Skip to main content

Marchnata

Dechrau gyrfa mewn cysylltiadau cyhoeddus a marchnata

2 Awst 2019

Yn ein blog diweddaraf, mae Fleur Stamford, cyn fyfyriwr Prifysgol Caerdydd, yn rhannu ei chyngor gorau â myfyrwyr sy’n gobeithio dilyn gyrfa mewn cysylltiadau cyhoeddus a marchnata.

Mae gyrfa mewn cysylltiadau cyhoeddus wedi bod yn denu graddedigion uchelgeisiol ers degawdau.

Mae cryn dipyn o gystadleuaeth i gael mynediad i’r diwydiant, i’r pwynt lle mae cwmnïau cysylltiadau cyhoeddus arbenigol yn denu graddedigion o nifer o bynciau a meysydd.

Ond nid yw’n fyd o bethau am ddim a gwledda dros ginio yn unig – mae’n golygu llawer o waith caled, sy’n aml yn werth chweil, a weithiau’n rhwystredig iawn. Mewn marchnad lle caiff cwmnïau cysylltiadau cyhoeddus yn aml eu boddi gan raddedigion awyddus, mae angen i chi wneud yn glir eich bod chi’n barod am yr her.

Felly, dyma sut allwch chi wneud argraff dda a gwneud i hynny bara.

Canolbwyntiwch ar sgiliau – nid cymwysterau

Y gwir creulon am gael gradd yw nad yw’n gwarantu swydd i chi. Nid yw hyd yn oed yn gwarantu cyfweliad. Mae’n beth defnyddiol iawn i’w gael, ond yr hyn y mae angen i chi dynnu sylw atyn nhw yw’r sgiliau a’r profiadau perthnasol y gallwch chi eu cyfrannu.

Felly mae hynny golygu manteisio ar interniaethau, lleoliadau gwaith, digwyddiadau a chynadleddau i ddangos eich gallu i wthio, rhwydweithio a chyflawni i gleientiaid. Os nad ydych chi’n berson allblyg, nid dyma’r gyrfa i chi: mae materion cyhoeddus yn yrfa sy’n cael ei sbarduno gan fod yn allblyg.

Mae gofyn hefyd eich bod yn gallu ysgrifennu, a gallwch ddangos hyn drwy dynnu sylw at unrhyw ysgrifennu rydych chi wedi’i wneud drwy gydol eich gradd a thu allan iddo. Os wnaethoch chi gyfrannu at bapur newydd myfyrwyr, mae hynny’n profi eich bod chi’n gallu mynd i’r afael â chyfryngau er enghraifft.

“Nid oes unrhyw un yn disgwyl eich bod chi’n gwybod popeth, ond mae angen i chi ddangos ysgogiad, brwdfrydedd a gallu.”

Darllen, darllen, darllen

Mae cysylltiadau cyhoeddus yn ddiwydiant sy’n esblygu’n barhaus: daw arfer gorau heddiw yn hen gyngor yfory.  Felly profwch fod gennych chi ddiddordeb yn y diwydiant drwy ddarllen a gwneud yn siŵr bod eich gwybodaeth yn gyfoes. Prynwch PR Week. Ymgollwch eich hunain mewn blogiau a dilyn dylanwadwyr, asiantaethau ac arbenigwyr perthnasol. Tanysgrifiwch i gylchgronau a monitro’r cyfryngau am bynciau sydd o ddiddordeb penodol i gwmnïau yr ydych chi’n ymgeisio iddynt.

Troswch eich gwaith ymchwil yn bynciau y gallwch chi eu cyfathrebu a’u trafod yn effeithiol.

Gwnewch eich PR eich hun

Os nad ydych chi’n gallu hyrwyddo eich hunain yn effeithiol, sut ydych chi’n disgwyl hyrwyddo eich cleientiaid? Dechreuwch ddangos eich sgiliau ar eich CV – rhestrwch eich cyflawniadau, rhestrwch y canlyniadau gwych mae eich ymdrechion wedi arwain atynt, a thynnu sylw at eich sgiliau cyfathrebu gwych.

Yn bwysicach na dim, cofiwch ymgorffori eich dyhead clir i weithio mewn cysylltiadau cyhoeddus o fewn eich gwaith. Ewch gam ymhellach i wneud i’ch hun sefyll allan yn y ffyrdd cywir – a chymryd camau angenrheidiol i sicrhau nad ydych chi’n sefyll allan yn y ffyrdd anghywir.

“Mae hynny’n golygu chwilio a chwalu drwy eich presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol am unrhyw beth a allai roi argraff wael i gyflogwr arfaethedig.”

Gwnewch eich gwaith ymchwil

Wrth edrych i weld pa gyflogwr fyddai’n gweddu orau, cymerwch gip ar sut maent yn marchnata eu hunain. Darllenwch erthyglau yn eu blogiau, ewch ati i ddarganfod sut maen nhw’n gweithio – ydyn nhw’n disgrifio unrhyw fetrics y gallech eu helpu i gyflawni? Darllenwch y tystebau gan gleientiaid.  Dysgwch beth mae eu cleientiaid yn ei feddwl ohonynt a meddwl sut y byddech chi’n gallu ychwanegu neu adeiladu ar hynny.

A bydd angen i chi fynd ymhellach na’r wefan. Mae hynny’n golygu darllen erthyglau ar aelodau staff, blogiau yn cynnwys y Prif Swyddog Gweithredol/Rheolwr Gyfarwyddwr, a chael syniad cyffredinol o daith y cwmni i’r pwynt hwn.

Yn fwy cyffredinol, penderfynwch p’un a ydych chi eisiau gweithio i asiantaeth neu yn fewnol mewn sefydliad. Mae hynny’n dibynnu’n fawr ar b’un a fyddai’n well gennych chi weithio i lawer o wahanol gleientiaid neu aros gyda’r un brand y byddwch yn dod i’w adnabod yn dda iawn. Bydd hefyd angen i chi edrych ar beth maent yn arbenigo ynddo a meddwl sut all eich sgiliau a’ch diddordeb ategu hynny.

Meddwl yn greadigol

Yn olaf, mae cysylltiadau cyhoeddus yn ddiwydiant creadigol, ac mae meddwl di-ddychymyg yn aml yn arwain at ganlyniadau di-ddychymyg.

Peidiwch â bod ofn dangos eich personoliaeth, neu gymryd dull mwy creadigol yn eich cyfweliad.

Graddiodd Fleur Stamford o Brifysgol Caerdydd yn 2018 lle’r oedd hi’n astudio BSc Biodechnoleg.

Mae hi’n gweithio fel Cynorthwyydd Cyfathrebu yn TopLine Comms.