Skip to main content

Gweithgynhyrchu

Ffatri Ford yn cau ym Mhen-y-Bont ar Ogwr

20 Mehefin 2019

Yn ein cyhoeddiad diweddaraf, yr Athro Calvin Jones a Dr Gavin Harper sy’n esbonio sut gallai diwydiant ceir y DU adfywio drwy ailgylchu metelau mwynol prin.

Mae’r bwriad i gau ffatri peiriannau Ford ym Mhen-y-Bont ar Ogwr yn 2020, a fyddai’n arwain at golli 1,700 o swyddi, wedi synnu pobl ledled Cymru. Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, dyma “un o’r esiamplau gwaethaf o ‘fandaliaeth ddiwydiannol’ yn y DU ers degawdau.” Mae cynrychiolwyr Ford wedi dweud bod ar y cwmni angen “gwneud ei ffatri gweithgynhyrchu peiriannau yn addas i’r cerbydau y bydd yn eu cynhyrchu yn y dyfodol.”

Wrth i gerbydau trydan ddominyddu cyfran gynyddol o’r farchnad geir fyd-eang, mae llawer o bobl, gan gynnwys yr Athro David Bailey, wedi dweud bod “cynhyrchu moduron trydan yn llawer pwysicach na sicrhau dyfodol Ford ym Mhen-y-Bont ar Ogwr” er mwyn gallu cystadlu yn y diwydiant moduron byd-eang.

Gweithgynhyrchu peiriannau yw’r rhan mwyaf gwerthfawr o wneud car confensiynol. Mae angen llawer iawn o wybodaeth, sgiliau, ymchwil a datblygu i wneud peiriannau tanio mewnol soffistigedig.

Ford yw’r cwmni gweithgynhyrchu mwyaf sy’n creu’r peiriannau hyn yn y DU – a daw oddeutu hanner ei allbwn o’r ffatri ym Mhen-y-Bont ar Ogwr. Mae arbenigwyr wedi awgrymu bod trydaneiddio ceir “o bosibl, yn fwy o fygythiad na Brexit i ddiwydiant moduron y DU.” Ond mae cyfle o hyd i’r diwydiant adfywio yn y DU.

Cyfle euraidd

Mae Nissan yn Sunderland ac Aston Martin yn ne Cymru eisoes yn gweithgynhyrchu cerbydau trydan. Mae cyfleusterau newydd hefyd yn cael eu sefydlu, o Bort Talbot i Coventry, i weithgynhyrchu batris cerbydau trydan a’r deunyddiau sydd eu hangen i’w cynhyrchu nhw.

Ond mae problemau wedi codi ar hyd y ffordd: dydy’r DU ddim yn ganolfan ar gyfer unrhyw un o’r prif gwmnïau gweithgynhyrchu moduron mwyach, heb sôn am un sy’n arwain y ffordd o ran cerbydau trydan. Mae’n anodd sefydlu gweithrediadau cynaliadwy pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud dramor.

Mae hyn yn amlwg ym mhenderfyniad Jaguar Land Rover i atal gwaith yn y DU i gynhyrchu’r model Discovery, ac is-gontractio’r gwaith o gynhyrchu’r i-Pace trydan i Magna Steyr yn Awstria.

“Heb allu dibynnu ar unrhyw ffafrau gan wneuthurwr ceir yn y DU, rhaid i’r wlad baratoi ei llwybr ei hun tuag at fod yn geffyl blaen o ran cynhyrchu cerbydau trydan.”

Mae llywodraeth y DU am sicrhau allyriadau carbon net sero erbyn 2050, felly mae cyfle i ddiwydiant moduron y wlad ddatblygu a defnyddio technoleg cerbydau trydan ac arwain yn y maes – ond mae angen i hyn ddechrau nawr, cyn i’r cyfle fynd heibio.

Cyflenwad a galw

Mae dau ffactor allweddol ar gyfer llwyddo – cyflenwad a galw. Wrth gwrs, rhaid bod digon o alw i gynnyrch gael ei weithgynhyrchu yn y DU, a rhaid i’r wlad allu allforio i’r marchnadoedd hynny. Ond rhaid i’r DU hefyd gael mynediad da at y cadwyni cyflenwi sy’n darparu’r rhannau a’r deunyddiau sydd eu hangen i weithgynhyrchu cerbydau trydan.

Mae sawl beirniad eisoes yn gresynu wrth yr effaith y mae Brexit yn ei chael ar sector moduron y DU. Beth sy’n llai amlwg yw sut gallai hyn effeithio ar gyflenwad y deunyddiau hanfodol sydd eu hangen i ddatblygu a gweithgynhyrchu cerbydau trydan. Mae pryderon byd-eang ynglŷn â chyflenwad y deunyddiau hyn ar gynnydd – ac mae sefydliadau, gan gynnwys yr Asiantaeth Ynni Ryngwladol, yn ymchwilio i hyn.

Yr Athro Calvin Jones yw’r Dirprwy Ddeon ar gyfer Gwerth Cyhoeddus a Chysylltiadau Allanol yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Dr Gavin Harper yw’r Rheolwr Datblygu Ynni yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Birmingham.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar The Conversation UK.