Skip to main content

Profiad myfyrwyr

Gweithio ar brosiectau go iawn ar gyfer cwmnïau go iawn

29 Mawrth 2021

Yn yr ail o erthygl dwy ran arbennig am ein prosiectau myfyrwyr Marchnata a’r Gymdeithas, siaradodd Dr Carolyn Strong ag israddedigion yr ail flwyddyn am eu profiadau ar y modiwl a’r hyn a ddysgon nhw o greu ymgyrch farchnata ar gyfer Cwmni Jin Gŵyr.

Carolyn: Helo bawb, efallai y gallwn ni ddechrau gyda chyflwyniad cyflym? Efallai y gallwch chi ddweud wrthym beth yw eich enwau a pha raglenni gradd rydych chi’n eu hastudio yn Ysgol Fusnes Caerdydd?

Helo, Shannon ydw i ac rydw i’n fyfyriwr Rheoli Busnes gyda Marchnata yn yr ail flwyddyn gyda Tom a Brodi.

Haia, Alissa ydw i ac rydw i’n fyfyriwr Rheoli Busnes yn yr ail flwyddyn gyda Jenny.

Helo, Frankie ydw i ac rydw i’n fyfyriwr Rheoli Busnes Rhyngwladol yn yr ail flwyddyn.

Carolyn: Ardderchog! Felly, byddwn yn ymuno â’ch prosiect gyda Jin Gŵyr mewn eiliad, ond yn gyntaf tybed a allech ddweud ychydig mwy wrthym am y modiwl Marchnata a’r Gymdeithas a pham y gwnaethoch ei ddewis?

Shannon: Rwyf am yrfa ym maes marchnata ar ôl graddio, ac felly roeddwn i’n teimlo mai hwn oedd y modiwl perffaith i mi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am farchnata. Mae’r modiwl yn canolbwyntio’n helaeth ar bynciau marchnata cyfredol, yn enwedig marchnata moesegol.

Hefyd, roedd y syniad o weithio gyda busnesau bach a chanolig yn apelio ac fel y digwyddodd, roedd yn brofiad amhrisiadwy y gallwn ei roi yn syth ar fy CV.

Yn y pen draw, rwy’n credu mai’r atyniad i mi oedd ei bod yn ymddangos yn fodiwl gwahanol iawn i’r dewisiadau eraill a oedd ar gael.

Alissa: Mae gen i ddiddordeb mewn gyrfa farchnata hefyd ac roeddwn i eisiau cymryd mwy o fodiwlau oedd yn ymwneud â marchnata eleni.

Tom: Mae gen i ddiddordeb mawr yn yr agwedd hon ar farchnata ac roeddwn yn teimlo y byddai’r modiwl yn rhoi mwy o fewnwelediad i mi o’r ffyrdd y mae busnesau bywyd go iawn yn marchnata eu hunain y dyddiau hyn. Hefyd, roeddwn i’n meddwl y byddai’r syniad o siarad â pherchnogion busnes yn rheolaidd yn fuddiol. Roeddwn i’n gwybod y byddai’r rhan hon yn benodol yn rhoi gwell dealltwriaeth i mi o sut mae busnesau bywyd go iawn yn gweithredu.

Brodi: Wel, ymunais â’r modiwl hwn dair wythnos yn ddiweddarach na phawb arall ac felly cefais werth tair wythnos o waith i ddal i fyny arno! Fodd bynnag, hwn oedd y penderfyniad gorau y gallwn fod wedi’i wneud. Mae cynnwys y modiwl hwn a’r ffordd y mae’n cael ei ddarparu, trwy gyfathrebu â sefydliadau go iawn sy’n gofyn am arbenigedd marchnata, a chymhwyso theori iddynt, yn wahanol i unrhyw fodiwl arall.

Carolyn: Gwych. Felly, mae ychydig ohonoch wedi siarad am fanteision rhyngweithio â busnesau go iawn fel rhan o’r modiwl. Sut roeddech chi’n teimlo am wneud prosiect byw gyda busnes go iawn fel rhan o’ch asesiad?

