Defnydd ar sail hygyrchedd: y ffordd i gyflawni dyfodol mwy cynaliadwy a chylchol?
9 Tachwedd 2020Datgelodd canfyddiadau arolwg diweddar o 1,462 o ddefnyddwyr rhwng 18 a 54 oed fod tua 50% yn cytuno y gallai rhentu nwyddau traul helpu i ddiogelu adnoddau naturiol a chyfrannu at leihau gwastraff a gwell amgylchedd byw. Fodd bynnag, doedd 65% o’r ymatebwyr ddim yn ymwybodol o lwyfannau rhentu ar-lein ar gyfer nwyddau traul.
Yn ein post diweddaraf, mae Dr Nicole Koenig-Lewis a Dr Carmela Bosangit, o Adran Marchnata a Strategaeth Ysgol Busnes Caerdydd, yn amlinellu dyheadau eu hymchwil a gyllidir gan yr Academi Brydeinig/Ymddiriedolaeth Leverhulme ar yr economi rhannu.
Nod y prosiect sydd ar waith yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am fodelau busnes rhentu nwyddau traul fel math amgen o ddefnydd cynaliadwy a all gyfrannu at economi gylchol. Yma maen nhw’n dweud wrthym sut maen nhw wedi bod yn gwneud hynny.
Yn ddiweddar, mae masnachwyr y stryd fawr fel Selfridges a John Lewis wedi lansio partneriaethau gyda llwyfannau rhentu fel Hurr a Fat Llama. Mae hyn yn symudiad cadarnhaol tuag at leihau defnydd o adnoddau drwy fynediad a rennir at nwyddau traul. A gyda masnachwyr mor fawr yn bwrw iddi, mae’n duedd sy’n tyfu o ran poblogrwydd.
Yn ddiweddar cyfrannais at bodlediad newydd BBC Radio 5 Live “What Planet Are We On?” gyda Liz Bonnin. Mae’r podlediad, sydd hefyd yn cynnwys y darlledwr, arbenigwr bywyd gwyllt a thrysor cenedlaethol, Syr David Attenborough yn y rhifyn cyntaf, yn cynnig datrysiadau a chyngor ymarferol ynghyd â dealltwriaeth arbenigol ar effeithiau newid yn yr hinsawdd. Yn rhifyn 4, ‘Mindful Consumption’, roeddwn i’n trafod canlyniadau ein harferion defnydd ac yn cynnig dewisiadau amgen cynaliadwy fel lleihau, atgyweirio, ailddefnyddio a rhentu nwyddau traul.
Mae’n rhan o gyfres o weithgareddau ymgysylltu a chynnig sylwadau mae Carmela a fi wedi bod yn eu gwneud i gefnogi ein hymchwil.
Ym mis Hydref cynhalion ni weminar fel rhan o Ddigwyddiad Blynyddol ASPECT 2020. Rhwydwaith yw ASPECT (Platfform y Gwyddorau Cymdeithasol ar gyfer Entrepreneuriaeth, Masnacheiddio a Thrawsffurfio) i sefydliadau sydd am geisio cyfleoedd masnachol a busnes sy’n deillio o ymchwil y gwyddorau cymdeithasol. Mae’r aelodau yn cynnwys: Prifysgol Bryste, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Cranfield, Prifysgol Glasgow, Ysgol Economeg Llundain, Prifysgol Manceinion, Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Trent Nottingham a’r Coleg Celf Brenhinol.
Roedd thema gweminar eleni’n canolbwyntio ar feithrin llewyrch a llesiant drwy arloesedd yn y gwyddorau cymdeithasol. Gyda diwydiant, llywodraeth a’r gymuned academaidd yn bresennol, fe gydion ni yn y cyfle i gyflwyno ein hymchwil hyd yma!
Yng nghwmni Eve Kekeh, syflaenydd Bundlee, y blwch tanysgrifio cyntaf yn y DU ar gyfer dillad babi a Chris Hellawell, sylfaenydd a chyfarwyddwr Llyfrgell Offer Caeredin, byrdwn y drafodaeth oedd a all rhentu fel ffordd o ddefnyddio fod yn weithgaredd prif ffrwd. Yn anochel, drwy’r drafodaeth fe nodon ni heriau y mae’r mathau hyn o fusnesau a sefydliadau yn eu hwynebu a’r cymorth a allai fod ei angen arnyn nhw i fynd i’r afael â’r heriau hynny.
Cafodd y sesiwn ei recordio ac mae croeso i chi ei gwylio. Beth am roi gwybod i ni a ydych chi’n meddwl y gallai rhentu fel ffordd o ddefnyddio fod yn weithgaredd prif ffrwd a pha heriau a allai fod i fusnesau a sefydliadau eraill? Dywedwch wrthym yn y sylwadau isod.
Wrth edrych ymlaen, mae gennym ni ddigwyddiad arall ar 11 Tachwedd rhwng 4pm a 5pm fel rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC 2020. Y tro hwn byddwn yn myfyrio ar effeithiau pandemig coronafeirws (COVID-19) ar fusnesau rhentu. Byddwn yn ystyried i ba raddau mae defnyddwyr yn fwy ymwybodol o effaith amgylcheddol eu harferion defnydd, ac os felly, a ydyn nhw wedi gwneud newidiadau sylweddol i’w defnydd bob dydd yn sgil y pandemig.
Unwaith eto, bydd dau berchennog busnes yn ymuno am drafodaeth banel: Rosie de Malmanche, sylfaenydd Our Closet, llwyfan ar-lein sy’n rhentu dillad rhwng cymheiriaid a Jessica Green, sylfaenydd Toybox Club, gwasanaeth blwch tanysgrifio teganau.
Cofrestrwch ar ein sesiwn ‘Rhentu nwyddau traul: defnydd cynaliadwy mewn byd ar ôl COVID?’ yma.
Mae Dr Nicole Koenig-Lewis yn Ddarllenydd mewn Marchnata yn Ysgol Busnes Caerdydd.
Mae Dr Carmela Bosangit yn Uwch-ddarlithydd mewn marchnata yn Ysgol Busnes Caerdydd.
Cyllidir yr ymchwil ar fodelau rhentu a dyfodol defnyddio gyda Grant Ymchwil Bach yr Academi Brydeinig/Leverhulme – SRG/171202. Ceir rhagor o wybodaeth am eu hymchwil yma.
- Mawrth 2024
- Ebrill 2023
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Rhagfyr 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mehefin 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018