi i helpu pobl fel fi! Galla i ddim aros! Wel…gallaf!
Cynhaliwyd y digwyddiad ar y cyd gan Caerdydd Creadigol a’r Tîm Addysg Weithredol yn Ysgol Busnes Caerdydd. Maen nhw’n awyddus iawn i estyn llaw at gymunedau busnes llawrydd a chreadigol Caerdydd a thu hwnt. Rydw i’n mynd i fod ar eu cefnau nhw o hyn ymlaen a bod yn onest! Os galla i lwyddo i godi ar amser ar ôl gig hwyr, rydw i’n bendant yn mynd i fynd i’w Sesiynau Briffio Brecwast. Cefais wybod hefyd eu bod nhw’n gweithio gyda busnesau mawr, bach a chanolig, yn ogystal â micro-fusnesau, i ddylunio a chyflwyno rhaglenni dysgu pwrpasol.
Un syniad rydw i wedi bod yn ei ddatblygu a’i dreialu yw gweithdai ‘hyder drwy gomedi’, ac rydw i’n cyfarfod â swyddogion Ysgol Busnes Caerdydd yn ddiweddarach y mis hwn i’w drafod ymhellach. Mwy yn y man…!
Os ydych chi am weld a fydden nhw’n gallu eich helpu chi i ddatblygu syniad, ymunwch â’u cymuned. Ymunwch â chymuned Caerdydd Creadigol hefyd.
Er gwaethaf yr anawsterau, fydden i byth yn troi cefn ar fy mywyd fel gweithiwr llawrydd. Mae ambell beth na allech chi roi gwerth arno: y rhyddid i ddewis pryd i weithio, i gael amser o’r gwaith pan fydd yr haul yn gwenu, i ddilyn eich breuddwyd. Mae’n bendant yn ffordd o fyw sy’n haeddu cael ei dathlu mewn digwyddiadau fel yr un yma.
Mae Lorna Prichard yn Ddigrifwr Llawrydd.
Mae ei chyfres gomedi, Howl Comedy, yn cael ei chynnal bob wythnos yn Tramshed, Caerdydd.
- Mawrth 2024
- Ebrill 2023
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Rhagfyr 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018