Frankie: Roeddwn yn gyffrous i weithio ar brosiect byw yn hytrach nag asesiad ysgrifenedig. Fe roddodd ymdeimlad gwirioneddol i mi o sut beth yw bod yn rhan o fusnes bach a’r mathau o sefyllfaoedd y gallwn ddod ar eu traws yn nes ymlaen yn fy ngyrfa.

Alissa: Ie, dwi’n cytuno. Rwy’n credu ei fod yn gyfle mor anhygoel i ennill profiad a gweld sut mae busnesau go iawn yn gweithio.

Brodi: O, heb amheuaeth yr agwedd ‘bywyd go iawn’ hon oedd rhan fwyaf buddiol y modiwl cyfan. Ac mae’r ymgysylltiad â’r cwmni wedi rhoi mewnwelediadau i mi i’r dyfodol marchnata rwy’n gobeithio y bydd gennyf ar ôl y brifysgol.

Carolyn: Mae’n dda iawn clywed hynny. Felly, symudwn ni ymlaen i’ch profiad gyda Jin Gŵyr. Sut cyfrannodd pob un ohonoch at ddatblygu ymgyrch farchnata’r cwmni?

Jenny: Gan mai hwn oedd y profiad cyntaf i’r mwyafrif ohonom o ryngweithio mor agos â pherchnogion busnes bach, cawsom alwad Zoom gydag Andrew a Siân i gyflwyno ein hunain.

Roedd yr alwad Zoom yn allweddol wrth ein helpu i sicrhau’r cyfeiriad yr oedd Andrew a Siân eisiau mynd iddo gyda Jin Gŵyr, gan ein hysbysu o bersonoliaeth eu cwmni a’r math hwnnw o beth. Fe wnaethant hefyd gysylltu â ni gyda’u mater neu nod marchnata, sef denu mwy o fyfyrwyr yn ogystal â mwy o gwsmeriaid gwrywaidd. Wrth gwrs, gan ein bod ni i gyd yn fyfyrwyr, roeddem yn teimlo y gallem roi mewnwelediadau gwerthfawr i ddefnyddwyr i un o’r marchnadoedd yr oeddent am eu targedu. Ac felly, ar ôl cwpl o alwadau Zoom ychwanegol gydag Andrew a Siân, fe wnaethon ni siarad ymysg ein gilydd a chreu’r syniad o helfa drysor jin i fyfyrwyr yng Nghaerdydd.

Fe wnaethom rannu’r syniad hwn â Jin Gŵyr a rhoddon nhw wybod i ni eu bod yn gwbl hapus gyda’r syniad. O’r pwynt hwnnw buom yn trafod pa gynhyrchion a fyddai’n rhan o’r helfa drysor i gyflwyno myfyrwyr i gynhyrchion Jin Gŵyr, yn y gobaith y byddant yn eu prynu eto yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd, mae Andrew a Siân yn ystyried blas jin newydd wedi’i dargedu’n benodol at fyfyrwyr. Ar ôl postio arolwg barn ar Overheard ym Mhrifysgol Caerdydd ar Facebook, roeddem yn gallu nodi hoff flas jin myfyrwyr Caerdydd.

Carolyn: Diolch Jenny, mae hynny’n ddiddorol iawn ac mae’n swnio fel eich bod chi wir wedi mynd i’r afael â’r hyn roedd Andrew a Siân eisiau o’r prosiect. A beth amdanoch chi i gyd? Pa sgiliau rydych chi wedi’u hennill o’r prosiect?

Brodi: Mae’r prosiect hwn wedi bod yn llwyfan perffaith i ymarfer a hogi fy sgiliau gwaith tîm ac arweinyddiaeth. Rwyf wedi synnu fy hun o ran pa mor dda yr wyf wedi gallu cymryd cyfarwyddiadau a chyngor gan eraill yn ogystal â gallu dirprwyo a phenodi tasgau penodol i aelodau’r grŵp eu cwblhau pan fo angen.

Ar wahân i hyn, mae gweithio ar bortffolio marchnata cwmni sefydledig wedi fy ngalluogi i gael mewnwelediad i fywyd marchnatwr ac wedi rhoi hyder i mi wybod y gallaf lwyddo yn y maes penodol hwn yn y dyfodol.

