Skip to main content

Codi arian

CARTEN 100 ar nextbike

31 Gorffennaf 2019

Yn ein postiad diweddaraf, gwnaethom sgwrsio â’r myfyriwr PhD, Ieuan Davies, a deithiodd ar gefn beic nextbike am fwy na 100 milltir i Ddinbych-y-pysgod i godi arian am yr elusen i bobl ddigartref, Llamau fel rhan o CARTEN 100 ar 1 Gorffennaf 2019.

JR: Felly Ieuan, llongyfarchiadau ar gyflawniad gwych. Mae’r hyn rydych chi wedi’i wneud yn dipyn o gamp. Dywedwch wrthyf fi, sut mae’r corff?  Ydych chi wedi cael eich nerth yn ôl yn eich coesau?

ID: Haha, diolch. Wel, dyw’r seddi hynny ddim wedi’u cynllunio am deithiau 10 awr gallaf i ddweud wrthych chi, er roeddwn i’n teimlo’n rhyfeddol o dda y diwrnod nesaf.

Yn rhyfedd ddigon, roeddwn i’n gorffwys ar y ffordd yn ôl o Ddinbych-y-pysgod wrth i’m nhad fy ngyrru i a’r beic gartref i Gaerdydd, ac yn sydyn, cefais neges destun gan nextbike yn dweud fy mod i wedi cael y beic am 24 awr.

Dechreuais fynd i banics, a’u ffonio i esbonio fy mod i tua 100 milltir i ffwrdd o Gaerdydd ar daith beiciau elusennol. “O,” dywedon nhw. “Ti sydd ‘na. Paid â phoeni. Wnawn ni ganslo’r beic te!” Felly, roedd si ar led am fy antur.

JR: Felly, mae nifer o’n staff a myfyrwyr yn defnyddio nextbike drwy’r amser. Mewn gwirionedd, rwy’n credu mai’r orsaf y tu allan i Adeilad Aberconwy fan hyn oedd yr orsaf fwyaf poblogaidd yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Ond rydym ni i gyd yn gyfarwydd â theithiau byr o amgylch y ddinas, nid teithio mor hir â hyn. Sut gwnaethoch chi ymdopi?

ID: Wel, dechreuais ddifaru fy mhenderfyniad wrth ddringo bryn hir i Sir Benfro, roeddwn i’n cwestiynu’r hyn roeddwn i wedi’i ddechrau. Ond yr unig beth roedd angen ei wneud oedd gwthio i lawr ar y pedalau drosodd a throsodd er mwyn cadw i fynd.

Y peth yw, rhedwr ydw i, nid beiciwr, a doeddwn i erioed wedi gwneud rhywbeth tebyg. Rwy’n gallu beicio, ond dim mwy nag yn ôl ac ymlaen i’r gwaith a’r brifysgol. Ond dyna’r pellaf rwyf wedi mynd.

Felly, gwnes i hyfforddi llawer a mynd allan yn eithaf hwyr gyda’r nos oherwydd fy amserlen brysur gyda’r PhD. Dyw e ddim yn debyg i redeg lle gallwch bicio allan am awr neu ddwy. Rhaid i chi glustnodi amser, yn enwedig ar nextbike er mwyn beicio tua 35 milltir.

Ac i fynd yn bellach roedd yn rhaid i mi fynd draw i’r Barri a Sili yn eithaf aml. Gallaf ddweud wrthych fod pobl wedi edrych arna i’n rhyfedd wrth i mi fynd yno gyda’r nos, gyda’r goleuadau bach yn fflachio ar flaen y beic.

Rhaid bod pobl yn meddwl: “Beth mae e’n ei wneud yr holl ffordd draw fan hyn ar gefn hwnnw? Does dim gorsaf nextbike am filltiroedd!”

Ond doedd hynny’n ddim o’i gymharu â’r digwyddiad ei hun!

Roeddwn i’n mynd y tu ôl i’r beiciau hyn y mae’n rhaid eu bod wedi bod yn werth miloedd o bunnoedd, ac roeddent yn chwythu bygythion. Pan welon nhw fi, roedden nhw i gyd yn edrych wedi synnu, gallaf ddweud wrthych!

JR: Gallaf ond ddychmygu! Rwy’n gwybod y byddwn i wedi teimlo’r un fath ar fy meic. “Sut mae’r dyn hwn yn llwyddo!?” Sut deimlad oedd gorffen?

