Skip to main content

Iechyd a Lles

Winnie sy’n adlewyrchu ar ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol

11 Gorffennaf 2019

Yn y dechreuad, roedd pwmpen…

Heb lawer o rybudd, i mewn â fi i’r Ysgol Busnes wedi gwisgo fel pwmpen! Wel mae angen gwneud argraff, a dyna yn union  wnes i. Fe wnes i gynnal fy sesiwn gyntaf yn y Ganolfan Addysgu Ôl-raddedigion, yn ystod yr awr ginio, a daeth nifer go lew o fyfyrwyr a staff i fy ngweld i. Roedd hi’n ddiwrnod gwych, ac fe wnes i roi cwtsh i gynifer o bobl, roedd yn rhaid i fi fynd yn ôl i’r swyddfa i bendwmpian!

Ac felly y dechreuodd ymweliadau Winnie bob dydd Mercher…

Roeddwn i’n mynd i’r Ganolfan Addysgu Ôl-raddedigion bob dydd Mercher, ac yn cael cwrdd â llawer iawn o bobl, i sôn wrthyn nhw am fy ngwaith fel Gwirfoddolwr Ci Anwes fel Therapi. Rydw i wedi cael fy ngwahodd i gyfarfod â’n myfyrwyr MBA, wedi bod i sgyrsiau ymsefydlu, wedi cyfarfod â darpar fyfyrwyr ar Ddiwrnodau i Ddeiliaid Cynigion, ac rydw i hefyd wedi mwynhau ymweld ag ysgol gynradd am y pnawn.  Yn fwy diweddar, rydw i wedi bod yn cyfarfod â myfyrwyr yn Llyfrgell Aberconwy yn ystod y cyfnod adolygu ac arholiadau.

Cyffro wrth achub bywyd yn yr ardd

Roeddwn i’n mynd am dro cyn cinio pan welais i Gwen Gwenynen ar y llawr, wedi blino’n lân ac angen help arni. Ar ôl nôl ychydig o ddŵr a siwgr iddi, arhosais efo hi.  Roeddwn i ar bigau’r drain, ond roedd Gwen Gwenynen yn teimlo’n well yn fuan, ac aeth yn ôl at ei ffrindiau yn y cwch gwenyn. Am amser cinio llawn drama, ond roeddwn i’n lwcus o allu helpu a bod Gwen Gwenynen yn iawn.

Ystadegau Winnie

Hydref hyd heddiw

  • Myfyrwyr = 587
  • Staff = 225
  • Ymwelwyr â’r llyfrgell = 40
  • Diwrnodau i Ddeiliaid Cynigion (4) = 20 o fyfyrwyr a rhieni
  • Ymweliad ag ysgol gynradd = 30 disgybl a 4 athro
  • Gwahoddiad i ymweld â myfyrwyr MBA gweithredwr
  • Neidio i mewn i lun y Gymdeithas!
  • Lluniau wedi’u tynnu o Winnie = yn y miloedd siŵr o fod

Ci Anwes fel Therapi

Mae PAT yn elusen ledled y Deyrnas Gyfunol – ei nod yw gwella iechyd a lles yn y gymuned trwy ymweliadau gwirfoddolwyr cymeradwy ynghyd ag anifeiliaid mae’u hymddygiad wedi’i asesu.

Rydyn ni’n ffodus iawn bod gennym ni Ymgynghorydd Cynorthwyo Myfyrwyr a Gwirfoddolwr Ci Anwes fel Therapi yn yr Ysgol Busnes. Mae hynny’n golygu bod myfyrwyr sy’n gofyn am gyngor ynghylch amryw faterion megis ffioedd ac ariannu, fisas, tai, cwnsela, iechyd a llesiant meddwl neu unrhyw anawsterau eraill a allai fod yn berthnasol i fyfyrwyr, yn gallu dod i weld Winnie a fi.

Daw myfyrwyr sy’n gweld eisiau eu hanifeiliaid anwes eu hunain am gwtsh, gair bach neu ffoto.

Yn yr ysgol, bydd Winnie yn galluogi myfyrwyr i fynegi eu pryderon a’u teimladau mewn awyrgylch cyfeillgar ac anffurfiol.

Mae Winnie wedi ymweld bob dydd Mercher ers mis Hydref a chwrdd â’r myfyrwyr yng nghanolfan dysgu’r ôl-raddedigion yn ystod amser cinio. Mae ymateb y myfyrwyr wedi bod yn wych a bydd Winnie yn cwrdd â 20 – 30 bob tro, fel arfer.

Mae ymateb pob un o’r myfyrwyr sydd wedi cwrdd â Winnie wedi bod yn dda iawn – mae llawer wedi dweud ei bod yn wych ei chael yn y swyddfa neu’r ganolfan a’u bod yn edrych ymlaen at ei gweld bob wythnos.

Mae llawer o fyfyrwyr wedi dweud eu bod yn fwy bodlon o dipyn ar ôl cwrdd â Winnie ac, wrth gwrs, mae hynny o les iddyn nhw. Mae presenoldeb Winnie gyda fi wedi’n galluogi i chwalu’r muriau a allai rwystro myfyrwyr rhag cael gafael ar gymorth weithiau.

Mae iechyd a lles yn rhan bwysig o hyn, wrth gwrs. Mae iechyd a lles yn hanfodol am y bydd myfyrwyr bodlon ac iach yn astudio’n well. Fe wnewch chi bopeth yn well, mewn gwirionedd. Mae’r ysgol wedi elwa’n fawr trwy fod ar flaen y gad ynghylch Winnie a PAT, ac rydyn ni’n falch o fod yr unig ran o’r Brifysgol sy’n cynnig cymorth o’r fath i fyfyrwyr.

Mae gennym ni amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i helpu myfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu cyfnod yn y Brifysgol, gan gynnwys: Cyngor ac Arian, Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cwnsela, Iechyd a Lles, Anabledd a Dyslecsia a Chefnogaeth i Fyfyrwyr Rhyngwladol.

Cynghorydd Cefnogi Myfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd yw Denise Brereton.

Eich bywyd fel myfyriwr, gyda chefnogaeth

Cewch ragor o wybodaeth am wasanaethau, digwyddiadau, amseroedd agor ac ati, ar Fewnrwyd y Myfyrwyr.