Shannon: Rwyf wedi ennill amrywiaeth eang o sgiliau. Yn amlwg, gyda’r sefyllfa anodd eleni, bu’n rhaid gwneud y gwaith o bell. Felly, rydw i wedi trefnu a chynnal cyfarfodydd Zoom ar gyfer y prosiect. Fe wnaeth y prosiect hefyd fy ngalluogi i wella fy sgiliau proffesiynol a gwaith tîm trwy gyfathrebu ag aelodau eraill y grŵp, yn ogystal ag Andrew, Siân a’n darlithydd Carolyn.

Carolyn: Beth yw’r peth pwysicaf rydych chi wedi’i ddysgu gan Siân ac Andrew am y sector jin crefftwrol neu efallai am fusnesau bach yn fwy cyffredinol?

Frankie: Y peth a ddysgais fwyaf gan Siân ac Andrew yw bod rhaid i chi fod yn frwdfrydig am gychwyn cwmni. Mae’r ddau ohonyn nhw’n benderfynol o wneud cwmni Jin Cymreig llwyddiannus ac maen nhw’n gweithio’n galed i ddatblygu eu cynhyrchion yn barhaus a chyflawni amcanion.

Tom: Rwyf wedi dysgu gan Siân ac Andrew bod chwaeth a hoffterau pobl ar gyfer gwahanol flasau jin yn newid yn gyson gyda thueddiadau newydd yn dod yn ffasiynol ac yn mynd allan o’r hen ffasiwn trwy’r amser. Mae’r ddau ohonyn nhw’n ymroddedig iawn i wneud blasau newydd a chymysgu gwahanol cynhwysion botanegol i wneud eu jin yn ddeniadol i gynulleidfa ehangach fyth.

Carolyn: A Shannon, gwnaethoch chi sôn am hyn yn gryno yn gynharach : sut effeithiodd COVID-19 ar eich gwaith? A oedd rhaid i chi wneud llawer o bethau’n wahanol?

Shannon: Oedd, roedd rhaid cynnal ein holl gyfarfodydd a chyfathrebiadau o bell. Mae wedi bod yn her ond rydyn ni wedi gwneud iddo weithio trwy fod yn drefnus a chyfathrebu’n effeithiol â’n gilydd.

Mae wedi helpu ein bod ni i gyd wedi bod yn rhan o’r cynllun ac yn wirioneddol frwd am y prosiect. Wrth gwrs, rydyn ni wir yn gobeithio y byddwn ni’n gallu mynd ar daith i benrhyn Gŵyr ac ymweld ag Andrew a Siân ar ryw adeg yn y dyfodol.

Alissa: Mae COVID-19 yn cael effaith enfawr ar y flwyddyn academaidd hon. Rwy’n fyfyriwr rhyngwladol, er enghraifft, ac rydw i wedi gwneud y flwyddyn gyfan hon gartref, a oedd yn annisgwyl iawn pan ddechreuais fy astudiaethau.

Tom: Mae COVID-19 wedi golygu bod yr holl ddarlithoedd a thiwtorialau wedi’u gwneud trwy ddysgu o bell dros Zoom. Mae wedi golygu nad oeddem yn gallu cwrdd yn aml i siarad am brosiectau grŵp penodol, ac nad oeddem yn gallu cwrdd â siaradwyr gwadd a pherchnogion busnesau bach fel Andrew a Siân.

Carolyn: A fyddech yn argymell y modiwl i fyfyrwyr eraill? A pham?

Shannon: Byddwn yn argymell y modiwl hwn i fyfyrwyr eraill yn bendant. Yn ogystal â bod yn seibiant dymunol o fodiwlau trymach sy’n seiliedig ar theori, mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio gyda busnesau go iawn. Mae hwn yn gyfle prin i ddod ar ei draws, ac yn un sy’n hynod fuddiol gan ei fod yn ychwanegiad gwych i CVs myfyrwyr.

Alissa: Byddwn i’n ei argymell hefyd. Fe wnes i fwynhau’r modiwl hwn yn fawr gan ein bod ni’n gwneud prosiectau go iawn ar gyfer cwmnïau go iawn. Mae wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn!