ID: Roedd yn anhygoel! Yn amlwg, roeddwn i yn rhan olaf y ras – cymerodd 10 awr i mi gyrraedd! Ond roedd digon o bobl o hyd allan yn beicio. Ac roedd y torfeydd yn Ninbych-y-pysgod, rhaid i mi ddweud eu bod yn wych. Roedd yn rhyddhad enfawr gorffen.

Roedd pobl yn bloeddio cymeradwyaeth pan ddes i oddi ar y beic, yn rhedeg draw i ysgwyd fy llaw a chymryd hunluniau. Roedd mam a dad yno, ac roeddent yn argyhoeddedig fy mod i ychydig yn enwog, haha!

Mae hefyd dafarn yn agos at y diwedd o’r enw The Three Roses. Mae ar gopa’r bryn mawr olaf ac mae llawer o bobl yn aros yno i ddathlu gyda pheint.

Erbyn hyn roeddwn yn ei chael hi’n anodd iawn. Roedd dringo’r bryn yn hunllef. Yn ddiddiwedd. Roeddwn i’n edrych ar y llawr ac yn canolbwyntio ar bedlo. Byddwn i’n dweud mai dyma’r agosaf rwyf wedi bod at ddagrau wrth wneud ymarfer corff.

Cyrhaeddais gopa’r bryn o’r diwedd ac mae’r dafarn hon, gyda phawb yn eu crysau beicio CARTEN yn eistedd gyda’u peintiau. Ac mae’r lle’n ffrwydro! Curo dwylo a bloeddio. A chefais ail wynt a chyrraedd y diwedd.

JR: Am brofiad! Felly, gosodoch yr her i chi eich hun i godi arian ar gyfer noddwr elusen dynodedig yr Ysgol, Llamau. Allwch chi ddweud wrthym amdanynt?

ID: Des i wybod am Llamau drwy’r Ysgol. Fel y dywedoch chi, nhw yw’r noddwr elusen dynodedig, ac mae goruchwyliwr fy PhD, Dr Carolyn Strong, yn trefnu’r cyfnodau cysgu gyda nhw. Rwyf wedi bod i ddau ohonynt yn yr Ysgol.

Ond tua’r adeg honno roeddwn i’n ystyried gwneud rhywbeth, roedd digartrefedd yng Nghaerdydd yn cyrraedd argyfwng gyda phebyll yn y strydoedd a gwleidyddion amrywiol yn dweud pethau dadleuol yn y wasg.

Yn erbyn graen yr holl negyddoldeb hwnnw, meddyliais i fi fy hun, gadewch i ni wneud rhywbeth cadarnhaol o hyn. Yn amlwg, mae pobl yn ymwybodol ar hyn o bryd ac mae hynny’n golygu y bydd pobl yn codi arian ar gyfer yr achos. Felly gadewch i ni feddwl am rywbeth gwirion bost a fydd yn annog pobl i roi. A wyddoch chi beth? Fe weithiodd!

O’r diwrnod cyntaf, roedd Llamau yn hynod gefnogol ac yn barod i gydweithio.

JR: A faint o arian wnaethoch chi godi? A oes modd i bobl eich noddi o hyd?

ID: Wel hyd yn hyn rwyf wedi codi £525 ond mae fy nhudalen codi arian ar agor tan 7 Awst 2019, felly gall unrhyw un sydd am noddi wneud hynny ar: https://uk.virginmoneygiving.com/100MilesOnANextBike

JR: A beth am eich argraff barhaol o’r digwyddiad? Ydych chi’n bwriadu ei wneud eto y flwyddyn nesaf, neu a yw unwaith yn ddigon?

ID: Wel, efallai ei bod hi ychydig yn gynnar i benderfynu ar hynny eto. Yn enwedig pan mod i’n dal i wella, heb sôn am ddyddiad cau fy nhraethawd hir sydd ar gyrraedd.

Ond rhaid i mi ddweud, roedd yn ddigwyddiad gwych ac ni allwn fod wedi gofyn am grŵp mwy cefnogol o feicwyr o fy nghwmpas. Gwnaeth cynifer o bobl arafu a’m hannog ar wahanol adegau. A’r bonws i fi oedd defnyddio’r cyfleoedd hynny i rannu stori Llamau a chodi ymwybyddiaeth.

Felly roedd pawb yn trafod Llamau erbyn y diwedd. Gymera i hynny fel buddugoliaeth am y tro!

Mae Ieuan Davies yn fyfyriwr PhD yn Ysgol Busnes Caerdydd. Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar foeseg busnes a chyfryngau cymdeithasol.

Mae Ieuan hefyd yn llysgennad i nextbike, a wnaeth hepgor y ffi i logi’r beic ar gyfer yr her.