Tom: Ie, yn union fel Shannon ac Alissa byddwn yn argymell y modiwl hwn i eraill hefyd. Mae wedi rhoi cyfle i mi gwrdd â myfyrwyr eraill ar yr un cwrs â mi, ond ar rai modiwlau eraill mae cynifer o bobl ar ddarlithoedd Zoom na all neb siarad mewn gwirionedd. Felly yn yr ystyr hwnnw mae hwn yn fodiwl rhyngweithiol iawn ac yn peri i chi feddwl am gwmnïau diddorol a newydd nad ydych efallai wedi clywed amdanynt o’r blaen.

Jenny: Dyma fy hoff fodiwl o bell ffordd o’r ddwy flynedd rydw i wedi’i astudio yng Nghaerdydd. Mae’n hynod ddiddorol ac mae gweithio mor agos gyda chi, Carolyn, wedi gwneud i’m gwaith deimlo fel bod llawer mwy o gyfeiriad iddo.

Brodi: Allwn i ddim argymell modiwl yn fwy na hwn. Mae’n torri ar ddwyster ymarferion sy’n seiliedig ar theori mewn modiwlau eraill ac yn hybu creadigrwydd. Rwyf wedi dysgu mwy am farchnata a mwy am fy ngalluoedd fel marchnatwr yn y modiwl hwn nag unrhyw un arall.

Carolyn: Ah, mae mor hyfryd clywed eich bod chi i gyd wedi mwynhau’r modiwl gymaint. Rwy’n falch iawn. Efallai y byddai’n braf gorffen trwy ofyn beth rydych chi wedi’i gynllunio ar gyfer y dyfodol?

Brodi: Ar ôl cael fy ngradd, rwy’n bwriadu cael swydd i raddedigion gyda chwmni Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus gyda’r gobaith o arbenigo mewn cysylltiadau cyhoeddus ac un diwrnod yn cychwyn fy asiantaeth fy hun.

Jenny: A bod yn onest, does gen i ddim syniad pa yrfa y byddaf yn cael swydd ynddi ar ôl y brifysgol, ond rwy’n gobeithio am rywbeth ym maes rheoli prosiect. Fodd bynnag, yn syth ar ôl graddio, byddaf yn bendant yn cymryd blwyddyn allan i deithio.

Frankie: Mae’r hyn y mae Siân ac Andrew wedi’i wneud yn ysbrydoledig iawn oherwydd un diwrnod rwy’n teimlo yr hoffwn ddechrau busnes bach fy hun, y byddaf yr un mor frwd drosto ag y maen nhw am Jin Gŵyr.

Shannon: Rwy’n gobeithio sicrhau lleoliad ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, ac ar ôl hynny rwy’n bwriadu cael swydd i raddedigion ym maes marchnata.

Tom: Ar ôl graddio hoffwn gael cynllun graddedig ym maes prynu/gwerthu, a hoffwn ddechrau fy musnes fy hun un diwrnod, efallai gyda dillad.

Alissa: Mae’n anodd dweud ar hyn o bryd, ond rwy’n bwriadu gwneud fy meistr a dod o hyd i swydd a fydd yn fy ngalluogi i fyw mewn gwahanol leoedd a theithio’r byd.

Pawb: Hoffem ddweud diolch enfawr i chi, Carolyn, am gyflwyno’r modiwl a bod mor barod i helpu yn ystod y flwyddyn anodd hon.

A diolch enfawr hefyd i Andrew a Siân am ganiatáu i ni gael mewnwelediad i’w cwmni a gweithio gyda nhw.

Mae wedi bod yn gyfle gwych, ac rydym yn ei werthfawrogi’n fawr.

Mae Dr Carolyn Strong yn Ddarllenydd mewn Marchnata a Strategaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Datblygwyd a chyflwynir y modiwl Marchnata a’r Gymdeithas gan Dr Carolyn Strong, ac mae’n cyflwyno myfyrwyr i rôl ac effaith marchnata yn y gymdeithas, ac ar amrywiaeth o randdeiliaid.